Neidio i'r prif gynnwy

Cefndir

Mae Teuluoedd yn Gyntaf yn rhaglen gan Lywodraeth Cymru i wella bywydau babanod, plant, pobl ifanc a'u teuluoedd. Mae'n rhoi pwyslais ar atal problemau a rhoi cymorth yn gynnar, ac mae'n gweithio gyda'r teulu cyfan er mwyn atal problemau rhag troi'n argyfwng. Mae'r rhaglen yn hyrwyddo'r broses o ddatblygu systemau cymorth amlasiantaethol i sicrhau bod cymorth pwrpasol ar gael i deuluoedd pan fydd ei angen arnynt.

Dyma brif elfennau Teuluoedd yn Gyntaf: 

  • Fframwaith Asesu'r Teulu ar y Cyd (JAFF), sy'n darparu gwerthusiad cynhwysfawr ar sail cryfderau o anghenion teuluoedd.
  • Tîm o Amgylch y Teulu, sy'n dwyn ynghyd ystod eang o weithwyr proffesiynol i weithio gyda theulu er mwyn eu helpu i fynd i'r afael â'r heriau sy'n eu hwynebu.
  • Prosiectau a gomisiynir yn strategol, a ddatblygir mewn ymateb i anghenion lleol a chymunedol a nodir, a gallant gynnwys ymyriadau rhianta, cymorth iechyd meddwl i deuluoedd, a chefnogaeth i bobl ifanc.
  • Dyrannu cyllid i'w wario ar gymorth arloesol i deuluoedd sydd wedi'u heffeithio gan anabledd.  Bydd awdurdodau lleol yn penderfynu sut i wario'r elfen hon yn eu hardaloedd.

Mae awdurdodau lleol yn amrywio o ran y mathau o gymorth y maent yn eu comisiynu, a faint o arian a fuddsoddir yn elfennau amrywiol rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf. Maent yn gwneud penderfyniadau buddsoddi yn seiliedig ar ddadansoddiad o anghenion eu poblogaeth leol.

Mae gan y rhaglen gyfres o Fesurau Perfformiad Cenedlaethol i helpu i ddarparu rhagor o dystiolaeth o effaith y rhaglen ar draws Cymru, yn enwedig mewn perthynas â'r prosiectau strategol. Mae'n ofynnol i awdurdodau lleol adrodd ar y mesurau perfformiad hynny sy'n berthnasol i gyflawni'r rhaglen yn eu hardal nhw yn unig.

Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu diffiniadau o'r mesurau perfformiad cenedlaethol ochr yn ochr â rhai enghreifftiau o sut y gallai awdurdodau lleol farcio unigolyn neu deulu yn llwyddiannus yn eu herbyn. Nid yw'r enghreifftiau hyn yn hollgynhwysfawr, ac felly mae'r mesurau o lwyddiant yn erbyn y mesurau perfformiad yn oddrychol i bob awdurdod lleol, ac nid yw pob awdurdod lleol yn adrodd yn erbyn pob mesur perfformiad. Gellir adrodd ar unigolion neu deuluoedd o safbwynt mwy nag un mesur perfformiad cenedlaethol.

Mae'r awdurdodau lleol yn casglu'r data gan ddefnyddio templed gan Lywodraeth Cymru, ac yn adrodd i Lywodraeth Cymru yn flynyddol.

Er mwyn peidio â datgelu unrhyw unigolion, mae'r data wedi'i dalgrynnu i'r pump agosaf. Cyfrifir cyfansymiau a chanrannau gan ddefnyddio'r ffigurau crai, ac efallai y bydd yn ymddangos nad yw'r swm yn cyfateb i 100%.

Prif bwyntiau

Mae nifer yr atgyfeiriadau ar gyfer Fframwaith Asesu'r Teulu ar y Cyd (JAFF) wedi cynyddu 7% rhwng 2022-23 (20,190) a 2023-24 (21,675).

Arweiniodd tua hanner yr atgyfeiriadau JAFF at deuluoedd yn cwblhau asesiad JAFF yn 2023-24, gan ddilyn tuedd debyg i flynyddoedd blaenorol.

Gostyngodd nifer y cynlluniau gweithredu Tîm o Amgylch y Teulu (TAF) a lofnodwyd rhwng 2022-23 a 2023-24, o 10,300 i 9,260.

Gwelwyd gostyngiad bach hefyd yn nifer y cynlluniau gweithredu TAF a ddaeth i ben rhwng 2022-23 a 2023-24, o 9,380 i 9,305.

Mae canran y cynlluniau gweithredu TAF a ddaeth i ben yn llwyddiannus, allan o'r cyfan a ddaeth i ben, wedi aros yn gyson dros y 10 mlynedd diwethaf, ac mae ar lefel debyg yn 2023-24 (62%).

Mae canran yr unigolion neu deuluoedd llwyddiannus a adroddwyd yn erbyn pob un o'r mesurau perfformiad cenedlaethol wedi aros yn uwch na 50% o'r rhai y gweithiwyd gyda nhw yn 2023-24, ac eithrio un mesur: teuluoedd a effeithiwyd gan anabledd sydd wedi nodi gwelliant yn eu gwytnwch teuluol, a ostyngodd o 66% yn 2022-23 i 34%.

Fframwaith Asesu'r Teulu ar y Cyd a'r Tîm o Amgylch y Teulu

Parhaodd nifer yr atgyfeiriadau ar gyfer Fframwaith Asesu'r Teulu ar y Cyd (JAFF) i gynyddu yn 2023-24, ar ôl codi bob blwyddyn am y degawd blaenorol ar wahân i 2020-21. Roedd 21,675 o atgyfeiriadau ledled Cymru yn 2023-24, y nifer uchaf o atgyfeiriadau ar gofnod. Roedd hyn yn gynnydd o 7% ers 2022-23, pan oedd nifer yr atgyfeiriadau yn 20,190. Roedd is-set o'r atgyfeiriadau hyn ar gyfer teuluoedd ag anghenion sy'n ymwneud ag anabledd. Arhosodd nifer yr atgyfeiriadau ar gyfer y teuluoedd hyn yn gyson â'r blynyddoedd blaenorol yn 2023-24, gan gynyddu ychydig i 2,835 o 2,825 yn 2022-23.

Arweiniodd tua hanner yr atgyfeiriadau JAFF at deuluoedd yn cwblhau asesiad JAFF yn 2023-24, gan ddilyn tuedd debyg i flynyddoedd blaenorol. Roedd nifer yr asesiadau JAFF a gwblhawyd wedi syrthio ychydig yn 2023-24, o 12,045 yn 2022-23 i 10,920 yn 2023-24. Dyma'r nifer uchaf ond un ar gofnod o asesiadau JAFF a gwblhawyd, ar ôl 2022-23. Mae nifer yr asesiadau JAFF a gwblhawyd ar gyfer teuluoedd ag anghenion sy'n ymwneud ag anabledd hefyd wedi cynyddu'n gyffredinol, o 2,380 yn 2022-23 i 2,330 yn 2023-24.

Gostyngodd nifer y cynlluniau gweithredu Tîm o amgylch y Teulu (TAF) a lofnodwyd yn 2023-24 i 9,260, o 10,300 yn 2022-23, er eu bod wedi cynyddu'n gyffredinol ers 2013-14. Er hynny, dyma'r nifer uchaf ond un ar gofnod o gynlluniau gweithredu TAF a lofnodwyd. Fodd bynnag, cafwyd ychydig o gynnydd yn nifer y cynlluniau gweithredu TAF a lofnodwyd ar gyfer teuluoedd ag anghenion sy'n ymwneud ag anabledd, o 2,255 yn 2022-23 i 2,260 yn 2023-24.

Gostyngodd nifer y cynlluniau gweithredu TAF a ddaeth i ben yn 2023-24 o 9,380 yn 2022-23 i 9,305. Unwaith eto, dyma'r nifer uchaf ond un ar gofnod o gynlluniau yn dod i ben, ar ôl cynyddu'n gyffredinol yn y 10 mlynedd diwethaf. Roedd nifer y cynlluniau gweithredu TAF a ddaeth i ben dros yr un cyfnod ar gyfer teuluoedd ag anghenion sy'n ymwneud ag anabledd yn dilyn tuedd debyg, gan ostwng o 2,270 yn 2022-23 i 2,210 yn 2023-24. Roedd cyfanswm nifer y cynlluniau gweithredu TAF a ddaeth i ben yn fwy na nifer y cynlluniau a lofnodwyd yn 2023-24. Roedd hyn oherwydd y gallai cynlluniau o flynyddoedd blaenorol ddod i ben mewn cyfnod diweddarach.

Mae canran y cynlluniau gweithredu TAF a ddaeth i ben yn llwyddiannus wedi bod yn gyson dros y degawd blaenorol, ac arhosodd yn debyg yn 2023-24 (62%), gostyngiad bach o 63% yn 2022-23. Mae canran y cynlluniau gweithredu TAF a ddaeth i ben yn llwyddiannus ar gyfer teuluoedd ag anghenion sy'n ymwneud ag anabledd hefyd wedi aros yn gyson dros yr un cyfnod, ac roedd yn 65% yn 2023-24.

Mesurau Perfformiad Cenedlaethol

Yn 2023-24, arhosodd canran y cyfranogwyr llwyddiannus a adroddwyd yn erbyn pob un o'r Mesurau Perfformiad Cenedlaethol yn uwch na 50% o'r rhai y gweithiwyd gyda nhw, ac eithrio un mesur: teuluoedd a effeithiwyd gan anabledd sydd wedi nodi gwelliant yn eu gwytnwch teuluoedd, a ostyngodd o 66% yn 2022-23 i 34%.

Hefyd, ar gyfer mesurau perfformiad eraill, gwelwyd cynnydd mawr yn nifer y teuluoedd a’r unigolion oedd yn derbyn cymorth yn 2023-24, o gymharu â 2022-23. Fodd bynnag, arhosodd nifer y canlyniadau llwyddiannus ar lefel debyg i 2022-23. Mae’r cynnydd yn nifer yr unigolion neu deuluoedd fu’n derbyn cymorth yn 2023-24 wedi arwain at ostyngiad mawr yng nghanrannau’r unigolion gafodd ganlyniadau llwyddiannus o gymharu â 2022-23. Yn 2023-24, y mesur perfformiad cenedlaethol â'r nifer uchaf o gyfranogwyr llwyddiannus oedd gwell lles emosiynol/meddyliol, lle nodwyd 22,525. Roedd hyn yn cynrychioli 71% o gyfanswm nifer yr unigolion neu'r teuluoedd y gweithiwyd gyda nhw o safbwynt y mesur perfformiad cenedlaethol hwn. Y mesur perfformiad gyda'r ganran uchaf o lwyddiant oedd rhieni sy'n elwa ar ymyrraeth rhianta (85%).

Ffigur 1: Canran yr unigolion neu'r teuluoedd llwyddiannus o'r cyfanswm y gweithiwyd gyda nhw o safbwynt pob mesur perfformiad cenedlaethol, 2023-24

Image
Disgrifiad o ffigur 1: Siart bar llorweddol sy'n dangos, o'r 14 Mesur Perfformiad Cenedlaethol, mai rhieni sy'n elwa ar ymyrraeth rhianta oedd â'r ganran uchaf o unigolion neu deuluoedd llwyddiannus o'r cyfanswm nifer y gweithiwyd gyda nhw yn 2023-24, sef 85%. Y ganran isaf oedd 34%, ar gyfer teuluoedd yr effeithiwyd arnynt gan anabledd a nododd welliant mewn gwytnwch teuluoedd. Mae'r siart wedi'i threfnu o'r mesur perfformiad sydd â'r nifer uchaf o gyfranogwyr llwyddiannus i'r mesur perfformiad sydd â'r nifer isaf o gyfranogwyr llwyddiannus.

Disgrifiad o ffigur 1: Siart bar llorweddol sy'n dangos, o'r 14 Mesur Perfformiad Cenedlaethol, mai rhieni sy'n elwa ar ymyrraeth rhianta oedd â'r ganran uchaf o unigolion neu deuluoedd llwyddiannus o'r cyfanswm nifer y gweithiwyd gyda nhw yn 2023-24, sef 85%. Y ganran isaf oedd 34%, ar gyfer teuluoedd yr effeithiwyd arnynt gan anabledd a nododd welliant mewn gwytnwch teuluoedd. Mae'r siart wedi'i threfnu o'r mesur perfformiad sydd â'r nifer uchaf o gyfranogwyr llwyddiannus i'r mesur perfformiad sydd â'r nifer isaf o gyfranogwyr llwyddiannus.

Ffynhonnell: Data ymyriadau Teuluoedd yn Gyntaf, a gasglwyd oddi wrth awdurdodau lleol gan Lywodraeth Cymru, 2023-24

Materion Ansawdd Data

Mae ymyriadau Teuluoedd yn Gyntaf yn amrywio rhwng awdurdodau lleol, ac felly efallai na fydd modd cymharu'r ffigurau yn uniongyrchol.

Mae'n amlwg o'r data bod anghysondebau o hyd ar gyfer rhai metrigau, ac mae'n debygol mai dehongliadau o ran sut y dylid adrodd ar ddata ac arferion lleol sydd i'w gyfrif am hyn.

Nid yw pob awdurdod lleol yn adrodd yn erbyn pob mesur perfformiad, a gellir adrodd ar unigolion neu deuluoedd o safbwynt mwy nag un mesur perfformiad cenedlaethol. Mae’n bosib fod nhw wedi eu cyfrif fwy nag unwaith, er enghraifft os ydynt wedi defnyddio gwasanaethau ar fwy nag un achlysur neu dros wahanol chwarteri.

Ar gyfer ymyriadau sy'n ymwneud ag anghenion anabledd yng Ngwynedd, nid yw'r asesiadau JAFF a chynlluniau gweithredu TAF wedi'u cwblhau eto ond mae'r asesiadau a gwblhawyd yn cynnwys sgyrsiau 'yr hyn sy'n bwysig' tebyg ac mae cynlluniau gweithredu ar gyfer ymyraethau priodol yn cael eu llunio yn unol â hynny. 

Cesglir data ychwanegol ar unigolion sy'n gysylltiedig â phrosiectau a gomisiynwyd gan raglen Teuluoedd yn Gyntaf. Nid yw'r data wedi'u cynnwys yn y cyhoeddiad hwn oherwydd pryderon ynghylch ansawdd y data.