Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010, ei daith drwy'r Senedd a deddfwriaeth israddol.

Trosolwg

Mae Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (‘y Mesur’) yn gwneud darpariaeth ynghylch:

  • cyfrannu at ddileu tlodi plant;
  • gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i sicrhau cyfleoedd chwarae digonol i blant;
  • trefniadau ar gyfer cyfranogiad plant mewn penderfyniadau awdurdodau lleol a allai effeithio arnynt;
  • gwarchod plant a gofal dydd i blant;
  • sefydlu timau a byrddau integredig cymorth i deuluoedd;
  • gwella safonau mewn gwaith cymdeithasol i blant a phobl sy’n gofalu amdanynt;
  • asesu anghenion plant lle mae eu rhieni angen gwasanaethau gofal cymunedol neu os oes ganddynt gyflyrau iechyd sy’n effeithio ar anghenion y plant.

Mae’r Nodiadau Esboniadol i’r Mesur yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y gwahanol ddarpariaethau.

Darllenwch y Mesur llawn:

Dod i rym

Daeth adrannau 1 i 3 a 74 i 76 i rym ar ddiwedd y cyfnod o ddau fis yn dilyn y Gymeradwyaeth Frenhinol (mewn geiriau eraill ar 10 Ebrill 2010), yn unol ag adran 75(1).

Daeth paragraffau 19 i 20 o Atodlen 1 i rym ar 10 Chwefror 2010, sef y diwrnod y cafodd y Mesur y Gymeradwyaeth Frenhinol, yn unol ag adran 75(2).

Daw gweddill darpariaethau’r Mesur i rym yn unol â darpariaeth a wneir gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn, yn unol ag adran 75(3). 

Mae’r Gorchmynion canlynol wedi eu gwneud:

Is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Mesur

 
TeitlRhif y dyfyniadDyddiad gwneudDod i rymDogfennaeth ategol
Gorchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Dirymu a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) 2026 ar legislation.gov.uk2026 Rhif 10025 Mawrth 20261 Ebrill 20272026 Rhif 100: Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Anghymhwyso) (Rhif 2) (Cymru) 2022 ar legislation.gov.uk2022 Rhif 1188 (Cy. 244)   14 Tachwedd 2022    6 Rhagfyr 2022    2022 Rhif 1188: (Cy. 244) Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Anghymhwyso) (Cymru) 2022 (dirymwyd) (ar legislation.gov.uk)2022 Rhif 1066 (Cy. 224)  17 Hydref 20226 Rhagfyr 2022   2022 Rhif 1066 (Cy. 224): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Rheoliadau’r Strategaeth Tlodi Plant (Cyd-bwyllgorau Corfforedig) (Cymru) 2021 ar legislation.gov.uk2021 Rhif 1364 (Cy. 359)1 Rhagfyr 20213 Rhagfyr 20212021 Rhif 1364 (Cy. 359): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru (Saesneg yn unig)
Rheoliadau Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (Diwygio’r Rhestr o Awdurdodau Cymreig) 2021 ar legislation.gov.uk2021 Rhif 1361 (Cy. 357)    1 Rhagfyr 2021     3 Rhagfyr 2021    2021 Rhif 1361 (Cy. 357): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru
Gorchymyn Rheoleiddio Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2016 ar legislation.gov.uk2016 Rhif 98 (Cy. 47)  27 Ionawr 20161 Ebrill 2016    2016 Rhif 98 (Cy. 47): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru (Saesneg yn unig)
Gorchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) (Diwygio) 2016 ar legislation.gov.uk2016 Rhif 96 (Cy. 45)   27 Ionawr 20161 Ebrill 2016  2016 Rhif 96 (Cy. 45): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru (Saesneg yn unig)
Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) (Diwygio) 2016 ar legislation.gov.uk2016 Rhif 87 (Cy. 41)    27 Ionawr 2016    1 Ebrill 2016    2016 Rhif 87 (Cy. 41): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru (Saesneg yn unig)
Rheoliadau Asesu Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae (Cymru) 2012 ar legislation.gov.uk2012 Rhif 2555 (Cy. 279)6 Hydref 20122 Tachwedd 20122012 Rhif 2555 (Cy. 279): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru (Saesneg yn unig)
Rheoliadau Timau Integredig Cymorth i Deuluoedd (Adolygu Achosion) (Cymru) 2012 ar legislation.gov.uk2012 Rhif 205 (Cy. 35)30 Ionawr 201228 Chwefror 20122012 Rhif 205 (Cy. 35): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru (Saesneg yn unig)
Rheoliadau Timau Integredig Cymorth i Deuluoedd (Swyddogaethau Cymorth i Deuluoedd) (Cymru) 2012 ar legislation.gov.uk2012 Rhif 204 (Cy. 34)30 Ionawr 201228 Chwefror 20122012 Rhif 204 (Cy. 34): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru (Saesneg yn unig)
Rheoliadau Timau Integredig Cymorth i Deuluoedd (Cyfansoddiad Timau a Swyddogaethau Byrddau) (Cymru) 2012 ar legislation.gov.uk2012 Rhif 202 (Cy. 33)30 Ionawr 201228 Chwefror 20122012 Rhif 202 (Cy. 33): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru (Saesneg yn unig)
Rheoliadau'r Strategaeth Tlodi Plant (Cymru) 2011 ar legislation.gov.uk2011 Rhif 675 (Cy. 98)7 Mawrth 20116 Ebrill 20112011 Rhif 675 (Cy. 98): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru (Saesneg yn unig)
Rheoliadau Timau Integredig Cymorth i Deuluoedd (Swyddogaethau Cymorth i Deuluoedd) (Cymru) (Diwygio) 2011 ar legislation.gov.uk2011 Rhif 191 (Cy. 36)29 Ionawr 20111 Mawrth 20112011 Rhif 191 (Cy. 36): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru (Saesneg yn unig)
Gorchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010 ar legislation.gov.uk2010 Rhif 2839 (Cy. 233)    25 Tachwedd 20101 Ebrill 2011 2010 Rhif 2839 (Cy. 233): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru (Saesneg yn unig)
Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Arolygu a Gwybodaeth ar gyfer Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2010 ar legislation.gov.uk
 
2010 Rhif 2575 (Cy.215) 20 Hydref 2010    1 Ebrill 2011    2010 Rhif 2575 (Cy.215): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru (Saesneg yn unig)
Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010 ar legislation.gov.uk
      
2010 Rhif 2574 (Cy. 214) 20 Hydref 2010    1 Ebrill 2011    2010 Rhif 2574 (Cy. 214): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru (Saesneg yn unig)
Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Anghymhwyso) (Cymru) 2010 ar legislation.gov.uk2010 Rhif 1703 (Cy. 163)   28 Mehefin 2010 30 Gorffennaf 2010    2010 Rhif 1703 (Cy. 163): Memorandwm Esboniadol heb fod ar gael
Rheoliadau Timau Integredig Cymorth i Deuluoedd (Swyddogaethau Cymorth i Deuluoedd) (Cymru) 2010 ar legislation.gov.uk2010 Rhif 1701 (Cy. 162)24 Mehefin 20101 Medi 20102010 Rhif 1701 (Cy. 162): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru (Saesneg yn unig)
Rheoliadau Timau Integredig Cymorth i Deuluoedd (Adolygu Achosion) (Cymru) 2010 ar legislation.gov.uk2010 Rhif 1700 (Cy. 161)24 Mehefin 20101 Medi 20102010 Rhif 1700 (Cy. 161): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru (Saesneg yn unig)
Rheoliadau Timau Integredig Cymorth i Deuluoedd (Cyfansoddiad Timau a Swyddogaethau Byrddau) (Cymru) 2010 ar legislation.gov.uk2010 Rhif 1690 (Cy. 159)24 Mehefin 20101 Medi 20102010 Rhif 1690 (Cy. 159): Memorandwm Esboniadol ar senedd.cymru (Saesneg yn unig)

Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth

Cyflwynwyd y Mesur ar 2 Mawrth 2009 gan Brian Gibbons AC, sef y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol ar y pryd. Pasiwyd y Mesur gan Senedd Cymru (Cynulliad Cenedlaethol Cymru bryd hynny) ar 10 Tachwedd 2009.

Mae rhagor o wybodaeth am y Mesur a'i daith drwy'r Senedd ar senedd.cymru.

Mae'r Memorandwm Esboniadol a baratowyd gan Lywodraeth Cymru (i adlewyrchu’r Mesur fel y’i diwygiwyd ar ôl Cyfnod 2 o’r ystyriaeth):

Cafodd y Mesur y Gymeradwyaeth Frenhinol ar 10 Chwefror 2010.