Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg o Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011, ei gynnydd trwy'r Senedd a'r is-ddeddfwriaeth.

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Chwefror 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Mae Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 (‘y Mesur’) yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i roi sylw dyledus i’r hawliau a’r rhwymedigaethau yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) wrth wneud penderfyniadau o natur strategol. Pan basiwyd y Mesur hwn gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru (fel yr oedd ar y pryd) Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i integreiddio’r CCUHP i gyfraith ddomestig. Mae’r Mesur hefyd yn:

  • gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i baratoi a chyhoeddi Cynllun Plant sy’n nodi’r trefniadau ar gyfer sicrhau cydymffurfedd â’r ddyletswydd i roi sylw dyledus i’r hawliau a’r rhwymedigaethau yn y CCUHP. Cyhoeddwyd y Cynllun Plant cyntaf yn 2014 a chyhoeddwyd y Cynllun diweddaraf yn 2021 (gweler ‘gwybodaeth gysylltiedig’ isod);
  • gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i hyrwyddo gwybodaeth a dealltwriaeth o’r CCUHP; ac yn
  • gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i ymgynghori ar gymhwysiad posibl y Mesur i bersonau sydd wedi cyrraedd 18 oed, ond nad ydynt yn 25 oed eto. Yn dilyn ymgynghoriad (gweler ‘gwybodaeth gysylltiedig’ isod) penderfynwyd peidio â chymhwyso’r Mesur i’r grŵp oedran hwn.

Mae’r Nodiadau Esboniadol i’r Mesur yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y gwahanol ddarpariaethau:

Darllenwch y Ddeddf yn llawn

Dod i rym

Yn unol ag adran 11 daeth y Mesur i rym ar ddiwedd y cyfnod o ddau fis yn dilyn y Gymeradwyaeth Frenhinol (mewn geiriau eraill, ar 16 Mai 2011):

Is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Mesur

Nid oes unrhyw is-ddeddfwriaeth wedi ei gwneud o dan y Mesur.

Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth

Cyflwynwyd y Mesur ar 14 Mehefin 2010 gan Huw Lewis AC, y Dirprwy Weinidog Plant ar y pryd. Pasiwyd y Mesur gan Senedd Cymru (Cynulliad Cenedlaethol Cymru bryd hynny) ar 18 Ionawr 2011.

Mwy o wybodaeth am y Bil a gofnod o hynt y Bil trwy'r Senedd (Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar y pryd) ar senedd.cymru.

Memorandwm Esboniadol a luniwyd gan Lywodraeth Cymru (fel y’i diwygiwyd ar ôl Cyfnod 2):

Cafodd y Mesur y Gymeradwyaeth Frenhinol ar 16 Mawrth 2011.