Neidio i'r prif gynnwy

Nodau a methodoleg yr ymchwil

Mae’r papur hwn yn adrodd ar ganfyddiadau o adolygiad llenyddiaeth a wnaethpwyd yn rhan o brosiect ymchwil ehangach i ddatblygu cwestiynau arolwg, opsiynau ymateb, ac arweiniad sy’n adlewyrchu’r model cymdeithasol o anabledd. Gwnaethpwyd yr adolygiad llenyddiaeth yn ystod cam ‘darganfod’ cychwynnol yr ymchwil, er mwyn helpu i gefnogi a hysbysu camau dilynol yr ymchwil.

Cafodd y model cymdeithasol o anabledd ei fabwysiadu gan Lywodraeth Cymru yn 2022 gan olygu mai Cymru oedd un o’r gwledydd cyntaf yn y byd i wneud hynny. Fodd bynnag, mae’r dulliau casglu data wedi eu dylanwadu’n drwm o hyd gan y Ddeddf Cydraddoldeb (2010) (Deddfwriaeth y DU), ac o’r herwydd, gan y model meddygol o anabledd. Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi bod angen cwestiynau newydd er mwyn sicrhau bod y model cymdeithasol wedi’i adlewyrchu yn ei gwaith casglu data a gwneud penderfyniadau, ac wrth ddarparu pob gwasanaeth ledled Cymru.

Cafodd y Ganolfan Genedlaethol Ymchwil Gymdeithasol (NatCen) ei chomisiynu felly i ddatblygu a phrofi cyfres o gwestiynau arolwg demograffig, opsiynau ymateb, ac arweiniad. Bydd y cwestiynau a’r arweiniad wedi’u llunio i: gefnogi ystod amrywiol o anghenion hygyrchedd; gweithio mewn gwahanol gyd-destunau ac ieithoedd, yn cynnwys y Gymraeg ac Iaith Arwyddion Prydain (BSL); a bod yn addas mewn amrywiaeth o wahanol ddulliau casglu data, fel fformatau ar-lein ac wyneb yn wyneb.

Mae’r ymchwil wedi’i rannu’n 2 gam – cam ‘darganfod’ cychwynnol, ac yna’r cam ‘alffa’ i ddatblygu a phrofi cwestiynau arolwg newydd. Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi canfyddiadau o adolygiad llenyddiaeth a ddigwyddodd yn ystod y cam (darganfod) cyntaf.

Prif nod yr adolygiad llenyddiaeth oedd cyfuno llenyddiaeth academaidd a llenyddiaeth lwyd ddiweddar am fodelau o anabledd ac adolygu’r arolygon a’r cyfresi cwestiynau cyfredol sy’n casglu data am amlygrwydd a phrofiadau pobl anabl a, lle bo modd, sut maen nhw’n alinio â modelau anabledd. Darperir trosolwg lefel uchel o bob model, yn cynnwys crynodeb o fanteision ac anfanteision yr adroddwyd amdanynt mewn perthynas â’r cynllun, a darpariaeth yr ymchwil trwy arolygon; a nodir yr arolygon a’r cwestiynau sy’n cael eu defnyddio ar hyn o bryd i gasglu data am bobl anabl.

Dylid nodi, fodd bynnag, bod y corff ehangach o lenyddiaeth yn estynedig ac yn amrywio’n fawr yn ei naws. Er bod yr adroddiad hwn yn rhoi crynodeb o bwyntiau canolog o fewn y llenyddiaeth a bennwyd drwy gyfrwng y gyfres meini prawf cynhwysiant sydd wedi ei nodi isod, nid yw’n cynnwys pob agwedd o’r maes, er enghraifft nid yw’n cynnwys yr amrywiaeth mewn dehongli neu gymhwyso modelau ar lefel y siroedd unigol.

Ychwanegwyd at gynllun ymchwiliad i adolygu llenyddiaeth gyda chamau ychwanegol oedd yn dangos bod hwn yn ddull mwy systematig. Felly, roedd y fethodoleg yn cynnwys:

  • pennu papurau ymchwil a adolygwyd gan gymheiriaid – chwilio cronfeydd data academaidd gan ddefnyddio llinynau chwilio wedi’u teilwra’n arbennig a gwneud adolygiad â llaw o gyfnodolion wedi eu henwi ymlaen llaw
  • pennu llenyddiaeth lwyd – chwilio ar gronfa ddata ar-lein gan ddefnyddio llinynnau chwilio wedi’u symleiddio ac adolygiad â llaw o wefannau wedi eu henwi ymlaen law
  • cynnwys argymhellion am dystiolaeth – gan arbenigwr pwnc mewn mesur trwy arolwg – o wahanol fathau o amhariadau amrywiol a’r model cymdeithasol o anabledd
  • olrhain dyfyniadau testun pwysig yn ôl ac ymlaen

Lluniwyd rhestr fer o astudiaethau academaidd a llenyddiaeth lwyd mewn 2 gam: adolygiad o’r teitl a’r crynodeb neu grynodeb gweithredol, ac yn dilyn hynny adolygiad o’r testun llawn. Dewiswyd oddeutu 50 o astudiaethau i’w cynnwys yn yr adolygiad. Roedd y meini prawf cynhwysiant yn cynnwys: erthyglau academaidd wedi’u hadolygu gan gymheiriaid mewn print neu wedi eu cyhoeddi; o 2014 ymlaen; sydd ar gael yn Saesneg; ac sy’n trafod yn benodol fanteision ac anfanteision modelau anabledd wrth wneud ymchwil drwy arolygon. Dewiswyd astudiaethau a fyddai’n sicrhau bod cwestiynau ymchwil yn derbyn sylw a darparwyd astudiaethau achos o arolygon a chyfresi cwestiynau.

Unwaith y cafodd yr astudiaethau eu rhoi ar y rhestr fer, datblygwyd fframwaith thematig ar gyfer tynnu data allan oedd yn crynhoi tystiolaeth a ganfuwyd mewn matrics. Roedd y dull hwn yn golygu bod y dystiolaeth fwyaf perthnasol yn cael ei defnyddio ac yn helpu i sicrhau y canfuwyd themâu canolog a bylchau mewn tystiolaeth.

Prif ganfyddiadau

Modelau anabledd

Roedd yr adolygiad llenyddiaeth yn amlinellu’r dystiolaeth gyfredol am y 3 phrif fodel o anabledd: y model meddygol, y model cymdeithasol, a’r model bioseicogymdeithasol. Dros amser, roedd y llenyddiaeth yn dangos tystiolaeth o symud i ffwrdd oddi wrth agweddau meddygol a thuag at ffactorau mwy cymdeithasol. Gwelwyd fod pob un o’r 3 model a nodwyd yn dylanwadu ar gynllun yr arolwg mewn gwahanol ffyrdd, a chan bob un fanteision ac anfanteision.

Yn ôl y llenyddiaeth a adolygwyd, mae’r model meddygol o anabledd wedi bod ar ddefnydd ers canol yr 1800au, mae ei ffocws ar amhariadau a diffygion, ac mae’n ystyried anabledd yn broblem sy’n dod oddi wrth y person. Mae’n darparu meini prawf clir ac mae’n gallu arwain at ymyriadau meddygol wedi’u targedu, ond mae gan arolygon sydd wedi eu seilio ar y model meddygol ffocws fwy cul a gall amcangyfrif yn rhy isel a pheidio diffinio’n ddigonol y bobl hynny sy’n anabl. Er enghraifft, yn aml iawn, ni fydd pobl niwrowahanol neu bobl sy’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain yn eu disgrifio eu hunain fel pobl sydd â ‘salwch neu gyflwr iechyd’ ac felly ni fyddent yn cael eu cynnwys mewn cwestiwn wedi ei seilio ar fodel meddygol. Mae’r model meddygol o anabledd wedi dylanwadu ar bolisi a deddfwriaeth; er enghraifft, mae gan y Ddeddf Cydraddoldeb (2010) agweddau sy’n canolbwyntio ar y pethau nad yw person yn gallu eu gwneud ac mae’n gofyn am feini prawf penodol er mwyn i unigolion gael eu diogelu o dan y ddeddfwriaeth.

Mewn ymateb uniongyrchol i hyn, datblygwyd y model cymdeithasol o anabledd, sy’n gwahaniaethu rhwng amhariad person a’r strwythurau cymdeithasol ac agweddau sy’n anablu pobl. Mae’r pwyslais ar ostwng a thynnu’r rhwystrau sy’n atal pobl rhag cael mynediad a chael eu cynnwys mewn cymdeithas. Mae ymchwil yn awgrymu bod adnabod a diddymu’r rhwystrau hyn yn cefnogi newid cadarnhaol ac yn grymuso pobl anabl. Daeth iaith diffinio’r person yn gyntaf (‘person anabl’) yn fwy cyffredin ac roedd pobl anabl yn ei defnyddio’n aml i adhawlio eu hunaniaeth a’u hymreolaeth. Ymysg y feirniadaeth a roddwyd am y model hwn yn y llenyddiaeth a adolygwyd oedd y risg o ddehongliadau sy’n anwybyddu ac yn amcangyfrif yn rhy isel yr effaith y mae amhariadau’n eu cael ar fywydau dyddiol pobl drwy atgynhyrchu ffiniau artiffisial rhwng amhariad, bioleg a meddyginiaeth ar un llaw ac anabledd ar y llall.

Mae model bioseicogymdeithasol o anabledd yn ceisio dod â’r modelau cymdeithasol a meddygol at ei gilydd. Mae rhai darnau o lenyddiaeth yn awgrymu bod y cyfuniad o amhariad a/neu gyflwr iechyd y person, ffactorau personol, dylanwadau amgylcheddol, a sut maen nhw i gyd yn rhyngweithio, yn caniatáu dealltwriaeth fwy cymhleth ac amrywiol ei naws o bobl anadl. Fodd bynnag, mae nifer o erthyglau’n awgrymu bod y model hwn yn rhy eang ac yn brin o arweiniad clir ynglŷn â sut i’w roi ar waith. Roedd y llenyddiaeth yn tynnu sylw at bryderon am ddefnyddio’r model hwn yn ymarferol, ac roedd mesurau’r arolwg yn canolbwyntio fwy ar amhariadau, ond efallai ei fod yn anwybyddu dylanwadau amgylcheddol a chymdeithasol.

Arolygon a chyfresi cwestiynau cyfredol

Roedd ail ran yr adolygiad llenyddiaeth yn archwilio arolygon a chyfresi cwestiynau sy’n casglu data am amlygrwydd a phrofiadau pobl anabl, a (lle bo modd) sut roedden nhw’n alinio â gwahanol fodelau o anabledd. Roedd astudiaethau achos yn tynnu sylw at amrywiaeth o arolygon a chasgliadau data yn y DU ac yn rhyngwladol sy’n cofnodi gwybodaeth yn ymwneud â phobl anabl ar hyn o bryd.

Roedd yr arolygon a gynhwyswyd yn dod o Awstralia, Canada, Seland Newydd, arolygon a chyfresi cwestiynau niferus o’r DU, a 5 cyfres o gwestiynau am Ystadegau Anabledd gan The Washington Group.

Canfu’r llenyddiaeth bod y mwyafrif o’r arolygon hyn yn canolbwyntio fwy ar amhariad person, yn defnyddio iaith sy’n cyfeirio at gyflyrau iechyd a ddim yn mesur yn ddigonol y rhwystrau cymdeithasol y mae pobl anabl yn eu hwynebu. Roedd amrywiol astudiaethau’n cwestiynu gallu’r safonau cyfredol i gofnodi amhariadau oedd yn mynd a dod neu oedd yn digwydd ar yr un pryd ac amhariadau penodol oedd yn ymwneud â niwrowahaniaeth neu gyflyrau iechyd meddwl.

Roedd yr adolygiad llenyddiaeth yn nodi’r angen am newid ieithyddol wrth fabwysiadu’r model cymdeithasol o anabledd. Mae mabwysiadu iaith gynhwysol, ‘y person yn gyntaf’ (er enghraifft, ‘person anabl’) yn gallu cadarnhau hunanddiffiniad a hyrwyddo parch am brofiadau unigolion.

Roedd nifer o’r arolygon ar y pryd yn defnyddio fformatau cwestiynau caeedig oedd yn gallu gostwng profiadau ac amhariadau cyfranogwyr i gategori a oedd yn unigol ac eto’n eang, er enghraifft, ‘iechyd meddwl’ neu ‘y golwg’. Gall hyn gyfyngu ar natur ronynnog y data a gallai effeithio ar ymgysylltiad y cyfranogwyr os ydyn nhw’n ansicr pa gategori y dylen nhw ei ddewis. Ar y llaw arall, canfuwyd bod cael hygyrchedd drwy wahanol ddulliau a defnyddio holiaduron fformatau cymysg yn gallu gwella ymgysylltiad.

Roedd y llenyddiaeth yn amlinellu pwysigrwydd cael cydbwysedd rhwng casglu data manwl ac ystyrlon a pheidio cael arolygon sy’n rhy hir sy’n gallu achosi i bobl beidio bod eisiau cymryd rhan. Mae fersiynau byrrach o gyfresi cwestiynau’n hwyluso asesiadau cyflym, gan eu gwneud nhw’n ddelfrydol ar gyfer arolygon graddfa fawr neu sefyllfaoedd lle mae’r amser yn gyfyngedig. Ar y llaw arall, mae fersiynau hirach yn darparu dealltwriaeth fanylach o fod yn anabl, gan gofnodi amrywiaeth ehangach o brofiadau a heriau a wynebir gan unigolion.

Dim ond mewn rhai o’r arolygon a adolygwyd yr ymdriniwyd â phrofiadau plant a phobl ifanc anabl. Nid oedd y safonau oedolyn-ganolog cyfredol yn briodol neu’n berthnasol i blant a phobl ifanc anabl, ac roedd y mwyafrif o’r arolygon yn dibynnu ar ymatebion trwy ddirprwyaeth oedolyn.

Casgliadau ac argymhellion

Roedd yr adolygiad o lenyddiaeth academaidd a llwyd yn amlinellu’r dystiolaeth oedd yn bodoli mewn perthynas â’r 3 phrif fodel anabledd, ac amrywiaeth o gyfresi cwestiynau ar draws y DU ac yn rhyngwladol oedd yn cofnodi data am amhariadau a phobl anabl.

Nid oedd unrhyw rai o’r arolygon neu’r cwestiynau a nodwyd yn defnyddio’r model cymdeithasol o anabledd yn unig. Roedd gan rai o’r arolygon gwestiynau yn ymwneud â’r rhwystrau cymdeithasol yr oedd pobl anabl yn eu profi. O’r esiamplau a ganfuwyd, roedd hyd yn oed y rhai a nododd eu bod yn defnyddio’r model cymdeithasol yn adlewyrchu’r model bioseicogymdeithasol o anabledd yn well.

Mae’r adolygiad o lenyddiaeth a’r cwestiynau arolwg cyfredol yn awgrymu bod lle i ddatblygu mesurau newydd sy’n alinio ag egwyddorion y model cymdeithasol. Gallai hynny gynnwys cwestiynau am rwystrau, iaith a therminoleg a adolygwyd mewn perthynas â’r cysyniadau a amlinellir yn y model cymdeithasol o anabledd; a dull sy’n cydbwyso manylder y data a gesglir gyda’r ffaith bod angen cadw arolygon yn fyr.

Manylion cyswllt

Awdur yr adroddiad: Nathan Hudson, Crescenzo Pinto, John Evans, Yasmin Begum, Florence Trégan

Safbwyntiau’r ymchwilwyr ac nid o reidrwydd rhai Llywodraeth Cymru yw’r safbwyntiau a fynegir yn yr adroddiad hwn.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag:

Laura Tolland
Uned Tystiolaeth Gwahaniaethau ar Sail Anabledd
Yr Is-adran Tystiolaeth a Chefnogaeth ar gyfer Cydraddoldeb, Tlodi a Phlant
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: YrUnedTystiolaethCydraddoldeb@llyw.cymru

Rhif ymchwil gymdeithasol: 77/2025
ISBN Digidol: 978-1-80633-156-7

GSR logo