Neidio i'r prif gynnwy

Hysbysiad preifatrwydd ar gyfer Meysydd o Ddiddordeb Ymchwil Cymraeg 2050.

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Ionawr 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflwyniad

Mae Llywodraeth Cymru yn dymuno ymgysylltu â'r gymuned ymchwil ynghylch cwestiynau pwysig sy'n ymwneud â strategaeth y Gymraeg, Cymraeg 2050: Miliwn o Siaradwyr Cymraeg. Mae’r ddogfen Meysydd o Ddiddordeb Ymchwil Cymraeg 2050 wedi'i chyhoeddi i hwyluso'r ymgysylltiad hwn. Mae'r ddogfen yn nodi cwestiynau a materion yr hoffem weld mwy o dystiolaeth ymchwil arnynt ac ymgysylltu ag arbenigwyr. Fel rhan o hyn, rydym yn gwahodd y gymuned ymchwil i rannu gwybodaeth gyda ni am eu harbenigedd a'u tystiolaeth, ac rydym yn adeiladu rhwydwaith o gysylltiadau ar gyfer cydweithredu ac ymgysylltu parhaus. Byddwn yn mapio unigolion i feysydd arbenigedd, a dolenni neu grynodebau o ymchwil sydd wedi’i gwblhau, sy’n digwydd ar hyn o bryd, neu sydd yn yr arfaeth, sy'n berthnasol i Cymraeg 2050.

Pa wybodaeth ry’n ni'n ei chasglu?

Mae data personol yn cael ei ddiffinio o dan Reoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (UK GDPR) fel 'unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â pherson adnabyddadwy y gellir ei adnabod yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol trwy gyfeirio at ddynodwr'.

I fod yn rhan o'n rhwydwaith o gysylltiadau ar gyfer Meysydd o Ddiddordeb Ymchwil Cymraeg 2050, byddwn yn casglu'r data personol canlynol gennych drwy e-bost, mewn digwyddiadau neu drwy ffurflen gyswllt fyr ar-lein:

  • Enw
  • Cyfeiriad e-bost

Pam ry’n ni'n casglu'r wybodaeth hon?

Rydym yn casglu'r wybodaeth hon i:

  • Nodi a mapio arbenigedd a thystiolaeth ymchwil sy'n berthnasol i Meysydd o Ddiddordeb Ymchwil Cymraeg 2050
  • Adeiladu rhwydweithiau a hwyluso ymgysylltu o fewn y gymuned ymchwil sy'n berthnasol i Cymraeg 2050

Bydd swyddogion Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r wybodaeth hon i gysylltu â chi ynglŷn ag ymchwil a/neu i'ch gwahodd i gymryd rhan mewn digwyddiadau, naill ai'n ymwneud â Cymraeg 2050 yn benodol neu ddogfennau Meysydd o Ddiddordeb Ymchwil Llywodraeth Cymru yn gyffredinol.   

Pwy fydd yn cael mynediad at eich gwybodaeth?

Bydd swyddogion perthnasol Llywodraeth Cymru ac unigolion eraill o fewn y gymuned ymchwil sy'n berthnasol i Cymraeg 2050 yn cael mynediad at y data personol a'r wybodaeth a ddarparwch. Ni fydd eich manylion cyswllt yn cael eu cyhoeddi na'u rhannu y tu hwnt i'r grŵp hwn heb eich caniatâd. 

Mae’n bosibl y byddwn yn cynnwys gwybodaeth ry’ch chi'n ein cyfeirio ati sydd eisoes ar gael i'r cyhoedd (e.e. adroddiadau ymchwil neu fywgraffiadau sydd wedi’u cyhoeddi) mewn adroddiadau neu bapurau yr ydym yn eu rhannu y tu hwnt i'r grŵp hwn neu'n eu cyhoeddi. Byddwn yn gwirio gyda chi cyn cynnwys gwybodaeth ry’ch chi'n ein cyfeirio ati nad yw eisoes ar gael i'r cyhoedd. 

Beth yw'r sail gyfreithlon dros ddefnyddio eich data?

Llywodraeth Cymru yw rheolydd data'r wybodaeth ry’ch chi'n ei darparu. 

Y sail gyfreithlon dros brosesu gwybodaeth ar gyfer Meysydd o Ddiddordeb Ymchwil Cymraeg 2050 yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru.

Pa mor ddiogel yw eich data personol?

Mae data personol a ddarperir i Lywodraeth Cymru yn cael ei gadw ar weinyddion diogel, ac ar gyfer y Meysydd o Ddiddordeb Ymchwil Cymraeg 2050 hyn, mae ffolder wedi'i chreu sydd â mynediad wedi'i gyfyngu i swyddogion perthnasol Llywodraeth Cymru. Bydd y data personol a ddarparwch yn cael ei storio yn y ffolder gyfyngedig hon.

Wrth gynnal arolygon, mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio rhaglen feddalwedd arolygon o'r enw SmartSurvey. Rydym wedi sicrhau bod SmartSurvey yn cydymffurfio â GDPR y DU ac yn cwrdd â'n disgwyliadau o ran diogelwch unrhyw ddata a gesglir drwy'r feddalwedd. 

Mae gan Lywodraeth Cymru weithdrefnau i ddelio ag unrhyw doriadau diogelwch data a amheuir. Os bydd amheuaeth o dor, bydd Llywodraeth Cymru yn eich hysbysu chi ac unrhyw reoleiddiwr perthnasol lle mae'n ofynnol yn gyfreithiol i ni wneud hynny. 

Pa mor hir fyddwn ni'n cadw eich data personol?

Byddwn yn prosesu'r wybodaeth ry’ch chi'n ei darparu yn barhaus wrth i ni geisio cryfhau ein sylfaen dystiolaeth ar gyfer Cymraeg 2050. Ar adegau pan fydd y ddogfen Meysydd o Ddiddordeb Ymchwil Cymraeg 2050 yn cael ei diweddaru a'i ailgyhoeddi, neu o fewn tair blynedd i gyhoeddi'r ddogfen hon (p’un bynnag sy'n dod gyntaf), byddwn yn cysylltu â chi i roi cyfle i chi ofyn am dynnu eich data personol o'n storfeydd, os dymunwch. 

Yn unol â'ch hawliau o dan Reoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU, cysylltwch â ni ar unrhyw adeg os hoffech dynnu eich data personol o'n storfeydd. 

Hawliau unigol

O dan Reoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU, mae gennych yr hawliau canlynol mewn perthynas â'r wybodaeth bersonol ry’ch chi'n ei darparu mewn perthynas â’r Meysydd o Ddiddordeb Ymchwil Cymraeg 2050 hyn. Yn benodol, mae gennych yr hawl:

  • I gael mynediad at gopi o'ch data eich hun;
  • I gywiro anghywirdebau yn y data hwnnw;
  • I wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu (mewn rhai amgylchiadau);
  • I’ch data gael ei 'ddileu' (mewn rhai amgylchiadau); ac
  • I gyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

Manylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yw: 

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Swydd Gaer
SK9 5AF

Rhif ffôn:

0303 123 1113

Rhagor o Wybodaeth

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach ynglŷn â sut y bydd y data a ddarperir mewn perthynas â’r Meysydd o Ddiddordeb Ymchwil hyn yn cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru neu os hoffech arfer eich hawliau gan ddefnyddio Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU, cysylltwch â:

Eleri Jones

Rhif ffôn:

03000 250536

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Gellir cysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru yn: 

Swyddog Diogelu Data

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.