Neidio i'r prif gynnwy

Bydd pencadlys Awdurdod Tomenni nas Defnyddir newydd Cymru yn cael ei sefydlu ar hen domen lo wedi'i hadfer ym Merthyr Tudful, gan ddarparu tua 60 o swyddi newydd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Tachwedd 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae’r corff cyhoeddus newydd yn cael ei greu yn sgil pasio deddf bwysig, a dderbyniodd Gydsyniad Brenhinol ym mis Medi.  

Bydd Deddf Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli nas Defnyddir (Cymru) yn mynd i'r afael â'r problemau diogelwch a achosir gan orffennol glofaol a mwyngloddio Cymru. Dyma’r sefydliad cyntaf o'i fath yn y Deyrnas Unedig. 

Bydd yr Awdurdod yn gyfrifol am asesu, categoreiddio, cofrestru ac archwilio'r holl hen domenni segur ledled Cymru er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu rheoli'n effeithiol dros y tymor hir a lleihau bygythiadau i ddiogelwch y cyhoedd. 

Ar ôl ei greu, caiff ei bencadlys ei sefydlu yn swyddfa Llywodraeth Cymru yn Rhyd y Car ym Merthyr Tudful a bydd ganddo gynrychiolaeth ledled y wlad. 

Bydd Llywodraeth Cymru yn edrych ar bosibiliadau darparu prentisiaethau a chyfleoedd addysg ôl-16 i greu gwythïen o sgiliau ar gyfer swyddi diogelu tomenni glo yn y tymor canolig a hir. 

Mae dros 90% o'r tomenni glo nas defnyddir sydd â'r potensial i fod yn fygythiad i ddiogelwch y cyhoedd yng nghymoedd de Cymru. 

Daeth y cadarnhad mai yng nghanol cymunedau y maes glo y bydd cartref yr Awdurdod cyn cyfarfod Cabinet Llywodraeth Cymru ym Merthyr Tudful ddydd Llun 3 Tachwedd. 

Dywedodd y Prif Weinidog, Eluned Morgan:  

"Mae hyn yn newyddion ardderchog i Ferthyr Tudful a chymoedd y de'n gyffredinol.  

"Bydd dod â 60 o swyddi newydd i'r Pencadlys newydd a chartrefu'r Awdurdod leoli lle mae ei angen fwyaf yn gwneud gwahaniaeth go iawn i gymunedau yn yr ardal. 

"Roedd Cymru'n arwain y byd gyda'i harbenigedd glofaol yn y 19eg a'r 20fed ganrif. Nawr gallwn fod yn arweinydd byd unwaith eto, y tro hwn am ofalu am waddol ein gloddfeydd a'n chwareli a datblygu gwythïen o dalent ar gyfer cenedlaethau i ddod. 

Tan y caiff yr Awdurdod ei sefydlu, bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio'n agos gyda phartneriaid cyhoeddus i ddarparu cyfundrefn arolygu a chynnal a chadw effeithiol ledled Cymru. 

Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog sydd â chyfrifoldeb dros Newid Hinsawdd, Huw Irranca-Davies: 

"Mae pwrpas yr Awdurdod – sicrhau nad yw tomenni segur yn bygwth pobl – yn un hynod hynod bwysig. 

"Mae'n dda o beth bod Merthyr Tudful wedi'i ddewis i fod yn gartref i'r pencadlys, yng nghanol y cymunedau a fydd yn elwa fwyaf o'i waith pwysig. 

"Does gen i ddim amheuaeth y daw'n arweinydd byd yn ei faes trwy ddatblygu gwybodaeth, profiad a sgiliau ar gyfer rheoli tomenni nas defnyddir yn ystod y cyfnod hwn o newid hinsawdd sylweddol."