Neidio i'r prif gynnwy

Cynnig model newydd ar gyfer mewnforio nwyddau i'r DU o wledydd y tu mewn a'r tu allan i'r UE.

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Ebrill 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Sylwadau ar ddrafft o Fodel Gweithredu Targed y Ffin

Cyhoeddodd Llywodraeth y DU ddrafft o Fodel Gweithredu Targed y Ffin ar 5 Ebrill. Mae'n nodi model arfaethedig newydd ar gyfer mewnforio nwyddau i'r DU o wledydd y tu mewn a'r tu allan i'r UE.

Mae bioddiogelwch yn fater datganoledig ond rydym wedi gweithio gyda Llywodraeth y DU a’r Alban i ddatblygu model ar gyfer Prydain Fawr gyfan er mwyn i ni gael trefn gyffredin ar y ffin sy'n gweithio ar draws ein holl genhedloedd.

Cyflwynwch eich barn ar y model arfaethedig: The Border Target Operating Model: Draft for Feedback

Y model newydd

Bydd Model Gweithredu Targed y Ffin yn cael ei gyhoeddi'r haf hwn a bydd yn  cadarnhau pryd y bydd gwiriadau ffisegol yn dechrau ar arfordir y gorllewin. Mae hyn yn caniatáu amser i drafod sut bydd Fframwaith Windsor yn effeithio ar reolaethau’r ffin.

Mae un newid yn effeithio ar nwyddau sy'n cyrraedd Cymru yn fwy na’r gwledydd eraill: rydym yn bwriadu dileu’r eithriad ar y gofyniad i rag-hysbysu rhai categorïau ychwanegol o nwyddau iechydol a ffytoiechydol. Mae’r gofyniad eisoes yn gymwys mewn mannau eraill o Brydain ers Ionawr 2022. Bydd yn ofyniad ar gyfer nwyddau a fewnforiwyd o Weriniaeth Iwerddon o fis Hydref 2023.