Neidio i'r prif gynnwy

Sut i fewngofnodi gyda chod dilysu untro i ffeilio Treth Trafodiadau Tir (TTT) ar-lein.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Chwefror 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd angen cod dilysu arnoch i gael mynediad i'ch cyfrif TTT. Bydd cod yn cael ei e-bostio atoch ac mae'n rhan o wella diogelwch eich cyfrif.

Sut i fewngofnodi gyda chod dilysu

  • Ewch i ffeilio TTT ar-lein.
  • Rhowch eich cyfeiriad e-bost a'ch cyfrinair.
  • Unwaith y bydd eich manylion wedi'u dilysu, bydd cod dilysu untro’n cael ei e-bostio i'r cyfeiriad e-bost y defnyddioch chi i fewngofnodi.
  • Chwiliwch am e-bost oddi wrth Microsoft (a anfonwyd ar ran Awdurdod Cyllid Cymru) am y cod dilysu.
  • Rhowch y cod ar eich tudalen mewngofnodi a dewiswch dilysu cod. Os yw'r cod yn gywir, bydd neges yn eich annog i ddewis parhau a byddwch yn cael eich mewngofnodi i'ch cyfrif. 

Mae'r cod yn ddilys am 10 munud ar ôl iddo gael ei anfon. Bydd angen cod newydd arnoch bob tro y byddwch yn mewngofnodi neu'n ailgychwyn eich porwr.

Diogelwch ychwanegol gyda chod dilysu

Mae cod dilysu untro yn gwella diogelwch eich cyfrif am ei fod yn:

  • sicrhau mai dim ond defnyddwyr sydd wedi’u hawdurdodi sy'n gallu cael mynediad i'r cyfrif
  • defnyddio cyfrinair a chod dilysu untro i brofi eich bod wedi’ch awdurdod i gael mynediad i'r cyfrif
  • sicrhau bod gennych eich manylion mewngofnodi eich hun (gan gynnwys ar gyfer cyfrif a rennir), gan fod rhannu manylion mewngofnodi yn peryglu diogelwch

Datrys problemau 

  • Chwiliwch yn eich ffolder sbam neu sothach os nad ydych wedi derbyn e-bost yn cynnwys y cod dilysu. Ychwanegwch msonlineservicesteam@microsoftonline.com at eich rhestr e-byst diogel. Os ydych yn dal i gael problemau, cysylltwch â'ch tîm TG.
  • Os yw eich cod wedi dod i ben neu'n anghywir, gofynnwch am god newydd drwy ddefnyddio’r ddolen ar y dudalen mewngofnodi.

Cymorth

Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu os oes angen help arnoch, cysylltwch â ni.