Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Diben y maes hwn yw cofnodi graddau'r amddifadedd sy'n ymwneud ag addysg, hyfforddiant a sgiliau. Bwriedir iddo adlewyrchu anfanteision addysgol mewn ardal o ran diffyg cymwysterau a sgiliau. Mae gan y maes bwysoliad cymharol o 14% yn y mynegai cyffredinol.

Dangosyddion

Ffigur 5.1: dangosydd y maes addysg, MALlC 2025

Image

Disgrifiad o ffigur 5.1:  diagram sy'n dangos bod gan y maes addysg 5 dangosydd, a'r ganran a nodir wrth bob dangosydd yw'r swm y mae'n cyfrannu at y maes cyffredinol. 

Mae 3 dangosydd yn canolbwyntio ar nodi cyrhaeddiad isel ac ymddygiadau a allai effeithio ar hynny (fel cyfraddau absenoldeb) ymhlith plant ysgol: 

  • sgôr pwyntiau cyfartalog disgyblion blwyddyn 11 (Cyfnod Allweddol 4, CA4) a gyfrifwyd ar sail y graddau a enillwyd ym mhynciau craidd TGAU Cymraeg neu Saesneg, mathemateg a gwyddoniaeth (neu gymwysterau cyfatebol); cyfartaledd 2 flynedd yn seiliedig ar flynyddoedd academaidd 2022 i 2023 (2022/23) a 2023/24
  • dau gyfradd absenoldeb cyson yn mesur canran y disgyblion ysgol gynradd ac uwchradd (yn y drefn honno) sy’n colli 10% neu'n fwy o sesiynau ysgol; cyfartaleddau 2 flynedd yn seiliedig ar flynyddoedd academaidd 2022/23 a 2023/24

Mae 2 ddangosydd yn canolbwyntio ar gasglu gwybodaeth am ddiffyg cymwysterau a sgiliau ymhlith oedolion a phobl ifanc o oedran addysg ôl-orfodol:

  • cyfran y disgyblion CA4 sydd, rywbryd yn ystod y pedair blynedd ddilynol ar ôl gadael blwyddyn 11, yn mynd i Addysg Uwch; cyfartaledd 4 blynedd yn seiliedig ar ddisgyblion a adawodd yr ysgol rhwng blynyddoedd academaidd 2016/17 a 2019/20
  • cyfran yr oedolion 25 i 64 oed heb gymwysterau neu gymwysterau isel (lefel un), yn seiliedig ar ddata Cyfrifiad 2021

Mae manylion llawn am y dangosyddion ac adeiladwaith y maes ar gael yn adroddiad technegol MALlC 2025. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am y ddau ddangosydd blaenorol (Cyfnod Sylfaen a chyrhaeddiad CA2) na ellir eu cynnwys mwyach.

Prif bwyntiau

Ffigur 5.2: map o ACEHIau wedi'u lliwio yn ôl grŵp amddifadedd addysg, MALlC 2025

Image

© Hawlfraint y Goron 2025. Cartograffeg. Llywodraeth Cymru.

Disgrifiad o ffigur 5.2: mae'r map yn dangos ym maes addysg MALlC 2025, roedd pocedi o amddifadedd addysg uchel yng nghymoedd y de, mewn trefi mawr a dinasoedd, ac mewn rhai trefi ar yr arfordir yn y gogledd a'r gorllewin.

  • Ar gyfer y maes addysg, yr ardal fwyaf difreintiedig yng Nghymru oedd Cymer 2 (Castell-nedd Port Talbot), roedd yr ardal yn y 53ydd safle mwyaf difreintiedig yn 2019.
  • Roedd 3 o'r 10 ardal fwyaf difreintiedig ym MALlC 2025 hefyd ymhlith y 10 ardal fwyaf difreintiedig ym MALlC 2019.
  • Yr awdurdod lleol â'r gyfran uchaf o ardaloedd yn y 10% mwyaf difreintiedig oedd Blaenau Gwent (22%), yna Castell-nedd Port Talbot (21%).
  • Ceredigion oedd yr unig awdurdod lleol heb ACEHIau yn y 10% o ardaloedd mwyaf difreintiedig.
  • Mae patrymau cyffredinol amddifadedd addysgol ym MALlC 2025 yn debyg i'r rhai ar gyfer MALlC 2019.

Gellir lawrlwytho'r set lawn o safleoedd y meysydd o MALlC 2025 a'r dangosyddion sylfaenol o dudalennau gwe StatsCymru.

Cymhariaeth rhwng MALlC 2019 a MALlC 2025

Mae dau ddangosydd wedi'u tynnu allan o'r maes hwn, rhannodd un arall yn ddau ddangosydd (yn ôl cam ysgol) ac mae cwmpas un arall wedi newid ychydig. Felly, nid yw'r maes addysg yn uniongyrchol gymharol â'r maes ar gyfer MALlC 2019. I gael gwybodaeth am sut mae'r maes wedi newid ers 2019, gweler adroddiad technegol MALlC 2025.

Tabl 5.1: symudiadau rhwng grwpiau amddifadedd addysg rhwng MALlC 2019 a 2025
Grŵp 
amddifadedd 
MALlC
10% 
mwyaf 
difreintiedig
2025
10% i 20% 
mwyaf 
difreintiedig
2025
20% i 30% 
mwyaf 
difreintiedig
2025
30% i 50% 
mwyaf 
difreintiedig
2025
50% 
lleiaf 
difreintiedig
2025
10% 
mwyaf 
difreintiedig
2019
73%21%5%1%0%
10% i 20% 
mwyaf 
difreintiedig 
2019
25%41%23%9%2%
20% i 30% 
mwyaf 
difreintiedig
2019
2%26%32%34%6%
30% i 50% 
mwyaf 
difreintiedig 
2019
0%6%19%50%25%
50% lleiaf 
difreintiedig 
2019
0%0%1%11%88%

Dengys y tabl ganran yr ardaloedd bach (ACEHIau) ym mhob grŵp amddifadedd ar gyfer MALlC 2019 sydd wedi aros neu symud grŵp ym MALlC 2025. I gael esboniad ar sut rydym wedi trin y lleiafrif o ardaloedd sydd wedi newid ffin, a'r safleoedd a gyfrifwyd ym mhob categori ar gyfer MALlC 2019 a MALlC 2025, gweler yr adroddiad canllawiau.

Dengys y groeslinell (o'r ochr chwith uchaf i'r dde gwaelod) ganran yr ardaloedd sydd wedi aros yn yr un grŵp amddifadedd. Uwchlaw'r groeslinell ceir canrannau'r ardaloedd sydd wedi symud o grŵp mwy difreintiedig i grŵp llai difreintiedig. Islaw'r groeslinell ceir canrannau'r ardaloedd sydd wedi symud o grŵp llai difreintiedig i grŵp mwy difreintiedig.

Mae'r tabl yn dangos bod:

  • y rhan fwyaf o ACEHIau yn y grwpiau amddifadedd mwyaf difreintiedig a lleiaf difreintiedig wedi aros yn yr un grŵp rhwng 2019 a 2025
  • yr oedd 73% o'r 10% o ardaloedd mwyaf difreintiedig yn 2019 yn dal i fod ymhlith y grŵp hwnnw yn 2025
  • yr oedd 88% o'r 50% o ardaloedd lleiaf difreintiedig yn 2019 yn dal i fod ymhlith y grŵp hwnnw yn 2025

Yn gymharol fwy difreintiedig

Dim ond un ardal a symudodd gan fwy na 2 grŵp amddifadedd i ddod yn gymharol fwy difreintiedig, sef y Maerdy 3 yn Sir Fynwy, a symudodd o'r 30% i'r 50% lleiaf difreintiedig yn 2019 i'r 10% mwyaf difreintiedig yn 2025 (nodwch nad yw hyn yn ymddangos yn y tabl uchod oherwydd talgrynnu).

Cymharol lai difreintiedig

Symudodd chwech ACEHI fwy na 2 grŵp amddifadedd gan ddod yn gymharol lai difreintiedig:

  • symudodd 2 ardal o grŵp y 10% mwyaf difreintiedig ym MALlC 2019 i grŵp y 30% i 50% mwyaf difreintiedig ym MALlC 2025
  • mae 4 ardal wedi symud o grŵp y 10% i 20% mwyaf difreintiedig i grŵp y 50% lleiaf difreintiedig

Roedd Caerdydd yn cynnwys 4 o'r ardaloedd hyn, yn Adamsdown, Cathays a Butetown, gyda niferoedd bach iawn o ddisgyblion yn effeithio ar y 2 ardal olaf. Roedd Rhondda Cynon Taf yn cynnwys un (yn ardal Trefforest) ac roedd Wrecsam yn cynnwys un (yn ardal Brynyffynnon).

Dadansoddiad awdurdodau lleol

Ffigur  5.3: plot blychau o safleoedd maes Addysg MALlC 2025, yn ôl awdurdod lleol

Image

Disgrifiad o ffigur 5.3: dengys y siart ddosbarthiad safleoedd y maes addysg ar gyfer pob awdurdod lleol. Mae'r blychau glas yn cynnwys hanner cyfanswm yr ardaloedd bach (ACEHIau) ym mhob awdurdod lleol, wedi'i ganoli ar y safle canolrifol (canol) ar gyfer pob awdurdod lleol a dengys y ‘wisgers’ yr ystod lawn o safleoedd yn yr awdurdod lleol. Mae amddifadedd yn cynyddu wrth i'r safle ostwng (hynny yw, tua ochr chwith gwaelod y plot). 

Yng Nghaerdydd, Bro Morgannwg a Chasnewydd mae dosbarthiad y safleoedd maes addysg ar ei fwyaf ac yng Ngheredigion mae ar ei gulaf . Sir Fynwy sydd â'r safle canolrifol uchaf (llai difreintiedig) a Blaenau Gwent sydd â'r un isaf (mwy difreintiedig).

Crynodiadau o ardaloedd difreintiedig maes addysg, yn ôl awdurdod lleol

Un ffordd o ystyried data MALlC ar lefel awdurdod lleol yw edrych ar gyfran yr ardaloedd yn yr awdurdod lleol sydd yn y 10% mwyaf difreintiedig (neu'r 20% ac ati) o'r holl ardaloedd. Mae modd ystyried y dull hwn fel nodi crynodiad o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig mewn awdurdod lleol, yn hytrach na'r lefel amddifadedd cyfartalog.

Mae canlyniadau maes addysg MALlC 2025 yn dangos y canlynol: 

  • yr awdurdod lleol â'r gyfran uchaf o ardaloedd yn y 10% mwyaf difreintiedig oedd Blaenau Gwent (22%), yna Castell-nedd Port Talbot (21%), yna Rhondda Cynon Taf (20%)
  • Blaenau Gwent a Merthyr Tudful oedd â'r ganran uchaf o ardaloedd yn y 50% mwyaf difreintiedig (85% a 83% yn y drefn honno)
  • Ceredigion oedd yr unig awdurdod lleol heb unrhyw ardaloedd bach yn y 10% mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Dim ond un ardal sydd yn Sir Fynwy ac mae gan Bowys ac Ynys Môn ddwy ardal yr un yn y 10% mwyaf difreintiedig
  • Ceredigion sydd â'r gyfran isaf o ardaloedd yn y 50% mwyaf difreintiedig ar 18%, yna Sir Fynwy (21%) a Phowys (28%)

Crynodiadau o ardaloedd sy'n wynebu amddifadedd o ran addysg ym MALlC 2025, yn ôl awdurdod lleol ar StatsCymru.

Ffynonellau perthnasol eraill

Ystadegau addysg Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi gwybodaeth am addysg a sgiliau yng Nghymru. Mae'r ystadegau hyn yn cwmpasu ystod eang o bynciau yn ymwneud ag addysg, gan gynnwys canlyniadau arholiadau ac absenoldeb.

Medr

Mae Medr, y Comisiwn Addysg ac Ymchwil Drydyddol, yn cyhoeddi ystadegau swyddogol am addysg drydyddol a data eraill yn ymwneud ag addysg ac ymchwil drydyddol. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am ben taith dysgwyr ôl-16 wrth gwblhau eu rhaglenni dysgu.

Swyddfa Ystadegau Gwladol

Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol hefyd yn cyhoeddi ystadegau yn ymwneud ag addysg o Gyfrifiad 2021.

Arolwg cyrchfannau disgyblion

Caiff data ar bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant (NEET) eu cyhoeddi gan Gyrfa Cymru yn seiliedig ar yr arolwg cyrchfannau disgyblion. Er na fu'n bosibl defnyddio'r data hwn ym MALlC 2025 oherwydd y pryderon yn ymwneud ag ymdriniaeth a chysondeb ar lefel AGEHI, byddwn yn ystyried unrhyw ddatblygiadau ar gyfer datganiadau MALlC i'r dyfodol.