Trosolwg o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ei gynnydd trwy'r Senedd a'r is-ddeddfwriaeth.
Cynnwys
Trosolwg
Nod Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (‘y Mesur’) yw cryfhau strwythurau a llywodraeth leol yng Nghymru a’r modd y maent yn gweithio i sicrhau bod cynghorau lleol yn estyn allan i ymgysylltu â phob sector o’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.
Y prif amcanion yw:
- ehangu a chynyddu cyfranogiad mewn llywodraeth leol drwy ganiatáu camau a fydd yn helpu i gael gwared ar rwystrau a datgymhellion i sefyll ar gyfer ethol ar gynghorau lleol;
- galluogi adolygu a gwella’r strwythurau llywodraethu a gyflwynwyd drwy Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 fel eu bod yn gweddu’n well i amgylchiadau llywodraeth leol yng Nghymru;
- gwella rôl cynghorwyr anweithredol (“meinciau cefn”) awdurdodau lleol wrth graffu ar wasanaethau lleol;
- datblygu a chryfhau rôl cynghorau cymuned yng Nghymru, gan gynnwys eu galluogi i ddarparu ystod ehangach o wasanaethau a chamau gweithredu yn lleol yn ogystal â chynyddu effeithiolrwydd eu rôl gynrychioliadol a’u gallu i weithio mewn partneriaeth â chyrff eraill;
- diwygio’r system ar gyfer pennu lwfansau i gynghorwyr; a
- caniatáu i Weinidogion Cymru gyhoeddi canllawiau statudol ar gydweithio rhwng awdurdodau lleol, a rhyngddynt hwy a chyrff eraill.
Mae’r Mesur hefyd yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru sefydlu awdurdodau lleol newydd drwy uno dau neu dri awdurdod presennol. Fodd bynnag, dim ond os yw Gweinidogion Cymru yn fodlon nad yw llywodraeth leol effeithiol yn debygol o gael ei chyflawni yn un o’r awdurdodau lleol dan sylw y gellir ddefnyddio’r pŵer hwn, drwy ddefnyddio eu pwerau i sicrhau gwelliant parhaus ac, mewn rhai achosion, cydweithio rhwng awdurdodau lleol.
Mae’r Nodiadau Esboniadol i’r Mesur yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y gwahanol ddarpariaethau:
Darllenwch y Ddeddf yn llawn:
Dod i rym
Yn unol ag adran 178 daeth y darpariaethau canlynol i rym ar 11 Mai 2011, sef y diwrnod ar ôl i’r Mesur gael y Gymeradwyaeth Frenhinol:
- adrannau 58, 77, 79, 80 a 159;
- Rhan 10 (ac eithrio adran 176);
- Rhan E o Atodlen 4 (ac adran 176(2) i’r graddau y mae’n ymwneud â Rhan E o Atodlen 4).
Darllenwch adran 178 o Fesur ar legislation.gov.uk
Daeth y darpariaethau canlynol i rym ar ddiwedd y cyfnod o ddau fis yn dilyn y Gymeradwyaeth Frenhinol (mewn geiriau eraill ar 10 Gorffennaf 2011);
- Rhannau 3 a 4;
- adrannau 55 a 76;
- Penodau 2 i 9 o Ran 7;
- Rhannau B ac C o Atodlen 4 (ac adran 176(2) i’r graddau y mae’n ymwneud â Rhannau B ac C o Atodlen 4).
Mae’r Gorchmynion canlynol hefyd wedi eu gwneud:
Is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Mesur
Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth
Cyflwynwyd y Mesur ar 12 Gorffennaf 2010 gan Carl Sargeant AC, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol ar y pryd. Pasiwyd y Mesur gan Senedd Cymru (Cynulliad Cenedlaethol Cymru bryd hynny) ar 15 Mawrth 2011.
Mae'r Memorandwm Esboniadol a luniwyd gan Lywodraeth Cymru (fel y’i diwygiwyd ar ôl Cyfnod 2):
Cafodd y Mesur y Gymeradwyaeth Frenhinol ar 10 Mai 2011.
