Neidio i'r prif gynnwy

Adolygiad llenyddiaeth am fodelau anabledd; manteision a chyfyngiadau ar gyfer llunio a chynnal arolygon, ac arolygon presennol sy'n casglu data am bobl anabl.

Cynhaliwyd yr adolygiad llenyddiaeth fel rhan o gam cyntaf ymchwil i ddatblygu a phrofi cwestiynau arolwg sy'n adlewyrchu’r model cymdeithasol anabledd.

Daeth o hyd i 3 prif fodel o anabledd - model meddygol, model cymdeithasol, a model bio-seicogymdeithasol. Dros amser, bu symudiad oddi wrth agweddau meddygol a thuag at ffactorau mwy cymdeithasol. Mae'r modelau yn dylanwadu ar y gwaith o lunio arolygon mewn gwahanol ffyrdd, pob un â manteision ac anfanteision.

Amlygodd yr astudiaethau achos gwestiynau ac arolygon yn y DU ac yn rhyngwladol sy’n casglu gwybodaeth yn ymwneud â phobl anabl ar hyn o bryd. O'r enghreifftiau a ganfuwyd, nid oedd yr un yn defnyddio'r model cymdeithasol o anabledd yn unig a dim ond ychydig oedd â chwestiynau am rwystrau cymdeithasol y mae pobl anabl yn eu profi. Roedd hyd yn oed y rhai a ddywedodd eu bod yn defnyddio'r model cymdeithasol yn adlewyrchiad gwell o’r model bio-seicogymdeithasol o anabledd.

Mae'r canfyddiadau'n awgrymu y dylai cwestiynau arolwg newydd gynnwys rhwystrau cymdeithasol, iaith a therminoleg briodol, a tharo cydbwysedd rhwng dyfnder y data a gesglir a pha mor gryno ydynt.

Cyswllt

Laura Tolland

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.