Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009, ei daith drwy'r Senedd a deddfwriaeth israddol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Mai 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Daeth Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 (y Mesur) yn gyfraith ym mis Ebrill 2009, ac er bod adran 170(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Deddf 2021) yn cynnig bod y Mesur yn cael ei ddiddymu, nid yw’r adran hon wedi cael ei dwyn i rym hyd yn hyn.  

Serch hynny mae adrannau helaeth o’r Mesur wedi eu hepgor, fel y diffiniad o awdurdod gwella Cymreig (gan adrannau 113(1) ac 169(a) o Ddeddf 2021), a Rhan 2 o’r Mesur (gan baragraff 21 o Atodlen 4 i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015).  

Mae’r Mesur ar ei ffurf bresennol yn canolbwyntio ar wella llywodraeth leol yng Nghymru. Mae Rhan 1 yn darparu bod awdurdod gwella Cymreig yn Awdurdod Tân ac Achub Cymreig ac yn amlinellu ei gyfrifoldebau. Mae’r Mesur yn gosod dyletswydd gyffredinol i wella ar awdurdod gwella Cymreig ac yn pennu amcanion ar gyfer gwella’r ffordd y mae’n arfer ei swyddogaethau, a’i allu i gydweithio a gwella. Mae’r Mesur hefyd yn amlinellu swyddogaethau Archwilydd Cyffredinol Cymru a swyddogaethau Gweinidogion Cymru mewn perthynas ag awdurdodau gwella Cymreig. 

Mae’r Nodiadau Esboniadol i’r Mesur yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y darpariaethau amrywiol, ond dylech fod yn ymwybodol fod amryw o’r darpariaethau bellach wedi eu hepgor neu eu diddymu:

Darllenwch y Mesur llawn:

Dod i rym

Daeth adrannau 48 i 50, 51(4) i (7), 53 a 54 i rym ar 19 Mehefin 2009, sef y diwrnod y cafodd y Mesur Gymeradwyaeth Frenhinol.

Daeth y darpariaethau eraill i rym ar ddyddiau a bennwyd gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn. 

Mae’r Gorchmynion a ganlyn wedi eu gwneud:

Is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Mesur

 
TeitlRhif y dyfyniadDyddiad gwneudDod i rymDogfennaeth ategol
Gorchymyn Llywodraeth Leol (Dangosyddion Perfformiad) (Cymru) (Dirymu) 2016 ar legislation.gov.uk2016 Rhif 1057 (W. 249)
        
2 Tachwedd 201624 Tachwedd 2016    2016 Rhif 1057 (W. 249): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru (Saesneg yn unig)
Gorchymyn Awdurdodau Tân ac Achub (Dangosyddion Perfformiad) (Cymru) 2015 ar legislation.gov.uk2015 Rhif 604 (Cy. 49)9 Mawrth 2015    1 Ebrill 2015    2015 Rhif 604 (Cy. 49): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru (Saesneg yn unig)
Gorchymyn Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 (Diwygio) 2014 ar legislation.gov.uk2014 Rhif 1713 (Cy. 173)          1 Gorffennaf 20142 Gorffennaf 2014  2014 Rhif 1713 (Cy. 173): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru (Saesneg yn unig)
Gorchymyn Llywodraeth Leol (Dangosyddion Perfformiad) (Cymru) 2012 ar legislation.gov.uk2012 Rhif 2539 (Cy. 278)     2 Hydref 20121 Tachwedd
2012    
2012 Rhif 2539 (Cy. 278): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru (Saesneg yn unig)
Gorchymyn Awdurdodau Tân ac Achub (Cynlluniau Gwella) (Cymru) 2012 ar legislation.gov.uk2012 Rhif 1143 (Cy. 137)   21 Ebrill 201221 Mai 2012 2012 Rhif 1143 (Cy. 137): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru (Saesneg yn unig)
The Audit and Assessment Reports (Wales) Order 2010 ar legislation.gov.uk (Saesneg yn unig)2011 Rhif 2602 (Cy. 280)  31 Hydref 201122 Tachwedd 2011    2011 Rhif 2602 (Cy. 280): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru (Saesneg yn unig)
Gorchymyn Adroddiadau Archwilio ac Asesu (Cymru) (Diwygio) 2011 ar legislation.gov.uk2011 Rhif 2602 (Cy. 280)31 Hydref 2011 22 Tachwedd 20112011 Rhif 2602 (Cy. 280): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru (Saesneg yn unig)
Gorchymyn Awdurdodau Tân ac Achub (Dangosyddion Perfformiad) (Cymru) 2011 ar legislation.gov.uk2011 Rhif 558 (Cy. 80)21 Chwefror 2011     1 Ebrill 2011   2011 Rhif 558 (Cy. 80): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru (Saesneg yn unig)
Gorchymyn Awdurdodau Tân ac Achub (Cynlluniau Gwella) (Cymru) 2010 ar legislation.gov.uk2010 Rhif 481 (Cy. 50)24 Chwefror 2010    1 Ebrill 20102010 Rhif 481 (Cy. 50): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru (Saesneg yn unig)
Gorchymyn Llywodraeth Leol (Dangosyddion Perfformiad a Safonau Perfformiad) (Cymru) 2010 (ar legislation.gov.uk)
     
2010 Rhif 482 (Cy. 51)      24 Chwefror 2010

1 Ebrill 2010 

Daeth Atodlen 5 i rym ar 1 Ebrill 2012 ac mae’n gymwys i’r blynyddoedd ariannol sy’n cychwyn ar 1 Ebrill 2012, 2013 a 2014

2010 Rhif 482 (Cy. 51): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru (Saesneg yn unig)

Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth

Cyflwynwyd y Mesur ar 22 Medi 22 Medi 2008 gan Brian Gibbons AC, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol ar y pryd.

Pasiwyd y Mesur gan Senedd Cymru (Cynulliad Cenedlaethol Cymru bryd hynny) ar 28 Ebrill 2009:

a’r Memorandwm Esboniadol a baratowyd gan Lywodraeth Cymru (i adlewyrchu’r Mesur fel y’i diwygiwyd ar ôl trafodion Cyfnod 2):

Cafodd y Mesur Gymeradwyaeth Frenhinol ar 10 Mehefin 2009.