Neidio i'r prif gynnwy

Sut i wneud cais am fynediad i Storfa Ddiogelu Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Tachwedd 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflwyniad

Mae Storfa Ddiogelu Cymru yn storio Adolygiadau Diogelu Unedig Sengl (ADUSau) gan gynnwys adolygiadau lladdiad domestig, adolygiadau ymarfer oedolion, adolygiadau ymarfer plant ac adolygiadau lladdiad iechyd meddwl blaenorol.

Gellir defnyddio canfyddiadau chwilio'r storfa i wneud y canlynol:

  • llywio ADUSau presennol sydd ar waith
  • nodi arferion da
  • hwyluso dysgu ledled Cymru

Gellir defnyddio'r storfa hefyd i lywio gwaith polisi ac astudiaethau ymchwil eraill y gallai gael eu cynnal.

Mynediad i'r storfa

Cyn gwneud cais am fynediad i’r Storfa, mae’n bwysig eich bod yn ymgyfarwyddo â’r cytundeb telerau defnyddio. Bydd gofyn ichi gadarnhau eich bod yn cytuno â’r telerau cyn cael mynediad i’r Storfa. Darllenwch yr hysbysiad preifatrwydd hefyd, i ddeall sut y bydd eich data personol yn cael eu casglu, eu defnyddio a’u diogelu.

Dim ond at y dibenion cymeradwy a ganlyn y cewch ddefnyddio’r Storfa. Hynny yw, er mwyn:

  • nodi dysgu sylfaenol o adolygiadau blaenorol yn rhan o ADUS sydd ar waith, a llywio’r broses o lunio cylch gwaith ar gyfer yr adolygiad drwy dynnu sylw at argymhellion blaenorol y dylid eu hystyried
  • gwella arferion diogelu a dysgu unigolion ac asiantaethau sy’n darparu gwasanaethau cyhoeddus rheng flaen, hynny yw, swyddogion yr heddlu, gweithwyr cymdeithasol, ymarferwyr cyffredinol, darparwyr gofal iechyd ac ati
  • llunio adroddiadau thematig blynyddol
  • ymchwilio i themâu sy’n dod i’r amlwg
  • dadansoddi anghenion o ran hyfforddiant
  • dadansoddi adolygiadau hanesyddol a chanfod data
  • hwyluso ymchwil sy’n seiliedig ar dystiolaeth
  • nodi canllawiau arferion da a’u llunio

I gael mynediad i’r Storfa, rhaid i chi hefyd gadarnhau eich bod yn un o’r defnyddwyr cymeradwy a ganlyn: 

  • staff Byrddau Diogelu Rhanbarthol a Phartneriaethau Diogelwch Cymunedol
  • adolygwyr, cadeiryddion ac aelodau panel adolygu ADUS
  • staff y Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol
  • aelodau o Rwydwaith Cymorth ADUS (y Bwrdd Gweinidogol, y Grŵp Strategaeth, a’r Grŵp Cyfeirio Dioddefwyr a Theuluoedd)
  • aelodau o Grŵp Tasg a Chydlynu Llywodraeth Cymru
  • staff perthnasol o’r sector cyhoeddus
  • staff perthnasol o’r trydydd sector
  • staff academaidd a myfyrwyr perthnasol
  • cymdeithasau a chyrff aelodaeth perthnasol
  • gweithwyr proffesiynol perthnasol eraill fesul achos unigol

Sut i wneud cais am fynediad i’r storfa

Yn gyntaf, gwiriwch eich bod yn gallu cadarnhau’r isod yn eich cais:

  • bod eich rôl bresennol wedi’i chynnwys yn y rhestr o ddefnyddwyr cymeradwy uchod 
  • y bydd eich defnydd o’r Storfa yn unol â’r dibenion cymeradwy 
  • eich bod wedi darllen y cytundeb telerau defnyddio a’ch bod yn cytuno â nhw 

Wedi ichi wneud hynny, cwblhewch y ffurflen gais mynediad yn yr adran nesaf i wneud cais am fynediad i’r Storfa. Bydd Hwb Cydgysylltu ADUS yn adolygu’ch cais ac yn cadarnhau a ellir caniatáu mynediad ar eich cyfer. Os caniateir mynediad, bydd yn darparu gwybodaeth am sut i ddefnyddio’r Storfa. 

Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu os ydych chi’n cael trafferth cwblhau’r broses hon, cysylltwch â thîm Hwb Cydgysylltu ADUS drwy anfon e-bost i ADUSCymru@llyw.cymru.

Ffurflen gais mynediad i Storfa Ddiogelu Cymru

Llenwch y ffurflen gais.

I lenwi'r ffurflen, bydd angen ichi ddarparu'r wybodaeth ganlynol:

  • eich enw
  • eich sefydliad
  • eich swydd
  • eich cyfeiriad e-bost
  • cadarnhad o sut rydych chi'n bodloni'r rhestr o ddefnyddwyr cymeradwy (megis aelod o'r grŵp strategaeth neu adolygydd sy'n gweithio ar ADUS ar hyn o bryd)