Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg o Mesur Caeau Chwarae (Ymgysylltiad Cymunedau â Phenderfyniadau Gwaredu) (Cymru) 2010, ei gynnydd trwy'r Senedd a'r is-ddeddfwriaeth.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Chwefror 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Mae Mesur Caeau Chwarae (Ymgysylltiad Cymunedau â Phenderfyniadau Gwaredu) (Cymru) 2010 (‘y Mesur’) yn gwneud darpariaeth ynglŷn â chynnwys y gymuned mewn penderfyniadau gan awdurdodau lleol yng Nghymru ynghylch a ddylid gwaredu caeau chwarae. Mae’n rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau a fyddai’n caniatáu i awdurdodau lleol gynnwys cymunedau mewn penderfyniadau ynghylch y ffordd y maent yn gwaredu tir sy’n gae chwarae neu’n ffurfio rhan o gae chwarae. Caiff cae chwarae ei ddiffinio fel man agored sydd wedi ei farcio neu ei neilltuo ar gyfer chwaraeon neu weithgaredd hamdden tebyg, ar unrhyw adeg.

Mae’r Nodiadau Esboniadol i’r Mesur yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y gwahanol ddarpariaethau:

Darllenwch y Ddeddf yn llawn:

Dod i rym

Daeth y Mesur i rym ar 15 Rhagfyr 2010, sef y diwrnod cafodd y Mesur y Gymeradwyaeth Frenhinol, yn unol ag adran 5(2):

Is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Mesur

Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth

Cyflwynwyd y Mesur ar 18 Gorffennaf 2008 gan Dai Lloyd AC. Pasiwyd y Mesur gan Senedd Cymru (Cynulliad Cenedlaethol Cymru bryd hynny) ar 6 Hydref 2010.

Mwy o wybodaeth am y Bil a gofnod o hynt y Bil trwy'r Senedd (Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar y pryd) ar senedd.cymru.

Mae'r Memorandwm Esboniadol a baratowyd gan Lywodraeth Cymru (ar adeg cyflwyno’r Mesur):

Cafodd y Mesur Gymeradwyaeth Frenhinol ar 15 Rhagfyr 2010.