Mewnwelediadau grŵp ffocws y dreth gyngor: aelwydydd incwm isel, lleiafrifoedd ethnig ac anabl (crynodeb)
Mae'r adroddiad hwn yn archwilio canfyddiadau, dealltwriaeth a phrofiad o system y dreth gyngor ymhlith tri grŵp poblogaeth blaenoriaethol.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Amcanion a methodoleg yr ymchwil
Mae'r adroddiad hwn yn archwilio canfyddiadau, dealltwriaeth a phrofiad o system y dreth gyngor ymhlith tri grŵp poblogaeth blaenoriaethol:
- aelwydydd incwm isel
- cymunedau lleiafrifoedd ethnig
- aelwydydd anabl
Mae'n rhan o raglen ymchwil ehangach Llywodraeth Cymru i lywio ymrwymiad y Rhaglen Lywodraethu i ddiwygio'r dreth gyngor yng Nghymru.
Mae gwaith blaenorol wedi cynnwys modelu technegol a rhywfaint o ymgysylltu ansoddol. Nod yr ymchwil hon oedd deall profiad bywyd ac effaith talu'r dreth gyngor ymysg pobl a allai wynebu heriau ariannol neu ymarferol ychwanegol.
Cynhaliwyd chwe chyfweliad cwmpasu gyda sefydliadau trydydd sector a allai gynnig cyngor a chymorth ymarferol, cyn i'r prif waith maes ddechrau.
Cynhaliwyd deg grŵp ffocws gyda phreswylwyr, pob un yn para tua awr. Roedd hyn yn cynnwys pedwar grŵp wyneb yn wyneb a chwe grŵp ar-lein. Cynhaliwyd dau grŵp yn Gymraeg, un mewn Arabeg, un mewn Somalieg a chwech yn Saesneg.
Yn ogystal, cynhaliwyd deg cyfweliad manwl un-i-un dros y ffôn, gan alluogi'r rhai ag anghenion hygyrchedd, diwylliannol neu anghenion eraill i gymryd rhan yn yr ymchwil.
Cymerodd cyfanswm o 60 o gyfranogwyr ran gan gynrychioli amrywiaeth o leoliadau ledled Cymru (trefol a gwledig), grŵp oedran, rhyw ac amgylchiadau aelwydydd. Roedd llawer o gyfranogwyr hefyd yn bodloni mwy nag un o'r meini prawf blaenoriaeth (er enghraifft, bod ar incwm isel a byw ar aelwyd anabl), sy'n golygu bod profiadau'n aml yn cael eu llywio gan heriau sy'n gorgyffwrdd. Roedd gan gyfranogwyr ystod eang o brofiadau bywyd, gan gynnwys profiad o gael trafferth talu eu bil treth gyngor (45%), bil treth gyngor a disgownt neu ostyngiad (46%) a hyder o ran deall y dreth gyngor (51%) a delio â materion treth gyngor (53%).
Prif ganfyddiadau
Roedd gan gyfranogwyr ar draws pob grŵp rywfaint o ddealltwriaeth o'r dreth gyngor, ond roedd lefel yr ymwybyddiaeth a'r profiad manwl yn amrywio, fel y nodir yn y canfyddiadau.
Deall y dreth gyngor
Roedd gan lawer o gyfranogwyr ddealltwriaeth sylfaenol o'r dreth gyngor. Roeddent yn ei weld fel bil gorfodol ac yn deall rhai o'r gwasanaethau a'r amwynderau lleol y mae'r dreth gyngor yn talu amdanynt, ond fel arfer yn ei ddisgrifio o ran yr effaith ariannol arnynt, gan ddefnyddio geiriau fel “drud', “straen”, neu “gost afrealistig”.
Roedd rhai hefyd yn teimlo, er ei fod yn ariannu gwasanaethau cyhoeddus, bod y dreth gyngor yn codi tra ystyrid bod y gwasanaethau hynny - yn enwedig casgliadau biniau a chyflwr ffyrdd - yn gwaethygu. Roedd yn gyffredin i gyfranogwyr deimlo nad oedd ganddynt reolaeth ar ddosbarthu a gwario'r dreth gyngor.
Effaith ar gyllideb y cartref
Roedd fforddiadwyedd yn thema gyffredin ar draws grwpiau a chyfweliadau, gyda chyfranogwyr yn disgrifio pwysau ariannol y bil, a oedd yn aml yn cael ei enwi fel yr ail fwyaf maen nhw'n ei dderbyn, ar ôl rhent neu forgais. Effeithiwyd ar filiau, moethau neu angenrheidiau eraill i ryw raddau, o lai o gymdeithasu i hepgor bwyd, dillad neu amnewid nwyddau gwyn.
Er ei bod yn anodd ynysu effaith y dreth gyngor yng nghanol y cynnydd mewn costau byw, soniodd rhai cyfranogwyr am eu hangen i fenthyca arian gan ffrindiau, teulu neu fenthycwyr eraill i dalu eu bil treth gyngor.
Siaradodd cyfranogwyr nid yn unig am yr effaith ariannol, ond y straen emosiynol y mae hyn yn ei ychwanegu, gan ddisgrifio'r effaith negyddol ar eu lles, a all gael ei waethygu gan eu dealltwriaeth y gallai peidio â thalu eu bil arwain at achos llys.
Talai'r rhan fwyaf o'r cyfranogwyr eu bil drwy Ddebyd Uniongyrchol, ac ar y cyfan roedd sefydlu Debyd Uniongyrchol yn broses syml. Nododd rhai cyfranogwyr rai heriau o ran defnyddio taliadau Debyd Uniongyrchol, gan gynnwys:
- amseriad y Debyd Uniongyrchol yn effeithio ar gyllidebu ar gyfer y rheini nad ydynt yn cael eu talu'n fisol neu os daeth y debyd allan o'u cyfrifon ganol neu ddiwedd y mis
- newidiadau i p'un a gafodd y bil ei rannu dros 10 neu 12 mis
- Symiau debyd uniongyrchol yn newid
Cyfathrebu ynghylch y dreth gyngor
Roedd gan lawer o gyfranogwyr rywfaint o brofiad o gyfathrebu am y dreth gyngor mewn amrywiaeth o ffyrdd ar wahân i dderbyn eu bil blynyddol. Roedd rhai cyfranogwyr wedi canfod eu hunain mewn ôl-ddyledion gyda'u treth gyngor. Roedd y rheini â phrofiad o ôl-ddyledion yn aml yn siarad am y straen ychwanegol roeddent yn ei deimlo o ran sut roeddent yn cael gwybod am eu dyled.
Disgrifiwyd y llythyr rhybudd yn aml fel un heb empathi, gan greu ymdeimlad o ofn, oherwydd ei ddyluniad, y geiriad ynghylch achos llys posibl, a'r canfyddiad o ddiffyg cyfeirio at gymorth. Ar adeg pan nad yw'r arian ar gael fel arfer neu pan fo amgylchiadau wedi newid, dywedodd cyfranogwyr eu bod eisiau cymorth ac arweiniad yn hytrach na dull llawdrwm.
Roedd safbwyntiau'n amrywio o ran argaeledd a hygyrchedd gwybodaeth ar wefan awdurdodau lleol am y dreth gyngor. Roedd rhai yn teimlo ei bod yn glir ac yn syml, tra dywedodd eraill eu bod yn ei chael yn anodd llywio drwy wefan eu cyngor, nad oeddent yn gallu dod o hyd i'r hyn roeddent yn chwilio amdano, gan ddisgrifio diffyg gwybodaeth, diffyg cyfeirio a ffurflenni cymhleth.
Wrth ffonio eu hawdurdod lleol, ar adeg o straen fel arfer, roedd cyfranogwyr yn aml yn disgrifio profiadau negyddol:
- rhwystredigaethau wrth lywio drwy systemau awtomataidd
- faint o amser mae'n ei gymryd i siarad â rhywun
- ddim yn gallu siarad â'r un person bob tro
- gorfod esbonio'r un materion dro ar ôl tro
- cael cyngor gwahanol neu wybodaeth anghyson gan wahanol staff
- teimlo eu bod yn creu anhwylustod
- cael cwestiynau “ymwthiol” neu deimlad o gael eu “croesholi”
Mae diffyg ymwybyddiaeth o gymorth gyda’r dreth gyngor yn aml yn cael ei waethygu gan yr anawsterau a'r rhwystredigaethau hyn pan fydd cyfranogwyr yn ffonio awdurdodau lleol neu'n ceisio llywio eu gwefannau i chwilio am wybodaeth.
Cymorth gyda'r Dreth Gyngor
Dywedodd rhai cyfranogwyr eu bod wedi cael cymorth gyda'u treth gyngor mewn amrywiaeth o ffyrdd, gan gynnwys gostyngiadau ar gyfer rhai amgylchiadau, neu gymorth a gafwyd drwy'r system les. Roedd cyfranogwyr â phrofiad o'r disgownt person sengl yn ei weld yn syml, ond roedd profiadau o ddisgowntiau eraill yn aml yn cael eu disgrifio fel rhai mwy heriol a llai cyfarwydd.
Dywedodd rhai cyfranogwyr ag anabledd nad oeddent yn gallu manteisio ar y gostyngiad oherwydd amgylchiadau penodol, fel rhannu ystafell ymolchi wedi'i haddasu gyda phartner.
Er y croesawyd cynlluniau talu, roedd canfyddiad nad oeddent yn hysbys iawn nac y cyfeiriwyd atynt yn dda fel cymorth i'r rheini a allai fod angen y math hwn o gymorth.
Roedd yn gyffredin i gyfranogwyr a oedd wedi mynd ati i chwilio am gymorth i siarad am fod eisiau teimlo eu bod yn cael eu deall, eu cefnogi a'u trin â pharch.
Gwahaniaethau rhwng grwpiau
Er gwaethaf llawer o elfennau cyffredin rhwng y tri grŵp poblogaeth blaenoriaethol, roedd rhai gwahaniaethau a oedd yn tueddu i ymwneud â sut roedd heriau'n cael eu profi, neu eu gwaethygu gan amgylchiadau, gan gynnwys:
- soniodd y rhai o grwpiau lleiafrifoedd ethnig am yr heriau ychwanegol y maent yn eu hwynebu pan nad yw’r cyfathrebu yn eu hiaith gyntaf, a phwysau diwylliannol ychwanegol o beidio â bod eisiau gofyn am help. Roedd cyfranogwyr o grwpiau lleiafrifoedd ethnig hefyd yn tueddu i fod â llai o ymwybyddiaeth o gymorth a gostyngiadau'r dreth gyngor
- mae'n well gan bobl hŷn gael cymorth wyneb yn wyneb, ond maent yn wynebu heriau wrth gael gafael ar hyn
- mae pobl sy'n byw mewn lleoliadau gwledig yn wynebu heriau teithio os ydynt yn ceisio cymorth wyneb yn wyneb
- dywedodd pobl ar aelwydydd incwm isel eu bod yn teimlo nad oedd cymorth ar gael i bawb yr oedd ei angen arnynt, gyda'r rhai a oedd ychydig yn uwch na'r trothwy ar gyfer cymorth ariannol yn syrthio drwy'r bylchau, ond yn dal i gael trafferth cael dau ben llinyn ynghyd
Casgliadau
Amlinellir ystod eang o gasgliadau yn yr adroddiad ar draws meysydd pwnc, a darparodd y cyfranogwyr awgrymiadau amrywiol hefyd ar gyfer gwelliannau neu atebion i'w hystyried yn y dyfodol. I aelwydydd sydd eisoes yn ei chael hi'n anodd cael dau ben llinyn ynghyd, gall y Dreth Gyngor fod yn faich ariannol sylweddol ar draws y tri grŵp poblogaeth blaenoriaethol.
Er bod dealltwriaeth eang o'r dreth gyngor, gellid gwneud mwy i wella gwybodaeth rhai grwpiau, yn enwedig y rheini mewn grwpiau lleiafrifoedd ethnig.
Mae'r dreth gyngor yn cael ei hystyried yn ddyled â blaenoriaeth, ond gellid gwella profiadau o fynd i ôl-ddyledion a cheisio cymorth a chefnogaeth. Byddai dull mwy meddal o gefnogi - gan gynnwys llythyrau rhybuddio a chymorth dros y ffôn - yn helpu i leihau'r straen a'r effaith emosiynol ychwanegol sy'n wynebu'r rheini sydd eisoes yn wynebu heriau.
Byddai codi ymwybyddiaeth o'r cymorth sydd ar gael, cyfeirio at ragor o gymorth, a gwneud gwybodaeth yn gliriach ac yn haws cael gafael arni yn caniatáu i fwy o bobl gael gafael ar y cymorth y maent yn gymwys i'w gael.
Byddai cynyddu mynediad at gymorth wyneb yn wyneb yn cefnogi pobl hŷn a'r rheini sy'n byw mewn ardaloedd gwledig yn well, a byddai cyfathrebu pwrpasol mewn ieithoedd ychwanegol o fudd i'r rheini nad yw'r Gymraeg a'r Saesneg yn iaith gyntaf iddynt.
Byddai caniatáu i bobl bennu eu dyddiad talu a dewis a ydynt am rannu'r gost dros 10 neu 12 mis yn helpu gyda chyllidebu'r cartref.
Byddai mwy o ymgysylltu â'r gymuned yn helpu i gynyddu gwerth canfyddedig y dreth gyngor i gymunedau lleol.
Manylion cyswllt
Awduron: Laura Nesbitt a Saadiah Hood, Strategic Research and Insight
Safbwyntiau'r ymchwilwyr yw'r farn a fynegir yn yr adroddiad hwn ac nid barn Llywodraeth Cymru o reidrwydd.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Gwasanaethau Cyhoeddus a Llywodraeth Leol
Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Ebost: Ymchwil.GwasanaethauCyhoeddus@llyw.cymru
Rhif Ymchwil Gymdeithasol: 51/2026
ISBN digidol 978-1-83745-244-6
