Neidio i'r prif gynnwy

Data ar atgyfeiriadau ac amserau aros ar gyfer Gwasanaethau Cymorth Iechyd Meddwl Gofal Sylfaenol Lleol (asesiadau ac ymyriadau therapiwtig) ay gyfer Ionawr i Fawrth 2021.

Rhan 1: Gwasanaethau Cymorth Iechyd Meddwl Sylfaenol Lleol (LPMHSS)

  • Cafodd 6,689 o atgyfeiriadau eu derbyn ar gyfer asesiad LPMHSS ym mis Mawrth 2021.
  • Ym mis Mawrth 2021, roedd 72.4% o asesiadau LPMHSS yn cael eu cynnal o fewn 28 o ddiwrnodau i'r dyddiad y derbyniwyd yr atgyfeiriad.
  • Cafodd 80.9% o ymyriadau therapiwtig eu dechrau o fewn 28 o ddiwrnodau yn dilyn asesiad LPMHSS ym mis Mawrth 2021.

Rhan 2: Cynlluniau Gofal a Thriniaeth (CTP)

  • Roedd 20,649 o gleifion yn derbyn gwasanaethau Iechyd Meddwl eilaidd ddiwedd mis Mawrth 2021; o'r rhain, roedd gan 17,617 (85.3%) CTP dilys.

Rhan 3: Asesiadau ar ddefnyddwyr blaenorol o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd

  • Yn ystod mis Mawrth 2021, roedd 97.0% o adroddiadau ar ganlyniadau asesiadau yn cael eu hanfon o fewn 10 diwrnod gwaith wedi i asesiad Rhan 3 gael ei gynnal.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.