Neidio i'r prif gynnwy

Yn amlinellu prif wybodaeth dechnegol ar gyfer adroddiad canlyniadau Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALIC).

Cyhoeddwyd gyntaf: 11 Rhagfyr 2025
Diweddarwyd ddiwethaf: 11 Rhagfyr 2025

Cyflwyniad

Cefndir

Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) yw’r mesur swyddogol o amddifadedd cymharol ar gyfer ardaloedd bach yng Nghymru. Mae’n nodi ardaloedd â’r crynodiadau uchaf o sawl math gwahanol o amddifadedd. Mae MALlC yn pennu safle pob ardal fach yng Nghymru o 1 (mwyaf difreintiedig) i 1,917 (lleiaf difreintiedig). Ystadegyn swyddogol achrededig ydyw, sy’n cael ei baratoi gan ystadegwyr yn Llywodraeth Cymru, yn gweithio o dan y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

Cyfrifir MALlC o wyth maes (neu fath) gwahanol o amddifadedd, pob un yn seiliedig ar amrywiaeth o ddangosyddion gwahanol. Mae’r adroddiad technegol hwn yn disgrifio sut y cafodd MALlC 2025 ei lunio ac mae’n cynnwys rhestr lawn o ddangosyddion a gwybodaeth am y dangosyddion. Mae ein dogfen ganllaw ar MALlC yn rhoi rhagor o wybodaeth am y diffiniad o amddifadedd a sut i ddehongli a defnyddio MALlC. Mae ein hadroddiad ar ganlyniadau MALlC hefyd yn rhoi enghreifftiau o ddefnyddiau MALlC. 

Sut y caiff MALlC ei lunio

Mae i’r mynegai dair prif elfen: 

  • y 54 o setiau data dangosyddion sylfaenol
  • safleoedd ar gyfer yr wyth maes (neu fath) gwahanol o amddifadedd, a grëwyd drwy gyfuno dangosyddion perthnasol o fewn pob maes
  • safleoedd cyffredinol MALlC, a grëwyd drwy gyfuno safleoedd y meysydd 

Caiff yr holl elfennau hyn eu cyfrifo ar gyfer pob un o’r ardaloedd bach (Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is neu ACEHIau) yng Nghymru a’u cyhoeddi. Ceir rhestr lawn o’r dangosyddion yn yr adroddiad ar ganlyniadau.

Mae’r ffordd y caiff y dangosyddion a’r meysydd eu cyfuno wedi’i llunio i wahaniaethu’n ddibynadwy rhwng ardaloedd ar y pen mwyaf difreintiedig o’r dosbarthiad, ond nid ar y pen lleiaf difreintiedig. Mae hyn yn golygu bod y gwahaniaethau rhwng yr ardaloedd lleiaf difreintiedig yng Nghymru wedi’u diffinio’n llai manwl na’r gwahaniaethau rhwng yr ardaloedd mwyaf difreintiedig. 

Newidiadau ar gyfer MALlC 2025

Mae’r fethodoleg yr un fath â methodoleg mynegeion blaenorol ar y cyfan, gyda’r un wyth maes neu fath o amddifadedd wedi’u cofnodi. Fodd bynnag, mae rhai setiau data, methodolegau a daearyddiaethau newydd wedi cael eu defnyddio i baratoi MALlC 2025, sy’n golygu nad oes modd cymharu allbynnau yn uniongyrchol â mynegeion blaenorol. 

Ceir manylion am y newidiadau i ddangosyddion a methodolegau yn yr adroddiad technegol hwn, ac mae crynodeb o’r newidiadau ar gael yn yr adroddiad ar ganlyniadau. 

Dangosyddion

Mae’r meysydd yn seiliedig ar setiau o ddangosyddion. Mae’r rhain yn feintiau mesuradwy sy’n cofnodi’r cysyniad o amddifadedd ar gyfer pob maes (e.e. canran y bobl o oedran gweithio sy’n cael budd-daliadau sy’n gysylltiedig â chyflogaeth ar gyfer y maes cyflogaeth, a mesur o gyrhaeddiad addysgol (sgoriau pwyntiau cyfartalog CA4) yn y maes addysg). 

Mae’n rhaid i bob un o ddangosyddion MALlC 2025 fodloni’r un meini prawf â mynegeion amddifadedd MALlC 2019 a’r rhai a’i rhagflaenodd, fel y’u rhestrwyd yn yr adroddiad ar ein dangosyddion arfaethedig. Mae’n rhaid i ddangosyddion fod yn gadarn ar lefel yr ardal fach ac yn gyson ledled Cymru. Yn ymarferol, golyga hyn fod y mynegai yn seiliedig i raddau helaeth ar ddata gweinyddol, gyda nifer cyfyngedig o newidynnau’r Cyfrifiad neu newidynnau wedi’u modelu os na fydd data gweinyddol priodol ar gael.

Cyfrifir y pwysoliadau ar gyfer dangosyddion o fewn meysydd mewn sawl ffordd wahanol, a grynhoir fel a ganlyn ac a esbonnir yn fanwl ym mhob pennod maes yn yr adroddiad technegol: 

  • ar gyfer y meysydd incwm a chyflogaeth, dim ond un dangosydd cyfansawdd sy’n bodoli ac, felly, nid oes angen unrhyw bwysoliad o fewn y maes.
  • ar gyfer meysydd tai, yr amgylchedd ffisegol a mynediad at wasanaethau, caiff y dangosyddion eu grwpio’n ddau neu fwy o is-feysydd, wedyn caiff safleoedd yr is-feysydd eu trawsffurfio’n esbonyddol (gweler atodiad 1.1), cyn cael eu cyfuno mewn swm wedi’i bwysoli
  • ar gyfer y meysydd addysg, iechyd, mynediad at wasanaethau (is-faes mynediad ffisegol) a diogelwch cymunedol, defnyddir techneg ystadegol dadansoddi ffactorau i gyfrifo pwyoliadau ffactorau ar gyfer y dangosyddion (gweler atodiad 1.2)

Yn ogystal â safleoedd ar gyfer y meysydd cyffredinol, byddwn yn cyhoeddi safleoedd ar gyfer pob is-faes ar StatsCymru. Mae rhai o’n dangosyddion yn defnyddio Amcangyfrifon Poblogaeth Ardaloedd Bach yn yr enwaduron. Gwnaethom ddefnyddio data Amcangyfrifon Poblogaeth Ardaloedd Bach a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2024 (amcangyfrifon hyd at ganol 2022) a oedd ar gael ar gyfer cyfnod prosesu data MALlC 2025 ym mis Hydref 2025. Ers hynny, mae’r SYG wedi cyhoeddi diweddariadau a diwygiadau i elfennau o’r data hyn ar 7 Tachwedd 2025. Rydym wedi edrych ar hyn ac wedi asesu bod effaith y newidiadau ar lefel ardal yn fach. 

Sgoriau meysydd

Y mynegai cyffredinol a safleoedd y meysydd yw prif gynnyrch MALlC. Fel rhan o’r broses o gyfrifo safleoedd MALlC, caiff sgoriau amddifadedd (meysydd a rhai cyffredinol) eu cynhyrchu. Gweler yr adroddiad canllaw am ragor o gyngor ar ddehongli sgoriau. 

Yna, caiff safleoedd meysydd unigol, a gyfrifir drwy roi swm wedi’i bwysoli dangosyddion maes yn ei drefn, eu trawsffurfio’n esbonyddol (gweler atodiad 1.1 i gynhyrchu sgoriau meysydd. Mae ardaloedd yn cael sgoriau (safleoedd wedi’u trawsffurfio) sy’n amrywio rhwng 0 (y lleiaf difreintiedig) a 100 (y mwyaf difreintiedig) ar gyfer pob maes. Mae’r sgoriau yn cynyddu’n esbonyddol sy’n golygu bod yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yn fwy amlwg. Mae hyn yn lleihau’r graddau y gall amddifadedd mewn rhai meysydd gael ei wrthbwyso gan ddiffyg amddifadedd mewn meysydd eraill.

Yna, caiff y setiau o sgoriau meysydd eu pwysoli yn unol â phwysoliad perthnasol y maes a’u hadio at ei gilydd, i gynhyrchu sgôr gyffredinol MALlC, a fydd, yn ei thro, yn cael ei rhoi yn nhrefn ei safle i gynhyrchu safleoedd cyffredinol MALlC. 

Pwysoliadau meysydd

Mae pwysoliadau’r meysydd yn rheoli cyfraniad cymharol pob maes at amddifadedd cyffredinol. Mae eu gwerthoedd yn seiliedig ar gyngor arbenigol ac ansawdd y dangosyddion sydd ar gael. Mae pwysau uwch yn golygu bod amrywiad yn y maes hwnnw yn cael mwy o effaith ar y mynegai cyffredinol. 

Tabl 1: pwysoliadau'r meysydd ar gyfer MALlC 2025, ochr yn ochr â'r pwysoliadau a ddefnyddiwyd yn 2019
Maes MALICPwysoliad maes MALlC 2025Pwysoliad maes MALlC 2019
Incwm22%22%
Cyflogaeth20%22%
Iechyd15%15%
Addysg14%14%
Mynediad i wasanaethau10%10%
Tai9%7%
Diogelwch cymunedol5%5%
Yr amgylchedd ffisegol5%5%

Mae dau ddangosydd newydd wedi cael eu hychwanegu at y maes tai, sydd wedi arwain at gynnydd bach yn ei bwysoliad o 7% i 9%. Er mwyn caniatáu ar gyfer hyn, mae’r pwysoliad ar gyfer y maes cyflogaeth wedi cael ei leihau ychydig o 22% i 20%, ond hwn yw’r maes wedi’i bwysoli uchaf ond uno hyd am ei fod yn benderfynydd cryf o ran amddifadedd. 

Daearyddiaethau MALlC

Ardaloedd Cynnyrch Ehangach

Yn sgil Cyfrifiad 2001, datblygodd y SYG hierarchaeth ddaearyddol o’r enw Ardaloedd Cynnyrch Ehangach (ACE). Eu nod oedd gwella’r dull o gofnodi ystadegau ardaloedd bach yng Nghymru a Lloegr. Adolygwyd yr ardaloedd, a gwnaed rhai newidiadau, yn dilyn Cyfrifiad 2021 (SYG). Lle y bo’n bosibl, cyhoeddir ystadegau swyddogol ar lefel daearyddiaeth ACE.

Mae tair haen o ACE: Haen Is, Haen Ganol, a Haen Uwch. Y rheswm am hyn oedd bod gofynion datgelu yn golygu bod modd rhyddhau rhai setiau o ddata ar gyfer ardaloedd llawer llai nag eraill. Felly, er mwyn cefnogi amrywiaeth o ofynion data posibl, penderfynwyd creu’r tair haen arbennig hon. Dyma’r cyfyngiadau:

  • Mae ACE Haen Is (a elwir yn ACEHI) yn cynnwys isafswm poblogaeth o tua 1,000.
  • Mae maint cymedrig yr holl Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is yn agos i 1,600.
  • Maent yn seiliedig ar grwpiau o Ardaloedd Cynnyrch y Cyfrifiad (rhwng 4 a 6 fel arfer).
  • Mae ACE Haen Ganol (ACEHG) yn cynnwys isafswm poblogaeth o tua 5,000.
  • Mae maint cymedrig yr holl ACEHG yn agos i 8,200.

Yr uned ddaearyddol ar gyfer MALlC

Yr ardaloedd daearyddol a ddefnyddiwyd wrth gyfrifo MALlC 2025 yw’r 1,917 o Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is (ACEHIau) yng Nghymru. Defnyddiwyd ACEHIau fel yr uned ddaearyddol ym MALlC 2005, 2008, 2011, 2014 a 2019. Adolygodd y SYG ffiniau ACEHIau ar ôl rhyddhau data Cyfrifiad 2021, ac erbyn hyn ceir 1,917 o ACEHIau yn lle’r 1,909 o ACEHIau blaenorol ar gyfer MALlC 2019.

Er bod safleoedd cyffredinol MALlC yn cael eu cyfrifo ar lefel AGEHI yn unig, byddwn yn llunio proffiliau o amddifadedd ar gyfer ardaloedd mwy o faint (fel awdurdodau lleol, byrddau iechyd lleol, ACEHGau ac ardaloedd etholaethau’r Senedd) sydd ar gael ar StatsCymru. Mae’r rhain yn edrych ar gyfran yr ardaloedd bach mewn ardal fwy o faint sy’n ddifreintiedig iawn. Hefyd, cyhoeddir data dangosyddion unigol ar gyfer amrywiaeth o ddaearyddiaethau ar StatsCymru. Ar gyfer y rhan fwyaf o feysydd, caiff data dangosyddion eu dyrannu i AGEHI gan gyflenwyr y data fel rhan o’r broses gasglu. Fodd bynnag, darperir data ar lefel ddaearyddol is ar gyfer rhai dangosyddion yn y meysydd mynediad at wasanaethau, addysg a diogelwch cymunedol. Ceir esboniad o sut y dyrannwyd data i ACEHIau ar gyfer y meysydd hyn yn atodiad 1.3. 

Cydnabyddiaethau

Rydym yn ddiolchgar am gyfraniadau llawer o bobl a sefydliadau sydd wedi darparu data a chyngor ar gyfer MALlC 2025. Hoffem ddiolch yn arbennig i'r canlynol am y gwaith datblygu neu'r gefnogaeth wedi'i deilwra a ddarparwyd ganddynt: 

  • Sefydliad Ymchwil Adeiladu (BRE), a gynhyrchodd fersiwn wedi'i diweddaru o'r dangosydd tai o ansawdd gwael
  • Arolygiaeth Gofal Cymru, a ddarparodd ddata lleoliad ar gyfer darparwyr gofal plant
  • Caroline Thomas a Mark Corbin, CGI, a ddatblygodd gyfrifiadau amseroedd teithio
  • Yr Adran Addysg, a ddarparodd ddata ar gyfer y maes addysg
  • Deprivation.org, Oxford Consultants for Social Inclusion (OCSI), a'r Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol, a ddarparodd sawl set ddata dangosydd
  • Iechyd a Gofal Digidol Cymru, a ddarparodd ddata ar gyflyrau iechyd a gofnodwyd gan feddygon teulu
  • Noise Consultants Ltd, a gynhyrchodd ddata amlygiad i sŵn
  • Y Swyddfa Ystadegau Gwladol, a ddarparodd ddata ar gyfer y maes iechyd ac amcangyfrifon poblogaeth
  • Yr Athro Glen Bramley, Prifysgol Heriot-Watt, a gynhyrchodd y dangosydd fforddiadwyedd tai
  • Yr Athro Rich Fry ac Oliver Thwaites, Gwyddor Data Poblogaeth, Prifysgol Abertawe, a ddarparodd ddata ar wyrddni amgylchynol
  • Iechyd Cyhoeddus Cymru, a ddarparodd ddata o gofrestriadau canser a'r Rhaglen Mesur Plant
  • Heddluoedd Cymru, a gyfrannodd at y maes diogelwch cymunedol

Atodiad 1.1: trawsffurfio safleoedd meysydd yn esbonyddol

Mae trawsffurfio safleoedd yn esbonyddol yn lleihau’r graddau y gall amddifadedd mewn rhai meysydd gael ei wrthbwyso gan ddiffyg amddifadedd mewn meysydd eraill. Mae’r broses drawsffurfio yn nodi safleoedd yr ardaloedd mwyaf difreintiedig fel bod lleoedd yn cael eu cyflwyno rhwng ardaloedd sy’n adlewyrchu’r dosbarthiadau gwirioneddol ac yn pwysleisio ‘cynffon’ mwyaf difreintiedig y dosbarthiad.

Mae’r union broses drawsffurfio fel a ganlyn: Ar gyfer unrhyw AGEHI, nodwch ei safle yn y maes, wedi’i raddio i’r ystod (0,1), ag R (gyda R=1/1917 ar gyfer y lleiaf difreintiedig, R=1917/1917=1 ar gyfer y mwyaf difreintiedig). Mae sgôr y maes wedi’i drawsffurfio yn hafal i:

Image
-23 x log{1 - R x [1- exp(-100/23)]}

 

lle mae log yn dynodi logarithm naturiol ac mae esb yn dynodi’r trawsffurfiad esbonyddol neu antilog. Mae’n hawdd cyfrifo’r fformiwla hon ac mae’n symlach na’r broses drawsffurfio i gromlin normal a ddefnyddir yn aml, sy’n gofyn am ddefnyddio tabl am-edrych. 

Ffigur 1.1: histogram o faes wedi’i drawsffurfio

Image

Disgrifiad o ffigur x: mae hwn yn dangos dosbarthiad y safleoedd wedi’u trawsffurfio, a elwir yn sgoriau. Mae gan bob maes wedi’i drawsffurfio ystod o 0 i 100, gyda sgôr o 100 ar gyfer yr AGEHI fwyaf difreintiedig. Mae gan yr AGEHI leiaf difreintiedig (R = 1/1917) sgôr maes o tua 0.01. 

Mae’r cysonyn -23 yn rhoi priodoledd wrthbwyso o 10%. Mae hyn yn golygu bod gan 10% o ACEHIau sgôr uwch na 50 (y mwyaf difreintiedig) a bod gan y 90% o ACEHIau sy’n weddill sgoriau rhwng 0 a 50. Pan gaiff sgoriau wedi’u trawsffurfio o wahanol feysydd eu cyfuno drwy eu cyfartaleddu, mae sgiwedd y dosbarthiad yn lleihau’r graddau y gall amddifadedd mewn un maes gael ei wrthbwyso gan ddiffyg amddifadedd mewn maes arall. Er enghraifft, os caiff y sgoriau wedi’u trawsffurfio ar ddau faes eu cyfartaleddu’n unig, gyda phwysoliadau cyfartal, byddai gan AGEHI (ddamcaniaethol) a sgoriodd 100 ar un maes a 0 ar y llall sgôr cyfunol o 50 ac felly byddai’n cael ei gosod ar y 90ain ganradd. Byddai cyfartaleddu’r safleoedd heb eu trawsffurfio, neu ar ôl trawsffurfio i ddosbarthiad normal, yn golygu y byddai AGEHI o’r fath yn cael ei gosod yn y 50fed ganradd; byddai’r lefel uchel o amddifadedd yn y naill faes wedi cael ei gwrthbwyso’n llwyr gan y lefel isel o amddifadedd yn y llall. 

Golyga hyn fod methodoleg y Mynegai wedi’i llunio i wahaniaethu’n ddibynadwy rhwng ardaloedd ym mhen mwyaf difreintiedig y dosbarthiad, ond bod gwahaniaethau rhwng yr ardaloedd lleiaf difreintiedig yng Nghymru yn llai clir.

Yn ogystal â chael ei defnyddio i gyfuno safleoedd meysydd i lunio safleoedd cyffredinol yn y mynegai, caiff y broses drawsffurfio hon ei chymhwyso at safleoedd is-feysydd i bennu safleoedd meysydd ar gyfer y meysydd mynediad at wasanaethau, tai a’r amgylchedd ffisegol. 

Er bod safle penodol wedi’i bennu ar gyfer pob AGEHI ar gyfer y rhan fwyaf o ddangosyddion MALlC 2025, roedd gan nifer bach o ddangosyddion nifer mawr o “0-gwerthoedd” clwm ar gynffon leiaf difreintiedig y dosbarthiad. Er enghraifft, yn y maes mynediad at wasanaethau mewn 955 o ACEHIau roedd 0% o eiddo yn methu â chael band eang cyflym iawn. Gwelwyd y patrwm hon yn yr is-faes digidol yn y maes mynediad at wasanaethau a’r is-faes perygl llifogydd ym maes yr amgylchedd ffisegol. At ddibenion trawsffurfio esbonyddol, pennwyd safleoedd is-faes o 1917 i’r ACEHIau hyn er mwyn lleihau eu cyfraniadau at sgoriau cyffredinol meysydd i’r eithaf. 

Atodiad 1.2: dadansoddi ffactorau

Trosolwg o’r dechneg dadansoddi ffactorau

Mae dadansoddi ffactorau yn ddull o asesu i ba raddau y gall set o ddangosyddion fod yn mesur yr un lluniad neu ffactor sylfaenol. Y cynsail i fodel un ffactor cyffredin yw bod y ffactor sylfaenol yn cael ei fesur yn amherffaith gan bob un o’r dangosyddion yn y set ddata ond y bydd dangosyddion sydd â’r gydberthynas agosaf â’r ffactor sylfaenol hefyd yn cydberthyn yn agos iawn â’i gilydd. Felly, drwy ddadansoddi’r cydberthynas rhwng dangosyddion, bydd yn bosibl dod i gasgliadau ynghylch y ffactor cyffredin ac, o ganlyniad i hynny, amcangyfrif ‘sgôr ffactor’ ar gyfer pob AGEHI. Cyfrifir y sgôr hon ar sail set o bwysoliadau ar gyfer pob un o’r dangosyddion yn y set ddata a gynhyrchir drwy’r broses dadansoddi ffactorau. Wedyn, gellir defnyddio’r sgôr ffactor hon fel mynegai’r maes. 

Dim ond ar gyfer pedwar maes y mae’r dechneg dadansoddi ffactorau wedi’i defnyddio, sef: iechyd, addysg, mynediad at wasanaethau a diogelwch cymunedol. O fewn y maes mynediad at wasanaethau, defnyddir y dechneg dadansoddi ffactorau i gyfrifo pwysoliadau o fewn yr is-faes mynediad ffisegol. Y prif resymau pam mae’r dechneg dadansoddi ffactorau wedi’i defnyddio yw: 

  • bod y dangosyddion ar fetrigau gwahanol a bod ganddynt lefelau gwahanol o gywirdeb, sy’n golygu na ellir eu cyfansymio
  • nodi’r ffactor sy’n sail i’r dangosyddion yn y maes
  • helpu i ystyried problem ‘cyfrif dwbl’ mewn maes

Yn y meysydd cyflogaeth ac incwm, gallwn nodi unigolion sy’n ddifreintiedig neu nad ydynt yn ddifreintiedig yn nhermau’r diffiniad o’r maes. Wedyn, gellir cyfansymio nifer y bobl ddifreintiedig a’i rannu ag enwadur addas i roi cyfradd ardal. 

Nid yw hyn yn bosibl yn y 6 maes arall, lle mae ffurfiau ar amddifadedd yn tueddu i ymddangos mewn ffyrdd gwahanol ar adegau gwahanol. Er enghraifft, mae unigolyn yn wynebu ‘amddifadedd o ran iechyd’ os bydd yn marw’n gynamserol neu’n dioddef o salwch hirdymor. Er bod pobl â salwch hirdymor yn fwy tebygol o farw yn gynamserol nag eraill, nid yw’r pethau hyn yn digwydd i’r un bobl ar yr un pryd. 

Fel arfer, mae meysydd o’r fath yn cynnwys data ar bobl ar wahanol oedrannau ac adegau. Er enghraifft, yn y maes Addysg, aseswyd diffyg cymwysterau yn y boblogaeth oedolion yn ogystal â chanlyniadau gwael ar lefel ysgol. 

Rydym yn rhagdybio bod ffactor sylfaenol ar lefel yr ardal leol (e.e. amddifadedd iechyd) sy’n golygu bod y cyflyrau gwahanol hyn yn debygol o gydfodoli yn yr un ardal. Ni ellir mesur y ffactor sylfaenol hwn yn uniongyrchol ond gellir ei nodi drwy ei effeithiau ar fesurau unigol penodol (e.e. marw cyn pryd, salwch hirdymor, plant pwysau geni isel ac ati). 

Felly, rydym wedi casglu nifer o ddangosyddion sy’n mesur, â gwahanol lefelau o gywirdeb, effeithiau’r ffactor sylfaenol hwn. Drwy ystyried y gydberthynas rhwng pob un o’r dangosyddion hyn, gellir nodi a mesur y ffactor sylfaenol. 

Mae’r dechneg dadansoddi ffactorau hefyd yn ystyried i ryw raddau broblem ‘cyfrif dwbl’ mewn meysydd sy’n cynnwys dangosyddion o bosibl sy’n gorgyffwrdd â’i gilydd. Er enghraifft, yn y maes iechyd, gall unigolyn fod wedi cael canser a chael ei gynnwys, o bosibl, yn y dangosydd salwch hirdymor cyfyngus. Mae cyfuno data gan ddefnyddio dulliau eraill megis ‘sgoriau z’ yn rhoi pwysoliadau dwbl yn fwy uniongyrchol i’r achosion hyn drwy ystyried pob un ohonynt. Fodd bynnag, mae’r dechneg dadansoddi ffactorau yn rhoi rhywfaint o ystyriaeth i’r gorgyffwrdd hwn am y gall fod gan ddangosydd bwysoliad is os bydd y cyfraniad a wna eisoes wedi cael ei ystyried. 

Amcangyfrif y tebygolrwydd mwyaf

Mae MALlC 2025 yn dilyn y fethodoleg a ddefnyddiwyd mewn iteriadau diweddar a’r un a ddefnyddiwyd gan Brifysgol Rhydychen ar gyfer MALlC 2000, yn ogystal â’r mynegeion ar gyfer tair gwlad arall y DU. 

Dewiswyd dadansoddi ffactorau â’r tebygolrwydd mwyaf fel y dull amcangyfrif am ei fod: 

  • yn sefydlog o ran graddfeydd (yn wahanol i Brif Ffactoreiddio)
  • yn ystyried gwall mesur (yn wahanol i Ddadansoddi Prif Gydrannau)
  • yn trin data fel petaent wedi’u samplu o uwchboblogaeth, sy’n gyson â thybiaethau’r prosiect

Cymunolrwydd

Dyma gyfran amrywiant newidyn a esbonnir gan strwythur ffactor. Mae’n rhaid amcangyfrif cymunolrwydd newidyn cyn cynnal dadansoddiad ffactorau. Nid oes rhaid amcangyfrif cymunolrwydd cyn cynnal dadansoddiad prif gydrannau. Mae amcangyfrifon cymunolrwydd yn amcangyfrifon o gyfran yr amrywiant cyffredin mewn newidyn. Mae amcangyfrifon cymunolrwydd ymlaen llaw yn amcangyfrifon a wneir cyn y dadansoddiad ffactorau. Mae dulliau cyffredin o amcangyfrif cymunolrwydd ymlaen llaw yn cynnwys: 

  • amcangyfrif annibynnol o ddibynadwyedd
  • yr aml gydberthyniad wedi’i sgwario rhwng pob newidyn a’r newidynnau eraill
  • y cydberthyniad uchaf oddi ar y groeslin ar gyfer pob newidyn
  • ailadrodd drwy gynnal cyfres o ddadansoddiadau ffactor gan ddefnyddio’r amcangyfrifon cymunolrwydd terfynol o un dadansoddiad fel amcangyfrifon cymunolrwydd ymlaen llaw ar gyfer y dadansoddiad nesaf 

Amcangyfrifon cymunolrwydd terfynol yw cyfanswm y llwythiadau wedi’u sgwario ar gyfer newidyn mewn matrics ffactorau orthogonol. 

Defnyddiwyd y rhagosodiad ar gyfer amcangyfrifon cymunolrwydd ymlaen llaw, sef Aml Gydberthyniad Sgwâr, ar gyfer cyfrifiadau MALlC 2025.

Y broses gyfrifo

I ddechrau, trawsffurfiwyd y dangosyddion i ddosbarthiad normal safonol. Yna, mewngofnodwyd y dangosyddion wedi’u trawsffurfio i ‘ddadansoddiad ffactorau Tebygolrwydd Mwyaf un ffactor cyffredin’ gan ddefnyddio’r swyddogaeth dadansoddi ffactorau o becyn Psych R (Rdocumentation.org).

Cafodd cydran pwysoliadau’r dadansoddiad ffactorau canlyniadol ei thynnu a’i defnyddio i roi sgoriau meysydd ar gyfer y meysydd diogelwch cymunedol, addysg ac iechyd a sgôr yr is-faes mynediad ffisegol yn y maes mynediad at wasanaethau. 

Atodiad 1.3: dyrannu data i Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is (ACEHIau)

Ar gyfer y rhan fwyaf o feysydd, caiff data dangosyddion eu dyrannu i ACEHIau gan gyflenwyr y data fel rhan o’r broses gasglu. Fodd bynnag, darperir data ar lefel ddaearyddol is ar gyfer rhai dangosyddion yn y maes mynediad at wasanaethau ac ar gyfer y rhan fwyaf o ddangosyddion yn y meysydd addysg a diogelwch cymunedol. Isod, rhoddir esboniad o’r ffordd y cafodd data dangosyddion yn y meysydd hyn eu dyrannu i ACEHIau.

Y maes addysg

Heblaw am y dangosydd ar oedolion heb gymwysterau neu â chymwysterau lefel isel, darparwyd yr holl ddata newydd ac wedi’u diweddaru ar ddangosyddion yn y maes addysg ar lefel cod post. Gan nad yw llawer o godau post yn gyfan gwbl o fewn un AGEHI, defnyddiwyd dull o ddosbarthu data ar lefel cod post i nifer o ACEHIau. 

Fel rhan o’r dull dosbarthu hwn, caiff data eu pwysoli yn ôl cyfran yr anheddau o fewn cod post sydd wedi’u lleoli ym mhob AGEHI groestoriadol. Tybir y bydd cyfrannau’r anheddau ym mhob AGEHI groestoriadol yn cyfateb, fwy neu lai, i gyfrannau poblogaeth y cod post sy’n byw ym mhob AGEHI groestoriadol. Yn olaf, lle nad yw codau post yn gyfan gwbl o fewn un AGEHI, rhoddir pwysoliad o 1 i’r data. 

Er mwyn defnyddio’r dull hwn, datblygwyd cyfleuster chwilio cod post-i-AGEHI (gyda phwysoliadau anheddau wedi’u cyfrifo) gan Uned Data a Daearyddiaeth Llywodraeth Cymru ac fe’i defnyddiwyd i ddechrau i baru cynifer o godau post ag ACEHIau â phosibl.

Wedyn, parwyd unrhyw godau post nad oeddent wedi’u paru gan ddefnyddio un o gyfleusterau chwilio’r SYG a bennodd godau post i ACEHIau yn seiliedig ar ganolbwynt daearyddol agosaf AGEHI. Nid oedd y cyfleuster chwilio hwn wedi’i bwysoli ac, felly, pennwyd pwysoliad rhagosodedig o 1 i’r holl ddata wedi’u paru. 

Cafodd unrhyw ddata a oedd yn dal heb eu paru ar yr adeg hon eu hepgor o gyfrifiadau’r dangosyddion.

Y maes mynediad at wasanaethau 

Cafodd gwybodaeth am leoliadau mannau gwasanaeth (megis ar gyfer ysgolion, swyddfeydd post) a ddefnyddiwyd yn y dangosyddion amseroedd teithio eu geogodio a’u dyrannu i ACEHIau gan ddefnyddio System Gwybodaeth Graffig. 

Mae data Ofcom ar y gallu i gael band eang cyflym iawn ar gael yn gyhoeddus ar lefel Ardal Gynnyrch (AG) yn adroddiadau Cysylltu’r Gwledydd Ofcom. Cafodd set data gwanwyn 2025 eu cyfuno i AGEHI gan ddefnyddio cyfleuster chwilio daearyddiaeth y SYG. 

Y maes diogelwch cymunedol

Darparwyd data ar droseddau ac achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol a gofnodwyd ar lefel microddata gan y pedwar heddlu yng Nghymru. Roedd y setiau data yn cynnwys gwybodaeth am leoliad daearyddol digwyddiadau (h.y. cod post a/neu gyfeirnod grid) a bennwyd i ACEHIau gan ddefnyddio dull llyfnhau gofodol. Yn benodol, tynnwyd tir clustogi o 10m o amgylch lleoliad trosedd/digwyddiad a chafodd y drosedd honno/digwyddiad hwnnw ei r(h)annu’n gyfartal gan bob ACEHI a oedd yn croestorri â’r tir clustogi o 10m. Cynhaliwyd y broses hon ar wahân ar gyfer pob cofnod o drosedd a digwyddiad yn y microddata sylfaenol er mwyn ystyried problemau hysbys gyda phroses geogodio data’r heddlu.

Cafwyd data ar gyfeirnodau grid digwyddiadau tân o’r System Cofnodi Digwyddiadau ac fe’u mapiwyd i ACEHIau gan Uned Data a Daearyddiaeth Llywodraeth Cymru.

Maes incwm

Diben y maes hwn yw mesur cyfran y bobl sy'n cael profiad o amddifadedd yn ymwneud ag incwm isel. Mae gan y maes bwysoliad cymharol o 22% yn y mynegai cyffredinol.

Dangosyddion

Mae gan y maes un dangosydd, yn cynnwys sawl cydran, sy’n rhoi ciplun o bobl sy'n derbyn budd-daliadau cysylltiedig ag incwm a chredydau treth a cheiswyr lloches a gefnogir.

Mae'n cynnwys cyfrifon nad ydynt yn gorgyffwrdd o hawlwyr prawf modd: y rhai sydd allan o waith, a'r rhai sydd mewn gwaith ond sydd ag incwm isel. Yna mae'r symiau a gyfrifwyd yn cael eu mynegi fel canran o gyfanswm y boblogaeth amcangyfrifol ar gyfer yr Ardal Gynnyrch Ehangach Haen Is (AGEHI).

Canran y bobl mewn amddifadedd incwm

Math o ddangosydd

Canran

Rhifiadur

Mae rhifiadur y maes yn nodi'r categorïau canlynol o hawlwyr, eu partneriaid a phlant dibynnol, fel ar ddiwedd mis Mawrth 2024: 

  • Budd-daliadau prawf modd allan o waith ‘etifeddol’:
    • cymhorthdal incwm
    • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm
    • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy’n gysylltiedig ag incwm
  • Credyd Pensiwn (Gwarant)
  • Grwpiau amodoldeb ‘di-waith’ Credyd Cynhwysol, gan gynnwys:
    • dim gofynion sy’n gysylltiedig â gwaith
    • cynllunio ar gyfer gwaith
    • paratoi ar gyfer gwaith
    • chwilio am waith
  • Grwpiau amodoldeb Credyd Cynhwysol ‘yn y gwaith’ (gydag incwm cyfwerth islaw 70% o ganolrif y DU, ar ôl costau tai (AHC)) gan gynnwys:
    • gweithio gyda gofynion
    • gweithio, dim gofynion
  • Budd-dal Tai, gydag incwm cyfwerth islaw 70% o ganolrif y DU, AHC
  • Credyd Treth, gydag incwm cyfwerth islaw 70% o ganolrif y DU, AHC
  • Ceiswyr lloches mewn llety gwasgaru sy'n derbyn cymorth

Enwadur

Mynegwyd y cyfrif cyffredinol fel cyfran o gyfanswm y boblogaeth ar gyfer yr AGEHI. Yr enwaduron yw amcangyfrifon poblogaeth ardal fach canol 2022 a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) ar 25 Tachwedd 2024.

Ffynhonnell a chyfnod amser

  • Yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP): hawlwyr budd-daliadau sy'n gysylltiedig ag incwm a phobl sy'n cael Credyd Cynhwysol ar ddiwedd mis Mawrth 2024.
  • Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi (CThEF): derbynwyr credydau treth ar ddiwedd mis Mawrth 2024.
  • Y Swyddfa Gartref: Ceiswyr Lloches sy'n Derbyn Cymorth, Mawrth 2024.
  • SYG: amcangyfrifon poblogaeth ardal fach canol 2022.

Mae'r dewis o giplun ar ddiwedd mis Mawrth 2024 yn cofnodi'r pwynt lle mae'r broses mudo reoledig ar gyfer hawlwyr Credyd Treth yn unig i Gredyd Cynhwysol yn gyflawn, ond cyn mudo hawlwyr Budd-dal Tai yn unig i Gredyd Cynhwysol.

Nodiadau ychwanegol

Gan ddefnyddio ffynhonnell data RAPID, Echdyniad Budd-dal Tai Sengl (SHBE) a chronfa ddata fisol Credyd Cynhwysol yr Adran Gwaith a Phensiynau, caiff grwpiau gwahanol (megis hawlwyr, partneriaid, a phlant) eu nodi yn ôl meini prawf penodol ar gyfer nifer o fudd-daliadau, gan sicrhau bod pob unigolyn perthnasol yn cael ei gofnodi ar gyfer y maes ar ddiwedd mis Mawrth 2024. Ceir disgrifiad llawn o’r meini prawf a’r ffynonellau data yn adroddiad technegol Mynegeion Amddifadedd 2025 Lloegr (gan y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol), gyda rhywfaint o fanylion pellach isod.

Mae’r boblogaeth sy’n ddifreintiedig o ran incwm wedi’i rhannu’n ddau grŵp:  unedau budd-daliadau di-waith ac mewn gwaith (hawlwyr, ynghyd ag unrhyw bartneriaid a phlant dibynnol). Mae pob uned ddi-waith wedi’i dosbarthu’n ddifreintiedig o ran incwm. Bydd unrhyw unedau mewn gwaith ag incwm sydd islaw trothwy penodol yn cael eu dosbarthu’n ddifreintiedig o ran incwm. 

Y trothwy yw 70% o incwm canolrifol y DU ar ôl costau tai (AHC), wedi'i gyfwerthu gan ddefnyddio'r raddfa OECD wedi'i haddasu, a chaiff ei deillio drwy ddefnyddio data'r Arolwg Adnoddau Teuluol (FRS) sy'n sail i'r cyhoeddiad ‘Households Below Average Income’ (HBAI).

Grwpiau amodoldeb Credyd Cynhwysol ‘mewn gwaith’, gydag incwm cyfwerth islaw trothwy 70% o ganolrif y DU (AHC)

Dyma’r unedau budd-daliadau sy’n cael Credyd Cynhwysol lle mae un oedolyn neu fwy o oedran gweithio mewn gwaith, ond lle mae incwm cyfwerthedig yr aelwyd islaw’r trothwy penodedig. Cyfrifwyd incwm ar gyfer mis Mawrth 2024 gan ddefnyddio data asesu Credyd Cynhwysol, gan gynnwys enillion a thaliadau Credyd Cynhwysol ond heb gynnwys hawliadau sy’n ymwneud ag iechyd neu ofalu na budd-daliadau anabledd. Cafodd costau tai gwirioneddol a nodwyd ar gyfer Credyd Cynhwysol eu didynnu i gynhyrchu ffigur incwm ar ôl costau tai.

Hawlwyr y Budd-dal Tai, ag incwm cyfwerth amcangyfrifol islaw trothwy 70% o ganolrif y DU (AHC)

Mae hyn yn cynnwys hawlwyr y Budd-dal Tai, partneriaid a phlant dibynnol nad ydynt yn cael budd-daliadau etifeddol oherwydd diweithdra, y Warant Credyd Pensiwn, na Chredyd Cynhwysol, ac y mae eu hincwm cyfwerthedig islaw’r trothwy penodedig. Caiff incwm ei gyfrifo o gyflogaeth, hunangyflogaeth, Pensiwn y Wladwriaeth, Credyd Treth, Budd-dal Plant, Credyd Cynilion Credyd Pensiwn, a’r Budd-dal Tai, heb gynnwys budd-daliadau anabledd na chostau tai gwirioneddol. Daw costau tai o’r Echdyniad Budd-dal Tai Sengl (SHBE).

Hawlwyr Credyd Treth, ag incwm cyfwerth amcangyfrifedig islaw trothwy 70% o ganolrif y DU (AHC)

Mae hyn yn cynnwys hawlwyr Credyd Treth, partneriaid a phlant dibynnol nad ydynt yn cael budd-daliadau etifeddol oherwydd diweithdra, Credyd Cynhwysol na’r Budd-dal Tai ac y mae eu hincwm cyfwerthedig islaw’r trothwy penodedig. Mae incwm yn cynnwys incwm amcangyfrifedig o gyflogaeth, hunangyflogaeth a Chredyd Treth, heb gynnwys budd-daliadau anabledd na chostau tai amcangyfrifedig.

Gan nad yw costau tai gwirioneddol ar gael ar gyfer unedau budd-daliadau Credyd Treth, defnyddir gwerth priodol. Mae hyn yn cael ei gyfrifo trwy gyfartaledd costau tai teuluoedd Credyd Cynhwysol tebyg (yn ôl math o deulu ac AGEHI), gan ddarparu amcangyfrif daearyddol a demograffig sensitif.

Ceiswyr lloches mewn llety gwasgaru sy’n cael cymorth

Mae’r rhifiadur yn cynnwys nifer y ceiswyr lloches (oedolion a phlant) mewn AGEHI a oedd mewn llety gwasgaru ac yn cael unrhyw un o’r mathau canlynol o gymorth: 

  • Adran 95, i’r rhai sy’n aros am benderfyniad, sy’n darparu llety a threuliau byw
  • Adran 98, cymorth dros dro i’r rhai sy’n aros am benderfyniad Adran 95
  • Adran 4, i’r rhai y gwrthodwyd rhoi lloches iddynt sydd heb adael y DU

Cymaroldeb gyda MALlC 2019

Nid oes modd cymharu'r dangosydd amddifadedd incwm yn uniongyrchol â'r un ar gyfer MALlC 2019. Mae rhai o'r rhesymau dros hyn fel a ganlyn:

  • newid o ran ymdriniaeth y dangosydd Cymreig i gynnwys y rhai sy'n hawlio budd-dal tai yn unig
  • cafodd y newid i'r trothwy incwm ei gymhwyso i deuluoedd sy'n gweithio (ynghynt 60% o'r canolrif cyn costau tai (BHC)), i alinio'n well â gwaith mesur amddifadedd DWP ac i adlewyrchu bod microdata gweinyddol bellach yn galluogi dull AHC uniongyrchol
  • newid yn y system les waelodol, gan gyflwyno Credyd Cynhwysol sy'n disodli sawl budd-dal arall (a adwaenir fel budd-daliadau etifeddol) a defnyddio meini prawf cymhwysedd a throthwyon gwahanol
  • cynnydd gwaelodol mewn hawlwyr budd-daliadau oed gweithio (DWP) yn ystod y pandemig nad oeddent wedi dychwelyd i'r gwaelodlin cyn y pandemig yn y data hyn
  • diffiniadau wedi’u diweddaru ar gyfer ceiswyr lloches mewn llety gwasgaru sy’n cael cymorth
  • mae carcharorion bellach wedi’u cynnwys yn yr enwadur, gan y gall rhai budd-daliadau (e.e., y Budd-dal Tai neu elfen tai Credyd Cynhwysol) fod yn gymwys yn ystod cyfnodau cychwynnol yn y carchar 

Ar gyfer dangosydd 2025, cafodd partneriaid hawlwyr nad oeddent yn hawlio eu cynnwys mewn rhifiaduron, a chafodd hawlwyr budd-daliadau DWP a chredydau treth CThEF eu dileu, a hynny er mwyn osgoi cyfrif dwbl. Gwelliannau i'r maes incwm blaenorol yw'r rhain, sy'n canslo ei gilydd i ryw raddau. Canfuwyd bod effaith net y ddau newid hyn ar safleoedd absoliwt a pherthynol ardaloedd bach yng Nghymru yn fach iawn.

Llunio'r maes

Caiff gwerthoedd y dangosyddion eu graddio, wedyn caiff y graddau eu trawsffurfio'n esbonyddol i roi sgoriau meysydd i'w defnyddio wrth gyfrifo MALlC 2025. Mae gan y maes bwysoliad cymharol o 22% yn y mynegai cyffredinol.

Newidiadau ers MALlC 2019

Mae cyflwyno Credyd Cynhwysol yn cael effaith sylweddol ar y ffordd y caiff maes incwm MALlC ei fesur. Mae tîm mynegeion amddifadedd Lloegr yn y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol wedi gweithio gyda'r cyflenwyr data allweddol, DWP, i ddatblygu dangosyddion amddifadedd incwm newydd ar lefel ardaloedd bach sy'n ymgorffori buddion Credyd Cynhwysol ac etifeddiaeth. Mae'r gwaith hwn wedi'i wneud ar gyfer ardaloedd bach yng Nghymru ac yn Lloegr.

Yn flaenorol, ar gyfer cyfnodau cyfeirio MALlC 2019, roedd y rhan fwyaf o hawlwyr Credyd Cynhwysol yn geiswyr gwaith sengl, felly roedd yr holl hawlwyr Credyd Cynhwysol (ac eithrio’r rhai yn y grŵp "dim gofynion gweithio") wedi’i gynnwys heb gymhwyso trothwy incwm. Ers hynny, Credyd Cynhwysol yw’r budd-dal arferol ar gyfer pob hawliad newydd am fudd-daliadau sy’n dibynnu ar brawf modd, gan ddisodli budd-daliadau etifeddol a Chredydau Treth. Er na fydd trosglwyddo llawn i Gredyd Cynhwysol tan fis Mawrth 2026 yn ôl yr amserlen, mae llawer o hawlwyr yn dal i gael budd-daliadau etifeddol, sy’n arwain at ddull gweithredu cyfun ar gyfer 2025.

Ar gyfer 2025, mae’r boblogaeth wedi’i rhannu’n ddau grŵp: unedau budd-daliadau di-waith ac mewn gwaith. Mae’r holl unedau di-waith wedi’u cynnwys yn y maes, fel mewn mynegeion blaenorol, sy’n cwmpasu Credyd Cynhwysol a budd-daliadau etifeddol. Ar gyfer unedau mewn gwaith, mae trothwy incwm yn pennu a ydynt yn cael eu cynnwys ai peidio, sy’n parhau â’r dull gweithredu a ddefnyddiwyd yn flaenorol ond gyda gwelliannau mawr.

Mae’r dull newydd yn cynnig dull methodolegol gadarn a chynhwysfawr ac yn gwella cywirdeb drwy adlewyrchu amodau byw gwirioneddol. Disgwylir i fynegeion yn y dyfodol adeiladu ar y gwelliannau hyn, gan barhau â’r nod o ddarparu’r mesur mwyaf cadarn posibl o amddifadedd incwm.

Rydym wedi mabwysiadu'r dull a argymhellwyd gan DWP a'r Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol ac rydym o blaid gwell cymharedd rhwng mynegeion ar gyfer gwahanol wledydd y DU, lle bo hynny'n briodol.

Incwm a newidiadau i gostau tai

Y prif newid yw’r un o gostau cyn tai (BHC) i gostau ar ôl tai (AHC) ar gyfer asesu unedau budd-daliadau mewn gwaith. Mae hyn yn cynnig mesur mwy cywir o amddifadedd drwy gyfrif am gostau tai gwirioneddol, a all fod yn fwy na budd-daliadau sy’n ymwneud â thai, gan leihau incwm gwario.

Bu’r newid yn bosibl drwy integreiddio data yn well drwy RAPID, sy’n cyfuno Credyd Cynhwysol, budd-daliadau etifeddol, a Chredydau Treth, ac yn cysylltu â’r Echdyniad Budd-dal Tai Sengl a setiau data misol Credyd Cynhwysol.

Mae cysylltu o’r fath yn ei gwneud yn bosibl i gyfrifo incwm a chostau tai yn ddibynadwy, a grwpio unigolion yn unedau budd-daliadau a chefnogi cyfwerthu incwm. Am y tro cyntaf, mae teuluoedd sy’n cael y Budd-dal Tai wedi’u cynnwys yn y rhifiadur os yw eu hincwm o dan y trothwy ar gyfer amddifadedd. Yn flaenorol, roedd anawsterau technegol o ran osgoi cyfrif dwbl wedi atal y data hyn rhag cael eu cynnwys. Mae defnydd RAPID bellach yn unioni hyn.

Gwybodaeth ychwanegol

Crëwyd dau ddangosydd atodol, sy'n is-setiau o'r dangosydd amddifadedd incwm. Amddifadedd incwm ar gyfer plant (0 i 15 oed) ac amddifadedd incwm ar gyfer pobl hŷn (pobl 60 oed neu'n hŷn) yw'r rhain.

Maes cyflogaeth

Diben y maes hwn yw mesur cyfran y bobl o oed gweithio sydd wedi'u cau allan o'r farchnad lafur yn anfwriadol. Mae hyn yn cynnwys pobl a allai fod eisiau gweithio ond sy'n methu â gwneud hynny oherwydd diweithdra, salwch neu anabledd, neu gyfrifoldebau gofalu. Mae gan y maes bwysoliad cymharol o 20% yn y mynegai cyffredinol.

Dangosyddion

Mae gan y maes un dangosydd, sy’n cynnwys sawl cydran, sef ciplun o bobl oed gweithio sy'n derbyn budd-daliadau cysylltiedig â diweithdra. Fe'i mynegir fel canran o'r boblogaeth amcangyfrifedig rhwng 18 a 66 oed mewn Ardal Gynnyrch Ehangach Haen Is (AGEHI).

Canran y bobl o oedran gweithio sy'n derbyn budd-daliadau sy'n gysylltiedig â chyflogaeth

Math o ddangosydd

Canran

Rhifiadur

Mae'r rhifiadur yn cynnwys nifer yr unigolion 18 i 66 oed, wedi'u cyfartaleddu dros 12 o bwyntiau amser misol ar wahân o fis Ebrill 2022 i fis Mawrth 2023, yr oedd ganddynt hawl i: 

  • Lwfans Ceisio Gwaith (seiliedig ar gyfraniadau a seiliedig ar incwm)
  • Lwfans Ceisio Gwaith Arddull Newydd
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (seiliedig ar gyfraniadau a chysylltiedig ag incwm)
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth Arddull Newydd
  • Budd-dal Analluogrwydd
  • Lwfans Anabledd Difrifol
  • Lwfans Gofalwyr
  • Cymhorthdal Incwm
  • hawlwyr Credyd Cynhwysol (UC) yn y grwpiau amodoldeb canlynol:
    • dim gofynion sy’n gysylltiedig â gwaith
    • cynllunio ar gyfer gwaith
    • paratoi ar gyfer gwaith
    • chwilio am waith

Enwadur

Mynegwyd y cyfrif cyffredinol fel cyfran o gyfanswm y boblogaeth oed gweithio ar gyfer yr AGEHI. Yr enwaduron yw amcangyfrifon poblogaeth ardal fach canol 2022 a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) ar 25 Tachwedd 2024.

Ffynhonnell a chyfnod amser

  • Yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP), Ebrill 2022 i Fawrth 2023
  • SYG: amcangyfrifon poblogaeth ardaloedd bach canol 2022

Nodiadau ychwanegol

Mae disgrifiad llawn o'r meini prawf a'r ffynonellau data wedi'i gynnwys yn adroddiad technegol mynegeion amddifadedd Saesneg 2025 (y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol, MHCLG). 

Defnyddiodd dadansoddwyr yr Adran Gwaith a Phensiynau y Gronfa Ddata Cofrestru a Rhyngweithio â’r Boblogaeth (RAPID_ i nodi’r llwyth achosion a oedd yn cael o leiaf un o’r budd-daliadau a restrir uchod ar bob pwynt amser, a chyfuno hyn â System Gwybodaeth Cwsmeriaid yr Adran Gwaith a Phensiynau i nodi lleoliad daearyddol yr hawlydd ar bob pwynt amser.

Er mwyn cyfrif am amrywiadau tymhorol mewn amddifadedd cyflogaeth, defnyddiwyd 12 o bwyntia amser misol dilyniannol ar wahân o fis Ebrill 2022 i fis Mawrth 2023, a chyfrifwyd y nifer cyfartalog o hawlwyr dros y toriadau bob 12 mis.

Cymaroldeb gyda MALlC 2019

Nid oes modd cymharu'r cyfraddau amddifadedd cyflogaeth yn uniongyrchol â'r rhai ar gyfer MALlC 2019. Mae rhai o'r rhesymau dros hyn fel a ganlyn:

  • newid o ran ymdriniaeth y dangosydd Cymreig i gynnwys y rhai sydd wedi'u heithrio'n anwirfoddol o'r farchnad lafur yn sgil cyfrifoldebau gofalgar (h.y. y rhai sy'n cael budd-daliadau sy'n ymwneud â gofalu a grwpiau amodoldeb Credyd Cynhwysol sy'n cwmpasu gofalwyr a rhieni plant ifanc)
  • newid yn y system les waelodol, gan gyflwyno UC sy'n disodli sawl budd-dal arall (a adwaenir fel budd-daliadau etifeddol) a defnyddio meini prawf cymhwysedd gwahanol
  • cynnydd gwaelodol yn nifer yr hawlwyr am resymau sy'n gysylltiedig ag iechyd (DWP), a chynnydd sydyn mewn hawlwyr diweithdra yn ystod y pandemig nad oeddent wedi dychwelyd i'r gwaelodlin cyn y pandemig yn y data hyn
  • diffiniad gwahanol o 'oedran gweithio' fel 18 i 66 oed (roedd yn 16 i 64 ar gyfer MALlC 2019) i adlewyrchu'r newid yn yr oedran ymddeol, ac er cymharu â Lloegr
  • mae carcharorion bellach wedi'u cynnwys yn yr enwadur, gan y gall rhai budd-daliadau (e.e. UC) fod yn berthnasol yn ystod cyfnodau cadw cychwynnol

Llunio'r maes

Caiff gwerthoedd y dangosyddion eu graddio, wedyn caiff y graddau eu trawsffurfio'n esbonyddol i roi sgoriau meysydd i'w defnyddio wrth gyfrifo MALlC 2025. Mae gan y maes bwysoliad cymharol o 22% yn y mynegai cyffredinol.

Newidiadau ers MALlC 2019

Mae cyflwyno Credyd Cynhwysol (UC) yn cael effaith sylweddol ar y ffordd y caiff maes cyflogaeth MALlC ei fesur. 

Y prif newid polisi ers MALlC 2019 yw ehangu Credyd Cynhwysol, sydd wedi disodli’r rhan fwyaf o fudd-daliadau sy’n dibynnu ar brawf modd ac eithrio’r Lwfans Ceisio Gwaith a’r Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ar eu newydd wedd. Rhwng 2023 a 2026 bydd yr hawlwyr budd-daliadau etifeddol sy’n weddill yn cael eu symud i Gredyd Cynhwysol mewn proses a elwir yn Fudo Rheoledig. Achosodd hyn heriau ar gyfer y maes, gan gynnwys: 

  • anhawster i nodi hawlwyr sydd wedi’u hallgáu’n anwirfoddol o’ farchnad lafur (h.y. nid yw’n hawdd paru budd-daliadau etifeddol yn uniongyrchol â budd-daliadau cyfatebol Credyd Cynhwysol), a allai arwain at golli rhai hawlwyr Credyd Cynhwysol a chynnwys eraill yn anghywir.
  • proses gyflwyno ddaearyddol anghyson sy’n effeithio ar gysondeb data
  • cymhlethdodau o ran llunio cyfrif hawlwyr nad yw’n gorgyffwrdd oherwydd cronfeydd data lluosog yr Adran Gwaith a Phensiynau sydd â strwythurau codio gwahanol

Mae tîm mynegeion amddifadedd Lloegr yn y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol wedi gweithio gyda'r cyflenwyr data allweddol, DWP, i ddatblygu dangosyddion amddifadedd cyflogaeth newydd ar lefel ardaloedd bach sy'n ymgorffori buddion UC ac etifeddiaeth. Mae'r gwaith hwn wedi'i wneud ar gyfer ardaloedd bach yng Nghymru ac yn Lloegr.

Rydym wedi mabwysiadu'r dull a argymhellwyd gan DWP a'r Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol ac rydym o blaid gwell cymharedd rhwng mynegeion ar gyfer gwahanol wledydd y DU, lle bo hynny'n briodol.

Mae ychwanegu dau ddangosydd newydd yn y maes tai wedi arwain at gynnydd bach yn ei bwysau o 7% i 9%. Er mwyn caniatáu hyn, mae'r pwysau ar gyfer y maes cyflogaeth wedi'i leihau ychydig o 22% i 20%, ond dyma'r ail faes pwysol uchaf o hyd.

Maes iechyd

Diben y maes hwn yw mesur diffyg iechyd da ymhlith yr holl bobl, a chofnodi rhagfynegyddion o iechyd yn y dyfodol yn seiliedig ar amddifadedd yn ystod plentyndod. Mae rhai dangosyddion yn y maes hwn wedi’u safoni yn ôl oedran a rhyw er mwyn cyfrif am wahaniaethau yn y boblogaeth rhwng ardaloedd bach. Mae gan y maes bwysoliad cymharol o 15% yn y mynegai cyffredinol.

Dangosyddion

Salwch hirdymor cyfyngus

Math o ddangosydd

Cyfradd fesul 100, wedi’i safoni’n anuniongyrchol ar gyfer proffil oedran a rhyw’r boblogaeth.

Rhifiadur

Nifer y bobl ag unrhyw salwch hirdymor, problem iechyd neu anabledd sy’n cyfyngu ar weithgareddau beunyddiol neu waith.

Enwadur

Yr holl breswylwyr arferol.

Ffynhonnell a chyfnod amser

Cyfrifiad 2021, y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG).

Cymaroldeb gyda MALlC 2019

Gellir.

Cyfradd marwolaethau cynamserol

Math o ddangosydd

Cyfradd fesul 100,000, wedi’i safoni’n anuniongyrchol ar gyfer proffil oedran a rhyw’r boblogaeth.

Rhifiadur

Nifer marwolaethau’r rhai o dan 75 oed.

Enwadur

Pob un o dan 75 oed.

Ffynhonnell a chyfnod amser

Rhifiadur: Cofrestriadau o farwolaethau yn ôl y SYG, 2015 i 2024.

Enwadur: Amcangyfrifon Poblogaeth Ardaloedd Bach, y Swyddfa Ystadegau Gwladol, canol 2013 i 2022.

Nodiadau ychwanegol

Gall iechyd gwael amlygu ei hun mewn disgwyliad oes is, y gellir casglu gwybodaeth amdano drwy gyfraddau marwolaethau wedi’u safoni yn ôl oedran a rhyw. 

Cymaroldeb gyda MALlC 2019

Gellir.

Cyflyrau cronig a gafodd eu diagnosio gan feddygon teulu

Math o ddangosydd

Cyfradd fesul 100, wedi’i safoni’n anuniongyrchol ar gyfer proffil oedran a rhyw’r boblogaeth.

Rhifiadur

Nifer y bobl sydd wedi cael diagnosis ar gyfer cyflyrau o restr benodol o gyflyrau iechyd cronig (gweler y nodiadau ychwanegol am fanylion).

Enwadur 

Pob un.

Ffynhonnell a chyfnod amser

Rhifiadur: Iechyd a Gofal Digidol Cymru, 1 Gorffennaf 2025.

Enwadur: Amcangyfrifon Poblogaeth Ardaloedd Bach, canol 2022, y Swyddfa Ystadegau Gwladol; llai niferoedd carcharorion, y Weinyddiaeth Gyfiawnder drwy’r SYG.

Nodiadau ychwanegol

Roedd y rhifiadur yn seiliedig ar nifer y bobl â diagnosis ar gyfer cyflyrau o restr benodol o gofrestrau clefyd ac is-ddangosyddion a gafwyd gan bractisau meddygon teulu yng Nghymru. Mae’n mesur nifer y bobl â diagnosis cyfredol o un neu fwy o’r cyflyrau a restrir isod:

  • Clefyd Coronaidd y Galon
  • Clefyd Rhwystrol Cronig yr Ysgyfaint
  • Strôc a Thrawiad Isgemig Darfodedig
  • Clefyd Rhydwelïol Ymylol
  • Clefyd Cronig yn yr Arennau
  • Diabetes Mellitus (math 1 ar gyfer pob oedran, math 2 a mathau eraill ar gyfer pobl 17 oed a hŷn)
  • Epilepsi

Cafodd y niferoedd hyn eu datddyblygu er mwyn sicrhau nad oedd cleifion â mwy nag un cyflwr wedi’u cyfrif ddwywaith. Cafodd data ar lefel cleifion eu cyfuno i ardaloedd bach, yn ôl cyfeiriadau cleifion, fel bod nifer yr achosion yn seiliedig ar ble mae pobl yn byw yn hytrach na ble maent wedi’u cofrestru â meddyg teulu. 

Gweler atodiad 4.1 i gael rhagor o fanylion am y dangosydd hwn. 

Cymaroldeb gyda MALlC 2019

Gellir.

Cyflyrau iechyd meddwl a gafodd eu diagnosio gan feddygon teulu

Math o ddangosydd

Cyfradd fesul 100, wedi’i safoni’n anuniongyrchol ar gyfer proffil oedran a rhyw’r boblogaeth.

Rhifiadur

Nifer y bobl sydd wedi cael diagnosis ar gyfer cyflyrau o restr benodol o gyflyrau iechyd meddwl (gweler y nodiadau ychwanegol am fanylion).

Enwadur 

Pob un.

Ffynhonnell a chyfnod amser

Rhifiadur: Iechyd a Gofal Digidol Cymru, Gorffennaf 2025.

Enwadur: Amcangyfrifon Poblogaeth Ardaloedd Bach, canol 2022, y Swyddfa Ystadegau Gwladol; llai niferoedd carcharorion, y Weinyddiaeth Gyfiawnder drwy’r SYG.

Nodiadau ychwanegol

Roedd y rhifiadur yn seiliedig ar nifer y bobl â diagnosis o restr benodol o gofrestrau clefyd ac is-ddangosyddion a gafwyd gan bractisau meddygon teulu yng Nghymru. Mae’n mesur nifer y bobl â diagnosis cyfredol o un neu fwy o’r cyflyrau a restrir isod:

  • Iselder
  • Iselder ysbryd (cleifion â chofnod o iselder ysbryd a phresgripsiwn amlroddadwy gweithredol ar gyfer gwrth-iselydd)
  • Anhwylder gorbryder (gan gynnwys anhwylderau panig)
  • Dementia
  • Salwch meddwl difrifol (sgitsoffrenia, anhwylder affeithiol deubegynol a seicosisau eraill)

Cafodd y niferoedd hyn eu datddyblygu er mwyn sicrhau nad oedd cleifion â mwy nag un cyflwr wedi’u cyfrif ddwywaith. Cafodd data ar lefel cleifion eu cyfuno i ardaloedd bach (ACEHIau), yn ôl cyfeiriadau cleifion, fel bod nifer yr achosion yn seiliedig ar ble mae pobl yn byw yn hytrach na ble maent wedi’u cofrestru â meddyg teulu.

Gweler atodiad 4.1 am ragor o fanylion am y dangosydd newydd hwn.

Cymaroldeb gyda MALlC 2019

Gellir.

Nifer yr achosion o ganser

Math o ddangosydd

Cyfradd fesul 100,000, wedi’i safoni’n anuniongyrchol ar gyfer proffil oedran a rhyw’r boblogaeth.

Rhifiadur

Mae cyfanswm yr achosion o ganser yn cynnwys pob math o falaenedd, ac eithrio canser y croen nad yw’n felanoma.

Enwadur

Pob un.

Ffynhonnell a chyfnod amser

Rhifiadur: Uned Gwybodaeth ac Arolygaeth Canser Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, 2012 i 2021.

Enwadur: Amcangyfrifon Poblogaeth Ardaloedd Bach, canol 2012 i 2021, y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Cymaroldeb gyda MALlC 2019

Gellir.

Pwysau geni isel

Math o ddangosydd

Canran.

Rhifiadur

Nifer y genedigaethau unigol byw sy’n llai na 2.5kg (5.5 pwys), a ddosberthir yn bwysau geni isel.

Enwadur 

Nifer y genedigaethau byw unigol.

Ffynhonnell a chyfnod amser

Cofrestriadau o enedigaethau yn ôl y SYG, 2015 i 2024.

Cymaroldeb gyda MALlC 2019

Gellir.

Plant 4 i 5 oed sy’n byw gyda gordewdra

Math o ddangosydd

Canran.

Rhifiadur

Nifer y plant sy'n mynychu dosbarth derbyn rhwng 4 a 5 oed sy'n byw gyda gordewdra.

Enwadur

Cyfanswm nifer y plant sy'n mynychu dosbarth derbyn rhwng 4 i 5 oed.

Ffynhonnell a chyfnod amser

Rhaglen Mesur Plant, Iechyd Cyhoeddus Cymru, 2016/17 i 2018/19, wedi’i chyfuno â 2022/23 a 2023/24 (5 blwyddyn i gyd, ond gweler isod am esboniad o’r bwlch yn y canol).

Nodiadau ychwanegol

Defnyddiwyd cyfeiriadau cartref disgyblion i nodi’r ACEHIau lle mae plant yn byw yn hytrach nag ACEHI eu hysgol. Roedd data ar gyfer blynyddoedd blaenorol a gynhwyswyd hefyd yn nangosydd MALlC 2019 (2016/17 a 2017/18) wedi cael eu diweddaru’n ôl-weithredol i ddyrannu ACEHIau 2021 i’r cofnodion.

Cyfrifir gordewdra gan ddefnyddio canraddau mynegai màs y corff sy’n benodol i oedran a rhyw (sy’n cynnwys gwybodaeth am daldra) a gyfrifir gan ddefnyddio cyfeirnod twf 1990 Prydain (UK90) (o ddull a gynigiwyd gan Cole et al (1995)). Plant sy’n byw gyda gordewdra yw’r rhai sy’n dod o dan y 95ain ganradd neu’n uwch.

Oherwydd effeithiau pandemig COVID-19 ar y gwaith o gasglu data, nid oedd setiau data’r Rhaglen Mesur Plant ar gael ym mhob rhan o Gymru rhwng 2019/20 a 2021/22. 

Cyfunwyd pum mlynedd o ddata i ddarparu amcangyfrifon cadarn ar lefel AGEHI, sy'n cynnwys data tair blynedd cyn y pandemig a dwy flynedd ar ôl y pandemig.

Y lefel leiaf y mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi data’r Rhaglen Mesur Plant ers y pandemig yw lefel Clwstwr Gofal Sylfaenol, a hynny oherwydd pryderon ynghylch y camddefnydd posibl o ddata i nodi ardaloedd penodol lle mae’r ganran uchaf o blant sy’n byw gyda gordewdra yn byw, a’r posibilrwydd o adnabod unigolion wrth edrych ar lefelau lle ceir niferoedd bach. Am y rhesymau hyn, er y defnyddir cyfraddau lefel AGEHI yng nghyfrifiadau’r maes a’r dangosydd, nid ydym yn eu cyhoeddi fel rhan o setiau data dangosyddion MALlC.

Gall defnyddwyr weld data ar gyfer ACEHGau gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Y data diweddaraf sydd ar gael yw data 2014/15 i 2018/19 (oherwydd effaith y pandemig a’r gofyniad i gael 5 blwyddyn o ddata). Mae data ar gyfer daearyddiaethau mwy o faint, gan gynnwys awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol ar gael yn flynyddol yn adroddiadau a data’r Rhaglen Mesur Plant (Iechyd Cyhoeddus Cymru)

Cymaroldeb gyda MALlC 2019

Yn fras debyg.

Llunio’r maes

Mae 7 dangosydd yn y maes iechyd, sydd wedi’u pwysoli fel a ganlyn. Defnyddiwyd y dechneg dadansoddi ffactorau i gyfrifo pwysoliadau’r dangosyddion. 

  • 32% Salwch hirdymor cyfyngus
  • 28% Marwolaethau cynamserol
  • 20% Cyflyrau cronig a gafodd eu diagnosio gan feddygon teulu
  • 8% Cyflyrau iechyd meddwl a gafodd eu diagnosio gan feddygon teulu
  • 5% Nifer yr achosion o ganser
  • 4% Plant 4 i 5 oed sy’n ordew
  • 4%(r) Pwysau geni isel

(r) Diwygiedig ar 9 Medi 2026.

Mae gan y maes bwysoliad cymharol o 15% yn y mynegai cyffredinol.

Cafodd pump o’r dangosyddion eu safoni’n anuniongyrchol ar gyfer proffil oedran a rhyw’r boblogaeth, er mwyn addasu ar gyfer gwahanol ddosbarthiadau oedran a rhyw rhwng ardaloedd bach. Er enghraifft, dylem ddisgwyl gweld cyfradd marwolaethau uwch mewn ardal lle mae poblogaeth hŷn o gymharu ag ardal o deuluoedd ifanc yn bennaf. Mae safoni yn ceisio addasu ar gyfer y gwahaniaethau hyn yn y boblogaeth (gweler atodiad 4.2). 

Ar gyfer pob dangosydd, cafodd pob ardal ei rhoi mewn trefn restrol, gyda’r ardal fwyaf difreintiedig yn y safle 1af a’r ardal leiaf difreintiedig yn safle 1,917. Cafodd y safleoedd hyn eu pennu i wasgariad normal, gyda safleoedd isel yn cael gwerth wedi’i normaleiddio isel. Wedyn, defnyddiwyd y dechneg dadansoddi ffactorau i gyfrifo pwysoliadau’r dangosyddion. Fel gyda phob maes, cafodd safleoedd terfynol y meysydd eu trawsffurfio’n esbonyddol i roi sgoriau meysydd i’w defnyddio wrth gyfrifo mynegai cyffredinol MALlC 2025.

Newidiadau ers MALlC 2019

Bu rhai newidiadau methodolegol bach i’r maes iechyd rhwng MALlC 2019 a MALlC 2025.

Salwch hirdymor cyfyngus

Cafodd geiriad y cwestiwn yn y Cyfrifiad ei ddiweddaru rhwng 2011 a 2021 er mwyn iddo fod yn fwy cyson â’r model cymdeithasol o anabledd. Fodd bynnag, mae dadansoddiad o’r data yn dangos cydberthynas agos iawn rhwng data 2011 a 2021 sy’n awgrymu nad yw hyn wedi newid natur y dangosydd yn sylweddol. 

Am fod rhai o ddata Cyfrifiad 2021 ar lefel AGEHI wedi cael eu hatal, cafodd y grwpiau oedran a ddefnyddiwyd fel rhan o’r broses safoni anuniongyrchol ar gyfer y dangosydd hwn eu newid ychydig ar gyfer MALlC 2025.

Cyflyrau cronig a chyflyrau iechyd meddwl a gafodd eu diagnosio gan feddygon teulu

Cyfrifir y dangosyddion hyn yn debyg i’r ffordd y’u cyfrifwyd yn flaenorol. Tynnwyd data ar gyfer y dangosyddion hyn ynghyd o systemau practisau meddygon teulu gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru. Yn ystod 2024/25, roedd rhai practisau meddygon teulu yn trosglwyddo i systemau data newydd, ac roedd newidiadau hefyd yn cael eu gwneud i’r adnodd echdynnu data. Er bod hyn wedi cael rhywfaint o effaith ar ansawdd data mewn rhai ardaloedd o bosibl, ar y cyfan gwelwyd bod cydberthynas dda rhwng tueddiadau data dangosyddion â rhai MALlC 2019 felly nid oes gennym unrhyw reswm dros amau effaith sylweddol.

Gwybodaeth ychwanegol

Gweler atodiad 4.2 am ragor o wybodaeth am safoni oedran-rhyw anuniongyrchol a gymhwysir i rai o'r dangosyddion iechyd.

Pandemig COVID-19

Ymchwiliwyd i’r data ar gyfer pob dangosydd er mwyn asesu effaith pandemig COVID-19 ar dueddiadau ac ansawdd data. 

Roedd y pandemig wedi tarfu ar y data ar gyfer un dangosydd, sef plant gordew, sy’n golygu nad oes unrhyw ddata ar gyfer 2019/20 i 2021/22 ar gael i Gymru gyfan. 

Roedd salwch hirdymor cyfyngus yn hunangofnodedig yn ystod mis Mawrth 2021, ychydig dros flwyddyn ers i’r pandemig gael ei ddatgan. Fodd bynnag, gwelwyd bod cydberthynas dda rhwng y data a thueddiadau Cyfrifiad 2011 a ddefnyddiwyd ym MALlC 2019. 

Mae gan ddau ddangosydd arall, sef nifer yr achosion o ganser a marwolaethau cynamserol, rychwantau treigl o ddeng mlynedd sy’n ymestyn y tu hwnt i gam cynnar y pandemig (a ddaeth i ben yn 2021 a 2024 yn y drefn honno). Mae rhai effeithiau pandemig COVID-19 yn y tymor hwy yn debygol o fod yn bresennol yn y data (ond wedi’u cyfuno â set hwy o ddata o’r cyfnod cyn y pandemig) ac nid ydym yn gwneud unrhyw addasiadau ar gyfer hyn, ar wahân i’r safoni ar gyfer proffiliau oedran a rhyw a ddisgrifir uchod.

Atodiad 4.1: cyflyrau iechyd wedi'u diagnosio gan feddygon teulu

Trosolwg

Cofrestrau clefyd yw rhestrau o gleifion sydd wedi'u cofrestru â meddyg teulu sydd â diagnosis ffurfiol o glefyd. Ers 1 Hydref 2023, mae'n ofynnol i feddygfeydd yng Nghymru gynnal cofrestrau clefyd fel rhan o gontract craidd Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol.

Mae'r mathau o glefydau gyda cofrestrau ffurfiol ar eu cyfer yr un fath â'r rhai a nodwyd yn wreiddiol yn y Fframwaith Ansawdd a Chanlyniadau (QOF) yn 2007, a gafodd ei ddisodli'n ddiweddarach gan y Fframwaith Sicrhau a Gwella Ansawdd (QAIF) yn 2019. Er nad ydynt yn rhan o drefniadau contractiol, mae meddygfeydd hefyd yn cofnodi cleifion sydd â diagnosis o gyflyrau isorweddol trwy 'godau darllen' a chodau SNOMED. 

Gall fod rhai amrywiadau bach yn y ffordd y caiff cleifion eu diagnosio a'u cofnodi ar lefel practis, fodd bynnag, mae pob practis yn gyfrifol yn gontractiol am gynnal cofrestrau o ansawdd uchel, ac felly credir bod ansawdd data yn gyffredinol uchel iawn. 

Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) yn gyfrifol am gynnal y system 'Audit +' sy'n caniatáu mynediad i'r gofrestr clefyd a data isorweddol cod darllen/cod SNOMED. Yn dilyn cais ffurfiol a gymeradwywyd gan grŵp system ansawdd data DHCW, darparwyd mynediad i Lywodraeth Cymru i'r data hwn ar lefel ACEHIau y cleifion, i'w gynnwys yn MALlC.

Manyleb data

Cawsom y ffigurau ar gyfer cleifion â diagnosis cyfredol (ar 1 Gorffennaf 2025) o un cyflwr dethol neu fwy, ar wahân ar gyfer cyflyrau iechyd meddwl a chyflyrau iechyd cronig, gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru. Roedd hyn yn cynnwys cleifion a oedd â diagnosis ar unrhyw adeg cyn 1 Gorffennaf 2025, ar yr amod eu bod yn dal i fod ar y gofrestr. 

Cafwyd data gan bob un o'r bractisau meddygon teulu gweithredol yng Nghymru ar y dyddiad cyfeirio ac, wedyn, fe'u cyfunwyd i'r Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is (ACEHIau), yn ôl cyfeiriad cartref y claf. 

Mae’r manyleb ar gyfer y cyflyrau i'w cynnwys heb newid ers MALlC 2019. Gwnaethom ystyried a oedd cyflyrau:

  • yn llai abl i gael eu rheoli gan reolaethau neu driniaeth sy'n galluogi'r unigolyn i fyw bywyd normal, ac
  • yn fwy tebygol o achosi poen sylweddol ac anabledd difrifol ac yn gysylltiedig â disgwyliad oes byrrach.

Cyflyrau iechyd meddwl

  • Iselder
  • Iselder ysbryd (cleifion â chofnod o iselder ysbryd a phresgripsiwn amlroddadwy gweithredol ar gyfer gwrth-iselydd)
  • Anhwylder gorbryder (gan gynnwys anhwylderau panig)
  • Dementia
  • Salwch meddwl difrifol (sgitsoffrenia, anhwylder affeithiol deubegynol a seicosisau eraill)

Cyflyrau iechyd cronig

  • Clefyd Coronaidd y Galon
  • Clefyd Rhwystrol Cronig yr Ysgyfaint
  • Strôc a Thrawiad Isgemig Darfodedig
  • Clefyd Rhydwelïol Ymylol
  • Clefyd Cronig yr Arennau
  • Diabetes Mellitus (yn achos plant 0 i 16 oed roedd hyn ond yn cynnwys diagnosis o ddiabetes Math 1, am yr amheuid bod mathau eraill o ddiabetes yn cael eu tangofnodi ar gyfer plant; yn achos unigolion 17 oed ac uwch mae hyn yn cynnwys unrhyw ddiagnosis o ddiabetes)
  • Epilepsi

Mae ein hadroddiad technegol MALlC 2019 yn rhoi rhagor o fanylion ar ymchwilio i gyflyrau, ac fe gaiff y rhestr o gofrestrau clefyd ac is-ddangosyddion eu hadolygu ar gyfer mynegeion yn y dyfodol.

Ansawdd data

Gall y ffordd y caiff cyflyrau penodol eu cofnodi mewn meddygfeydd amrywio. Gall pa mor brydlon y caiff enwau cleifion eu tynnu oddi ar gofrestrau pan gaiff cyflyrau eu gwella hefyd amrywio rhwng practisau, ac effeithio ar ein data. Yn fras, caiff enw claf ei dynnu oddi ar y gofrestr clefyd gan feddyg teulu pan benderfynir nad oes ganddo'r cyflyrau mwyach. Fodd bynnag, mae llawer o'r cyflyrau yn y dangosyddion cyflyrau cronig a chyflyrau iechyd meddwl yn rhai hirdymor ac maent yn annhebygol o wella'n llwyr.

Oherwydd yr amrywiad posibl mewn arferion cofnodi, fe wnaethom gymharu patrymau â data MALlC 2019, a dadansoddiad yn ôl awdurdod lleol a bwrdd iechyd lleol. Datgelodd hyn batrymau ansyfrdanol, gyda chydberthynas agos rhwng y cyfraddau diagnosio.  

Mae gan rai ardaloedd gyfraddau absoliwt uchel o gyflyrau cronig neu gyflyrau iechyd meddwl wedi'u diagnosio, a dylid bod yn ofalus wrth ddadansoddi'r data hyn. Fodd bynnag, ar gyfer maes MALlC a safleoedd cyffredinol y mynegai, dim ond safle cymharol ardaloedd ar y dangosydd sy'n bwysig. Gan fod cymharu'r safleoedd â data blaenorol wedi dangos cydberthynas agos, yn ôl y disgwyl, ni nodwyd unrhyw feysydd uniongyrchol a oedd yn destun pryder. 

Mae meddygfeydd teulu yng Nghymru yn y broses o symud yn gyfnodol i un cyflenwr meddalwedd ar gyfer y system sy'n cofnodi data diagnosis claf. Roedd hyn yn golygu bod nifer fach o feddygfeydd yn newid systemau pan gafodd y data ar gyfer MALlC ei dynnu. Efallai bod hyn wedi effeithio ychydig ar ansawdd data ar gyfer y meddygfeydd hyn; fodd bynnag, pan gynhaliwyd prosesau sicrhau ansawdd ar y data, ar y cyfan gwelwyd bod cydberthynas dda rhwng tueddiadau data dangosyddion â rhai MALlC 2019 felly nid oes gennym unrhyw reswm dros amau effaith sylweddol.

Data'r enwadur (poblogaeth)

Mae'r dangosyddion ym maes iechyd MALlC wedi'u safoni'n anuniongyrchol yn ôl oedran-rhyw er mwyn addasu ar gyfer y nifer ddisgwyliedig o achosion o glefydau yn y boblogaeth sylfaenol. Mae hyn yn golygu bod y mynegai yn gallu nodi ardaloedd lle y ceir amddifadedd iechyd y tu hwnt i effaith oedran a rhyw.

Ar gyfer yr enwadur, rydym wedi defnyddio'r Amcangyfrifon Poblogaeth Ardal Fach diweddaraf sydd ar gael (canol 2022) wedi'i lawrlwytho ar adeg prosesu (Hydref 2025), llai poblogaeth y carchardai (2022). Mae hyn yn golygu y gellir cynnal y dadansoddiadau sydd eu hangen er mwyn safoni'r cyfraddau ar gyfer effaith proffiliau oedran a rhyw gwahanol mewn ardaloedd gwahanol. Mae hefyd yn fras gyson ag enwaduron a ddefnyddir ym meysydd amddifadedd incwm, amddifadedd cyflogaeth ac amddifadedd diogelwch cymunedol MALlC.

Fel opsiwn arall, gallem fod wedi defnyddio data'r gofrestr cleifion. Fodd bynnag, nid oedd y data a oedd ar gael i'w defnyddio yn caniatáu i ni safoni cyfraddau yn ôl oedran-rhyw gan ddefnyddio'r ffynhonnell hon. Hefyd, mae SYG wedi cyhoeddi asesiad o ansawdd data cofrestr cleifion y GIG. Mae'r asesiad hwn yn esbonio bod nifer o broblemau yn gysylltiedig â'r gofrestr cleifion pan gaiff ei defnyddio at ddibenion ystadegol. Mae nifer o broblemau yn gysylltiedig â'r ffynhonnell o ran cwmpas rhy eang a chwmpas anghyflawn, fawr ddim gwaith archwilio a'r potensial ar gyfer effeithiau ystumiol oherwydd ei rôl ym maes cyllid meddygon teulu. Bydd effaith y rhain yn amrywio yn ôl daearyddiaeth, oedran a rhyw.

Addasu data

Mae rhai o drigolion Cymru sydd â chyflyrau iechyd wedi'u diagnosio na fyddent yn cael eu cynnwys yn y data a gofnodir gan feddygon teulu yng Nghymru, ac rydym wedi addasu ar gyfer y rhain mewn dwy ffordd.

  • Mae dros 13,000 o drigolion Cymru wedi'u cofrestru â darparwyr gofal sylfaenol yn Lloegr. Rydym wedi addasu'r cyfraddau ar gyfer y 23 o ardaloedd bach gyda mwy na 100 o drigolion sydd wedi'u cofrestru yn Lloegr, sy'n cyfrif am dros 12,000 o'r 13,000 o bobl yr effeithir arnynt. Addaswyd y cyfraddau wedi'u safoni drwy eu graddio i fyny er mwyn adlewyrchu nifer y trigolion nad oes gennym ddata ar eu cyfer, am nad oes gennym wybodaeth am unrhyw ddiagnosisau a wneir dros y ffin.
  • Mae carcharorion yn debygol o barhau i fod wedi'u cofrestru â meddyg teulu yn eu cyfeiriad cartref yn hytrach na meddyg teulu sy'n lleol i'w carchar tra byddant yn bwrw eu dedfryd. Felly, rydym wedi didynnu nifer y carcharorion o'r amcangyfrifon poblogaeth (enwadur) cyn i ni gyfrifo'r cyfraddau wedi'u safoni.

Atodiad 4.2: safoni'n anuniongyrchol yn ôl oedran a rhyw

Mae safoni anuniongyrchol yn golygu cymhwyso cyfraddau sy'n benodol i oedran a rhyw a nodwyd ar lefel genedlaethol at strwythur poblogaeth pob ACEHI. Y rheswm dros ddefnyddio'r dull safoni yn ôl oedran a rhyw ar gyfer dangosyddion iechyd MALlC yw addasu'r dangosyddion er mwyn darparu ar gyfer dosbarthiadau oedran a rhyw gwahanol ym mhoblogaethau ACEHIau. Er enghraifft, byddid yn disgwyl gweld cyfradd marwolaethau uwch mewn poblogaeth sy'n heneiddio nag mewn un sy'n cynnwys teuluoedd ifanc yn bennaf. Mae safoni yn ceisio addasu ar gyfer y gwahaniaethau hyn yn y boblogaeth.

Amcangyfrifir nifer yr achosion disgwyliedig (ar gyfer MALlC y rhain yw salwch hirdymor, canser, cyflyrau iechyd cronig a chyflyrau iechyd meddwl, a marw cyn pryd) ar gyfer pob grŵp oedran-rhyw mewn ACEHI drwy luosi nifer y bobl yn y grŵp oedran-rhyw penodol yn yr ACEHI â'r gyfradd sy'n benodol i oedran a rhyw a nodwyd ar gyfer Cymru gyfan ar gyfer pob grŵp oedran-rhyw. Cyfrifir cyfanswm yr achosion disgwyliedig ar gyfer yr ACEHI drwy adio nifer yr achosion disgwyliedig ar gyfer pob grŵp oedran-rhyw at ei gilydd. Y gymhareb safoni (e.e. nifer yr achosion o ganser) ar gyfer pob ACEHI yw nifer yr achosion a nodwyd yn yr ACEHI wedi'i rannu â nifer yr achosion disgwyliedig.

cymhareb safoni = achosion a nodwyd / achosion disgwyliedig

Gellir cael cyfradd safoni anuniongyrchol yn ôl oedran a rhyw drwy luosi'r gymhareb safoni ar gyfer yr ACEHI â'r gyfradd fras ar gyfer Cymru gyfan. Cyfradd fras Cymru yw nifer yr achosion a nodwyd yng Nghymru wedi'i rannu â phoblogaeth Cymru. Mynegir y canlyniad fel cyfradd fesul 100,000 o bobl.

cyfradd safoni anuniongyrchol = standardised ratio x cyfradd fras Cymru x 100,000

Maes addysg

Diben y maes hwn yw cofnodi graddau’r amddifadedd sy’n ymwneud ag addysg, hyfforddiant a sgiliau. Bwriedir iddo adlewyrchu anfanteision addysgol mewn ardal o ran diffyg cymwysterau neu sgiliau. Mae gan y maes bwysoliad cymharol o 14% yn y mynegai cyffredinol.

Dangosyddion

Sgôr pwyntiau cyfartalog Cyfnod Allweddol 4 ar gyfer pynciau craidd

Math o ddangosydd

Sgôr pwyntiau

Rhifiadur

Sgôr pwyntiau cyfartalog disgyblion blwyddyn 11 yn seiliedig ar y graddau TGAU a enillwyd ym mhynciau craidd Cymraeg iaith gyntaf neu Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth (neu gymwysterau cyfatebol). 

Mae data codau post o CYBLD yn cael eu paru ag ACEHIau, drwy ddefnyddio cyfleuster chwilio cod post i AGEHI. Defnyddir cyfartaledd 2 flynedd i leihau effaith niferoedd bach o ddisgyblion ar lefel AGEHI. 

Tabl 5.1:sgôr pwyntiau a ddyfarnwyd ar gyfer pob gradd TGAU (system llythrennau, Cymru)
Gradd TGAUPwyntiau 
A*58
A       52
B       46
C       40
D       34
E       28
F       22
G      16
U0

Mae data canlyniadau ar gyfer disgyblion sy’n byw yng Nghymru ond sy’n mynd i’r ysgol yn Lloegr wedi’u darparu gan yr Adran Addysg ac maent wedi’u cynnwys wrth gyfrifo’r dangosydd hwn.

Tabl 5.2: sgôr pwyntiau a ddyfarnwyd ar gyfer pob gradd TGAU (system graddau rhifyddol, Lloegr)
Gradd TGAUPwyntiau
958
855
752
648
544
440
332
224
116

Enwadur 

Cyfanswm nifer y disgyblion yng ngrŵp blwyddyn 11 o’r Cwricwlwm Cenedlaethol.

Ffynhonnell a chyfnod amser

Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD), a Chronfa Ddata Arholiadau Cymru. 

Cyfartaledd 2 flynedd ar gyfer y blynyddoedd academaidd 2022 i 2023 a 2023 i 2024.

Cymaroldeb gyda MALlC 2019

Cymharol.

Cyfradd absenoldeb cyson, cynradd

Math o ddangosydd

Canran

Rhifiadur

Nifer y disgyblion oedran ysgol gynradd (mewn ysgolion cynradd, canol ac arbennig a gynhelir) sy’n colli 10% neu fwy o sesiynau ysgol 

Mae data codau post o CYBLD yn cael eu paru ag ACEHIau, drwy ddefnyddio cyfleuster chwilio cod post i AGEHI. Mae’r data yn seiliedig ar yr holl ddisgyblion o oedran ysgol statudol sy’n mynd i ysgol a gynhelir. Mae data ar ddisgyblion sy’n byw yng Nghymru ond sy’n mynd i’r ysgol yn Lloegr wedi’u darparu gan yr Adran Addysg ac maent wedi’u cynnwys wrth gyfrifo’r dangosydd hwn. 

Enwadur 

Cyfanswm nifer y disgyblion oedran ysgol gynradd (mewn ysgolion cynradd, canol ac arbennig a gynhelir). 

Ffynhonnell a chyfnod amser

CYBLD, Casglu Data ar Bresenoldeb, a’r Adran Addysg.

Cyfartaledd 2 flynedd ar gyfer y blynyddoedd academaidd 2022 i 2023 a 2023 i 2024.

Gwybodaeth ychwanegol

Gellir dod o hyd i ddiffiniadau pellach a gwybodaeth o ansawdd mewn adroddiadau ar gyfer ein cyfres ystadegol ar bresenoldeb ac absenoldeb o ysgolion.

Cymaroldeb gyda MALlC 2019

Dangosydd newydd.

Cyfradd absenoldeb cyson, uwchradd

Math o ddangosydd

Canran

Rhifiadur

Nifer y disgyblion oedran ysgol uwchradd (mewn ysgolion cynradd, canol ac arbennig a gynhelir) sy’n colli 10% neu fwy o sesiynau ysgol 

Mae data codau post o CYBLD yn cael eu paru ag ACEHIau, drwy ddefnyddio cyfleuster chwilio cod post i AGEHI. Mae’r data yn seiliedig ar yr holl ddisgyblion o oedran ysgol statudol sy’n mynd i ysgol a gynhelir. Mae data ar ddisgyblion sy’n byw yng Nghymru ond sy’n mynd i’r ysgol yn Lloegr wedi’u darparu gan yr Adran Addysg ac wedi’u cynnwys wrth gyfrifo’r dangosydd hwn. 

Enwadur

Cyfanswm nifer y disgyblion oedran ysgol uwchradd (mewn ysgolion cynradd, canol ac arbennig a gynhelir).

Ffynhonnell a chyfnod amser

CYBLD, Casglu Data ar Bresenoldeb, a’r Adran Addysg.

Cyfartaledd 2 flynedd ar gyfer y blynyddoedd academaidd 2022 i 2023 a 2023 i 2024.

Gwybodaeth ychwanegol

Gellir dod o hyd i ddiffiniadau pellach a gwybodaeth o ansawdd mewn adroddiadau ar gyfer ein cyfres ystadegol ar bresenoldeb ac absenoldeb o ysgolion.

Cymaroldeb gyda MALlC 2019

Dangosydd newydd.

Disgyblion Cyfnod Allweddol 4 sy’n gadael yr ysgol ac yn mynd i addysg uwch

Math o ddangosydd

Canran.

Rhifiadur

Nifer y disgyblion CA4 sydd, ar ryw adeg yn y 4 blynedd ddilynol ar ôl gadael blwyddyn 11, yn mynd i Addysg Uwch. 

Diffinnir Addysg Uwch at ddibenion y dangosydd hwn fel unrhyw raglen ddysgu uwchlaw lefel 3. Mae hyn yn cynnwys graddau i israddedigion a phrentisiaethau lefel uwch. 

Enwadur 

Cyfanswm nifer y disgyblion yng ngrŵp blwyddyn 11 o’r Cwricwlwm Cenedlaethol.

Ffynhonnell a chyfnod amser

Data ar lefel disgyblion o CYBLD wedi’u paru â data Cofnod yr Awdurdod Ystadegau Addysg Uwch a Chofnod Dysgu Gydol Oes Cymru. 

Cyfartaledd 4 blynedd yn seiliedig ar ddisgyblion a adawodd yr ysgol rhwng y blynyddoedd academaidd 2016 i 2017 a 2019 i 2020.

Cymaroldeb gyda MALlC 2019

Dydy gwerthoedd y dangosydd ddim yn gymharol oherwydd newid yn y cyfnod o 3 blynedd i 4 blynedd ar ôl gadael blwyddyn 11.

Oedolion 25 i 64 oed heb gymwysterau neu â chymwysterau lefel isel

Math o ddangosydd

Canran.

Rhifiadur

Nifer yr oedolion 25 i 64 oed heb gymwysterau neu â chymwysterau lefel un.

Enwadur 

Cyfanswm nifer yr oedolion 25 i 64 oed. 

Ffynhonnell a chyfnod amser

Cyfrifiad 2021, y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG).

Cymaroldeb gyda MALlC 2019

Ni ellir ei gymharu am fod cymwysterau lefel isel wedi cael eu hychwanegu yn y rhifiadur.

Llunio’r maes

Mae 5 dangosydd yn y maes addysg, sydd wedi’u pwysoli fel a ganlyn. Defnyddiwyd y dechneg dadansoddi ffactorau i gyfrifo pwysoliadau’r dangosyddion. 

  • Sgôr pwyntiau cyfartalog Cyfnod Allweddol 4 (21%)
  • Cyfradd absenoldeb cyson - cynradd (16%)
  • Cyfradd absenoldeb cyson - uwchradd (20%)
  • Disgyblion Cyfnod Allweddol 4 sy’n gadael yr ysgol ac yn mynd i addysg uwch (15%)
  • Oedolion 25 i 64 oed heb gymwysterau neu â chymwysterau lefel isel (28%)

Mae gan y maes bwysoliad cymharol o 14% yn y mynegai cyffredinol.

Newidiadau ers MALlC 2019

Sgôr pwyntiau cyfartalog CA4 ar gyfer pynciau craidd

Defnyddiodd dangosydd 2019 gyfartaledd 3 blynedd, yn 2025 defnyddiwyd cyfartaledd 2 flynedd. Dangosodd dadansoddiad archwiliol o’r data fod nifer y disgyblion yn ddigon er mwyn i gyfartaledd 2 flynedd roi canlyniadau cadarn. 

Absenoldeb cyson, cynradd ac uwchradd

Roedd MALlC 2019 yn cynnwys dangosydd ar gyfer absenoldeb mynych a oedd yn cyfuno data presenoldeb ysgolion cynradd ac uwchradd i ffurfio un dangosydd. Ar gyfer MALlC 2025 mae dangosyddion ar wahân ar gyfer cynradd ac uwchradd. Mae hyn yn darparu dangosydd penodol ar gyfer disgyblion cynradd er mwyn llenwi’r bwlch a grëwyd gan y diffyg data ar y cyfnod Sylfaen a chyrhaeddiad CA2. 

Y trothwy ar gyfer y dangosyddion absenoldeb mynych yn 2019 oedd colli mwy na 15% o sesiynau ysgol hanner diwrnod. Ar gyfer 2025, y trothwy yw 10% neu fwy o sesiynau hanner diwrnod. Mae hyn yn golygu bod MALlC yn gyson â diffiniad swyddogol Llywodraeth Cymru o ‘absenoldeb cyson’. Mae enw’r dangosydd wedi cael ei ddiweddaru o ‘absenoldeb mynych’ i ‘absenoldeb cyson’ er mwyn adlewyrchu hyn. Dangosodd dadansoddiad o’r data ar absenoldeb mynych sy’n bodoli eisoes ar y trothwy o 10% a 15% gydberthynas agos iawn.

Defnyddiodd dangosydd 2019 gyfartaledd 3 blynedd, yn 2025 defnyddiwyd cyfartaledd 2 flynedd. Dangosodd dadansoddiad archwiliol o’r data fod nifer y disgyblion yn ddigon er mwyn i gyfartaledd 2 flynedd roi canlyniadau cadarn.

Sgôr Pwyntiau Cyfartalog y cyfnod Sylfaen

Roedd y dangosydd hwn wedi’i gynnwys ym MALlC 2019 ond nid ym MALlC 2025. 

Ar gyfer addysg gynradd, daeth y broses o gasglu data cyrhaeddiad yn rheolaidd (yn y cyfnod sylfaen a CA2) i ben ar ôl 2018/19 gyda seibiant wrth gasglu'r data hwn yn ystod y pandemig yn cael ei ddilyn yn syth gan gyflwyno'r Cwricwlwm newydd i Gymru yn 2022. Mae hyn yn golygu nad oes data digon cyson neu gadarn i ddiweddaru'r dangosyddion cyrhaeddiad ysgolion cynradd a ddefnyddiwyd yn 2019.

Sgôr Pwyntiau Cyfartalog CA2

Roedd y dangosydd hwn wedi’i gynnwys ym MALlC 2019 ond nid ym MALlC 2025 am yr un rhesymau ag uchod.

Gwybodaeth ychwanegol

Cyrhaeddiad Cyfnod Allweddol 4

Defnyddiodd MALlC 2025 y sgôr pwyntiau cyfartalog ar gyfer pynciau craidd wrth asesu cyflawniad ar lefel CA4 (defnyddiwyd yr un dull gweithredu ar gyfer MALlC 2019). Nid yw hyn yr un peth â’r sgôr ‘capio 9’ a ddefnyddiwyd gan Lywodraeth Cymru ers 2019 i fesur cyflawniad ar lefel CA4. Gwnaed y penderfyniad hwn i ddefnyddio’r sgôr pwyntiau cyfartalog yn hytrach na sgoriau capio 9 er mwyn cyfyngu ar effaith y pandemig ar y dangosydd. Y rhesymeg yw y byddai amrywiadau mewn arferion asesu yn ystod y pandemig wedi cael llai o effaith ar y pynciau craidd oherwydd niferoedd uwch o ddysgwyr sy'n cael eu cofrestru ar gyfer y cymwysterau hyn.

Pandemig Covid-19 a newidiadau i drefniadau'r cwricwlwm

Ers MALlC 2019, cafodd ysgolion yng Nghymru eu heffeithio gan y pandemig a dechreuwyd hefyd drosglwyddo i drefniadau cwricwlwm newydd. Oherwydd hyn, nid yw rhai o'r dangosyddion sy'n gysylltiedig ag ysgolion a ddefnyddiwyd o'r blaen ar gael neu lle mae data ar gael mae'n gyfyngedig. 

Addaswyd data a gasglwyd o ysgolion yn ystod y pandemig i gwrdd â heriau'r pandemig. Er enghraifft, casglwyd data presenoldeb yn wythnosol gan ddefnyddio gwahanol ddiffiniadau o absenoldeb ac roedd amrywiadau mewn trefniadau arholiadau a dyfarnu ar gyfer arholiadau cyhoeddus, gan gynnwys lle dyfarnwyd graddau yn seiliedig ar fodel gradd a bennwyd gan ganolfan neu a aseswyd gan ganolfan. Efallai na fydd y data a gesglir yn ystod y cyfnod hwn yn gynrychioliadol o amddifadedd sy'n ymwneud ag effeithiau ar ganlyniadau addysgol yn fwy cyffredinol oherwydd amodau'r pandemig. Am y rheswm hwn, nid ydym wedi defnyddio data a gasglwyd yn ystod prif gyfnod y pandemig ar gyfer y dangosyddion sy'n gysylltiedig ag ysgolion ym MALlC 2025. Yn hytrach, ar gyfer y tri dangosydd perthnasol (cyrhaeddiad ar CA4 a’r ddau ddangosydd sy’n ymwneud ag absenoldeb) rydym wedi defnyddio gwerth dwy flwyddyn o ddata o’r cyfnod ar ôl y pandemig.

Casglwyd lefel cymwysterau’r boblogaeth oedran gweithio drwy’r Cyfrifiad yn ystod mis Mawrth 2021, ychydig dros flwyddyn ers i’r pandemig gael ei ddatgan. Fodd bynnag, gwelwyd bod cydberthynas dda rhwng y data a thueddiadau Cyfrifiad 2011 a ddefnyddiwyd ym MALlC 2019.

Mae’r dangosydd arall yn ystyried disgyblion CA4 sydd, ar ryw adeg yn y 4 blynedd ddilynol ar ôl gadael Blwyddyn 11, yn mynd i Addysg Uwch. Mae hyn yn defnyddio cyfartaledd 4 blynedd yn seiliedig ar ddisgyblion a adawodd yr ysgol rhwng y blynyddoedd academaidd 2016 i 2017 a 2019 i 2020. Gallwn ddisgwyl i’r pandemig gael rhywfaint o effaith ar gyrhaeddiad y rhai a adawodd yr ysgol yn 2020, ac ar ddechrau Addysg Uwch i’r holl garfanau hyn o bosibl. Byddai hyn yn effaith wirioneddol a gofnodir yn y data, ac nid ydym yn addasu ar gyfer hyn.

Mynediad at wasanaethau

Diben y maes hwn yw casglu gwybodaeth am amddifadedd o ganlyniad i anallu cartref i fanteisio ar amrywiaeth o wasanaethau yr ystyrir bod eu hangen i fyw o ddydd i ddydd, yn ffisegol ac ar-lein.

Mae hyn yn cwmpasu amddifadedd materol (er enghraifft methu â chael bwyd) ac agweddau cymdeithasol ar amddifadedd (er enghraifft methu â mynd i weithgareddau ar ôl ysgol). 

Mae gan y maes bwysau cymharol o 10% yn y mynegai cyffredinol.

Dangosyddion

Amseroedd teithio yn ôl teithio cyhoeddus a phreifat (19 dangosydd)

Math o ddangosydd

Amser teithio dwyffordd cyfartalog (mewn munudau) o anheddau preswyl i'r pwynt gwasanaeth agosaf. Y mathau o wasanaethau sydd wedi'u cynnwys yw:

  • darparwr gofal plant
  • siop fwyd
  • meddygfa
  • gorsaf betrol
  • fferyllfa
  • ysgol gynradd
  • cangen o Swyddfa’r Post
  • llyfrgell gyhoeddus
  • ysgol uwchradd
  • cyfleuster chwaraeon

Mae gan bob un o'r 10 math o wasanaeth ddangosydd amser teithio preifat ac mae gan 9 ohonynt (ac eithrio gorsafoedd petrol) ddangosydd amser teithio cyhoeddus.

Rhifiadur

Dd/G

Enwadur 

Dd/G

Ffynhonnell a chyfnod amser 

Y ffynonellau a ddefnyddiwyd ar gyfer lleoliadau'r pwyntiau mynediad oedd:

  • Meddygfeydd: MapDataCymru a GIG Lloegr, Mehefin 2025
  • Ysgolion cynradd, ysgolion uwchradd, llyfrgelloedd cyhoeddus: MapDataCymru, Mawrth 2025
  • Darparwr gofal plant: Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC), Mehefin 2025
  • Canghennau Swyddfa'r Post: cais Rhyddid Gwybodaeth am leoliadau canghennau Swyddfa'r Post, Rhagfyr 2024
  • Fferyllfeydd: Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru, Mawrth 2025
  • Cyfleusterau chwaraeon: AddressBase yr Arolwg Ordnans, Medi 2025
  • Siopau bwyd, gorsafoedd petrol: Points of Interest ®, Awst 2025

Cyfrifwyd amseroedd teithio gan ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus (cerdded a defnyddio bws cyhoeddus, trên cyhoeddus neu goets genedlaethol) i'r pwynt mynediad agosaf ar gyfer gwasanaeth penodol gan ddefnyddio adnodd llwybro R5, gan ddefnyddio data amserlenni gan y Gwasanaeth Data Agored ar Fysiau a Network Rail a oedd yn gywir ar 9 Medi 2025. 

Cyfrifwyd amseroedd teithio gan ddefnyddio trafnidiaeth breifat i'r pwynt mynediad agosaf gan ddefnyddio llyfrgell pgRouting o fewn PostGIS. Lluniwyd y rhwydwaith cerbydol ar sail data Trafnidiaeth o National Geographic Database yr Arolwg Ordnans, gan gynnwys cyflymder cerbydol cyfartalog.

Gweler atodiad 6.1 i gael rhagor o wybodaeth am ffynonellau amseroedd teithio.

Nodiadau ychwanegol

Gweler atodiad 6.1 i gael gwybodaeth am y fethodoleg a ddefnyddiwyd i gyfrifo'r dangosyddion amseroedd teithio.

Cymaroldeb gyda MALlC 2019

Na, o ganlyniad i wahaniaethau yn y fethodoleg a ddefnyddiwyd i gyfrifo amseroedd teithio.

Anallu i dderbyn band eang cyflym iawn

Math o ddangosydd

Canran yr eiddo preswyl na allant dderbyn band eang cyflym iawn (30Mbit yr eiliad).

Rhifiadur

Nifer yr eiddo preswyl na allant dderbyn band eang cyflym iawn (30Mbit yr eiliad).

Enwadur 

Cyfanswm nifer yr eiddo preswyl.

Ffynhonnell a chyfnod amser 

Diweddariad Cysylltu'r Gwledydd: Gwanwyn 2025 (Ofcom) darpariaeth sefydlog, set ddata ardaloedd cynnyrch.

Nodiadau ychwanegol

Mae Ofcom yn casglu ac yn dadansoddi data gan fwy na 50 o ddarparwyr gwasanaethau rhyngrwyd band eang sefydlog ar gyfeiriadau a gwmpesir gan eu gwasanaeth. Casglodd ‘Diweddariad Cysylltu'r Gwledydd: Gwanwyn 2025’ (Ofcom) ddata ar y ddarpariaeth mewn ciplun ym mis Ionawr 2025. 

Mae'r Adroddiad ar Fethodoleg Cysylltu'r Gwledydd 2024 (Ofcom) yn esbonio sut y gofynnwyd i weithredwyr ddarparu data ar gyfer pob cyfeiriad lle gellir darparu gwasanaeth. Mae gwybodaeth benodol am ddiweddariad Gwanwyn 2025 ar gael yn y ddogfen 'About this data - fixed coverage and full fibre take-up' (Ofcom)

Cymaroldeb gyda MALlC 2019

Gellir ei gymharu, ar y cyfan. Ym mis Medi 2019, newidiodd Ofcom y diffiniad o'r sail safleoedd a ddefnyddir yn adroddiadau Cysylltu'r Gwledydd. Ceir rhagor o wybodaeth yn yr Adroddiad ar Fethodoleg Cysylltu'r Gwledydd 2019 (Ofcom)

Llunio'r maes

Mae 20 dangosydd yn y maes mynediad at wasanaethau, sydd wedi'i rannu yn is-faes mynediad ffisegol ac is-faes mynediad digidol. Mae sgôr y maes wedi'i phwysoli 90% i fynediad ffisegol a 10% i fynediad digidol. 

Yr 19 dangosydd amseroedd teithio sy'n ffurfio'r is-faes mynediad ffisegol. Ar gyfer pob math o wasanaeth, cyfrifwyd sgoriau amseroedd teithio cyhoeddus a phreifat cyfunol ar gyfer pob AGEHI. Roedd y sgoriau cyfunol hyn yn pwysoli amseroedd teithio gan ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus a phreifat ar gyfer pob AGEHI gan ddefnyddio data o Gyfrifiad 2021 ar berchenogaeth ceir a nifer yr oedolion 17 oed a throsodd. Wedyn, cymhwyswyd y dechneg dadansoddi ffactorau i'r sgoriau cyfunol hyn i gyfrifo pwysoliadau'r gwasanaethau, sef:

  • 20.6% fferyllfeydd
  • 14.6% meddygfeydd
  • 12.7% siopau bwyd
  • 8.6% darparwyr gofal plant
  • 7.7% llyfrgelloedd cyhoeddus
  • 6.5% canghennau Swyddfa'r Post
  • 6.2% ysgolion cynradd
  • 5.7% cyfleusterau chwaraeon
  • 3.7% gorsafoedd petrol
  • 3.7% ysgolion uwchradd

Wedyn, cafodd y sgoriau amseroedd teithio cyfunol hyn eu pwysoli, eu hadio a'u graddio i gynhyrchu safleoedd mynediad ffisegol, cyn cael eu trawsffurfio'n esbonyddol i roi sgôr yr is-faes mynediad ffisegol.

Mae'r is-faes mynediad digidol yn cynnwys yr unig ddangosydd sy'n mesur anallu i gael band eang cyflym iawn. Cafodd y data ar gyfer y dangosydd hwn eu graddio a'u trawsffurfio'n esbonyddol i roi sgôr yr is-faes mynediad digidol.

Yn olaf, er mwyn llunio safleoedd y maes mynediad at wasanaethau, cafodd sgoriau'r ddau is-faes eu pwysoli (90% mynediad ffisegol a 10% mynediad digidol), eu hadio a'u graddio.

Mae gan y maes bwysoliad cymharol o 10% yn y mynegai cyffredinol.

Newidiadau ers MALlC 2019 

Mae'r fethodoleg a ddefnyddiwyd i gyfrifo pob un o'r dangosyddion amseroedd teithio wedi cael ei diweddaru ers MALlC 2019. Ceir manylion llawn am y fethodoleg newydd yn atodiad 6.1.

Mae darparwr gofal plant wedi cael ei ychwanegu fel math o wasanaeth at yr is-faes mynediad ffisegol ar gyfer MALlC 2025. Mae dau ddangosydd newydd sy'n mesur yr amser teithio dwyffordd cyfartalog i'r darparwr gofal plant agosaf gan ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus a phreifat. Cafodd cyfeirnodau eiddo unigryw (UPRN) ar gyfer pob darparwr gwasanaeth cofrestredig yng Nghymru eu darparu gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC), sef rheoleiddiwr annibynnol gwasanaethau gofal cymdeithasol a gofal plant yng Nghymru. Y mathau o ddarpariaeth gofal plant sydd wedi'u cynnwys yw:

  • gofal dydd plant
  • gofal dydd llawn gan gynnwys meithrinfeydd dydd
  • gofal dydd sesiynol (e.e. grwpiau chwarae)
  • crèche
  • gofal y tu allan i'r ysgol
  • darpariaeth mynediad agored
  • gwarchodwr plant

Mae newidiadau wedi cael eu gwneud hefyd i'r ffynonellau data ar gyfer rhai o'r mathau o wasanaethau a oedd wedi'u cynnwys yn MALlC 2019.

Dim ond llyfrgelloedd cyhoeddus sy'n cyflawni'r 13 o hawliau craidd yn seithfed fframwaith ansawdd Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru 2025 i 2028 sydd wedi cael eu cynnwys yn y dangosyddion amseroedd teithio i lyfrgelloedd cyhoeddus. O ganlyniad, mae rhai llyfrgelloedd cymunedol a oedd wedi'u cynnwys yn MALlC 2019 heb gael eu cynnwys yn MALlC 2025.

Cafwyd data ar leoliadau canghennau Swyddfa'r Post o set ddata a gyhoeddwyd mewn ymateb i gais Rhyddid Gwybodaeth ym mis Rhagfyr 2024 (Post Office Corporate). Yn MALlC 2019, cafwyd y data hyn o Points of Interest ®. 

Defnyddiwyd data gan yr Arolwg Ordnans i gael data ar leoliadau cyfleusterau chwaraeon. Cafodd y data eu hidlo fel eu bod yn cyfateb mor agos â phosibl i ddata Chwaraeon Cymru a ddefnyddiwyd yn MALlC 2019. Er bod y safleoedd yn fwy cywir, mae data'r Arolwg Ordnans yn llai manwl, ac mae rhai safleoedd wedi'u hepgor am eu bod wedi'u lleoli o fewn safle dosbarth lefel uwch. Roedd y diffiniad o'r term “masnachol” yn rhy eang i gyfateb i ddata Chwaraeon Cymru ar ôl eu hidlo.

Gwybodaeth ychwanegol

Yn ogystal â safleoedd maes a gwerthoedd dangosyddion, rydym wedi cyhoeddi safleoedd yr is-faes amseroedd teithio. 

Atodiad 6.1: methodoleg dangosyddion amseroedd teithio

Defnyddir amseroedd teithio i wasanaethau lleol i gyfrifo 19 dangosydd yn is-faes mynediad ffisegol y maes mynediad at wasanaethau. Mae 10 dangosydd yn mesur amseroedd teithio gan ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus a 9 dangosydd yn mesur amseroedd teithio gan ddefnyddio trafnidiaeth breifat. Mae trafnidiaeth gyhoeddus yn cynnwys teithio ar fws cyhoeddus, trên cyhoeddus, ar droed a choets genedlaethol. Ystyrir mai teithio mewn car preifat yw trafnidiaeth breifat.

Gwasanaethau

Mae 10 math o wasanaeth wedi'u cynnwys yn is-faes mynediad ffisegol MALlC 2025. 

Lle y bo'n bosibl, rydym wedi ceisio cael y set ddata fwyaf awdurdodol ar gyfer Cymru. Mae gallu dinesydd i ddefnyddio unrhyw un o'r gwasanaethau sydd wedi'u cynnwys yn y maes hwn yn annibynnol ar ei ddaearyddiaeth (h.y. y ffaith ei fod yn byw yng Nghymru). Felly, mae'r ymarfer hwn yn cydnabod y gall gwasanaeth agosaf dinesydd fod wedi'i leoli y tu hwnt i ffin Cymru. Er mwyn darparu ar gyfer hyn, cynhwyswyd lleoliadau gwasanaethau o fewn llain glustogi o 10 cilometr i ffin Cymru lle bo hynny'n bosibl. O ganlyniad, mae gan rai setiau data ffynhonnell amgen i gwmpasu Lloegr mewn achosion lle nad yw'r brif ffynhonnell Gymreig, a'r un a ffefrir, ar gael ar gyfer y ddaearyddiaeth honno. Nid yw pob math o wasanaeth yn cynnwys lleoliadau yn Lloegr.

Fferyllfeydd yw siopau lle caiff cyffuriau meddyginiaethol eu rhoi ar bresgripsiwn a'u gwerthu. Mae hyn yn cynnwys fferyllfeydd o fewn archfarchnad neu gyfadeilad mwy o faint. Mae MALlC 2025 yn cynnwys 792 o leoliadau fferyllfeydd.

Siopau bwyd yw siopau sy'n gwerthu hanfodion bob dydd fel bara a llaeth. Mae hyn yn cynnwys siopau cyfleustra, siopau papurau newydd, archfarchnadoedd annibynnol, manwerthwyr bwyd wedi'i rewi ac archfarchnadoedd. Mae MALlC 2025 yn cynnwys 3,692 o leoliadau fferyllfeydd.

Meddygfeydd yw cyfleusterau lle mae meddygon teulu'r GIG wedi'u cofrestru i ymarfer, gan gynnwys meddygfeydd cangen. Mae MALlC 2025 yn cynnwys 578 o leoliadau meddygfeydd.

Darparwyr gofal plant yw'r rhai sydd wedi'u cofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) i ddarparu gofal plant. Mae hyn yn cynnwys gofal dydd llawn a sesiynol, crèches, darpariaeth chwarae mynediad agored a gwarchodwyr plant. Mae MALlC 2025 yn cynnwys 2,789 o leoliadau darparwyr gofal plant. Nid yw gwasanaethau yn Lloegr wedi'u cynnwys.

Llyfrgelloedd cyhoeddus yw llyfrgelloedd sy'n agored i'r cyhoedd. Nid yw llyfrgelloedd cymunedol nad ydynt yn cyflawni pob un o'r 13 o hawliau craidd yn seithfed fframwaith ansawdd Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru 2025 i 2028 wedi'u cynnwys. Nid yw llyfrgelloedd symudol wedi'u cynnwys ychwaith, am nad oes digon o ddata daearyddol. Mae MALlC 2025 yn cynnwys 230 o leoliadau llyfrgelloedd cyhoeddus. Nid yw gwasanaethau yn Lloegr wedi'u cynnwys.

Mae canghennau Swyddfa'r Post yn cynnwys pob swyddfa bost sefydlog. Mae MALlC 2025 yn cynnwys 1,069 o leoliadau swyddfa bost.

Ysgol gynradd yw ysgolion sy'n rhoi addysg i blant 5 i 11 oed. Roedd yr amseroedd teithio a gynhwyswyd yn y dull cyfrifo yn gyfyngedig i'r rhai lle roedd plentyn o fewn y cod post wedi'i gofrestru mewn ysgol gynradd. Cafwyd data ar gofrestriadau ag ysgolion o CYBLD. 

Mae MALlC 2025 yn cynnwys 1,230 o leoliadau ysgolion cynradd, gan gynnwys 31 o ysgolion canol. Nid yw gwasanaethau yn Lloegr wedi'u cynnwys.

Cyfleusterau chwaraeon yw safleoedd nad ydynt yn breifat (h.y. am ddim neu dalu am chwarae) sy'n cynnwys un o'r canlynol: Neuadd chwaraeon, Stiwdio, Cae chwarae porfa, Cae pob tywydd, Maes chwaraeon (cyfranogiad), Pwll nofio, Ystafell iechyd a ffitrwydd, Cwrt sboncen, Cwrt tennis awyr agored, Lawnt fowlio awyr agored, Canolfan tennis dan do, a Bowlio dan do. Mae MALlC 2025 yn cynnwys 2,742 o leoliadau cyfleusterau chwaraeon. Nid yw gwasanaethau yn Lloegr wedi'u cynnwys.

Gorsafoedd petrol yw siopau sy'n gwerthu tanwydd ar gyfer cerbydau personol. Dim ond yn yr elfen trafnidiaeth breifat o'r is-faes y mae'r math hwn o wasanaeth wedi'i gynnwys. Mae MALlC 2025 yn cynnwys 688 o leoliadau gorsafoedd petrol. 

Ysgolion uwchradd yw ysgolion sy'n rhoi addysg i blant 11 i 16 oed. Roedd yr amseroedd teithio a gynhwyswyd yn y dull cyfrifo yn gyfyngedig i'r rhai lle roedd plentyn o fewn y cod post wedi'i gofrestru mewn ysgol uwchradd. Cafwyd data ar gofrestriadau ag ysgolion o CYBLD. Mae MALlC 2025 yn cynnwys 205 o leoliadau ysgolion uwchradd, gan gynnwys 31 o ysgolion canol. Nid yw gwasanaethau yn Lloegr wedi'u cynnwys.

Cyfeiriadau preswyl

Nodwyd lleoliad cyfeiriadau preswyl yng Nghymru gan ddefnyddio diffiniad y cytunwyd arno o set ddata Cyfeiriadau Adeiledig NGD, a gafwyd o dan Gytundeb Geo-ofodol y Sector Cyhoeddus. 

At ddibenion y maes Mynediad at Wasanaethau, mae cyfeiriad preswyl wedi'i gynnwys yn y dadansoddiad os yw'r cyfeiriad yn gofnod gweithredol ac yn gofnod treth gyngor ddomestig dilys neu os yw'n cyd-fynd ag un o'r dosbarthiadau canlynol:

  • preswyl
  • annedd breswyl
  • carafán (ac mae ganddo gofnod treth gyngor ddomestig dilys)
  • tŷ sengl
  • tŷ pâr
  • tŷ teras
  • fflat hunangynhwysol (gan gynnwys fflat deulawr neu randy)
  • cwch preswyl (ac mae ganddo gofnod treth gyngor ddomestig dilys)
  • llety gwarchod
  • tŷ Amlfeddiannaeth
  • tŷ Amlfeddiannaeth – Rhiant
  • tŷ Amlfeddiannaeth – Fflat un ystafell neu lety arall nad yw'n llety hunangynhwysol

Mae 1,462,468 o anheddau preswyl yng Nghymru yn y set ddata tarddiadau.

Amseroedd teithio

Diffinnir y daith i wasanaeth o annedd breswyl fel y daith i'r gwasanaeth. Diffinnir y daith i annedd breswyl o wasanaeth fel y daith i'r annedd breswyl. Diffinnir y cyfuniad o'r teithiau unffordd hyn fel y daith ddwyffordd.

Caiff yr amser teithio ar gyfer taith ei ddiffinio fel yr amser a gymerir mewn munudau i deithio o annedd breswyl i bwynt mynediad gwasanaeth neu fel arall. Caiff amseroedd teithio ar gyfer un daith unffordd eu cyfrifo dros gyfnod amser penodol sy'n amrywio yn ôl y math o wasanaeth a dull trafnidiaeth. 

Yr amser teithio hwyaf penodedig ar gyfer taith unffordd fydd 90 munud (1.5 awr) a rhoddir gwerth o 90 munud ar gyfer unrhyw amseroedd teithio dros 90 munud.

Gall yr amseroedd teithio preifat a'r amseroedd teithio cyhoeddus gyfeirio at wasanaethau gwahanol o'r un math (h.y. gall unigolyn sy'n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus ac unigolyn sy'n defnyddio trafnidiaeth breifat fynd at feddygon teulu gwahanol).

Mae pob dangosydd yn yr is-faes yn cynrychioli'r amser teithio dwyffordd cyfartalog (mewn munudau) i'r pwynt mynediad agosaf ar gyfer y math o wasanaeth a'r dull trafnidiaeth dan sylw. 

Trafnidiaeth gyhoeddus

Mae'r fethodoleg trafnidiaeth gyhoeddus wedi cael ei mireinio i gyfrifo amser deithio i ddrws pob cyfeiriad preswyl, yn hytrach na'r isocronau 5 munud a ddefnyddiwyd yn MALlC 2019. Ar gyfer 2019, roedd teithiau'n cael eu rhedeg ar 3 amser gadael a chyrraedd penodol. Ar gyfer 2025, defnyddiwyd cyfnod ymadael i gyfrifo amser teithio ar gyfer teithiau a oedd yn gadael bob munud dros gyfnod o 2 i 3 awr a defnyddiwyd y gwerth canolrifol ar draws pob taith i roi adlewyrchiad mwy cywir o hygyrchedd.

Ar gyfer llwybrau trafnidiaeth gyhoeddus, defnyddiwyd R5, sef adnodd llwybro aml-ddull, ffynhonnell agored. Cafodd R5 ei ddatblygu o OpenTripPlanner (OTP), a ddefnyddiwyd ar gyfer llwybrau trafnidiaeth gyhoeddus yn MALlC 2019. Mae R5 yn canolbwyntio ar berfformiad ar gyfer dadansoddi ar raddfa fawr, tra bod OTP fersiwn 2 wedi canolbwyntio'n fwy penodol ar wybodaeth am deithwyr. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y Canllawiau ar Ddadansoddi Amser Teithio gan OpenTripPlanner

Mae rhwydwaith R5 wedi'i adeiladu gan ddefnyddio data amserlenni ar fformat Manyleb Ffrwd Data Cludiant Cyffredinol (GTFS). Mae GTFS yn galluogi asiantaethau cludiant cyhoeddus i gyhoeddi eu data cludiant mewn fformat a all gael ei ddefnyddio gan amrywiaeth eang o gymwysiadau meddalwedd. Mae'n cynnwys gwybodaeth am geometreg yr arosfannau, yn ogystal â gwybodaeth am lwybrau ac amseroedd pob gwasanaeth. 

Cafwyd data amserlenni bysiau gan y Gwasanaeth Data Agored ar Fysiau (DfT) ar fformat GTFS. Mae lawrlwythiadau ar gael fel set ddata genedlaethol (Prydain Fawr) neu fesul rhanbarth. Ar gyfer MALlC 2025, defnyddiwyd data o Gymru, De-orllewin Lloegr, Gorllewin Canolbarth Lloegr a Gogledd-orllewin Lloegr. Cafodd data'r rhanbarthau yn Lloegr eu cwtogi i'r ardal o 10 km ar y ffin gan ddefnyddio UK2GTFS.

Cafwyd data ar gyfer teithiau trên ledled Cymru gan y Grŵp Cyflenwi Rheilffyrdd ac fe'u lawrlwythwyd mewn fformat CIF. Mae angen cofrestru i weld y data hyn. Defnyddiwyd UK2GTFS i drosi'r data CIF i GTFS. 

Mae R5 yn defnyddio'r tybiaethau canlynol:

  • y cyflymder cerdded diofyn yw 1.25 m/e
  • nid yw cyflymderau cerdded yn ystyried y tir na rhwystrau, ond ni chaniateir cerdded ar ffyrdd y tybir nad ydynt yn addas i gerddwyr yn OpenStreetMap (e.e. traffyrdd)
  • pennwyd amser cerdded hwyaf o 20 munud ar gyfer pob cymal o'r daith
  • gallai hyn olygu cerdded hyd at 20 munud i arosfan/gorsaf (mynediad), rhwng arosfannau/gorsafoedd (trosglwyddo) neu o arosfan/gorsaf i'r gyrchfan (mynd allan)
  • gellir darparu trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru neu Loegr, lle mae angen teithio ar draws y ffin i wasanaeth agosaf dinesydd
  • caiff amseroedd teithio eu tynnu o'r canlyniad canolrifol ar draws y cyfnod ymadael
  • caiff unrhyw gyfeiriadau preswyl lle mae'n cymryd mwy na 90 munud i deithio i wasanaeth eu pennu ar 90 munud yn awtomatig
  • caiff teithiau i mewn (o'r eiddo preswyl i wasanaeth) eu cyfrifo o bob eiddo y gellir ei gyrraedd ar y daith allan
  • caiff amser teithio dwyffordd ei gyfrifo o'r pâr o deithiau i mewn/allan cyflymaf ar gyfer pob eiddo i wasanaeth unigol. 

Ar gyfer pob annedd breswyl, cyfrifwyd un daith y funud drwy gydol y cyfnod ymadael penodedig ar gyfer y daith i'r gwasanaeth a'r daith i'r annedd breswyl. 

Mae'r cyfnodau amser ymadael ar gyfer teithiau i'r gwasanaeth gan ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus fel a ganlyn:

  • ysgol gynradd, ysgol uwchradd, gwasanaeth gofal plant, 8:00 i 9:00
  • siop fwyd, meddygfa, fferyllfa, llyfrgell gyhoeddus, cangen o Swyddfa'r Post, 9:00 i 11:00
  • cyfleuster chwaraeon, 16:00 i 18:00

Mae'r cyfnodau amser ymadael ar gyfer teithiau i'r annedd breswyl gan ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus fel a ganlyn:

  • ysgol gynradd, ysgol uwchradd, gwasanaeth gofal plant, 15:00 i 16:30
  • siop fwyd, meddygfa, fferyllfa, llyfrgell gyhoeddus, cangen o Swyddfa'r Post, 11:00 i 13:00
  • cyfleuster chwaraeon, 18:00 i 20:00

Nid yw gorsafoedd petrol wedi'u cynnwys yn yr amseroedd teithio gan ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.

Cafodd cyfartaledd amseroedd teithio (canolrifol) pob taith i'r gwasanaeth ei adio at gyfartaledd amseroedd teithio pob taith i'r annedd breswyl. Mae cyfrifo cyfartaledd pob taith i'r ddau gyfeiriad yn adlewyrchu amlder y gwasanaeth ar gyfer taith benodol.

Ar ôl cyfrifo amser teithio dwyffordd canolrifol ar gyfer pob annedd, aseiniwyd canolrif y gwerthoedd hyn i bob AGEHI ar gyfer anheddau yn yr AGEHI honno i roi'r dangosydd amser teithio gan ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. 

Trafnidiaeth breifat

Cyfrifwyd amseroedd teithio gan ddefnyddio trafnidiaeth breifat i'r pwynt mynediad agosaf gan ddefnyddio llyfrgell pgRouting o fewn PostGIS. 

Cyfrifwyd amseroedd teithio o darddiad pob gwasanaeth i bob cyfeiriad preswyl yng Nghymru. Mae'r byrraf o'r holl amseroedd teithio fesul dangosydd (mewn munudau degol) yn cyfateb i'r amser teithio byrraf i'r gwasanaeth agosaf.

Lluniwyd y rhwydwaith cerbydol ar sail data Trafnidiaeth o National Geographic Database (NGD) yr Arolwg Ordnans, y gall Llywodraeth Cymru eu cael gan yr Arolwg Ordnans o dan Gytundeb Geo-ofodol y Sector Cyhoeddus (PSGA). Trafnidiaeth NGD yw'r set ddata ffyrdd hawdd ei defnyddio mwyaf cyflawn, manwl a chywir ar gyfer Prydain Fawr. 

At ddibenion cyfrifiadau trafnidiaeth breifat ar gyfer Mynediad at Wasanaethau, rhannwyd geometreg RoadLink Trafnidiaeth NGD yn gysylltiadau llai o faint i greu nod newydd o flaen pob cyfeiriad preswyl yn y man lle mae agosaf at y ffordd sy'n gysylltiedig (drwy'r Cyfeirnod Stryd Unigryw) â'r eiddo hwnnw. Sicrhaodd hyn nad oedd cyfrifiadau amseroedd teithio fesul annedd wedi'u hystumio gan bellter ychwanegol i'r nod agosaf yn y strwythur data cyswllt-nod safonol. 

Cymhwyswyd cyflymderau cerbydau cyfartalog at bob cyswllt ffordd o fewn y rhwydwaith. Mae'r cyflymder yn seiliedig ar ddata Trafficmaster o Basemap, a oedd ar gael fel rhan o thema Trafnidiaeth NGD o dan y PSGA. Mae'r data hyn yn nodi'r cyflymder cyfartalog a deithiwyd ar bob ffordd ym Mhrydain Fawr ar wahanol adegau o'r dydd. Cyfrifir y cyflymder cyfartalog yn seiliedig ar wybodaeth fanwl am gyflymderau hanesyddol, a gaiff ei chasglu bob chwe mis gan ddyfeisiau telemateg mewn cerbydau a'i mapio i bob ID RoadLink Trafnidiaeth NGD yr Arolwg Ordnans. Darperir gwerth y cyflymder cyfartalog i'r ddau gyfeiriad.

Ceir rhagor o wybodaeth am y data cyflymder cyfartalog a dangosol yn nogfennaeth Trafnidiaeth NGD.

Cyfrifwyd un daith o bob gwasanaeth i bob annedd breswyl, gan ddefnyddio data cyflymder cyfartalog ar gyfer y cyfnod amser priodol. Mae'r cyfnodau amser teithio ar gyfer teithiau gan ddefnyddio trafnidiaeth breifat fel a ganlyn:

  • ysgol gynradd, ysgol uwchradd, gwasanaeth gofal plant, 7:00 i 9:00 (brig AM)
  • siop fwyd, meddygfa, fferyllfa, llyfrgell gyhoeddus, cangen o Swyddfa'r Post, 10:00 i 16:00 (allfrig)
  • cyfleuster chwaraeon, 16:00 i 19:00 (brig PM)

Pan nad oedd data cyflymder cyfartalog ar gael ar gyfer unrhyw gyswllt ffordd penodol, defnyddiwyd data cyflymder dangosol yn lle hynny. Felly, ar gyfer pob cyfeiriad preswyl, cymerwyd yr amser teithio byrraf fel yr amser teithio cyflymaf. Cafodd y daith hon ei dyblu i gynrychioli taith ddwyffordd i'r gwasanaeth ac oddi yno.

Mae hyn yn cael yr un effaith â chyfartaleddau’r ddau werth ac wedyn eu dyblu er mwyn ystyried y daith yn ôl. Ni fydd dyblu'r amser teithio unffordd fel y daith i'r annedd ac oddi yno yn dangos fawr ddim gwahaniaeth yn achos trafnidiaeth breifat. Ni fyddai hyn yn wir yn achos trafnidiaeth gyhoeddus.

Ar ôl cyfrifo amser teithio dwyffordd canolrifol ar gyfer pob annedd, aseiniwyd canolrif y gwerthoedd hyn i bob AGEHI ar gyfer anheddau yn yr AGEHI honno i roi'r dangosydd amser teithio gan ddefnyddio trafnidiaeth breifat. 

Sicrhau ansawdd 

Sicrhawyd ansawdd y data gan yr adran Daearyddiaeth a Thechnoleg a CGI, yn ogystal â thîm MALlC.

Aeth yr adran Daearyddiaeth a Thechnoleg a CGI ati i sicrhau ansawdd y dangosyddion amseroedd teithio a gyfrifwyd drwy:

  • sicrhau ansawdd pob rhif cyfeirnod eiddo unigryw (UPRN) yr oedd ei amser teithio yn hwy na 90 munud
  • cynnal gwiriad synnwyr ansoddol o bob dangosydd ledled Cymru gyfan drwy ddelweddu'r amseroedd teithio fel map gwres
  • cynnal hapwiriadau o lwybrau unigol yn erbyn gwybodaeth am amserlenni bysiau a threnau er mwyn sicrhau bod gwasanaethau yn cael eu hadlewyrchu'n gywir a'u modelu (dangosyddion trafnidiaeth gyhoeddus)
  • cynnal gwiriadau ar lefel rhwydweithiau drwy samplu geometreg Rhwydwaith Trafnidiaeth NGD yr Arolwg Ordnans a data cyflymder cyfartalog er mwyn sicrhau nad oedd y graff llwybro yn cynnwys unrhyw gysylltiadau na rhwystrau anghyson (trafnidiaeth breifat)
  • cymharu canlyniadau â llwyfan llwybro Google Maps ar gyfer is-set o wasanaethau yn erbyn pob dangosydd (trafnidiaeth breifat)

Wedyn, cynhaliodd tîm MALlC wiriadau sicrhau ansawdd ystadegol ar gyfer amseroedd teithio cyhoeddus a phreifat ar gyfer pob un o'r dangosyddion, drwy wirio amseroedd teithio AGEHI ar gyfer MALlC 2025 yn erbyn MALlC 2019. Roedd hyn yn cynnwys:

  • cynnal gwiriadau synnwyr o ddata drwy edrych ar y newidiadau absoliwt mwyaf, cymedrig a chanolrifol yn amseroedd dangosyddion ar gyfer ACEHIau rhwng 2019 a 2025
  • cynnal gwiriadau synnwyr o amseroedd teithio mewn ACEHIau ar y cyrion ac yn y rhai lle roedd degradd wedi newid 4 neu fwy o ddegraddau i'r naill gyfeiriad neu'r llall
  • cynnal gwiriadau synnwyr o ddosbarth amseroedd teithio ym mhob AGEHI, awdurdod lleol a math o anheddiad
  • ymchwilio i ACEHIau â newidiadau absoliwt mawr mewn amseroedd teithio dwyffordd o gymharu â MALlC 2019 i weld a oes gwasanaethau newydd neu wasanaethau sydd wedi cau
  • defnyddio llwyfan llwybro Google Maps i wirio amseroedd teithio 2025 ar gyfer ACEHIau â newidiadau absoliwt mawr

Maes tai

Yn gysyniadol, diben y maes tai yw nodi tai annigonol, o ran cyflwr ffisegol, amodau byw ac argaeledd. Yma, mae amodau byw yn golygu addasrwydd y tai ar gyfer y sawl sy'n byw ynddynt, er enghraifft o ran iechyd a diogelwch, ac addasiadau angenrheidiol. Mae gan y maes bwysoliad cymharol o 9% yn y mynegai cyffredinol.

Dangosyddion

Dangosyddion

Mae gan y maes tai ddau is-faes wedi'u pwysoli'n gyfartal, argaeledd tai a chyflwr tai, gyda dau ddangosydd pwysoliad cyfartal yr un. 

Mae is-faes argaeledd tai yn cynnwys dangosyddion megis: 

  • canran yr aelwydydd sydd wedi'u gorlenwi ar y mesur ystafelloedd gwely seiliedig ar Gyfrifiad 2021
  • anallu i fforddio dod yn berchen-feddiannydd neu fod yn y farchnad rhentu preifat, 2023

Mae'r is-faes cyflwr tai yn cynnwys dangosyddion megis: 

  • ansawdd gwael, sef y tebygolrwydd bod tai mewn cyflwr gwael neu'n cynnwys peryglon difrifol (er enghraifft, y risg o gwympo neu dai oer), 2023
  • effeithlonrwydd ynni, 2024

Gorlenwi

Math o ddangosydd

Canran

Rhifiadur

Nifer y cartrefi gorlawn (mesur ystafelloedd gwely)

Enwadur 

Nifer yr aelwydydd

Ffynhonnell a chyfnod amser 

Cyfrifiad 2021, y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG)

Nodiadau ychwanegol

Mae’r dangosydd hwn yn rhoi mesur o b’un a yw cartref yn orlawn ai peidio. Esbonnir y diffiniadau o orlawn yn llawn ar wefan y SYG (metaddata Cyfrifiad 2021).

Cymaroldeb gyda MALlC 2019

Ddim yn uniongyrchol gymharol.

Mae MALlC 2025 yn mesur gorlenwi fel canran y cartrefi gorlawn, lle roedd MALlC 2019 yn mesur canran y bobl mewn cartrefi gorlawn. 

Mae data wedi'u diweddaru ar gael yn seiliedig ar Gyfrifiad 2021, ond dim ond ar sail aelwydydd y mae'r dadansoddiadau sydd eu hangen ar gyfer MALlC ar gael, ac nid ydynt ar gael ar sail preswylwyr mwyach, h.y. ceir data ar ganran yr aelwydydd sy'n orlawn, yn hytrach na chanran y bobl sy'n byw ar aelwydydd gorlawn. 

Rydym wedi cymharu data ar orlenwi ar gyfer AGEHIau ar sail aelwydydd ac ar sail preswylwyr gan ddefnyddio allbynnau Cyfrifiad 2011 (sy'n cynnwys y ddau ddiffiniad) ac wedi canfod bod cydberthyniad agos, felly ni fydd newid rhwng y diffiniadau hyn yn cael fawr ddim effaith ar safleoedd ar gyfer y maes tai. 

Manteision y newid hyn yw mwy o dryloywder a hygyrchedd (gan ei fod yn seiliedig ar ddata sydd eisoes wedi'u cyhoeddi gan SYG), cymharedd â'r dull ar gyfer Lloegr, a'r potensial am werth ychwanegol o ran galluogi defnyddwyr i gael dadansoddiadau ychwanegol o ddata'r dangosydd o dablau Cyfrifiad 2021 wedi'u teilwra ar wefan SYG.

Anallu i fforddio ymuno â’r farchnad i berchen-feddianwyr neu’r farchnad rhentu preifat 

Math o ddangosydd 

Sgôr yw’r dangosydd cyffredinol (cyfraddau yw is-gydrannau’r dangosydd, gweler y nodiadau ychwanegol). 

Rhifiadur

Ar gyfer is-gydrannau'r dangosydd: nifer yr aelwydydd perthnasol yr amcangyfrifir nad ydynt yn gallu fforddio dod yn berchen-feddianwyr na ymuno â’r farchnad rhentu preifat ar gyfer y garfan berthnasol.

Enwadur 

Ar gyfer is-gydrannau'r dangosydd: cyfanswm nifer yr aelwydydd perthnasol.

Ffynhonnell a chyfnod amser 

Y prif ffynonellau data yw’r:

  • Arolwg o Adnoddau Teulu ar gyfer incwm a chyfansoddiad aelwydydd, blynyddoedd ariannol sy'n dod i ben 2024, 2023, 2022 a 2020
  • Mynegai Prisiau Tai’r SYG (y Gofrestrfa Tir gynt) ar gyfer prisiau tai, 2023
  • data o Swyddogion Rhenti Cymru (sy’n cyfateb i’r data gweinyddol a gesglir yn Lloegr gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio) ar gyfer rhenti, 2023

Roedd ffynonellau eraill a ddefnyddiwyd yn cynnwys ystod o ddata Cyfrifiad 2021 a data cyhoeddedig neu swyddogol eraill ar lefel AGEHI, gan gynnwys dosbarthiadau’r SYG o ACEHIau ac awdurdodau lleol yn seiliedig ar 2021, poblogaethau’r SYG ar gyfer AGEHIau, cyfrifon o hawlwyr NOMIS, a rhai dangosyddion eraill ar lefel awdurdod lleol, gan gynnwys o’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth a’r Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion. 

Mae data ar rentu preifat gan Swyddogion Rhenti Cymru yn adlewyrchu rhenti ymhlith tenantiaethau o hyd amrywiol, ac mae’n bosibl nad yw’r data yn cynrychioli’n gywir gost sicrhau tenantiaeth newydd heddiw, am fod prisiau rhentu a hysbysebir yn dilyn amodau presennol y farchnad, sy’n uwch na thenantiaethau sy’n bodoli eisoes fel arfer.

Nodiadau ychwanegol

Rydym yn cyflwyno dangosydd newydd ar yr anallu i fforddio dod yn berchen-feddiannydd neu fod yn y farchnad rhentu preifat, a luniwyd gan Brifysgol Heriot-Watt. Mae’r dangosydd hwn wedi cael ei ddefnyddio mewn sawl iteriad o fynegeion amddifadedd Lloegr (MHCLG), ar gyfer aelwydydd iau â phenteulu o dan 40 oed. Bydd ein mesur yn ymgorffori ail elfen i rentwyr preifat hŷn lle mae’r penteulu rhwng 40 a 65 oed.

Mae’r dangosydd wedi’i fodelu mewn sawl cam, gan ddechrau â microddata o’r Arolwg o Adnoddau Teulu, yna gymhwyso swyddogaethau rhagfynegol at y Cyfrifiad a data eraill am ardaloedd bach, ac yn olaf reoli er cysondeb ar lefel Cymru gyfan. 

Asesir fforddiadwyedd gan ddefnyddio dau brif faen prawf: cymhareb chwartel isaf pris tŷ neu rent (yn ôl maint ystafell wely) i incwm, a chymhareb incwm preswyl ar ôl costau tai i safon sy’n seiliedig ar ofynion sylfaenol aelwyd. Er mwyn deillio trothwyon prisiau tai a rhent sy’n berthnasol i aelwyd benodol, mae’r dull gweithredu yn defnyddio ardaloedd marchnad dai a ddiffinnir drwy ymchwil i batrymau cymudo a mudo, a thrwy gydnabod bod pobl yn chwilio am dai ar draws daearyddiaethau mwy o faint.

Mae sgôr y dangosydd cyffredinol yn seiliedig ar 4 is-gydran, sy’n gyfrannau amcangyfrifedig o’r canlynol: 

  • anhawster i ddod yn berchen-feddianwyr i aelwydydd lle mae’r penteulu o dan 40 oed
  • anhawster i ddod yn rhan o’r farchnad rhentu preifat lle mae’r penteulu o dan 40 oed
  • anhawster i ddod yn berchen-feddianwyr ymhlith rhentwyr preifat hŷn (â phenteulu 40 i 65 oed)
  • anhawster i ddod yn rhan o’r farchnad rhentu preifat ymhlith rhentwyr preifat hŷn (â phenteulu 40 i 65 oed)

Rydym wedi cyhoeddi’r data ar gyfer pob cydran (yn ôl oedran a deiliadaeth) ar wahân fel rhan o setiau data dangosyddion MALlC. Mae’n bosibl y bydd y rhain yn fwy ystyrlon i ddefnyddwyr na sgôr gyffredinol y dangosydd sy’n cael ei chyfrifo fel a ganlyn o’r 4 is-gydran: 

  • ar gyfer y 2 grŵp oedran ar wahân, mae’r cyfranau nad ydynt yn gallu prynu na rhentu yn cael eu safoni a’u cyfuno â phwysoliad cyfartal
  • caiff y 2 fesur hyn eu cyfuno’n sgôr dangosydd cyffredinol drwy eu safoni a’u cyfuno â phwysoliad o 75% ar gyfer y grŵp iau a 25% ar gyfer rhentwyr preifat hŷn 

Gweler atodiad 7.1 am ragor o fanylion.

Cymaroldeb gyda MALlC 2019

Dangosydd newydd.

Tebygolrwydd tai o ansawdd gwael (mewn cyflwr gwael neu’n cynnwys peryglon difrifol)

Math o ddangosydd

Canran.

Rhifiadur

Nifer amcangyfrifedig o anheddau preswyl sydd: 

Enwadur 

Nifer yr anheddau preswyl 

Ffynhonnell a chyfnod amser 

Y Sefydliad Ymchwil Adeiladu, gan ddefnyddio gwahanol arolygon a ffynonellau data gweinyddol, 2023

Nodiadau ychwanegol

Dywedir bod gan annedd berygl Categori 1 o ganlyniad i oerni gormodol os oes bygythiad difrifol o dymheredd is na'r hyn sy'n dderbyniol dan do. Dywedir bod gan annedd berygl Categori 1 o ran cwympo os credir bod perygl difrifol o gwympo ar y grisiau, rhwng lefelau, ar arwynebedd gwastad neu gwympo mewn bath, cawod neu gyfleuster tebyg.Dywedir bod cartref mewn cyflwr gwael os bydd o leiaf un o gydrannau allweddol yr adeilad yn hen a bod angen ei hadnewyddu neu ei hatgyweirio’n sylweddol oherwydd ei chyflwr; neu os bydd mwy nag un o gydrannau eraill yr adeilad yn hen a bod angen eu hadnewyddu neu eu hatgyweirio'n sylweddol.

Ceir rhagor o fanylion am y broses fodelu yn atodiad 7.2.

Cymaroldeb gyda MALlC 2019

Roedd y diweddariad yn seiliedig ar ddull tebyg i'r un a ddefnyddiwyd ar gyfer MALlC 2019 ac mae'n cynnwys defnyddio setiau data mwy diweddar lle maent ar gael. Mae gwaith modelu 2025 hefyd yn cynnwys integreiddio dwy set ddata a ddarperir gan Lywodraeth Cymru; Rhentu Doeth Cymru a Safon Ansawdd Tai Cymru i helpu i ddynodi stoc rhent preifat a chymdeithasol, yn y drefn honno. 

Ar gyfer dangosyddion 2019, defnyddiwyd data o Arolwg Cyflwr Tai Cymru i feincnodi'r data a fodelwyd; fodd bynnag, nid oes diweddariad wedi bod i Arolwg Cyflwr Tai Cymru eto. Yn hytrach, amcangyfrifwyd meincnodau tybiannol 2023 drwy gymharu newidiadau ym mhob dangosydd ar gyfer rhanbarth Gorllewin Canolbarth Lloegr rhwng 2017 a 2023 a chymhwyso'r newid hwn i gyfansymiau Arolwg Cyflwr Tai Cymru 2017 i greu tebygolrwydd wedi'i addasu.

Effeithlonrwydd ynni 

Math o ddangosydd

Sgôr gyfartalog

Rhifiadur

Cyfanswm gwerth y sgoriau terfynol (a welwyd neu a briodolwyd) tystysgrif perfformiad ynni (EPC).

Enwadur 

Cyfanswm nifer yr eiddo preswyl.

Ffynhonnell a chyfnod amser 

Rhifiadur: Data ar Dystysgrifau Perfformiad Ynni ar gyfer asesiadau a wnaed rhwng mis Ionawr 2012 a mis Rhagfyr 2024 (data agored y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol).

Enwadur: Cronfa Ddata Ddaearyddol Genedlaethol yr Arolwg Ordnans.

Nodiadau ychwanegol

Rydym yn cyflwyno dangosydd newydd ar effeithlonrwydd ynni, yn seiliedig ar raddau’r Weithdrefn Asesu Safonol ar gyfer anheddau preswyl yn yr ardal, sy’n deillio o ddata Tystysgrifau Perfformiad Ynni (EPC). Mae’r Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol (MHCLG) wedi datblygu'r dangosydd ar gyfer anheddau preswyl yng Nghymru a Lloegr, gan briodoli sgoriau EPC amcangyfrifedig ar gyfer pob annedd nad oes ganddynt EPC dilys ar hyn o bryd.

Gan nad oes gan tua 55% o anheddau yng Nghymru Dystysgrif Perfformiad Ynni ddilys, mae’r mesur yn priodoli sgoriau amcangyfrifedig i bob annedd sydd heb Dystysgrif Perfformiad Ynni ddilys ar hyn o bryd. Cysylltwyd data agored am Dystysgrifau Perfformiad Ynni â data’r Arolwg Ordnans, gan gynnwys nodweddion ar lefel adeilad (megis y math o adeilad a pha mor hen yw adeilad) i lywio’r broses briodoli, yn seiliedig ar sgôr Tystysgrif Perfformiad Ynni gyfartalog (ganolrifol) ar gyfer eiddo gerllaw o fath tebyg, fel y disgrifir isod. 

Proses methodoleg priodoli’r cymydog agosaf:

  • dim ond cofnodion Tystysgrifau Perfformiad Ynni o 2012 ymlaen a ddefnyddiwyd, gan fod ansawdd y data cyn y dyddiad hwn yn llai dibynadwy
  • cafodd pob eiddo heb Dystysgrif Perfformiad Ynni ei baru ag anheddau tebyg (yn seiliedig ar fath o annedd, y cyfnod adeiladu, a deunydd adeiladu) yn ei ACEHI ei hun neu mewn ACEHIau uniongyrchol gyffiniol
  • amcangyfrifwyd sgôr Tystysgrif Perfformiad Ynni ar gyfer pob eiddo gan ddefnyddio sgôr gymedrig ei eiddo cyfagos agosaf o fath tebyg (gan lunio amcangyfrifon ar gyfer 98% o eiddo heb raddau dilys Tystysgrif Perfformiad Ynni)
  • ar gyfer eiddo heb ei baru, cafodd ymarfer priodoli ei gynnal eto gan ddefnyddio meini prawf paru llac: yn gyntaf, cafwyd gwared ar ddeunydd adeiladu fel maen prawf, yna caniatawyd paru eiddo ar draws yr awdurdod lleol 

Cyn cyfrifo sgoriau Tystysgrifau Perfformiad Ynni (a welwyd ac a briodolwyd) ar gyfer pob AGEHI, gwnaed addasiad terfynol i fynd i’r afael ac ystumio o bosibl o ganlyniad i baciau carafanau gwyliau. Yn yr ACEHIau dan sylw, cafodd nifer y carafanau (a’u sgoriau cysylltiedig) ei raddio i gyd-fynd â chyfrifon Cyfrifiad 2021 o aelwydydd a oedd yn preswylio mewn llety carafán.

Gweler adroddiad technegol Mynegeion Amddifadedd 2025 Lloegr (MHCLG) am ragor o fanylion am y dull gweithredu.

Ar wahân i hyn, mae uned gwyddor data Llywodraeth Cymru wedi defnyddio dysgu peirianyddol i greu set ddata rithwir ar gyfer Tystysgrifau Perfformiad Ynni i bob cartref yng Nghymru, sydd wedi cael ei defnyddio i sicrhau ansawdd y data a ddefnyddir yn MALlC. Rydym wedi defnyddio model symlach MHCLG ar gyfer MALlC 2025 gan y bydd hwn yn sicrhau cysondeb â’r dull gweithredu a ddefnyddir yn Lloegr, a gan fod effaith y dewis o ddata ar MALlC yn fach. Caiff y dewis hwn o ffynhonnell data ei adolygu cyn y mynegai nesaf wrth i brosiect yr uned gwyddor data ddatblygu.

Cymaroldeb gyda MALlC 2019

Dangosydd Newydd.

Llunio’r maes

Mae 4 dangosydd yn y maes tai, wedi'u rhannu'n ddau is-faes ac wedi'u pwysoli fel a ganlyn.

  • Is-faes argaeledd tai
    • aelwydydd sydd wedi'u gorlenwi 25%
    • anallu i fforddio dod yn berchen-feddiannydd neu fod yn y farchnad rhentu preifat 25%
  • Is-faes cyflwr tai:
    • ansawdd gwael 25%
    • effeithlonrwydd ynni 25%

Mae’r dangosyddion perthnasol ym mhob un o’r is-feysydd yn cael eu safoni drwy bennu safleoedd a thrawsffurfio i ddosbarthiad normal a chyfuno drwy ddefnyddio pwysoliadau cyfartal. 

Yna, mae sgoriau is-feysydd yn cael eu safoni drwy bennu safleoedd, sy’n rhoi safleoedd is-feysydd inni o ran argaeledd ac amodau. Yna, cafodd y ddwy set hyn o safleoedd eu trawsffurfio i ddosbarthiadau esbonyddol a’u cyfuno â phwysoliadau cyfartal i greu sgôr gyffredinol y maes. 

Mae gan y maes bwysau cymharol o 9% yn y mynegai cyffredinol. Mae hyn wedi cynyddu o 7% ym mynegai 2019, oherwydd ychwanegu dangosyddion newydd ar effeithlonrwydd ynni a'r anallu i fforddio tai addas.

Newid ers MALlC 2019

Ym MALlC 2025, mae dau ddangosydd newydd wedi cael eu cyflwyno yn y maes tai: 

  • yr anallu i fforddio dod yn berchen-feddianwyr neu ddod yn rhan o’r farchnad rhentu preifat (rhan o’r is-faes fforddiadwyedd tai)
  • effeithlonrwydd ynni (rhan o’r is-faes amodau tai)

Mae’r ychwanegiadau yn hyn adlewyrchu adborth a gafwyd yn ystod yr arolwg o gynigion MALlC 2025, lle roedd ymatebwyr yn cefnogi eu cynnnwys er mwyn cofnodi amddifadedd tai yn well. 

Mae’r maes yn parhau i gynnwys dangosydd ar orlenwi, sydd bellach yn seiliedig ar Gyfrifiad 2021, sy’n cofnodi agweddau ar argaeledd tai ac amodau byw. Fel yr esbonnir mewn adran flaenorol, mae’r dangosydd bellach yn adlewyrchu canran y cartrefi gorlawn, yn hytrach na chanran y bobl sy’n byw mewn cartrefi gorlawn (a ddefnyddiwyd ar gyfer MALlC 2019). 

O ganlyniad i’r newidiadau i’r dangosydd sy’n cofnodi amddifadedd tai yn well, mae’r maes tai wedi cael mwy o bwysoliad yn y mynegai cyffredinol ym MALlC 2025. Mae gan y maes bwysoliad cymharol o 9% yn y mynegai cyffredinol bellach, sy’n cynyddu o 7% ym mynegai 2019. 

Gwybodaeth ychwanegol

Oherwydd diffyg dewisiadau amgen cadarn ar lefel ardal fach, mae data a fodelwyd bellach yn cael eu defnyddio mewn 3 o’r 4 dangosydd yn y maes tai. Mae ein proses sicrhau ansawdd yn awgrymu bod tueddiadau cymharol a ddangoswyd yn y data yn dal i fod yn weddol gywir. Fodd bynnag, mae i ddata a fodelwyd gyfyngiadau o ran adlewyrchu effaith ymyriadau diweddar ym maes tai neu newidiadau eraill. Pan fydd penderfyniadau yn cael eu llywio, dylid defnyddio data a fodelwyd ochr yn ochr â gwybodaeth leol, gyfredol gadarn lle bynnag y bo modd. 

Yn ogystal â safleoedd meysydd a gwerthoedd dangosyddion, rydym wedi cyhoeddi safleoedd yr is-feysydd tai ar StatsCymru.

Atodiad 7.1: anallu i fforddio ymuno â’r farchnad i berchen-feddianwyr neu’r farchnad rhentu preifat ar gyfer MALlC 2025

Trosolwg 

Dangosydd newydd a ddatblygwyd ar gyfer MALlC 2025 gan Brifysgol Heriot-Watt yn mesur yr anhawster o gael mynediad at berchennog-feddiannaeth neu'r farchnad rhentu breifat. Mae'n canolbwyntio'n bennaf ar aelwydydd iau (gyda phennaeth o dan 40 oed), gan asesu eu gallu i fforddio prynu neu rentu cartref o faint addas am brisiau trothwy lleol a rhenti yn 2023. Mae'r dangosydd yn ymgorffori elfen eilaidd ar gyfer rhentwyr preifat hŷn (rhwng 40 a 65 oed), sy'n adlewyrchu bregusrwydd cynyddol y grŵp hwn. 

Mae'r dangosyddion hyn yn debyg i'r rhai a ddarperir i'r Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol (MHCLG) i ddiweddaru mynegeion amddifadedd Lloegr.

Disgrifiad y dangosydd

Mae’r dangosydd yn seiliedig yn bennaf ar y cyfrannau amcangyfrifedig o aelwydydd iau (o dan 40 oed) sy’n gallu: 

  • fforddio prynu cartref o faint priodol (yn seiliedig ar gyfansoddiad yr aelwyd) ar lefel y pris trothwy lleol yn 2023
  • fforddio rhentu cartref o faint priodol yn y farchnad breifat ar lefel y rhent trothwy lleol yn 2023 

Y nod yw cofnodi’r garfan o aelwydydd sy’n ymuno â’r farchnad dai yn seiliedig ar y gydnabyddiaeth bod y rhan fwyaf o brynwyr tro cyntaf yn y grŵp oedran oedolion iau. 

Mae’r dangosydd hefyd yn ystyried grŵp ychwanegol sydd mewn angen o bosibl drwy gynnwys amcangyfrifon ar gyfer cyfran y ‘rhentwyr preifat hŷn’ (gyda phenteulu 40 i 65 oed) sy’n gallu fforddio prynu neu rentu ar y farchnad yn eu hardal leol. Mae’r grŵp hwn wedi tyfu o ran maint ac mae’n dal yn gymharol fwy bregus o ran fforddiadwyedd, diogelwch ac ansawdd annedd ac felly’n ymgeiswyr posibl am ddewisiadau mwy fforddiadwy. 

Y rhesymeg dros ganolbwyntio ar y grwpiau hyn yw mai’r rhain fyddai prif darged polisïau tai a chynllunio lleol ar gyfer darparu tai cymdeithasol a fforddiadwy ychwanegol. 

Amcangyfrifon sy’n seiliedig ar y model yw’r holl ddangosyddion ac maent ar gael i lawr i lefel ardal ehangach haen is (AGEHI). Mae’r fethodoleg yn dilyn yn fras yr un a ddefnyddiwyd ym mynegeion amddifadedd 2015 a 2019 yn Lloegr, ond gyda rhai newidiadau methodolegol manwl, ac estyniad i rentwyr preifat hŷn. 

Gan ddefnyddio’r pedair set hyn o gyfrannau amcangyfrifedig, rydym yn cyfrifo mesur ‘fforddiadwyedd tai’ o anhawster i gael tai ar gyfer y ddau grŵp oedran ar wahân, drwy wrth-droi, safoni a chyfuno’r elfennau ‘prynu’ a ‘rhentu’ â phwysoliad cyfartal. Yna, caiff y ddau fesur hyn eu cyfuno’n ddangosydd fforddiadwyedd tai cyffredinol sy’n mesur yr anallu i fforddio ymuno â’r farchnad i berchen-feddianwyr neu’r farchnad rhentu preifat. Gwneir hyn drwy safoni a chyfuno’r mesurau ar gyfer y ddau grŵp oedran â phwysoliad o 75% ar gyfer y grŵp iau a 25% ar gyfer rhentwyr preifat hŷn. Mae hyn yn adlewyrchu maint cymharol y poblogaethau hyn a, gellir dadlau, mae’n cynnig cynrychioliad rhesymol o’u pwysigrwydd cymharol ar gyfer polisïau tai a chynllunio. 

Dulliau a ffynonellau data

Ffynonellau data

Y prif ffynonellau data yw’r Arolwg o Adnoddau Teulu ar gyfer incwm a chyfansoddiad aelwydydd, Mynegai Prisiau Tai’r SYG (y Gofrestrfa Tir gynt) ar gyfer prisiau tai, a data o Swyddogion Rhenti Cymru (sy’n cyfateb i’r data gweinyddol a gesglir yn Lloegr gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio) ar gyfer rhenti. Roedd ffynonellau eraill a ddefnyddiwyd yn cynnwys ystod o ddata Cyfrifiad 2021 a data cyhoeddedig neu swyddogol eraill ar lefel AGEHI, gan gynnwys dosbarthiadau’r SYG o ACEHIau ac awdurdodau lleol yn seiliedig ar 2021, poblogaethau’r SYG ar gyfer AGEHIau, cyfrifon o hawlwyr NOMIS, a rhai dangosyddion eraill ar lefel awdurdod lleol, gan gynnwys o’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth a’r Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion. 

Mae data ar rentu preifat gan Swyddogion Rhenti Cymru yn adlewyrchu rhenti ymhlith tenantiaethau o hyd amrywiol. Mae’n bosibl nad yw’r data yn cynrychioli’n gywir gost sicrhau tenantiaeth newydd heddiw, am fod prisiau rhentu a hysbysebir yn dilyn amodau presennol y farchnad, sy’n uwch na thenantiaethau sy’n bodoli eisoes fel arfer. 

Incwm

Diffinnir incwm fel incwm o’r ‘uned fudd-dal gyntaf’ yn yr aelwyd, heb gynnwys incwm o fudd-daliadau sy’n dibynnu ar brawf modd, ac o fudd-daliadau y bwriedir iddynt gwmpasu’r costau ychwanegol sy’n gysylltiedig ag anabledd (lwfans byw i’r anabl, taliad annibyniaeth personol, lwfans gweini). Diffinnir yr uned fudd-dal gyntaf fel y prif ddeiliad ac unrhyw bartner lle mae person cyfeirio’r aelwyd o dan 40 oed. Bydd oedolion eraill sy’n bresennol mewn unrhyw aelwyd ‘gymhleth’ yn unedau budd-dal ar wahân, ac ni fydd eu hincwm yn cael ei gynnwys am na fyddai’r rhain yn cael eu hystyried yn incwm cyfrifadwy at ddibenion cael morgais ac am y tybir mai’r uned fudd-dal graidd a fyddai’n ceisio prynu neu rentu uned dai briodol. Mae hyn yn golygu nad yw ‘aelwydydd cudd’ (megis plant sy’n oedolion neu oedolion eraill sy’n byw mewn aelwyd fwy o faint) wedi eu cynnwys yn y mesur, er ei bod yn bosibl eu bod yn ceisio cael tai’n annibynnol hefyd.

Ardaloedd marchnad dai

O ran tybiaethau ynglŷn â ble mae teulu penodol yn ceisio byw o bosibl, mae’r dull gweithredu yn defnyddio daearyddiaethau "ardal marchnad dai" yn hytrach nag AGEHIau, am fod pobl yn debygol o ymgyrraedd yn ehangach na ffin AGEHI wrth geisio prynu neu rentu. Mae’n debygol hefyd y byddai data annigonol ar brisiau a rhenti ar lefel ardal fach i ddeillio costau trothwy dibynadwy ar gyfer llety o faint gwahanol i’w mewnbynnu i’r model hwn.

Cyfrifwyd prisiau tai a rhenti trothwy ar gyfer Lloegr mewn gwaith blaenorol ar gyfer Ardaloedd Marchnad Dai a oedd yn deillio o’r astudiaeth yn 2010 The Geography of Housing Market Areas in England. Jones, Coombes a Wong (2010), a gwblhawyd ar ran yr Uned Tai a Chyngor Cynllunio Genedlaethol gynt ac a gyhoeddwyd gan yr Adran Llywodraeth Leol a Chymunedau.

Nod y gwaith hwn oedd nodi’r ardaloedd optimaidd lle y dylid cyflawni gwaith cynllunio ar gyfer tai, gan ddefnyddio data’r Cyfrifiad am batrymau cymudo a mudo. Defnyddiwyd haen isaf ardaloedd marchnad dai leol at y diben hwn, gyda data ar brisiau ar lefel ardal fach a data ar renti ar lefel awdurdod lleol wedi’u dosrannu i ardaloedd marchnad dai leol. Caiff yr un dull ei ddilyn ar gyfer Cymru. 

Ffigur 1: Map o ardaloedd marchnad dai leol yng Nghymru a ddefnyddiwyd yn MALlC 2025
Image

Disgrifiad o ffigur 7.1: mae’r map yn dangos bod y 35 o ardaloedd marchnad dai leol canlyniadol yn agos i’r ardaloedd awdurdod lleol presennol, gydag is-raniadau mewn sawl achos. Awgrymodd archwiliad o wybodaeth lefel ward 2001 ar yr ardaloedd marchnad dai leol ar gyfer Cymru mai dim ond mewn un pâr o awdurdodau (Castell-nedd Port Talbot a Phen-y-bont ar Ogwr) roedd ardaloedd lle roedd croesi helaeth dros ffiniau awdurdodau lleol, ynghyd â thri math o awdurdod ‘cymoedd’ mwy o faint lle roedd ardaloedd marchnad dai llai o faint yn cynrychioli cymoedd gwahanol yn rhan o’r system. Yn ogystal â hynny, roedd tri awdurdod gwledig mawr hefyd wedi’u rhannu’n fwy nag un ardal marchnad dai. 

Defnyddiwyd data ar renti ar gyfer awdurdodau lleol i amcangyfrif yn fras ddata rhenti ar gyfer ardaloedd marchnad dai leol gan ddefnyddio tystiolaeth ar y berthynas rhwng rhenti a phrisiau: tybiwyd y byddai rhenti yn amrywio rhwng gwahanol rannau o awdurdodau lleol/ardaloedd marchnad dai leol yn gymesur â’r amrywiad ym mhrisiau tai i’r radd 0.7. Roedd y gwaith o fapio ardaloedd marchnad dai leol ar ACEHIau yn golygu brasamcanion, gan fod yr ACEHIau wedi’u llunio o wardiau a bod rhai yn croesi’r ffin â Lloegr yn wreiddiol. 

Nid yw'r mesur yn anelu at gofnodi amrywiad o ran prisiau tai rhwng ardaloedd bach o fewn awdurdod na dinas benodol, ac nid yw ychwaith yn ceisio cofnodi argaeledd na chyflenwad tai addas. Yn hytrach, mae'n adlewyrchu'r amrywiad tebygol o ran incwm aelwydydd a gofynion o ran ystafelloedd gwely ar y lefel ardal fach, ochr yn ochr â chost tai trothwy yn seiliedig ar yr ardal marchnad dai ehangach. Y nod yw amcangyfrif pa mor debygol ydyw y gall aelwydydd mewn ardal fach yn rhesymol fforddio prynu neu rentu cartref addas o fewn yr ardal farchnad ehangach, os tybir y gall pobl symud pellter rhesymol i ddod o hyd i dŷ fforddiadwy.

Er bod setiau data eraill, megis Ystadegau prisiau tai ar gyfer ardaloedd bach yng Nghymru a Lloegr (SYG), yn canolbwyntio ar amrywiadau mewn prisiau lleol, mae’r mesur hwn yn ystyried amgylchiadau aelwydydd ac yn tybio y gall pobl symud pellter rhesymol i ddod o hyd i dai fforddiadwy. 

Er enghraifft, efallai na fydd aelwyd sy’n byw mewn cymdogaeth incwm cymharol isel yn gallu fforddio tai yn ei chyffiniau, ond gallai o bosibl fforddio eiddo addas mewn rhan gyfagos o’r ardal marchnad dai ehangach. Mae’r mesur yn adlewyrchu hyn drwy gyfuno data ar incymau lleol a chyfansoddiad aelwydydd â throthwyon costau tai a bennir ar lefel y farchnad ehangach, yn hytrach na cheisio cofnodi mân wahaniaethau mewn prisiau rhwng cymdogaethau cyfagos.

Trothwyon a meini prawf fforddiadwyedd 

Mae’n rhaid i aelwyd, p’un a yw’n prynu neu’n rhentu, gyrraedd dau drothwy fforddiadwyedd sy’n seiliedig ar gymhareb, un sy’n ymwneud â chymhareb pris tŷ neu rent i incwm, a’r llall yn seiliedig ar gymhareb incwm net gweddilliol ar ôl costau tai i safon sy’n seiliedig ar ofynion sylfaenol aelwyd, gan ganiatáu ar gyfer cyfansoddiad yr aelwyd. Diweddarwyd meini prawf a ddefnyddiwyd mewn gwaith blaenorol i gyfrif am ddadansoddiadau academaidd, arferion marchnad, a thystiolaeth ddiweddar ynglŷn â dewisiadau tai grwpiau targed allweddol. 

Trothwyon prisiau/rhent: Mae’r pris trothwy yn seiliedig ar chwartel isaf pob gwerthiant o fewn grwpiau maint (1, 2, 3 a 4+ o ystafelloedd gwely) ar lefel Ardal Marchnad Dai, ac yn yr un modd chwartel isaf rhenti marchnad breifat o fewn grwpiau maint. Mae’r meini prawf ynglŷn â maint ar gyfer fforddiadwyedd i brynu yn cynnwys ystafell wely sbâr. Ar gyfer fforddiadwyedd i rentu yn y farchnad, y categori maint isaf a gafodd ei gynnwys oedd un ystafell wely. 

Cymhareb prisiau/rhent i incwm: Ar gyfer prynu, y gymhareb yw lluosydd benthyca o incwm gros i’r morgais mwyaf a ganiateir (4.0 ar gyfer un enillydd 3.6 ar gyfer 2 enillydd), ond ar gyfer rhentwyr byddai cymhareb rhent i incwm net o 30%. 

Ar gyfer prynu tŷ, tybir y byddai morgais o 95% yn cael ei drefnu ond ceir lwfans hefyd ar gyfer cynilion ‘dros ben’ (dros £12,000) sydd gan yr aelwyd eisoes i’w cyfrannu. Gall rhai aelwydydd brynu diolch i drosglwyddiadau mawr o gyfoeth gan rieni neu berthnasau eraill; nid yw’r dangosydd yn cynnwys lwfans am hyn. Mae’r lluoswyr benthyca a ddewisir yn adlewyrchu ymarfer diweddar ac maent yn gyson â’r gymhareb talu i incwm net o 30% gyda chyfraddau llog o tua 4% a chyfnod morgais o 30 mlynedd (byddai cyfnodau a lluoswyr gwahanol yn gymwys i rentwyr hŷn yn dibynnu ar oedran).

Cymhareb incwm gweddilliol i ofyniad sylfaenol: Ar gyfer y ddwy ddeiliadaeth, pennir y gymhareb incwm gweddilliol ar 1.4 gwaith swm sy’n deillio o 90% o eitemau cyllideb graidd a ddewisir o’r Safon Lleiafswm Incwm.

Dilyniant modelu

Caiff y dangosydd ei fodelu drwy ddefnyddio data’r Arolwg o Adnoddau Teulu, gan fod hyn yn cynnwys sampl fawr (yn cronni pedair blwyddyn o ddata) a’r data mwyaf awdurdodol ar incwm a budd-daliadau. Y blynyddoedd o ddata a ddefnyddiwyd oedd: 2023/24, 2022/23, 2021/22 a 2019/20 .

Caiff mesurau o incwm a fforddiadwyedd eu hamcangyfrif mewn camau. Yn gyntaf, caiff model ei lunio drwy ddefnyddio newidynnau penodol yn nata arolwg sampl yr Arolwg o Adnoddau Teulu i ragfynegi’r mesurau o incwm a fforddiadwyedd. Yna, caiff set ddata o newidynnau rhagfynegyddion cyfatebol ei chreu drwy ddefnyddio’r Cyfrifiad a ffynonellau eraill. Yna, caiff paramedrau’r model rhagfynegol o waith dadansoddi’r Arolwg o Adnoddau Teulu eu cymhwyso i greu gwerthoedd a ragfynegwyd ar gyfer y mesurau o incwm a fforddiadwyedd ar lefel AGEHI. Yna, caiff yr amcangyfrifon hyn ar lefel AGEHI eu haddasu ar gyfer cysondeb gan ddefnyddio gwerthoedd rheoli sy’n seiliedig ar fathau o ardal (p’un a ydynt mewn rhanbarthau â phrisiau uwch neu is) a chategorïau o awdurdodau lleol, gan gymhwyso dull addasu iteraidd. 

Ar y cam olaf, bwriwyd golwg dros y gwerthoedd a ragwelwyd wedi’u rheoli gan AGEHIau unigol am allanolynnau neu achosion coll. Yn yr achosion hyn, byddai amcangyfrif amgen yn cael ei lunio drwy ddefnyddio ‘elastigeddau fforddiadwyedd’ (a luniwyd yng ngwaith dadansoddi’r Arolwg o Adnoddau Teulu) a gymhwysir at wahaniaethau o ran pris neu rent o gyfartaleddau grŵp. 

Mae’r dull gweithredu yn cynnwys modelu incymau a fforddiadwyedd ledled Cymru a Lloegr yn eu cyfanrwydd, gyda’r un swyddogaethau rhagfynegol yn cael eu cymhwyso at y ddau am nad yw niferoedd sampl yr Arolwg o Adnoddau Teulu i Gymru yn ddigon i fodelu’n effeithiol i Gymru yn unig. Fodd bynnag, ar gam rheoli’r amcangyfrifon, caiff cyfraddau fforddiadwyedd a ragfynegwyd eu gwirio i sicrhau eu bod yn gyson â micro-amcangyfrifon yr Arolwg o Adnoddau Teulu ar lefel Cymru.

Cyfyngiadau ac ystyriaethau 

Aelwydydd cudd

Mae’r mesur yn canolbwyntio ar incwm yr ‘uned fudd-dal gyntaf’ mewn aelwyd ac nid yw’n cynnwys oedolion eraill mewn aelwydydd cymhleth. Mae hyn yn golygu nad yw aelwydydd cudd (megis plant sy’n oedolion neu unigolion nad ydynt yn perthyn sy’n byw mewn aelwyd fwy o faint) yn cael eu cofnodi, er eu bod yn wynebu rhwystrau o ran fforddiadwyedd o bosibl. 

Mae'r rhan fwyaf o aelwydydd newydd yn cael eu ffurfio o fewn yr ystod oedran hyd at 40, felly tybir bod y grŵp hwn yn darparu cynrychiolaeth eang o aelwydydd newydd sy'n dod i mewn ac yn ymsefydlu yn y system dai.

Data ar rentu preifat 

Caiff y data ar renti a ddefnyddir eu cyrchu ar lefel awdurdod lleol, sy’n cyfyngu ar y gallu i adlewyrchu amrywiadau manylach mewn rhenti o fewn awdurdodau (ac mae rhai o’r ardaloedd marchnad dai leol a ddefnyddir yn is-raniadau llai o awdurdodau lleol). Hefyd, mae’n bosibl bod y data yn tangynrychioli landlordiaid bach ac yn hepgor tenantiaethau sy’n cynnwys budd-dal tai, sydd o bosibl yn ystumio canlyniadau i ffwrdd o begwn isaf y farchnad.

Ardaloedd marchnad dai

Mae trothwyon fforddiadwyedd ar gyfer pob AGEHI yn seiliedig ar ardaloedd marchnad dai ehangach (yn hytrach na chymdogaethau unigol). Mae hyn yn adlewyrchu’r dybiaeth y gall aelwydydd symud pellter rhesymol i gael tai a ddymunir, ond mae’n golygu nad yw’r mesur yn cofnodi gwahaniaethau lleol iawn mewn prisiau.

Ffocws ar ddeiliadaeth ac oedran

Mae’r dangosyddion yn targedu aelwydydd iau (o dan 40 oed) a rhentwyr preifat hŷn (40 i 65 oed), yn seiliedig ar eu perthnasedd i bolisïau tai. Fodd bynnag, gall heriau o ran fforddiadwyedd hefyd effeithio ar grwpiau eraill nas cwmpesir yn uniongyrchol. Nid yw’r dangosydd cyffredinol yn cyfrif am amrywiadau o ran dosbarthiad oedran rhwng rhannau o Gymru, hynny yw, caiff y ddau ddangosydd eu cyfuno’n fesur cyffredinol gan ddefnyddio’r un pwysoliad ar gyfer pob ardal fach, pwysoliad o 75% ar gyfer y grŵp iau a phwysoliad o 25% ar gyfer rhentwyr preifat hŷn.

Fodd bynnag, byddwn yn cyhoeddi'r data dangosydd ar gyfer pob cydran (yn ôl oedran a deiliadaeth) ar wahân, gan alluogi ar gyfer dadansoddi pellach os bydd angen.

Trothwyon fforddiadwyedd 

Mae’r mesur yn defnyddio dau faen prawf: cymhareb cost tai i incwm ac incwm gweddilliol ar ôl costau tai, yn seiliedig ar dystiolaeth a gwaith modelu wedi’u diweddaru. Er bod y trothwyon hyn yn gadarn, maent yn dal i symleiddio amgylchiadau aelwydydd cymhleth.

Cyfyngiadau oherwydd maint samplau

Ar gyfer rhentwyr preifat hŷn, mae maint y samplau yn yr Arolwg o Adnoddau Teulu yn gymharol fach, sy’n cyfyngu ar fanwl gywirdeb amcangyfrifon ac sy’n gofyn am grwpio ardaloedd i gyrraedd y trothwyon adrodd isaf gofynnol.

Atodiad 7.2: dangosydd tai o ansawdd gwael

Trosolwg

Fe wnaethom gomisiynu'r Sefydliad Ymchwil Adeiladu (BRE) i ddatblygu dangosydd tai o ansawdd gwael i Gymru ar gyfer MALlC 2025, ar lefel ardal fach (ACEHI). Defnyddiodd BRE fethodoleg debyg i'r un a ddefnyddiwyd ganddo ar gyfer MALlC 2019, pan y crëwyd y dangosydd am y tro cyntaf. Cyfrifir y dangosydd gan ddefnyddio model sy'n seiliedig ar ddata arolygon, sy'n gwneud rhagfynegiadau probabilaidd am anheddau ar lefel unigolyn yng Nghymru, gan ddefnyddio amrywiaeth o setiau data gweinyddol fel mewnbynnau.

Disgrifiad o’r dangosydd 

Yn gysyniadol, diben y maes tai yw nodi tai annigonol, o ran cyflwr ffisegol, amodau byw ac argaeledd. Mae'r dangosydd tai o ansawdd gwael yn amcangyfrif y tebygolrwydd y bydd anheddau mewn ardal benodol: 

  • yn cynnwys un o beryglon Categori 1 ar gyfer oerni gormodol, cwympo neu beryglon eraill o dan y System Mesur Iechyd a Diogelwch Tai (HHSRS)
  • neu mewn cyflwr gwael 

Mae'r ddau fesur hyn yn ddangosyddion defnyddiol a sefydlog o amddifadedd tai, a ddefnyddiwyd hefyd ar gyfer diweddariad 2025 o fynegai amddifadedd lluosog Lloegr (MHCLG).

Peryglon

Defnyddir y System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai (MHCLG) (HHSRS) gan Lywodraeth Cymru fel gweithdrefn asesu risg seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer eiddo preswyl. Mae'r HHSRS yn ffordd o nodi diffygion mewn anheddau a gwerthuso effaith bosibl unrhyw ddiffygion ar iechyd a diogelwch meddianwyr, ymwelwyr, cymdogion a phobl sy'n mynd heibio. Mae'r system yn darparu ffordd o sgorio difrifoldeb unrhyw berygl am ei bod yn bosibl gwahaniaethu rhwng mân beryglon a'r peryglon hynny lle mae risg uniongyrchol o niwed mawr neu hyd yn oed farwolaeth. Rhoddir y pwyslais ar effaith bosibl unrhyw ddiffygion ar iechyd a diogelwch meddianwyr, ymwelwyr ac, yn enwedig, bobl sy'n agored i niwed. Mae'r HHSRS yn cynnwys 29 o beryglon. At ddibenion y broses fodelu hon, cafodd peryglon eu grwpio i'r tri chategori canlynol:

  1. oerni gormodol
  2. cwympo (sy'n cynnwys cwympo ar y grisiau, cwympo ar arwynebau gwastad a chwympo sy'n gysylltiedig â baddonau)
  3. arall (pob perygl arall)

Cofnodwyd anheddau lle roedd o leiaf un perygl Categori 1 (peryglon a allai achosi niwed eithafol) fel rhai a oedd wedi methu'r asesiad. Dywedir bod gan annedd berygl Categori 1 o ganlyniad i oerni gormodol os oes bygythiad difrifol o dymheredd is na'r hyn sy'n dderbyniol dan do. Dywedir bod gan annedd berygl Categori 1 o ran cwympo os credir bod perygl difrifol o gwympo ar y grisiau, rhwng lefelau, ar arwynebedd gwastad neu gwympo mewn bath, cawod neu gyfleuster tebyg.

Cyflwr gwael

Defnyddiwyd yr un maen prawf cyflwr gwael ag a ddefnyddiwyd yn y Safon Tai Boddhaol (Lloegr) (MHCLG), (yr un maen prawf ag a ddefnyddiwyd ar gyfer diweddariad 2019 o fynegai amddifadedd lluosog Lloegr (MHCLG). Mae'r ffaith bod annedd wedi methu â bodloni'r maen prawf Cyflwr Gwael yn golygu bod cydrannau penodol adeilad mewn cyflwr gwael, a ddiffinnir fel:

  1. mae un gydran allweddol adeilad neu fwy yn hen ac, oherwydd ei chyflwr/eu cyflwr, mae angen ei/eu hadnewyddu neu ei/eu hatgyweirio'n sylweddol
  2. mae dwy gydran arall adeilad neu fwy yn hen ac, oherwydd eu cyflwr, mae angen eu hadnewyddu neu eu hatgyweirio'n sylweddol

Cydrannau allweddol adeilad yw'r cydrannau hynny a allai, os ydynt mewn cyflwr gwael, gael effaith uniongyrchol ar gyfanrwydd yr adeilad ac achosi i gydrannau eraill ddirywio ymhellach. Maent yn gydrannau allanol ynghyd â chydrannau mewnol y mae iddynt oblygiadau posibl o ran diogelwch ac maent yn cynnwys y canlynol:

  • waliau allanol
  • strwythur a gorchudd y to
  • ffenestri/drysau
  • simneiau
  • boeleri gwres canolog
  • tanau nwy
  • gwresogyddion stôr
  • gwaith plymio
  • systemau trydan

Cydrannau eraill adeilad yw'r cydrannau hynny sy'n cael effaith lai uniongyrchol ar gyfanrwydd yr annedd. Felly, ystyrir eu heffaith ar y cyd, gydag annedd yn methu â chyrraedd y safon cyflwr gwael os bydd dwy elfen neu fwy yn hen a bod angen eu hadnewyddu neu eu hatgyweirio'n sylweddol ar unwaith.

Dulliau a ffynonellau data

Roedd y dull a ddefnyddiwyd i greu'r data wedi'u modelu yn cynnwys:

  • defnyddio data o arolygon cyflwr tai lle y cynhaliodd syrfewyr profiadol archwiliadau ffisegol o sampl o eiddo o bob deiliadaeth (gan gynnwys mesur cyflwr gwael a'r risg o beryglon ar gyfer pob math o annedd)
  • llunio model gan ddefnyddio'r data hyn er mwyn rhagweld y tebygolrwydd o dai o ansawdd gwael yn seiliedig ar nifer o ragfynegyddion (megis oedran, y math o dŷ, maint, deiliadaeth, adeiladwaith a newidynnau ynni megis gwres a'r math o danwydd)
  • cymhwyso'r model hwn i bob annedd yng Nghymru, gan ddefnyddio data o amrywiol ffynonellau (gan gynnwys data Arolwg Ordnans, Cofrestrfa Tir a Thystysgrifau Perfformiad Ynni) er mwyn darparu'r elfennau gofynnol
  • meincnodi'r canlyniadau i'r amcangyfrifon cenedlaethol o ansawdd tai gwael

Caiff y broses fodelu uchod ei chynnal ar wahân ar gyfer yr agweddau ar dai o ansawdd gwael a restrir isod (ac a ddiffinnir ymhellach yn yr is-adrannau canlynol), ar lefel annedd:

  • presenoldeb perygl Categori 1 ar gyfer oerni gormodol (gan ddefnyddio sgoriau SAP fel mesur procsi)
  • presenoldeb perygl Categori 1 ar gyfer cwympo
  • presenoldeb perygl Categori 1 ar gyfer perygl arall ac eithrio oerni gormodol neu gwympo
  • diffyg atgyweirio

Caiff annedd ei gyfrif fel tŷ o ansawdd gwael os rhagwelir bod ganddo unrhyw un o'r nodweddion uchod. Caiff data amcangyfrifedig ar gyfer anheddau unigol eu cyfuno wedyn i lefel ACEHI er mwyn rhoi cyfradd o anheddau yr ystyrir eu bod yn dai o ansawdd gwael ar gyfer pob ACEHI.

Datblygu model stoc dai i Gymru 

Mae BRE wedi datblygu ac wedi defnyddio modelau stoc dai BRE ers sawl blwyddyn. Defnyddir y modelau lefel annedd hyn i amcangyfrif y tebygolrwydd y bydd annedd benodol yn bodloni'r meini prawf dan sylw. Wedyn, gellir mapio'r allbynnau hyn er mwyn darparu dosbarthiad daearyddol o bob un o'r dangosyddion. Mae'r broses ei hun yn cynnwys amrywiaeth o ffynonellau data, cyfrifiadau a modelau. 

Mae'r model stoc dai a ddatblygwyd i Gymru yn cynnwys y setiau data canlynol: 

  • Data daearyddol yr Arolwg Ordnans
  • Data ar lefel annedd Experian
  • Data Xoserve

Wedyn, cafodd setiau data eraill eu hintegreiddio yn y model sylfaenol hwn er mwyn darparu gwell gwybodaeth am ddeiliadaeth anheddau a data ynni anheddau: 

  • Data Rhentu Doeth Cymru
  • Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC)
  • Data Perchenogaeth Fasnachol a Chorfforaethol y Gofrestrfa Tir (CCOD)
  • Data Tystysgrifau Perfformiad Ynni

Defnyddiwyd rhestr cyfeiriadau Cymru fel y sylfaen i gysylltu'r setiau data eraill a ffurfio'r gronfa ddata ar gyfer y model. Wedyn, defnyddiwyd y data lefel annedd ar gyfer Cymru i lunio'r model ar gyfer anheddau mewn cyflwr gwael ac anheddau lle roedd o leiaf un o beryglon Categori 1 HHSRS yn bresennol. 

Nodi peryglon Categori 1 HHSRS 

Mae BRE wedi datblygu dull o benderfynu a yw annedd yn methu â bodloni maen prawf Oerni gormodol HHSRS: bwriedir i fodel ynni symlach SimpleCO2 BRE amcangyfrif sgoriau SAP gan ddefnyddio cyn lleied o ddata â phosibl. Mae'n adnodd delfrydol ar gyfer sefyllfaoedd lle nad yw anheddau wedi cael eu harolygu'n fanwl ond mae angen mesur eu heffeithlonrwydd ynni. Ar gyfer peryglon eraill HHSRS, defnyddiwyd dull dadansoddi atchwel logistaidd safonol BRE. 

Nodi cyflwr gwael 

Er mwyn nodi anheddau mewn cyflwr gwael, defnyddiwyd y dull dadansoddi atchwel logistaidd i nodi cydberthnasau rhwng cyflwr gwael ac amrywiol anheddau a nodweddion cymdeithasol. Ar ôl i'r cydberthnasau hyn gael eu nodi, fe'u defnyddiwyd i lunio model atchwel sy'n cyfrifo'r tebygolrwydd y bydd annedd yn methu â bodloni'r maen prawf cyflwr gwael. 

Pennu'r dangosydd tai gwael 

Ar gyfer dangosyddion 2019, defnyddiwyd data o Arolwg Cyflwr Tai Cymru i feincnodi'r data a fodelwyd; fodd bynnag, nid oes diweddariad wedi bod i Arolwg Cyflwr Tai Cymru eto. Yn hytrach, amcangyfrifwyd meincnodau tybiannol 2023 drwy gymharu newidiadau ym mhob dangosydd ar gyfer rhanbarth Gorllewin Canolbarth Lloegr rhwng 2017 a 2023 a chymhwyso'r newid hwn i gyfansymiau Arolwg Cyflwr Tai Cymru 2017 i greu tebygolrwydd wedi'i addasu. 

Nododd adolygiad o ddata diweddaraf Arolwg Tai Lloegr nad oedd nodweddion tai rhanbarthol wedi newid yn sylweddol ers yr ymarfer modelu blaenorol, ac fel y cyfryw, dewiswyd Canolbarth Gorllewin Lloegr fel y rhanbarth cymharu ar gyfer Cymru, sy’n gyson â’r dull gweithredu a fabwysiadwyd yn y dadansoddiad blaenorol.

Ar ôl i'r model wedi'i feincnodi a oedd yn seiliedig ar yr elfennau cyflwr gwael a HHSRS gael ei lunio, fe'u cyfunwyd i lunio dangosydd tai o ansawdd gwael cyffredinol. Pe bai annedd yn methu â bodloni un neu fwy o'r elfennau, wedyn byddai'n methu'r Dangosydd tai o ansawdd gwael. Wedyn, cafodd yr allbynnau lefel annedd ar gyfer Cymru eu cyfuno i lefel ACEHI. 

Maes diogelwch cymunedol

Diben y maes hwn yw mesur amddifadedd sy'n ymwneud â byw mewn cymuned ddiogel. Mae'n cwmpasu profiadau gwirioneddol o droseddu a thân, yn ogystal â chanfyddiadau pobl o ddiogelwch pan fyddant allan yn yr ardal leol. Mae gan y maes bwysoliad cymharol o 5% yn y mynegai cyffredinol.

Dangosyddion

Trais gydag anaf

Math o ddangosydd

Cyfradd fesul 100 o'r boblogaeth sy'n wynebu risg.

Rhifiadur

Nifer y digwyddiadau a gofnodwyd gan yr heddlu ym mhob un o'r is-gategorïau ‘trais gydag anaf’, yn ogystal â phob categori ‘lladdiad’.

Enwadur

Cyfanswm y boblogaeth breswyl yn ogystal ag amcangyfrif o'r boblogaeth amhreswyl mewn gweithleoedd.

Ffynhonnell a chyfnod amser

Troseddau a gofnodwyd gan yr heddlu a gasglwyd gan y Swyddfa Gartref; chwe blynedd o ddata blwyddyn ariannol o fis Ebrill 2018 i fis Mawrth 2024.

Cyfanswm y boblogaeth breswyl (y SYG), amcangyfrifon canol blwyddyn 2018 i 2022.

Poblogaeth amhreswyl: Ar gyfer y ddwy flwyddyn ariannol cyn y pandemig, sef 2018 i 2019 a 2019 i 2020, cymerwyd y boblogaeth amhreswyl mewn gweithleoedd o Gyfrifiad 2011; ar gyfer y ddwy flwyddyn ariannol yn ystod y pandemig, sef 2020 i 2021 a 2021 i 2022, cymerwyd y boblogaeth amhreswyl mewn gweithleoedd o Gyfrifiad 2021; ac ar gyfer y ddwy flwyddyn ariannol ar ôl y pandemig, sef 2022 i 2023 a 2023 i 2024, cyfrifwyd y boblogaeth amhreswyl mewn gweithleoedd fel cyfartaledd gwerthoedd Cyfrifiad 2011 a Chyfrifiad 2021.

Nodiadau ychwanegol

Darperir rhestr lawn o'r codau troseddau sydd wedi'u cynnwys yn y dangosydd yn atodiad 8.1.

Cymaroldeb gyda MALlC 2019

Na. Dangosydd newydd yw hwn ac mae'n un o bedwar sy'n disodli'r dangosydd trais yn MALlC 2019.

Trais heb anaf

Math o ddangosydd

Cyfradd fesul 100 o'r boblogaeth sy'n wynebu risg.

Rhifiadur

Nifer y digwyddiadau a gofnodwyd gan yr heddlu ym mhob un o'r is-gategorïau ‘trais heb anaf’.

Enwadur

Cyfanswm y boblogaeth breswyl yn ogystal ag amcangyfrif o'r boblogaeth amhreswyl mewn gweithleoedd.

Ffynhonnell a chyfnod amser

Troseddau a gofnodwyd gan yr heddlu a gasglwyd gan y Swyddfa Gartref; chwe blynedd o ddata blwyddyn ariannol o fis Ebrill 2018 i fis Mawrth 2024.

Cyfanswm y boblogaeth breswyl, (y SYG), amcangyfrifon canol blwyddyn 2018 i 2022.

Poblogaeth amhreswyl: Ar gyfer y ddwy flwyddyn ariannol cyn y pandemig, sef 2018 i 2019 a 2019 i 2020, cymerwyd y boblogaeth amhreswyl mewn gweithleoedd o Gyfrifiad 2011; ar gyfer y ddwy flwyddyn ariannol yn ystod y pandemig, sef 2020 i 2021 a 2021 i 2022, cymerwyd y boblogaeth amhreswyl mewn gweithleoedd o Gyfrifiad 2021; ac ar gyfer y ddwy flwyddyn ariannol ar ôl y pandemig, sef 2022 i 2023 a 2023 i 2024, cyfrifwyd y boblogaeth amhreswyl mewn gweithleoedd fel cyfartaledd gwerthoedd Cyfrifiad 2011 a Chyfrifiad 2021.

Nodiadau ychwanegol

Darperir rhestr lawn o'r codau troseddau sydd wedi'u cynnwys yn y dangosydd yn atodiad 8.1.

Cymaroldeb gyda MALlC 2019

Na. Dangosydd newydd yw hwn ac mae'n un o bedwar sy'n disodli'r dangosydd trais yn MALlC 2019.

Stelcio ac aflonyddu

Math o ddangosydd

Cyfradd fesul 100 o'r boblogaeth sy'n wynebu risg.

Rhifiadur

Nifer y digwyddiadau a gofnodwyd gan yr heddlu ym mhob un o'r is-gategorïau ‘stelcio ac aflonyddu’.

Enwadur

Cyfanswm y boblogaeth breswyl yn ogystal ag amcangyfrif o'r boblogaeth amhreswyl mewn gweithleoedd.

Ffynhonnell a chyfnod amser

Troseddau a gofnodwyd gan yr heddlu a gasglwyd gan y Swyddfa Gartref; chwe blynedd o ddata blwyddyn ariannol o fis Ebrill 2018 i fis Mawrth 2024.

Cyfanswm y boblogaeth breswyl, (y SYG), amcangyfrifon canol blwyddyn 2018 i 2022.

Poblogaeth amhreswyl: Ar gyfer y ddwy flwyddyn ariannol cyn y pandemig, sef 2018 i 2019 a 2019 i 2020, cymerwyd y boblogaeth amhreswyl mewn gweithleoedd o Gyfrifiad 2011; ar gyfer y ddwy flwyddyn ariannol yn ystod y pandemig, sef 2020 i 2021 a 2021 i 2022, cymerwyd y boblogaeth amhreswyl mewn gweithleoedd o Gyfrifiad 2021; ac ar gyfer y ddwy flwyddyn ariannol ar ôl y pandemig, sef 2022 i 2023 a 2023 i 2024, cyfrifwyd y boblogaeth amhreswyl mewn gweithleoedd fel cyfartaledd gwerthoedd Cyfrifiad 2011 a Chyfrifiad 2021. 

Nodiadau ychwanegol

Darperir rhestr lawn o'r codau troseddau sydd wedi'u cynnwys yn y dangosydd yn atodiad 8.1.

Cymaroldeb gyda MALlC 2019

Na. Dangosydd newydd yw hwn ac mae'n un o bedwar sy'n disodli'r dangosydd trais yn MALlC 2019.

Troseddau yn erbyn y drefn gyhoeddus

Math o ddangosydd

Cyfradd fesul 100 o'r boblogaeth sy'n wynebu risg.

Rhifiadur

Number of police recorded incidents in all sub-categories of ‘public order’ and ‘possession of weapon offences’.

Rhifiadur

Nifer y digwyddiadau a gofnodwyd gan yr heddlu ym mhob un o'r is-gategorïau ‘troseddau yn erbyn y drefn gyhoeddus’ a ‘throseddau meddu ar arfau’.

Enwadur

Cyfanswm y boblogaeth breswyl yn ogystal ag amcangyfrif o'r boblogaeth amhreswyl mewn gweithleoedd.

Ffynhonnell a chyfnod amser

Troseddau a gofnodwyd gan yr heddlu a gasglwyd gan y Swyddfa Gartref; chwe blynedd o ddata blwyddyn ariannol o fis Ebrill 2018 i fis Mawrth 2024.

Cyfanswm y boblogaeth breswyl, (y SYG), amcangyfrifon canol blwyddyn 2018 i 2022.

Poblogaeth amhreswyl: Ar gyfer y ddwy flwyddyn ariannol cyn y pandemig, sef 2018 i 2019 a 2019 i 2020, cymerwyd y boblogaeth amhreswyl mewn gweithleoedd o Gyfrifiad 2011; ar gyfer y ddwy flwyddyn ariannol yn ystod y pandemig, sef 2020 i 2021 a 2021 i 2022, cymerwyd y boblogaeth amhreswyl mewn gweithleoedd o Gyfrifiad 2021; ac ar gyfer y ddwy flwyddyn ariannol ar ôl y pandemig, sef 2022 i 2023 a 2023 i 2024, cyfrifwyd y boblogaeth amhreswyl mewn gweithleoedd fel cyfartaledd gwerthoedd Cyfrifiad 2011 a Chyfrifiad 2021.

Nodiadau ychwanegol

Darperir rhestr lawn o'r codau troseddau sydd wedi'u cynnwys yn y dangosydd yn atodiad 8.1.

Cymaroldeb gyda MALlC 2019

Na. Dangosydd newydd yw hwn ac mae'n un o bedwar sy'n disodli'r dangosydd trais yn MALlC 2019.

Bwrgleriaeth

Math o ddangosydd

Cyfradd fesul 100 eiddo sy'n wynebu risg.

Rhifiadur

Nifer y digwyddiadau a gofnodwyd gan yr heddlu ym mhob un o'r is-gategorïau ‘bwrgleriaeth’.

Enwadur

Anheddau preswyl ar lefel AGEHI o Gyfrifiad 2021 yn ogystal ag eiddo amhreswyl ar lefel AGEHI o Address Base yr Arolwg Ordnans.

Ffynhonnell a chyfnod amser

Data ar droseddau a gofnodwyd gan yr heddlu a gasglwyd gan y Swyddfa Gartref; chwe blynedd o ddata blwyddyn ariannol o fis Ebrill 2018 i fis Mawrth 2024.

Anheddau preswyl o Gyfrifiad 2021 yn ogystal ag eiddo annomestig o AddressBase Plus yr Arolwg Ordnans.

Nodiadau ychwanegol

Darperir rhestr lawn o'r codau troseddau sydd wedi'u cynnwys yn y dangosydd yn atodiad 8.1.

Cymaroldeb gyda MALlC 2019

Gellir ei gymharu, ar y cyfan.

Dwyn

Math o ddangosydd

Cyfradd fesul 100 o'r boblogaeth sy'n wynebu risg.

Rhifiadur

Nifer y digwyddiadau a gofnodwyd gan yr heddlu ym mhob un o'r is-gategorïau ‘dwyn’ a ‘lladrata’, ac eithrio ‘dwyn o siopau’.

Enwadur

Cyfanswm y boblogaeth breswyl yn ogystal ag amcangyfrif o'r boblogaeth amhreswyl mewn gweithleoedd.

Ffynhonnell a chyfnod amser

Troseddau a gofnodwyd gan yr heddlu a gasglwyd gan y Swyddfa Gartref; chwe blynedd o ddata blwyddyn ariannol o fis Ebrill 2018 i fis Mawrth 2024.

Cyfanswm y boblogaeth breswyl, (y SYG), amcangyfrifon canol blwyddyn 2018 i 2022.

Poblogaeth amhreswyl: Ar gyfer y ddwy flwyddyn ariannol cyn y pandemig, sef 2018 i 2019 a 2019 i 2020, cymerwyd y boblogaeth amhreswyl mewn gweithleoedd o Gyfrifiad 2011; ar gyfer y ddwy flwyddyn ariannol yn ystod y pandemig, sef 2020 i 2021 a 2021 i 2022, cymerwyd y boblogaeth amhreswyl mewn gweithleoedd o Gyfrifiad 2021; ac ar gyfer y ddwy flwyddyn ariannol ar ôl y pandemig, sef 2022 i 2023 a 2023 i 2024, cyfrifwyd y boblogaeth amhreswyl mewn gweithleoedd fel cyfartaledd gwerthoedd Cyfrifiad 2011 a Chyfrifiad 2021.

Nodiadau ychwanegol

Darperir rhestr lawn o'r codau troseddau sydd wedi'u cynnwys yn y dangosydd yn atodiad 8.1.

Cymaroldeb gyda MALlC 2019

Nid yw'n gymaradwy, ond mae'n debygol y bydd effaith amlwg mewn ardaloedd trefol wrth i niferoedd mawr a gaiff eu hystyried fel rhan o'r ‘boblogaeth amhreswyl mewn gweithleoedd’ gael eu cynnwys yn yr enwadur am y tro cyntaf, gan wneud yr ardaloedd hyn yn berthynol llai amddifad. O ganlyniad gallai ardaloedd mwy gwledig (na fydd eu henwadur yn newid fawr ddim) symud i fyny'r safleoedd amddifadedd wrth i ardaloedd trefol symud i lawr.

Difrod troseddol

Math o ddangosydd

Cyfradd fesul 100 o'r boblogaeth sy'n wynebu risg.

Rhifiadur

Nifer y digwyddiadau a gofnodwyd gan yr heddlu ym mhob un o'r is-gategorïau ‘difrod troseddol’ a ‘thanau bwriadol’.

Enwadur

Cyfanswm y boblogaeth breswyl yn ogystal ag amcangyfrif o'r boblogaeth amhreswyl mewn gweithleoedd.

Ffynhonnell a chyfnod amser

Troseddau a gofnodwyd gan yr heddlu a gasglwyd gan y Swyddfa Gartref; chwe blynedd o ddata blwyddyn ariannol o fis Ebrill 2018 i fis Mawrth 2024

Cyfanswm y boblogaeth breswyl, (y SYG), amcangyfrifon canol blwyddyn 2018 i 2022.

Poblogaeth amhreswyl: Ar gyfer y ddwy flwyddyn ariannol cyn y pandemig, sef 2018 i 2019 a 2019 i 2020, cymerwyd y boblogaeth amhreswyl mewn gweithleoedd o Gyfrifiad 2011; ar gyfer y ddwy flwyddyn ariannol yn ystod y pandemig, sef 2020 i 2021 a 2021 i 2022, cymerwyd y boblogaeth amhreswyl mewn gweithleoedd o Gyfrifiad 2021; ac ar gyfer y ddwy flwyddyn ariannol ar ôl y pandemig, sef 2022 i 2023 a 2023 i 2024, cyfrifwyd y boblogaeth amhreswyl mewn gweithleoedd fel cyfartaledd gwerthoedd Cyfrifiad 2011 a Chyfrifiad 2021.

Nodiadau ychwanegol

Darperir rhestr lawn o'r codau troseddau sydd wedi'u cynnwys yn y dangosydd yn atodiad 8.1.

Cymaroldeb gyda MALlC 2019

Nid yw'n gymaradwy, ond mae'n debygol y bydd effaith amlwg mewn ardaloedd trefol wrth i niferoedd mawr a gaiff eu hystyried fel rhan o'r ‘boblogaeth amhreswyl mewn gweithleoedd’ gael eu cynnwys yn yr enwadur am y tro cyntaf, gan wneud yr ardaloedd hyn yn berthynol llai amddifad. O ganlyniad gallai ardaloedd mwy gwledig (na fydd eu henwadur yn newid fawr ddim) symud i fyny'r safleoedd amddifadedd wrth i ardaloedd trefol symud i lawr.

Ymddygiad gwrthgymdeithasol

Math o ddangosydd

Cyfradd fesul 100 o'r boblogaeth sy'n wynebu risg.

Rhifiadur

Nifer y digwyddiadau ym mhob un o'r is-gategorïau ymddygiad gwrthgymdeithasol y rhoddir gwybod i'r heddlu amdanynt ac a gaiff eu cofnodi fel digwyddiadau heddlu, sy'n cynnwys achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol ‘personol’, ‘amgylcheddol’ a ‘niwsans’.

Enwadur

Cyfanswm y boblogaeth breswyl yn ogystal ag amcangyfrif o'r boblogaeth amhreswyl mewn gweithleoedd.

Ffynhonnell a chyfnod amser

Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu, heddluoedd Cymru; dwy flynedd o ddata blwyddyn ariannol o fis Ebrill 2022 i fis Mawrth 2024.

Cyfanswm y boblogaeth breswyl, (y SYG), amcangyfrifon canol blwyddyn 2018 i 2022.

Cyfrifwyd y gydran amhreswyl mewn gweithleoedd fel cyfartaledd gwerthoedd Cyfrifiad 2011 a Chyfrifiad 2021.

Nodiadau ychwanegol

Darparwyd achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol ar gyfer dwy flwyddyn ariannol, sef mis Ebrill 2022 i fis Mawrth 2023 a mis Ebrill 2023 i fis Mawrth 2024. Er y cafodd data ar ymddygiad gwrthgymdeithasol eu hadolygu hefyd ar gyfer y flwyddyn ariannol o fis Ebrill 2021 i fis Mawrth 2022, cafodd data ar gyfer mis Ebrill 2021 hyd at fis Mawrth 2022 eu gwrthod yn sgil pryderon am anghysondeb daearyddol arferion plismona ac arferion cofnodi mewn perthynas â thorri cyfyngiadau yn ystod y pandemig. Felly, er mwyn osgoi cyflwyno tueddiadau daearyddol, dim ond data ymddygiad gwrthgymdeithasol ar gyfer y cyfnod ar ôl y pandemig a gafodd eu cynnwys.

Darperir rhestr lawn o'r codau troseddau sydd wedi'u cynnwys yn y dangosydd yn atodiad 8.1.

Cymaroldeb gyda MALlC 2019

Nid yw'n gymaradwy, ond mae'n debygol y bydd effaith amlwg mewn ardaloedd trefol wrth i niferoedd mawr a gaiff eu hystyried fel rhan o'r ‘boblogaeth amhreswyl mewn gweithleoedd’ gael eu cynnwys yn yr enwadur am y tro cyntaf, gan wneud yr ardaloedd hyn yn berthynol llai amddifad. O ganlyniad gallai ardaloedd mwy gwledig (na fydd eu henwadur yn newid fawr ddim) symud i fyny'r safleoedd amddifadedd wrth i ardaloedd trefol symud i lawr.

Digwyddiadau tân

Math o ddangosydd

Cyfradd fesul 100 o'r boblogaeth sy'n wynebu risg.

Rhifiadur

Nifer y galwadau tân yr ymatebodd y gwasanaethau tân ac achub yng Nghymru iddynt.

Enwadur

Cyfanswm y boblogaeth breswyl heb gynnwys poblogaeth y carchardai.

Ffynhonnell a chyfnod amser

System Cofnodi Digwyddiadau'r Swyddfa Gartref; tair blynedd o ddata blwyddyn ariannol o fis Ebrill 2021 i fis Mawrth 2024.

Cyfanswm y boblogaeth breswyl (y SYG), amcangyfrifon canol blwyddyn 2021 i 2022.

Poblogaeth y carchardai, Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi.

Nodiadau ychwanegol

Mae'r dangosydd hwn yn casglu gwybodaeth am brofiadau go iawn o dân. Casglwyd nifer yr achosion o brif danau, tanau eilaidd a thanau simnai yn ôl AGEHI. 

Mae digwyddiadau lle mae angen galw gwasanaethau tân ac achub allan yn ymwneud ag amddifadedd ac yn fwy tebygol o ddigwydd mewn grwpiau difreintiedig.

Mae prif danau yn cynnwys pob tân mewn adeilad, cerbyd a strwythur awyr agored neu unrhyw dân lle mae pobl yn cael eu hanafu neu eu hachub neu unrhyw dân yr ymatebir iddo gan ddefnyddio pump neu fwy o offer. 

Tanau eilaidd yw'r mwyafrif o danau awyr agored, gan gynnwys tanau ar laswelltir a thanau sbwriel oni fydd pobl yn cael eu hanafu neu eu hachub, eiddo yn cael ei golli neu bump neu fwy o offer yn cael eu defnyddio i ymateb iddynt. 

Mae tanau simnai yn danau adroddadwy mewn adeiladau a feddiennir lle roedd y tân wedi'i gyfyngu i strwythur y simnai a lle nad oedd unrhyw un wedi cael ei anafu na'i achub ac nad ymatebwyd iddynt gan ddefnyddio pump neu fwy o offer.

Cymaroldeb gyda MALlC 2019

Ar y cyfan.

Llunio'r maes

Mae naw dangosydd yn y maes diogelwch cymunedol, sydd wedi'u pwysoli fel a ganlyn. Defnyddiwyd y dechneg dadansoddi ffactorau i gyfrifo pwysoliadau'r dangosyddion. 

  • 22% trais gydag anaf
  • 22% troseddau yn erbyn y drefn gyhoeddus
  • 18% difrod troseddol
  • 13% trais heb anaf
  • 8% stelcio ac aflonyddu
  • 4% dwyn
  • 3% bwrgleriaeth
  • 8% ymddygiad gwrthgymdeithasol
  • 2% digwyddiadau tân

Mae gan y maes bwysoliad cymharol o 5% yn y mynegai cyffredinol.

Newidiadau ers MALlC 2019

Bu sawl newid methodolegol i'r maes diogelwch cymunedol rhwng MALlC 2019 a MALlC 2025. Nodir rhestr lawn o'r newidiadau isod

Mae'r maes diogelwch cymunedol bellach yn cynnwys naw dangosydd, o gymharu â chwech yn MALlC 2019 (sef: trais, bwrgleriaeth, dwyn, difrod troseddol, ymddygiad gwrthgymdeithasol a digwyddiadau tân). Ar gyfer MALlC 2025, mae'r dangosydd trais wedi cael ei rannu yn dri dangosydd gwahanol sy'n ymwneud â thrais a dangosydd arall sy'n ymwneud â throseddau yn erbyn y drefn gyhoeddus a meddu ar arfau. Mae'r dangosyddion hyn yn rhoi adlewyrchiad gwell o'r lefel uwch o droseddau treisgar o gymharu â'r categorïau eraill ar lefelau cenedlaethol ac is-genedlaethol.

Mae'r maes bellach yn cynnwys cyfres fwy cynhwysfawr o droseddau hysbysadwy: tra bod dangosyddion trais a dwyn MALlC 2019 yn cynnwys is-setiau dethol o droseddau hysbysadwy yn ymwneud â dwyn a thrais cyffredinol, mae dangosyddion MALlC 2025 yn seiliedig ar y set gyflawn o gategorïau troseddau hysbysadwy (ac eithrio dwyn o siopau, sydd wedi'i hepgor o'r dangosydd dwyn). 

Mae'r cyfnod data ar gyfer y saith dangosydd yn seiliedig ar droseddau a gofnodwyd wedi cael ei ymestyn o ddwy i chwe blynedd. Mae'r gyfres amser estynedig hon yn gwneud y data yn fwy cadarn drwy leihau effeithiau anwadalrwydd data bach y gellir ei weld o un flwyddyn i'r llall mewn ystadegau troseddau AGEHI, er mwyn adlewyrchu'n well y risg ategol o fod yn ddioddefwr. 

Mae'r cyfnod data ar gyfer digwyddiadau tân wedi cael ei ymestyn o 2 flynedd i 3 blynedd. Gall nifer y digwyddiadau tân fod yn anwadal ac maent yn aml yn gysylltiedig â'r tywydd. Mae ymestyn i gyfnod tair blynedd yn golygu ei bod yn fwy tebygol y caiff ardaloedd sy'n tueddu i brofi tanau awyr agored eu cynnwys yn y data. 

Mae'r enwaduron ar gyfer chwech o'r saith dangosydd trosedd a'r dangosydd ymddygiad gwrthgymdeithasol bellach yn cynnwys cyfrifiad ar gyfer y ‘boblogaeth amhreswyl mewn gweithleoedd’ i gynhyrchu amcangyfrif deilliedig o'r ‘boblogaeth sy'n wynebu risg’.  Ystyriwyd bod hwn yn enwadur gwell na defnyddio'r boblogaeth breswyl am ei fod, i raddau, yn rhoi cyfrif am y boblogaeth fwy sy'n wynebu risg o fod yn ddioddefwyr mewn ardaloedd fel canol trefi a dinasoedd (gan adlewyrchu, er enghraifft, yr economi nos a ffactorau risg cysylltiedig o ran bod yn ddioddefwr). 

Mae poblogaeth carchardai bellach wedi'u cynnwys yn yr enwadur hwn, gan fod crynodiadau o droseddau treisgar wedi'u canfod mewn carchardai, sy'n awgrymu y dylid cadw poblogaeth carchardai yn yr enwadur gan fod carcharorion mewn perygl o fod yn ddioddefwr.

Gwybodaeth ychwanegol

Methodoleg ar gyfer data a gofnodwyd gan yr heddlu yn y maes hwn

Cafodd data ar droseddau a gofnodwyd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol eu casglu a’u prosesu gan deprivation.org ar ein rhan gan ddefnyddio dull a oedd yn gyson â mynegeion amddifadedd 2025 Lloegr. Ceir rhagor o fanylion am y fethodoleg yn adroddiad technegol mynegeion amddifadedd 2025 Lloegr (y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol)

Mae’r maes hwn yn defnyddio microddata wedi’u geogodio ar droseddau a gofnodwyd gan yr heddlu ac achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol, a ddaw o Hwb Data’r Swyddfa Gartref, data crai Police.uk, a darnau o wybodaeth bwrpasol gan heddluoedd. Yn wahanol i ddata cyhoeddus wedi’u hanonymeiddio, mae’r setiau data hyn yn cynnwys manylion lleoliad llawn, sy’n ei gwneud yn bosibl i fapio’n fanwl gywir. Oherwydd sensitifrwydd y data, cafodd yr holl ddata eu prosesu yn amgylcheddau diogel yr heddlu o dan gytundebau Cyngor Prif Swyddogion yr Heddlu. 

Cafodd cofnodion unigol o droseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol eu cyfuno i ACEHIau gan ddefnyddio adnodd mapio pwrpasol. Cafodd troseddau o fewn 10 metr i ffiniau eu dosrannu rhwng ACEHIau cyfagos, gan ddisodli’r ardal glustogi flaenorol o 100m a ddefnyddiwyd yn 2019 er mwyn adlewyrchu mwy o gywirdeb o ganlyniad i geogodio. 

Roedd prosesau sicrhau ansawdd yn cynnwys gwiriadau yn erbyn ystadegau cyfun yr heddlu a chael gwared ar anghysondebau, megis cofnodion y tu allan i ffiniau heddlu. Cyfyngwyd cyfrifon i gyfansymiau Ardaloedd Heddluoedd er mwyn ymdrin â chofnodion heb eu mapio ac osgoi achosion o ystumio o ganlyniad i droseddau a gafodd eu geogodio i safleoedd yr heddlu.

Atodiad 8.1: categorïau o droseddau ac achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol a gofnodwyd

Trais gydag anaf

Mae dangosydd ‘trais gydag anaf’ MALlC 2025 yn cynnwys holl is-gategorïau lladdiad a thrais gydag anaf y Swyddfa Gartref. Mae'r holl godau ar gael ar gyfer blynyddoedd ariannol 2018 i 2019, i 2023 i 2024.

Tabl 8.1: codau trosedd y Swyddfa Gartref a ddefnyddiwyd ar gyfer y dangosydd ‘trais gydag anaf’
Cod troseddEnw trosedd
1Llofruddio
4.1Dynladdiad
4.1Dynladdiad corfforaethol
4.2Babanladdiad
2Ymgais i Lofruddio
4.3Dinistrio'n fwriadol blentyn hyfyw heb ei eni
5DYmosod gyda'r Bwriad o Achosi Niwed Difrifol
5EPeryglu Bywyd
4.7Achosi neu ganiatáu marwolaeth neu niwed corfforol difrifol i blentyn neu berson agored i niwed
8NYmosod ac Anafu
8PYmosod ac Anafu Gwaethygedig ar sail Hil neu Grefydd
8SYmosod ar gwnstabl a'i anafu
8TYmosod gan achosi anaf ar weithiwr argyfwng (ac eithrio cwnstabl) 

Trais heb anaf

Mae dangosydd ‘trais heb anaf’ MALlC 2025 yn cynnwys holl is-gategorïau trais heb anaf y Swyddfa Gartref. Mae'r holl godau ar gael ar gyfer blynyddoedd ariannol 2018 i 2019, i 2023 i 2024.

Tabl 8.2: codau trosedd y Swyddfa Gartref a ddefnyddiwyd ar gyfer y dangosydd ‘trais heb anaf’
Cod troseddEnw trosedd
3ACynllwyn i lofruddio
3BBygythiadau i ladd
11ACreulondeb i Blant / Pobl Ifanc
13Cipio plentyn
14Caffael erthyliad anghyfreithlon
36Herwgipio
104Ymosod heb achosi anaf ar gwnstabl
105AYmosod heb anafu
105BYmosod heb anafu Gwaethygedig ar sail Hil neu Grefydd
106Caethwasiaeth Fodern

Stelcio ac aflonyddu

Mae dangosydd ‘stelcio ac aflonyddu’ MALlC 2025 yn cynnwys holl is-gategorïau stelcio ac aflonyddu'r Swyddfa Gartref. Mae'r holl godau ar gael ar gyfer blynyddoedd ariannol 2018 i 2019, i 2023 i 2024.

Tabl 8.3: codau trosedd y Swyddfa Gartref a ddefnyddiwyd ar gyfer y dangosydd ‘stelcio ac aflonyddu’
Cod troseddEnw trosedd
8LAflonyddu
8MAflonyddu Gwaethygedig ar sail Hil neu Grefydd
8QStelcio
8RCyfathrebu Maleisus
8UYmddygiad Rheolaethol neu Orfodaethol 

Bwrgleriaeth

Mae dangosydd ‘bwrgleriaeth’ MALlC 2025 yn cynnwys holl is-gategorïau bwrgleriaeth y Swyddfa Gartref.

Tabl 8.4: codau trosedd y Swyddfa Gartref a ddefnyddiwyd ar gyfer y dangosydd ‘bwrgleriaeth’
Cod troseddEnw troseddBlynyddoedd cymwys (blynyddoedd ariannol)
28EBwrgleriaeth – preswyl2018-19 i 2022-23
28FYmgais i ladrata – Preswyl2018-19 i 2022-23
28GLadrad trwy dynnu sylw – Preswyl2018-19 i 2022-23
28HYmgais i ladrad trwy dynnu sylw – Preswyl2018-19 i 2022-23
28ILadrad preswyl mewn cartref2023-24
28JYmgais i ladrad preswyl mewn cartref2023-24
28KLadrad trwy dynnu sylw – preswyl (cartref)2023-24
28LYmgais i ladrad trwy dynnu sylw – preswyl (cartref)2023-24
28MLadrad preswyl mewn adeilad annibynnol2023-24
28NYmgais i ladrad preswyl mewn adeilad annibynnol2023-24
28OLadrad trwy dynnu sylw – preswyl (adeilad annibynnol)2023-24
28PYmgais i ladrad trwy dynnu sylw – preswyl (adeilad annibynnol)2023-24
29ABwrgleriaeth waethygedig – preswyl2018-19 i 2022-23
29BLadrad â thrais – preswyl (cartref)2023-24
29CLadrad â thrais – preswyl (adeilad annibynnol)2023-24
30CBwrgleriaeth – busnes a chymunedol2018-19 i 2023-24
30DYmgais i ladrata - busnes a chymunedol2018-19 i 2023-24
31ABwrgleriaeth waethygedig – busnes a chymunedol2018-19 i 2023-24

Dwyn

Mae dangosydd ‘dwyn’ MALlC 2025 yn cynnwys holl is-gategorïau lladrata a dwyn (heblaw am ddwyn o siopau) y Swyddfa Gartref. Mae'r holl godau ar gael ar gyfer blynyddoedd ariannol 2018 i 2019, i 2023 i 2024.

Tabl 8.5: codau trosedd y Swyddfa Gartref a ddefnyddiwyd ar gyfer y dangosydd ‘dwyn’
Cod troseddEnw trosedd
34ADwyn Eiddo Busnes
34BDwyn Eiddo Personol
37.2Cymryd Cerbyd Gwaethygedig
45Dwyn o Gerbyd
48Dwyn Cerbyd Modur neu Gymryd Cerbyd Modur heb Awdurdod
126Ymyrryd â Cherbyd
39Dwyn oddi ar y Person
44Dwyn beic pedalau neu ei gymryd heb awdurdod
35Blacmel
40Dwyn o annedd ac eithrio o beiriant awtomatig neu fesurydd
41Dwyn gan weithiwr cyflogedig
42Dwyn post
43Defnydd anonest o drydan
47Dwyn o beiriant awtomatig neu fesurydd
49Dwyn o fath arall
49AMynd ymaith heb dalu 

Difrod troseddol

Mae dangosydd ‘difrod troseddol’ MALlC 2025 yn cynnwys holl is-gategorïau difrod troseddol a thanau bwriadol y Swyddfa Gartref. Mae'r holl godau ar gael ar gyfer blynyddoedd ariannol 2018 i 2019, i 2023 i 2024.

Tabl 8.6: codau trosedd y Swyddfa Gartref a ddefnyddiwyd ar gyfer y dangosydd ‘difrod troseddol’
Cod troseddEnw trosedd
56ATân bwriadol sy'n peryglu bywyd
56BTân bwriadol nad yw'n peryglu bywyd
58ADifrod Troseddol i Annedd
58BDifrod Troseddol i Adeilad heblaw Annedd
58CDifrod Troseddol i Gerbyd
58DMathau Eraill o Ddifrod Troseddol
58JDifrod Troseddol Gwaethygedig ar sail Hil neu Grefydd

Trefn gyhoeddus a meddu ar arfau

Mae dangosydd ‘trefn gyhoeddus a meddu ar arfau’ MALlC 2025 yn cynnwys holl is-gategorïau troseddau yn erbyn y drefn gyhoeddus a meddu ar arfau'r Swyddfa Gartref. Mae'r holl godau ar gael ar gyfer blynyddoedd ariannol 2018 i 2019, i 2023 i 2024.

Tabl 8.7: codau trosedd y Swyddfa Gartref a ddefnyddiwyd ar gyfer y dangosydd ‘trefn gyhoeddus a meddu ar arfau’
Cod troseddEnw trosedd
9AAchosi ofn, dychryn neu ofid i'r cyhoedd
9BAchosi ofn, dychryn neu ofid i'r cyhoedd, wedi'i waethygu gan hiliaeth neu grefydd
62AAnhrefn treisgar
66Troseddau eraill yn erbyn y Wladwriaeth neu'r drefn gyhoeddus
10AMeddu ar Arfau Tanio gyda'r bwriad o gyflawni trosedd
10BTroseddau sy'n ymwneud â Meddu ar Arfau Tanio
10CMeddu ar arfau eraill
10DMeddu ar eitem â llafn neu bigyn
81Troseddau eraill sy’n ymwneud ag arfau tanio
90Troseddau eraill yn ymwneud â chyllyll

Ymddygiad gwrthgymdeithasol

Mae dangosydd ‘ymddygiad gwrthgymdeithasol’ MALlC 2025 yn cynnwys holl is-gategorïau ymddygiad gwrthgymdeithasol y Swyddfa Gartref. Mae'r holl gategorïau ar gael ar gyfer blynyddoedd ariannol 2022 i 2023 a 2023 i 2024.

Codau trosedd y Swyddfa Gartref a ddefnyddiwyd ar gyfer y dangosydd ‘ymddygiad gwrthgymdeithasol’

  • Personol
  • Amgylcheddol
  • Niwsans

Maes yr amgylchedd ffisegol

Diben y maes hwn yw mesur ffactorau yn yr ardal leol a all effeithio ar lesiant neu ansawdd bywyd y rhai sy’n byw mewn ardal. Mae gan y maes bwysoliad cymharol o 5% yn y mynegai cyffredinol.

Dangosyddion

Sgôr ansawdd aer

Mae’r is-faes ansawdd aer yn cynnwys tri dangosydd sy’n seiliedig ar werthoedd crynodiad cyfartalog wedi’u pwysoli yn ôl y boblogaeth y llygryddion allweddol canlynol: 

  • Nitrogen deuocsid (NO2)
  • Gronynnau llai na 10 µm mewn diamedr (PM10)
  • Gronynnau llai na 2.5 µm mewn diamedr (PM2.5)

Nwy a gynhyrchir pan fydd tanwyddau ffosil yn cael eu llosgi yw NO2sy’n arwain at amrywiaeth o effeithiau negyddol ar iechyd a’r amgylchedd. 

Ystyr mater gronynnol (PM) yw popeth yn yr aer nad yw’n nwy ac felly sy’n cynnwys amrywiaeth enfawr o gyfansoddion a deunyddiau cemegol. Gall rhai o’r rhain fod yn wenwynig. Yn dibynnu ar faint y gronynnau, gallant fynd i mewn i’r llif gwaed a dod ynghlwm wrth organau hanfodol fel y galon neu’r ymennydd. 

Ceir rhagor o wybodaeth ynglŷn â pham mae NO2 a PM yn cael eu mesur yn yr adroddiadau perthnasol yn natganiadau ystadegol DEFRA am ansawdd aer (GOV.UK)

Mae’r dangosyddion yn yr is-faes ansawdd aer wedi cael eu llunio drwy ddefnyddio mesuriadau llygryddion a allai gael effeithiau negyddol ar iechyd pobl a/neu’r amgylchedd, yn seiliedig ar y ddealltwriaeth feddygol a gwyddonol orau, ac fe’u cynigir fel mesur procsi o ansawdd yr amgylchedd oddi amgylch. Mae ansawdd aer gwael yn awgrymu agosrwydd at weithgareddau penodol megis traffig, hylosgi domestig a safleoedd diwydiannol: sef gweithgareddau a allai gael effaith negyddol ar ansawdd bywyd, yr amgylchedd lleol ac iechyd.

Math o ddangosydd

Y tri dangosydd ar wahân sy’n ffurfio’r is-faes ansawdd aer yw: 

  • Gwerth crynodiad cyfartalog wedi’i bwysoli yn ôl y boblogaeth, NO2
  • Gwerth crynodiad cyfartalog wedi’i bwysoli yn ôl y boblogaeth, PM10
  • Gwerth crynodiad cyfartalog wedi’i bwysoli yn ôl y boblogaeth, PM2.5 

Caiff y gwerthoedd crynodiad cyfartalog eu mesur mewn microgramau fesul metr ciwbig (µg/m3).

Rhifiadur

Dd/B

Enwadur

Dd/B

Ffynhonnell a chyfnod amser

Y ffynonellau a ddefnyddir i ffurfio’r dangosyddion ansawdd aer yw: 

  • data llygryddion, Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA), 2023
  • amcangyfrifon Poblogaeth Ardaloedd Bach, Y Swyddfa Ystadegau Gwladol, 2022
  • data ar anheddau, AddressBase yr Arolwg Ordnans, 2025

Nodiadau ychwanegol

Bob blwyddyn, mae model Mapio Hinsawdd Llygredd Llywodraeth y DU yn cyfrifo crynodiadau llygryddion cyfartalog ar gyfer pob cilomedr sgwâr o’r DU. Caiff y model ei raddnodi yn erbyn mesuriadau a ddaw o rwydwaith monitro ansawdd aer cenedlaethol y DU. 

Caiff y data hyn eu cyfuno ag amcangyfrifon poblogaeth ardaloedd bach a data ar anheddau i ddarparu data wedi’u pwysoli yn ôl y boblogaeth. 

Ar gyfer pob un o ardaloedd cynnyrch y cyfrifiad (unedau daearyddol ystadegol sy’n cynnwys tua 150 eiddo), caiff crynodiadau’r llygryddion eu pwysoli yn ôl nifer yr anheddau ym mhob cilomedr sgwâr i roi crynodiad cyfartalog o NO2, PM2.5 a PM10 yn ardal cynnyrch y cyfrifiad. 

Ar gyfer pob Ardal Cynnyrch Ehangach Haen Is (AGEHI), cyfrifwyd cyfartaledd wedi’i bwysoli yn ôl y boblogaeth dros ei hardaloedd cynnyrch cyfansoddol o dan y cyfrifiad i roi crynodiad cyfartalog o NO2, PM2.5 a PM10.

Cymaroldeb gyda MALlC 2019

Gellir ei gymharu, ar y cyfan. O ddiweddariad 2022 o’r dangosyddion llesiant cenedlaethol ansawdd aer ymlaen, cyflwynwyd gwelliant methodolegol i’r ffordd y caiff pwysoliadau anheddau eu cyfrifo, am nad oedd y broses wreiddiol a ddefnyddiwyd i amcangyfrif y dangosyddion ansawdd aer (cyn 2022, gan gynnwys dangosyddion MALlC 2019) yn cyfrifo’r pwysoliadau yn y ffordd fwriadedig. Mae asesiad o’r effaith ar y data hanesyddol wedi cael ei gynnal ac mae’r effaith yn fach. O ystyried bod y data ar lygredd aer yn cael eu modelu a bod yr amcangyfrifon poblogaeth yn mynd drwy broses ailsylfaenu ar ôl y cyfrifiad, mae ansicrwydd ar hyn o bryd ynglŷn â’r amcangyfrifon hyn. Oherwydd yr ansicrwydd hwn, y prinder data hanesyddol manwl ar anheddau ac effaith fach y newid methodolegol, nid yw’r data hanesyddol wedi cael eu diwygio.

Sgôr perygl llifogydd

Math o ddangosydd

Mae’r dangosydd perygl llifogydd yn ystyried cyfran yr aelwydydd sydd mewn perygl o lifogydd o afonydd, y môr a llifogydd dŵr wyneb. Caiff sgôr perygl llifogydd o rhwng 1 a 100 ei gynhyrchu ar gyfer pob AGEHI (gweler isod am ragor o wybodaeth).

Rhifiadur

Dd/B

Enwadur

Dd/B

Ffynhonnell a chyfnod amser

Data Asesu Perygl Llifogydd yng Nghymru (FRAW), Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), 2025.

Nodiadau ychwanegol

Mae’r dangosydd perygl llifogydd yn ystyried cyfran yr aelwydydd sydd mewn perygl o lifogydd o afonydd, y môr a llifogydd dŵr wyneb. Mae’r risg yn seiliedig ar amlder rhagweledig, yn hytrach na lefel y difrod a achosir gan y llifogydd. 

Mae’r categorïau o risg a ddefnyddir fel a ganlyn: 

  • risg isel, mae’r posibilrwydd o lifogydd yn llai nag 1 mewn 100 (1%) mewn unrhyw flwyddyn benodol
  • risg ganolig, mae’r posibilrwydd o lifogydd yn llai nag 1 mewn 30 (3.3%) ond yn hafal i 1 mewn 100 (1%) neu fwy na hynny mewn unrhyw flwyddyn benodol
  • risg uchel, mae’r posibilrwydd o lifogydd yn hafal i 1 mewn 30 (3.3%) neu fwy na hynny mewn unrhyw flwyddyn benodol 

Er mwyn sicrhau bod yr ardaloedd hynny lle ceir perygl llifogydd mwy difrifol yn cael eu hystyried yn fwy difreintiedig nag ardaloedd lle ceir perygl llifogydd llai difrifol, rhoddwyd y pwysoliad canlynol: 

  • cafodd nifer yr aelwydydd mewn ardal risg uchel ei luosi â 24
  • cafodd nifer yr aelwydydd mewn ardal risg ganolig ei luosi â 4
  • cafodd nifer yr aelwydydd mewn ardal risg isel ei luosi ag 1

Ceir rhagor o wybodaeth am y fethodoleg ar gyfer pennu’r pwysoliadau uchod yn atodiad 9.1. 

Noder, mewn achosion lle roedd aelwydydd yn wynebu gwahanol lefelau o risg gan wahanol fathau o lifogydd, fod y lefel risg uchaf wedi cael blaenoriaeth. Cyfrifir pob un o’r ffigurau hyn ar gyfer pob ACEHI ac wedyn cânt eu hadio at ei gilydd er mwyn rhoi cyfanswm wedi’i normaleiddio y cartrefi sydd mewn perygl o lifogydd fesul ACEHI. Wedyn, caiff y ffigur hwn ei rannu â chyfanswm nifer yr aelwydydd yn yr ACEHI er mwyn rhoi cyfran yr aelwydydd sydd mewn perygl o lifogydd. Wedyn caiff y gwerthoedd hyn eu graddio a’u trawsffurfio’n esbonyddol i roi sgôr gyffredinol ar gyfer perygl llifogydd.

Cymaroldeb gyda MALlC 2019

Gellir ei gymharu, ar y cyfan.

Agosrwydd at fan gwyrdd naturiol hygyrch

Math o ddangosydd

Agosrwydd at fan gwyrdd naturiol hygyrch yw canran yr aelwydydd ym mhob ardal sydd o fewn 300 metr (taith gerdded o tua 5 munud) i fan gwyrdd naturiol hygyrch.

Rhifiadur

Cyfrifon o anheddau preswyl ar lefel AGEHI sydd o fewn 300 metr i fan gwyrdd naturiol, hygyrch.

Enwadur

Nifer yr anheddau preswyl mewn AGEHI.

Ffynhonnell a chyfnod amser

Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol i ffurfio’r dangosydd hwn:

  • eiddo sydd o fewn cwmpas: Cronfa Ddata Ddaearyddol Genedlaethol yr Arolwg Ordnans, sef Built Address, Medi 2025
  • MasterMap Topography Layer® yr Arolwg Ordnans, Medi 2025
  • Open Greenspace yr Arolwg Ordnans, Medi 2025
  • Llwybrau Cenedlaethol: CNC, a gyrchwyd ym mis Hydref 2025 (dyddiad cyhoeddi 18 Mehefin 2025)
  • Mynediad Agored CNC, a gyrchwyd ym mis Medi 2025
    • Tir Agored
    • Tir Mynediad Statudol Arall
    • Tir Comin Cofrestredig
    • Tir Arall a Gyflwynwyd
    • Coedwigoedd a Gyflwynwyd

Nodiadau ychwanegol

Mae’r dangosydd hwn yn mesur cyfran yr aelwydydd ym mhob ACEHI sydd o fewn 300 metr (taith gerdded o 5 munud) i fan gwyrdd naturiol hygyrch. Er mwyn cyfrifo’r dangosydd hwn, deilliwyd olion troed mannau gwyrdd o MasterMap Topography Layer® yr Arolwg Ordnans, diffiniwyd cwmpas gan Open Greenspace yr Arolwg Ordnans ynghyd â teipolegau cydnabyddedig CNC ar gyfer mannau gwyrdd naturiol, Llwybrau Cenedlaethol a theipolegau sy’n cynnwys Mynediad Agored o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000. Mae’r allbwn yn nodi safleoedd y gellid yn hyderus eu disgrifio fel lleoedd â naws naturiol y mae gan y cyhoedd hawl mynediad iddynt. Ni chafodd safleoedd megis cyrsiau golff, rhandiroedd na mynwentydd eu cynnwys ar y rhestr. Er mwyn brasamcanu taith gerdded o 5 munud, crëwyd polygonau â radiws o 300 metr o amgylch y mannau gwyrdd. Wedyn, cafodd yr holl anheddau preswyl o fewn cwmpas (a gafwyd o NGD Built Address yr Arolwg Ordnans) eu croestorri â’r polygonau hyn a’u nodi os oeddent o fewn 300 metr i fan gwyrdd naturiol, hygyrch. Wedyn, cafodd cyfansymiau anheddau eu cyfuno ar lefel ACEHI i gyfrifo cyfran yr anheddau o fewn 300 metr i fan gwyrdd naturiol, hygyrch. Ceir manylion pellach am ddeillio’r dangosydd hwn yn atodiad 9.2.

Cymaroldeb gyda MALlC 2019

Gellir, i ryw raddau. Mae’r dangosydd hwn yn fersiwn wedi’i diweddaru o ddangosydd 2019 ac mae bellach yn cynnwys Llwybrau Cenedlaethol.

Sgôr mannau gwyrdd amgylchol

Math o ddangosydd

Mae’r dangosydd hwn yn mesur pa mor wyrdd yw’r amgylchedd ym mhob ACEHI. Caiff Mynegai Llystyfiant â Gwahaniaeth wedi’i Normaleiddio Cymedrig ei gynhyrchu ar gyfer pob AGEHI.

Rhifiadur

Dd/B

Enwadur

Dd/B

Ffynhonnell a chyfnod amser

Cynhyrchwyd y dangosydd gan Wyddor Data Poblogaeth, Prifysgol Abertawe. Er mwyn cynhyrchu’r dangosydd, defnyddiwyd y ffynonellau canlynol: 

  • Gwerthoedd y Mynegai Llystyfiant â Gwahaniaeth wedi’i Normaleiddio ar gyfer y dangosydd hwn, delweddau lloeren adlewyrchol wyneb 3m gan Planet, 2024
  • Daw anheddau preswyl o AddressBase® Plus, 2025

Nodiadau ychwanegol

Mae’r dangosydd hwn yn mesur pa mor wyrdd yw’r amgylchedd ym mhob ACEHI. Caiff ei gyfrifo fel y Mynegai Llystyfiant â Gwahaniaeth wedi’i Normaleiddio o fewn tir clustogi Ewclidaidd o 300 metr o amgylch pob annedd breswyl. Nid yw tir clustogi Ewclidaidd yn gorfod dilyn ffin ACEHI am y cydnabyddir nad yw daearyddiaeth ACEHI o reidrwydd yn cynrychioli ymddygiad pobl. Mae hyn yn dileu unrhyw effaith ymylu lle y gall aelwyd fod wedi’i lleoli mewn ACEHI benodol ond mae ei thir clustogi Ewclidaidd yn gorgyffwrdd ag ACEHI arall. Mae’r Mynegai Llystyfiant â Gwahaniaeth wedi’i Normaleiddio yn cyfrifo’r gwahaniaeth wedi’i normaleiddio rhwng y bandiau coch ac is-goch ar gyfer cofnodi mesuriadau meintiol a safonedig o bresenoldeb ac iechyd llystyfiant. Mae llystyfiant iach yn adlewyrchu cryn dipyn o’r tonfeddi lled-is-goch sy’n eu taro ac yn amsugno mwy o donfeddi coch am eu bod yn cynnwys mwy o gloroffyl. Defnyddir sianeli sbectrol Lled-is-goch a choch delwedd i gyfrifo gwerth mynegai, gan ddefnyddio’r hafaliad canlynol:

NDVI=(NIR-R)

(NIR+R)

I gyfrifo gwerthoedd Mynegai Llystyfiant â Gwahaniaeth wedi’i Normaleiddio ar gyfer y dangosydd hwn, gwnaethom ddefnyddio delweddau lloeren adlewyrchol arwyneb 3m gan Planet. Daw anheddau preswyl o AddressBase® Plus.

Cymaroldeb gyda MALlC 2019

Gellir, i ryw raddau. Yn 2019, cynhyrchwyd sgoriau Mynegai Llystyfiant â Gwahaniaeth wedi’i Normaleiddio drwy ddefnyddio ffotograffau o’r awyr (gyda chydraniad o 50 cm), ar gyfer MALlC 2025 defnyddiwyd delweddau lloeren (gyda chydraniad o 3m). Felly, byddem yn disgwyl ychydig o amrywio naturiol o ganlyniad i’r newid yn y ffynhonell o ddelweddau.

Llygredd sŵn

Math o ddangosydd

Cyfran y boblogaeth sy’n cael ei hamlygu i lefel sŵn dydd noswaith nos gyfunol o ffyrdd a rheilffyrdd sy’n hafal i 55dB neu fwy. Mae Lden yn golygu ‘Day-Evening-Night Level’, ac fe'i defnyddir i ddisgrifio amlygiad sŵn cyfartalog dros gyfnod o 24 awr, gyda chosbau wedi'u cymhwyso ar gyfer sŵn gyda'r nos.

Rhifiadur

Y boblogaeth o fewn AGEHI sy’n cael ei hamlygu i lefel sŵn dydd noswaith nos gyfunol o ffyrdd a rheilffyrdd sy’n hafal i 55dB neu fwy.

Enwadur

Poblogaeth AGEHI.

Ffynhonnell a chyfnod amser

Mapiau sŵn strategol Rownd 4, System Modelu Sŵn, Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA). Mae’r data yn ymwneud â 2021.

Poblogaeth: Cyfrifiad 2021, SYG.

Nodiadau ychwanegol

Ceir manylion pellach am ddeillio’r dangosydd hwn yn atodiad 9.3.

Cymaroldeb gyda MALlC 2019

Ni ellir ei gymharu am mai dangosydd newydd ydyw.

Llunio’r maes

Ceir 7 dangosydd sydd wedi’u rhannu’n 4 is-faes sy’n ffurfiol maes yr amgylchedd ffisegol, wedi’i bwysoli fel a ganlyn. Cytunwyd ar bwysoliadau’r is-faes â’r grŵp arbenigol ar feysydd, ac mae 5% o bwysoliad pob is-faea ym MALlC 2019 wedi’i ddyrannu i’r is-faes newydd ar lygredd sŵn. 

  • Ansawdd aer, 35%, a ffurfiwyd o’r dangosyddion canlynol sy’n cyfrannu’n gyfartal at yr is-faes:
    • Nitrogen deuocsid (NO2)
    • Gronynnau llai na 10 µm (PM10)
    • Gronynnau llai na 2.5 µm (PM2.5)
  • Perygl lifogydd, 35%
  • Mannau gwyrdd, 15%, a ffurfiwyd o’r dangosyddion canlynol sy’n cyfrannu’n gyfartal at yr is-faes:
    • Agosrwydd at fan gwyrdd naturiol hygyrch
    • Sgôr mannau gwyrdd amgylchol
  • Llygredd sŵn, 15%

Mae gan y maes bwysoliad cymharol o 5% yn y mynegai cyffredinol.

Yr Is-faes ansawdd aer

Er mwyn cyfrifo sgôr gyffredinol yr is-faes ansawdd aer, addaswyd gwerth pob dangosydd (drwy broses drawsffurfio) gan ddefnyddio ffactor yn seiliedig ar yr amcan, safon neu ffactor risg ar gyfer y llygrydd a’r ystadegyn penodol hwnnw. Datblygwyd y dull hwn er mwyn ystyried safonau ansawdd aer ar gyfer pob sylwedd, sy’n seiliedig ar y ddealltwriaeth feddygol a gwyddonol orau o’u heffeithiau ar iechyd a/neu’r amgylchedd. Mae’r dull hefyd yn sicrhau bod ardaloedd lle y ceir lefelau uchel o lygryddion penodol, ond nid llygryddion eraill, yn cael eu dosbarthu’n ardaloedd difreintiedig iawn; ni fydd lefelau isel o un llygrydd yn gwrthbwyso effaith lefel uchel o lygrydd arall. 

Y safonau a ddefnyddiwyd i normaleiddio’r crynodiadau o’r llygryddion hyn ym MALlC 2025 yw targedau interim terfynol Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer pob llygrydd: 

  • NO2: 20µg/m3 crynodiad cyfartalog blynyddol
  • PM10: 20µg/m3 crynodiad cyfartalog blynyddol
  • PM2.5: 10µg/m3 crynodiad cyfartalog blynyddol

Cafodd gwerthoedd wedi’u trawsffurfio’r dangosyddion ar gyfer pob ACEHI eu cyfartaleddu a’u rhoi yn nhrefn eu safleoedd. Wedyn, cafodd y safleoedd hyn eu trawsffurfio’n esbonyddol i roi sgôr is-faes ar gyfer pob ACEHI.

Yr is-faes Mannau Gwyrdd

Er mwyn cyfrifo sgôr gyffredinol yr is-faes Mannau Gwyrdd, cafodd pob set o werthoedd dangosyddion eu rhoi yn nhrefn eu safleoedd a’u normaleiddio. Wedyn, cyfunwyd y gwerthoedd wedi’u normaleiddio gan ddefnyddio’r pwysoliad uchod: 

  • 50% agosrwydd at fan gwyrdd naturiol hygyrch
  • 50% sgôr mannau gwyrdd amgylchol 

Wedyn, cafodd y gwerthoedd cyfunol eu rhoi yn nhrefn eu safleoedd eto a’u trawsffurfio’n esbonyddol i roi sgôr is-faes ar gyfer pob ACEHI.

Newidiadau ers MALlC 2019

Bu sawl newid methodolegol i faes yr amgylchedd ffisegol rhwng MALlC 2019 a MALlC 2025. Ceir rhestr lawn o’r newidiadau isod.

Ychwanegwyd llygredd sŵn fel dangosydd newydd; mae’n seiliedig ar gyfran y boblogaeth sy’n cael ei hamlygu i lygredd sŵn o ffyrdd a rheilffyrdd sy’n hafal i 55dB neu fwy na hynny.

Yn y dangosydd agosrwydd at fan gwyrdd naturiol hygyrch, mae llwybrau cenedlaethol bellach wedi cael eu cynnwys yn y dangosydd hwn. Ceir rhagor o fanylion am hyn yn yr adran ar y dangosyddion.

Ar gyfer y dangosydd mannau gwyrdd amgylchol, mae’r ffynhonnell data wedi newid ar gyfer MALlC 2025 o gymharu â MALlC 2019. Yn 2019, cynhyrchwyd sgoriau Mynegai Llystyfiant â Gwahaniaeth wedi’i Normaleiddio drwy ddefnyddio ffotograffau o’r awyr (gyda chydraniad o 50 cm), ar gyfer MALlC 2025 defnyddiwyd delweddau lloeren (gyda chydraniad o 3m).

Mae pwysoliadau’r is-feysydd wedi cael eu diweddaru ar gyfer MALlC 2025 i ystyried y dangosydd llygredd sŵn sydd wedi cael ei ychwanegu. Ym MALlC 2019, cafodd yr is-feysydd eu pwysoli fel a ganlyn:

  • 40% ansawdd aer (3 dangosydd llygredd wedi’i bwysoli’n gyfartal)
  • 40% perygl lifogydd
  • 20% mannau gwyrdd (y daw hanner o fannau gwyrdd amgylchol a’r hanner arall o agosrwydd at fan gwyrdd)

Ar gyfer MALlC 2025, cafodd yr is-feysydd eu pwysoli fel a ganlyn:

  • 35% ansawdd aer (3 dangosydd llygredd wedi’i bwysoli’n gyfartal)
  • 35% perygl llifogydd
  • 15% mannau gwyrdd (y daw hanner o fannau gwyrdd amgylchol a’r hanner arall o agosrwydd at fan gwyrdd)
  • 15% llygredd sŵn

Gwybodaeth ychwanegol

Yn ychwanegol at safleoedd meysydd a gwerthoedd dangosyddion, mae safleoedd is-feysydd yr amgylchedd ffisegol hefyd yn cael eu cyhoeddi ar wefan StatsCymru.

Atodiad 9.1: pwysoliadau’r categori perygl llifogydd

Mae’r dangosydd perygl llifogydd yn ystyried cyfran yr aelwydydd sydd mewn perygl o lifogydd o afonydd, y môr a llifogydd dŵr wyneb. Mae’r risg yn seiliedig ar amlder rhagweledig, yn hytrach na lefel y difrod a achosir gan y llifogydd. Mae nifer yr aelwydydd sy’n wynebu risg sylweddol o lifogydd yn cael pwysoliad uwch na’r rhai sy’n wynebu risg is. Am fod y data sydd ar gael yn amrywio, ni chafodd amddiffynfeydd rhag llifogydd eu hystyried wrth bennu categorïau o berygl llifogydd.

Datblygwyd y fethodoleg bwysoli a amlinellir yn yr atodiad hwn mewn partneriaeth â Cyfoeth Naturiol Cymru.

Mae’r ffactorau pwysoli yn defnyddio’r categorïau o risg isod, sef yr un rhai a ddefnyddiwyd ar gyfer MALlC 2019, fel yr amlinellwyd yn adroddiad technegol 2019.

Tabl 9.1 categorïau risg y ffactorau pwysoli a ddefnyddiwyd i gyfrifo perygl llifogydd
Categori NaFRADiffiniad (y tebygolrwydd o lifogydd mewn unrhyw flwyddyn benodol)% yr eiddo preswyl sy'n wynebu perygl o lifogyddPwysoliad
UchelYn hafal i 1 mewn 30 neu fwy na hynny0.60%0.06 (neu 24)
CanoligYn llai nag 1 mewn 30 ond yn hafal i 1 mewn 100 neu fwy na hynny1.30%0.01 (neu 4)
IselYn llai nag 1 mewn 100 ond yn hafal i 1 mewn 1000 neu fwy na hynny 5.60%0.0025 (neu 1)
Isel IawnYn llai nag 1 mewn 1000. 0.05%0.0025 (neu 1)

Ym MALlC 2025, caiff y dangosydd perygl llifogydd ei lunio gan ddefnyddio data Asesu Perygl Llifogydd Cymru a ddarperir gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae data Asesu Perygl Llifogydd Cymru yn defnyddio’r un categorïau â data NaFRA (ac eithrio’r categori risg ‘isel iawn’) ac, felly, rydym wedi defnyddio’r un pwysoliadau ar gyfer perygl llifogydd ag a gafwyd ar gyfer MALlC 2019.

Methodoleg ar gyfer pennu pwysoliadau

Fel yn achos y ddau fynegai blaenorol, rydym yn defnyddio gwybodaeth am ddifrod llifogydd cyfartalog fel y’i paratowyd gan Ganolfan Ymchwil Perygl Llifogydd Prifysgol Middlesex yn ei Llawlyfr Amryliw.

Y rhagdybiaeth sylfaenol yw bod yr effaith ar ansawdd bywyd yn cynyddu wrth i’r posibilrwydd o ddifrod gynyddu. 

Mae'r difrod llifogydd cyfartalog blynyddol wedi’i bwysoli (WAAD) yn cynrychioli'r difrod economaidd blynyddol disgwyliedig o lifogydd, wedi'i bwysoli gan y tebygolrwydd bod wahanol ddigwyddiadau llifogydd yn digwydd. Fe'i cyfrifir fel yr arwynebedd o dan y gromlin wrth plotio gwerthoedd difrod llifogydd yn erbyn tebygolrwydd gormodiant (sef gwrthdro’r cyfnod dychwelyd mewn blynyddoedd). Mae'r dull hwn yn cyfrif am ddifrifoldeb a thebygolrwydd digwyddiadau llifogydd.

  • Mae gwerthoedd difrod yn deillio o ddigwyddiadau wedi'u modelu ar gyfer cyfnodau dychwelyd penodol (e.e., 5, 10, 25, 50, 100 mlynedd).
  • Ni wahaniaethir rhwng y mathau o eiddo preswyl.
  • Mae cyfrifiadau WAAD yn seiliedig ar eiddo o fewn Parth Llifogydd 2 (siawn flynyddol mwy na 0.1% o lifogydd).
  • Ar gyfer digwyddiadau eithafol, mae mwy o eiddo yn cael eu heffeithio, ond mae dyfnderoedd llifogydd cyfartalog yn tueddu i aros yn is na 1 metr.

Mae'r Offeryn Amcangyfrif WAAD, a ddarperir yn y Llawlyfr Amryliw, wedi'i gynllunio i amcangyfrif manteision posibl o leihau'r perygl o lifogydd i eiddo. Mae'r buddion hyn yn cael eu mynegi fel difrod economaidd wedi’i osgoi dros gyfnod arfarnu safonol o 50 mlynedd.

Tabl 9.2: gwerthoedd difrod enghreifftiol (Llawlyfr Arfarnu Economaidd, 2013)
Amlder LlifogyddDifrod (£)
59,500
1017,847
2519,716
5027,776
10030,877

Yna defnyddir cymarebau WAAD i gyfrifo pwysoliadau MALlC.

Tabl 9.3: crynodeb o’r rhagdybiaethau i gyfrifo pwysoliadau MALlC
Cyfnod DychwelydTebygolrwydd GormodiantGwerth WAADCymhareb WAADGwerth MALlCCymhareb MALlC
300.0333497623.50.0624
1000.017673.60.014
10000.00121110.00251

Mae hyn yn sicrhau bod ardaloedd â difrod llifogydd disgwyliedig uwch yn derbyn pwysoliadau uwch yn y mynegai amddifadedd.

Atodiad 9.2: dull cyfrifo agosrwydd at fan gwyrdd naturiol hygyrch

Diffiniad o fannau gwyrdd naturiol hygyrch

Mae’r diffiniad o fannau gwyrdd naturiol, hygyrch yn dilyn Arweinlyfr Mannau Gwyrdd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn fanwl.

Mae’r set ddata a luniwyd er mwyn cyfrifo’r dangosydd agosrwydd at fan gwyrdd naturiol hygyrch ym MALlC 2025 yn cynnwys cyfres o reolau ar gyfer hygyrchedd a naturioldeb y gellir dweud yn hyderus eu bod yn lleoedd â naws naturiol y mae gan y cyhoedd hawl mynediad iddynt, ac yn adeiladu ar hynny. 

Mae CNC a Llywodraeth Cymru yn cydnabod nad yw’r diffiniad hwn yn hollgynhwysfawr ac y gall dinasyddion ystyried bod llawer mwy o leoedd (gan gynnwys parciau trefol) yn rhai naturiol. At hynny, mae llawer mwy o fannau hygyrch nag a ddiffinnir gan y gyfraith. Felly, er mwyn gwella’r diffiniad hwn, defnyddiwyd ardaloedd trefol ac arfordirol (polygonau sy’n cynrychioli mannau gwyrdd a glas trefol ac arfordirol) i lenwi bylchau mewn data. Noder bod y polygonau ychwanegol hyn yn ‘debygol’ o fod yn hygyrch ond nad ydynt yn nodi’n bendant fod gan bobl hawl mynediad gyfreithiol iddynt.

Mae’r diffiniad hwn yn fodd i ddangos yr holl dir a dŵr yng Nghymru nas gorchuddir ag arwynebau o waith dyn ac a allai, felly, sicrhau manteision o ran iechyd neu les. 

Rydym yn ymwybodol nad yw’r set ddata hon yn cynnwys rhai polygonau sy’n darparu gwasanaethau ecosystem (e.e. llwybrau beicio, ardaloedd chwarae o waith dyn), ond am fod y set ddata hon yn canolbwyntio ar fannau sy’n sicrhau manteision o ran iechyd a lles oherwydd natur naturiol eu harwynebau, rydym wedi hepgor yn rhain yn fwriadol.

Profodd CNC y sail reolau hon drwy wneud cymariaethau â lluniau a dynnwyd o’r awyr yn ogystal â llunio mapiau o ardaloedd trefol a gwledig cyfarwydd er mwyn cymharu a chadarnhau bod y sail reolau yn cyflawni’r canlyniad bwriadedig.

Ffynonellau data

Diffiniad o fannau gwyrdd naturiol hygyrch
  • Mae pob polygon o MasterMap Topography Layer® yr Arolwg Ordnans sy’n bodloni’r meini prawf ‘naturiol’, ‘lluosog’ ac ‘anhysbys’ yn cael ei ddosbarthu. Er mwyn i’r polygonau hyn fynd drwy’r cam cynnwys terfynol mae’n rhaid iddynt groestorri’n ddaearyddol â’r canlynol.
  • Pob polygon sy’n nodi Mynediad Agored o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000. Mae’r Ddeddf yn rhoi hawl mynediad ar droed at ddibenion hamdden awyr agored ac, yng Nghymru, daeth yr hawl a roddir o dan y Ddeddf i rym ym mis Mai 2005. Yr haenau a gynhwyswyd yw:
    • Coedwigoedd a Gyflwynwyd
    • Tir Arall a Gyflwynwyd
    • Tir Agored
    • Tir Mynediad Statudol Arall
    • Tir Comin Cofrestredig

Mae mannau gwyrdd ychwanegol i ystyried hygyrchedd trefol ac arfordirol yn dilyn y diffiniad o:

  • bob polygon o MasterMap Topography Layer® yr Arolwg Ordnans y mae ei grŵp disgrifiadol yn bodloni’r categori ‘dŵr llanw’
  • pob polygon ‘naturiol’, ‘lluosog’ neu ‘anhysbys’ o MasterMap Topography Layer® yr Arolwg Ordnans sy’n croestorri â chwmpas polygonau Open Greenspace yr Arolwg Ordnans, sy’n cyd-fynd â’r teipolegau canlynol:
    • parciau cyhoeddus neu ardd
    • maes chwarae
    • lle chwarae
    • cyfleusterau chwaraeon eraill 

Mae llwybrau cenedlaethol penodol yn dilyn ffyrdd nad ydynt yn un o’r disgrifiadau uchod i’w cynnwys. Y dull a fabwysiadwyd yw creu tir clustogi o 300 metr o amgylch y llwybr a dod o hyd i’r eiddo sy’n croestorri â’r tir clustogi hwn.

Methodoleg lwybro

Ystyriwyd y dull dadansoddi rhwydweithiau a phellteroedd Ewclidaidd (dull ‘fel yr hed y frân’) ar gyfer modelu’r amser teithio er mwyn nodi pa mor agos yw annedd breswyl at fannau gwyrdd naturiol hygyrch. Fodd bynnag, er bod y dull dadansoddi rhwydweithiau yn dra chynrychioliadol o ymddygiadau go iawn ac er mai hwn yw’r dull a ffefrir, mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod anghysondebau a bylchau sylweddol mewn data o ran data pwyntiau mynediad polygonau mannau gwyrdd a rhwydwaith llwybrau sy’n gyson yn genedlaethol. Felly, byddai defnyddio’r dull dadansoddi rhwydweithiau yn anghyson yn genedlaethol ac yn anaddas ar gyfer MALlC ar hyn o bryd.

Er nad yw pellteroedd Ewclidaidd yn ystyried rhwystrau go iawn, gall y broses o’u llunio fod yn gyson yn genedlaethol a darparu dull ystadegol gadarn er mwyn cyfrifo’r ardaloedd hygyrch o amgylch mannau gwyrdd. Felly, defnyddiwyd pellteroedd Ewclidaidd i lunio’r polygonau amser teithio yn seiliedig ar y set ddata mannau gwyrdd at ddibenion MALlC 2019.

Derbynnir yn eang yr ystyrir bod gan anheddau preswyl fynediad digonol i fannau gwyrdd naturiol hygyrch os gallant gyrraedd safleoedd o fewn 5 munud ar droed. Mewn astudiaeth a gynhaliwyd gan Brifysgol Manceinion i Gyngor Cefn Gwlad Cymru fel y’i gelwid gynt, (CNC bellach), mae tystiolaeth glir i ddangos, ar y cyfan, bod dinasyddion yn annhebygol iawn o gerdded y tu hwnt i’r trothwy o 5 munud i gyrraedd seilwaith gwyrdd lleol.

Ar gyfartaledd, bydd unigolyn sy’n cerdded am 5 munud yn mynd tua 400 metr. Er mwyn darparu ar gyfer diffygion methodoleg pellter Ewclidaidd, lluniwyd polygonau amser teithio â radiws o 300 metr er mwyn ystyried rhwystrau go iawn i fynediad i fannau gwyrdd.

Yna, cafodd yr holl anheddau preswyl (fel y’u cafwyd o OS NGD Built Address) eu croestorri â pholygonau amser teithio er mwyn nodi os oeddent o fewn 5 munud ar droed i fan gwyrdd naturiol hygyrch yn ôl y diffiniad.

Wedyn, cafodd yr anheddau eu cyfuno i Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is (ACEHI) a chyfrifwyd canran cyfanswm yr anheddau a oedd yn agos at fan gwyrdd naturiol hygyrch.

Annex 9.3: llygredd swn

Cwmpas a chefndir

Penodwyd Noise Consultants Limited (NCL) gan Is-adran Diogelwch Amgylcheddol Llywodraeth Cymru yn 2021 er mwyn paratoi mapiau sŵn strategol Rownd 4 a'r ystadegau amlygrwydd i sŵn cysylltiedig yng Nghymru. Creodd NCL bartneriaeth â Mott MacDonald, Oden Systems, Acustica a Stapelfeldt (‘Tîm y Prosiect’) i ddatblygu'r model a darparu'r allbynnau gofynnol. Darparwyd y mapiau a'r modelau i Lywodraeth Cymru yn 2023. 

Mae'r gofyniad i lunio mapiau sŵn strategol oherwydd Rheoliadau Sŵn Amgylcheddol (Cymru) 2006. Mae'r Rheoliadau'n gofyn am fapio'r canlynol: 

  • Ffyrdd mawr (y rhai â mwy na 3 miliwn o symudiadau blynyddol)
  • Rheilffyrdd mawr (y rhai â mwy na 30,000 o dramwyadau trên blynyddol)
  • Meysydd awyr mawr (y rhai â mwy na 50,000 o symudiadau blynyddol)
  • Ffynonellau mewn crynodrefi (ffynonellau diwydiant, ffyrdd a rheilffyrdd). 

Mae'r Rheoliadau'n gofyn bod sŵn yn cael ei fapio bob 5 mlynedd. Hyd yma, bu pedair rownd o fapio sŵn strategol, gyda'r rownd ddiweddaraf (Rownd 4) yn seiliedig ar y sefyllfa yn 2021. 

Caiff data'r model a'r canlyniadau cysylltiedig eu defnyddio i ddeillio ystadegau amlygrwydd i sŵn AGEHI eu cymryd o fodel a chanlyniadau mapio sŵn strategol Rownd 4. Felly, mae'r canlyniadau mapio sŵn yn ymwneud â'r flwyddyn 2021. 

Ar ôl cwblhau'r gwaith mapio, cysylltodd Llywodraeth Cymru ag NCL i geisio deall ymarferoldeb darparu ystadegau amlygrwydd i sŵn yn seiliedig ar ganlyniadau'r gwaith mapio sŵn ffyrdd a rheilffyrdd ar gyfer Cymru ar lefel AGEHI, i fod yn ffactor yn MALlC 2025. 

Roedd NCL eisoes wedi cwblhau a darparu ystadegau amlygrwydd i sŵn lefel AGEHI i Deprivation.org a fyddai'n cynnwys Mynegeion Amddifadedd Lloegr 2025, ac felly, er mwyn sicrhau cysondeb, roedd y dull a fabwysiadwyd ar gyfer ystadegau amlygrwydd i sŵn AGEHI Cymru yn debyg.

Deillio ystadegau amlygrwydd i sŵn

Set ddata ffin ystadegol

Er mwyn cynhyrchu'r ystadegau amlygrwydd i sŵn ar lefel AGEHI, cafwyd gafael ar set ddata ffin AGEHI gan Borth Daearyddiaeth Agored y SYG.

Metrigau sŵn

Lluniwyd ystadegau amlygrwydd i sŵn o'r canlyniadau mapio sŵn ar gyfer metrig sŵn Lden. Mae'r metrig sŵn Lden, y cyfeirir ato hefyd fel y ‘lefel dydd-gyda'r nos-dros nos’, yn cynrychioli sŵn hirdymor cyfartalog blynyddol dros 24 awr, ac mae'n cynnwys cymhwyso cosb 5dB(A) ar gyfer sŵn o fewn y cyfnod gyda'r nos (19:00-23:00) a chosb 10dB(A) ar gyfer sŵn o fewn y cyfnod dros nos (23:00-07:00). 

Caiff y cosbau eu cymhwyso i gyfrif am y sensitifrwydd cynyddol i lefelau sŵn o fewn y cyfnodau hyn. 

Caiff y metrig sŵn Lden ei ddefnyddio ar raddfa eang mewn astudiaethau effaith iechyd, gan gysylltu amlygrwydd i sŵn hirdymor â'r risg o glefyd y galon isgemig, gorbwysedd, strôc ac anfodlonrwydd. Felly, caiff y metrig hwn ei ystyried yn briodol ar gyfer y MALlC. Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth yng Nghanllawiau Sŵn Amgylcheddol Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer y Rhanbarth Ewropeaidd.

Ffynonellau sŵn wedi'u cynnwys

Mae ystadegau amlygrwydd i sŵn AGEHI yn defnyddio canlyniadau mapio sŵn Rownd 4 o ffynonellau sŵn traffig y ffordd a'r rheilffordd, lle mae pob ffordd a rheilffordd gyhoeddus yng Nghymru wedi'i modelu a'i mapio. Mae sŵn diwydiant yn Rownd 4 wedi'i fodelu ar lefel gymharol uchel o gymharu â ffyrdd a rheilffyrdd, a chaiff ond ei fodelu o fewn crynodrefi. Felly, ystyriwyd nad oedd cynnwys sŵn diwydiant yn briodol yn ystadegau amlygrwydd i sŵn AGEHI, ac mae data amlygrwydd cyfunol ond yn seiliedig ar ffynonellau ffyrdd a rheilffyrdd Rownd 4 yn unig.

Trosolwg o gamau prosesu

Mae'r adran hon yn cynnig crynodeb o'r camau prosesu a gymerwyd i lunio ystadegau amlygrwydd i sŵn AGEHI. Caiff trosolwg fanylach o'r broses i lunio ystadegau amlygrwydd i sŵn lefel AGEHI ei chyflwyno yn Atodiad A1.

Creu canlyniadau lefel adeiladu ffyrdd a rheilffyrdd

Mae cyfrifo amlygrwydd i sŵn ar lefel adeiladu ar gyfer ffynonellau ffyrdd a rheilffyrdd yn gofyn am gysylltu canlyniadau modelu ar gyfer derbynyddion ffasâd adeilad gyda nifer yr anheddau o fewn adeiladau, yn ogystal â phennu nifer o bobl i bob annedd. 

Mae'r dull o bennu lefelau a gyfrifwyd wrth dderbynyddion y ffasâd i anheddau a phobl mewn anheddau wedi'u gosod yn CNOSSOS-EU. Mae tri dull ar gael, a grynhoir isod: 

Dull 1: Mae lleoliad anheddau unigol yn hysbys

Pan fo lleoliad anheddau unigol yn hysbys (fel gyda thai ar wahân, tai pâr, tai teras neu adeiladau o fflatiau lle mae rhaniad mewnol yr adeiladau yn hysbys), caiff yr annedd a nifer y bobl yn yr annedd eu pennu i bwynt derbyn y ffasâd wrth ffasâd mwyaf agored yr annedd. 

Dull 2: Mae gwybodaeth ar gael sy'n dangos y caiff anheddau eu trefnu mewn fflat fel bod ganddynt ffasâd unigol sy'n agored i sŵn.

Mae dull 2 yn gymwys i flociau o fflatiau y mae gan bob un ohonynt ffenestr ym mhob fflat gan wynebu un cyfeiriad yn unig. O dan y dull hwn, caiff yr anheddau a'r bobl mewn anheddau eu pennu i bob derbynnydd ffasâd sy'n gysylltiedig â'r adeilad, wedi'u pwysoli gan hyd y ffasâd y mae pob derbynnydd ffasâd yn ei gynrychioli, gan arwain at bennu'r lefelau sŵn a gyfrifir isaf, canolig ac uchaf o gwmpas ffasâd yr adeilad i'r anheddau a'r nifer o bobl yn yr anheddau. 

Dull 3: Mae gwybodaeth ar gael sy'n dangos y caiff anheddau eu trefnu mewn adeilad o fflatiau fel nad oes mwy nag un ffasâd yn cael ei hamlygu i sŵn. 

Mae Dull 3 yn gymwys i'r adeiladau o fflatiau a chanddynt anheddau â ffenestri yn wynebu mwy nag un cyfeiriad. Dylid ystyried y dull hwn hefyd fel y senario awtomatig mewn sefyllfaoedd lle nad yw cynllun yr anheddau mewn adeilad yn hysbys. Dan y dull hwn, caiff lefelau sŵn uwchlaw canolrif pob derbynnydd ffasâd adeilad eu pennu i'r anheddau a'r bobl mewn anheddau. 

Ni fu'n bosibl ystyried Dull 2, o gofio bod cynllun yr anheddau yn yr adeiladau a ystyrir ym mapiau Rownd 4 yn anhysbys. Felly: 

  • Mae Dull 1 wedi'i gymhwyso i adeiladau ag un annedd; ac
  • Mae Dull 3 wedi'i gymhwyso i bob adeilad preswyl amlanheddog arall

Pennwyd lefelau sŵn i boblogaeth ac anheddau gan ddefnyddio'r dulliau a ddisgrifiwyd uchod, drwy uno data priodoleddau o set ddata'r adeilad, set ddata derbynnydd y ffasâd, a'r holl wybodaeth sy'n ofynnol o fewn ffeiliau canlyniadau'r model. Cafodd yr amcangyfrif canlyniadau amlygrwydd eu hallbynnu ym mhob adeilad ar gyfer pob derbynnydd cynrychioliadol ac roedd pob band amlygrwydd i sŵn o 1dB yn cyfrifo metrigau sŵn gan gynnwys Lden.

Pennu cod AGEHI i ganlyniadau ffyrdd a rheilffyrdd a godwyd

Cynhaliwyd dadansoddiad gofodol er mwyn nodi ffin AGEHI fod pob adeilad o'i fewn, a phennu'r cod (‘LSOA21CD’) ac enw (‘LSOA21NM’) AGEHI cyfatebol i'r adeilad.

Cyfrifo'r lefel sŵn gyfunol yn yr adeiladau

Cyfrifwyd lefel sŵn gyfunol sy'n cyfuno sŵn ffyrdd a rheilffyrdd lefel adeilad drwy grynhoad logarithmig, fel a ganlyn:

Deillio ystadegau amlygrwydd i sŵn AGEHI

Lluniodd y gwaith prosesu a osodwyd uchod set ddata adeiladu lle priodolwyd y canlynol i bob adeilad: 

  • Cod ac enw AGEHI
  • Poblogaeth
  • Amlygrwydd i sŵn cyfunol (ffyrdd a rheilffyrdd cyfunol, Lden)
  • Amlygrwydd i sŵn traffig ffyrdd (Lden)
  • Amlygrwydd i sŵn rheilffyrdd (Lden)

Defnyddiwyd y data a briodolwyd i gyfrifo cyfanswm y boblogaeth a'r boblogaeth a amlygwyd i ffyrdd, rheilffyrdd ac Lden cyfunol, ac allbwn fel ffeil CSV a oedd yn cynnwys y boblogaeth a amlygir i ffyrdd, rheilffyrdd a sŵn cyfunol fesul AGEHI mewn bandiau 1dB o 40dB hyd at >=75 dB a chaiff cyfanswm y boblogaeth ei gyfrifo o'r haen canlyniadau adeiladau fesul AGEHI.