Neidio i'r prif gynnwy

Diben MALlC yw nodi’r ardaloedd bach yng Nghymru sydd fwyaf difreintiedig.

Cyhoeddwyd gyntaf: 27 Tachwedd 2025
Diweddarwyd ddiwethaf: 9 Rhagfyr 2025

Cyflwyniad

Cyflwyniad

MALlC

Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) yw’r mesur swyddogol o amddifadedd cymharol ar gyfer ardaloedd bach yng Nghymru. Mae’n nodi ardaloedd â’r crynodiadau uchaf o sawl math gwahanol o amddifadedd. Mae MALlC yn pennu safle pob ardal fach yng Nghymru o 1 (mwyaf difreintiedig) i 1,917 (lleiaf difreintiedig). Ystadegyn swyddogol achrededig ydyw, sy’n cael ei baratoi gan ystadegwyr yn Llywodraeth Cymru.

Defnyddir MALlC gan Lywodraeth Cymru a chyrff eraill y llywodraeth, llywodraeth leol a Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus, academyddion a myfyrwyr, yn ogystal â’r trydydd sector a’r sector preifat. Diben y mynegai yw darparu tystiolaeth am yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru er mwyn llywio amrywiaeth o benderfyniadau ac ymchwil, gan gynnwys cyllido neu dargedu rhaglenni a gwasanaethau ar gyfer ardaloedd lleol.

Mae’r datganiad hwn yn diweddaru MALlC 2019, ond mae rhai newidiadau (a esbonnir isod) yn golygu nad oes modd cymharu allbynnau MALlC 2025 yn uniongyrchol â mynegeion blaenorol.

Rydym yn ddiolchgar am gyfraniadau llawer o bobl a sefydliadau sydd wedi darparu data a chyngor ar gyfer MALlC 2025.

Yr hyn y mae MALlC yn ei fesur

Mae bod yn ddifreintiedig yn golygu mwy na bod yn dlawd yn unig. Gall hefyd olygu llai o adnoddau a chyfleoedd nag y gallem eu disgwyl yn ein cymdeithas, er enghraifft o ran iechyd, addysg neu mynediad at wasanaethau. Mae MALlC yn cynnwys 8 maes (neu fath) gwahanol o amddifadedd, a chaiff pob un ei lunio o nifer o ddangosyddion gwahanol. Mae’r mynegai yn adio’r sgoriau amddifadedd o’r gwahanol feysydd, ond rhoddir mwy o bwysoliad i rai meysydd na rhai eraill sy'n dangos eu bod yn cyfrannu mwy at y mynegai cyffredinol.

Yr hyn y mae MALlC yn ei fesur

Mae bod yn ddifreintiedig yn golygu mwy na bod yn dlawd yn unig. Gall hefyd olygu llai o adnoddau a chyfleoedd nag y gallem eu disgwyl yn ein cymdeithas, er enghraifft o ran iechyd, addysg neu mynediad at wasanaethau. Mae MALlC yn cynnwys 8 maes (neu fath) gwahanol o amddifadedd, a chaiff pob un ei lunio o nifer o ddangosyddion gwahanol. Mae’r mynegai yn adio’r sgoriau amddifadedd o’r gwahanol feysydd, ond rhoddir mwy o bwysoliad i rai meysydd na rhai eraill sy'n dangos eu bod yn cyfrannu mwy at y mynegai cyffredinol. 

Y meysydd a’u pwysoliadau ar gyfer MALlC 2025

  • Incwm, 22%
  • Cyflogaeth, 20%
  • Iechyd, 15%
  • Addysg, 14%
  • Mynediad at wasanaethau, 10%
  • Tai, 9%
  • Diogelwch cymunedol, 5%
  • Amgylchedd ffisegol, 5%

Sut y caiff MALlC ei lunio

Mae i’r mynegai dair elfen:

  • y 54 o setiau data dangosyddion sylfaenol
  • safleoedd ar gyfer yr wyth maes (neu fath) gwahanol o amddifadedd, a grëwyd drwy gyfuno dangosyddion perthnasol o fewn pob maes
  • safleoedd cyffredinol MALlC, a grëwyd drwy gyfuno safleoedd y meysydd

Cyfrifir yr holl elfennau hyn ar gyfer pob un o’r Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is (ACEHIau) yng Nghymru. Llunnir ffiniau ACEHIau gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) ar ôl pob cyfrifiad. Daearyddiaeth ystadegol safonol ydynt, a ddefnyddir at ddibenion nodi ystadegau am ardaloedd bach. Ceir rhestr lawn o’r dangosyddion yn y bennod gefndir olaf.

Mae’r ffordd y caiff y dangosyddion a’r meysydd eu cyfuno wedi’i llunio i wahaniaethu’n ddibynadwy rhwng ardaloedd ar y pen mwyaf difreintiedig o’r dosbarthiad, ond nid ar y pen lleiaf difreintiedig. Mae hyn yn golygu bod y gwahaniaethau rhwng yr ardaloedd lleiaf difreintiedig yng Nghymru wedi’u diffinio’n llai manwl na’r gwahaniaethau rhwng yr ardaloedd mwyaf difreintiedig.

Nid oes trothwy penodol lle mae ardal yn cael ei disgrifio’n ‘un ddifreintiedig’ os yw’n uwch na’r trothwy hwnnw. Mae safleoedd MALlC yn aml yn cael eu grwpio’n ddegraddau, yn gwintelau neu’n grwpiau eraill at ddibenion dadansoddi. Mae degraddau'n rhannu set o ddata yn 10 rhan gyfartal, a chwintelau yn 5. Y degradd gyntaf yw'r 10% o werthoedd isaf, yr ail ddegradd yw'r 10% nesaf ac yn y blaen. Mae’r grwpiau amddifadedd a ddefnyddir yn yr adroddiad hwn wedi’u llunio i roi grwpiau llai o faint ar y pen mwyaf difreintiedig o’r dosbarthiad, lle mae’r gwahaniaeth rhwng ardaloedd yn fwy nag ar y pen lleiaf difreintiedig.

Newidiadau ar gyfer MALlC 2025

Mae’r fethodoleg yr un fath â methodoleg mynegeion blaenorol ar y cyfan, gyda’r un wyth maes neu fath o amddifadedd wedi’u cofnodi. Fodd bynnag, mae rhai setiau data, methodolegau a daearyddiaethau newydd wedi cael eu defnyddio i baratoi MALlC 2025, sy’n golygu nad oes modd cymharu allbynnau yn uniongyrchol â mynegeion blaenorol.

Dangosyddion newydd

  • Tai: anallu i fforddio dod yn berchen-feddiannydd neu ddod yn rhan o’r farchnad rhentu breifat.
  • Tai: anheddau â pherfformiad ynni gwael.
  • Mynediad at wasanaethau: amseroedd teithio i wasanaethau gofal plant.
  • Amgylchedd ffisegol: llygredd sŵn.

Y prif newidiadau i ddangosyddion sy’n bodoli eisoes

  • Incwm: adolygwyd y dangosydd yn sgil cyflwyno Credyd Cynhwysol.
  • Cyflogaeth: fel uchod, ac mae bellach yn cynnwys y rhai nad ydynt yn gweithio oherwydd cyfrifoldebau gofalu.
  • Addysg: absenoldeb wedi’i rannu yn ôl cyfnod cynradd ac uwchradd, newid bach i’r dangosydd ynglŷn â chymwysterau.
  • Mynediad at wasanaethau: dull newydd o gyfrifo amseroedd teithio cyfartalog a rhai newidiadau i ffynonellau data sy’n ymwneud â lleoliadau.
  • Amgylchedd ffisegol: ffynhonnell data newydd ar gyfer mannau gwyrdd amgylchol, a rhai newidiadau i’r hyn sy’n cael ei gynnwys fel man gwyrdd yn y mesur o agosrwydd.
  • Diogelwch cymunedol: mae troseddau treisgar a gofnodwyd gan yr heddlu wedi’u rhannu’n is-ddangosyddion, gyda rhai newidiadau i godau troseddu, ac mae’r rhan fwyaf o’r enwaduron ynglŷn â chyfraddau troseddau bellach yn cynnwys poblogaeth amhreswyl yn ystod y dydd.

Nid yw’r dangosyddion wedi’u cynnwys mwyach

Mae’r ddau ddangosydd hyn wedi cael eu dileu yn y mynegai ar gyfer MALlC 2025 gan nad yw setiau data wedi’u diweddaru ar gael:

  • maes addysg, sgôr pwyntiau cyfartalog y cyfnod sylfaen
  • maes addysg, sgôr pwyntiau cyfartalog Cyfnod Allweddol 2

Newidiadau i bwysoliad meysydd

Mae 2 ddangosydd newydd wedi cael eu hychwanegu at y maes tai, sydd wedi arwain at gynnydd bach yn ei bwysoliad o 7% i 9%. Er mwyn caniatáu ar gyfer hyn, mae’r pwysoliad ar gyfer y maes cyflogaeth wedi cael ei leihau ychydig o 22% i 20%.

Newidiadau i ddaearyddiaethau

Adolygodd y SYG ffiniau ACEHIau ar ôl rhyddhau data Cyfrifiad 2021, ac erbyn hyn ceir 1,917 o ACEHIau yn lle’r 1,909 o ACEHIau blaenorol ar gyfer MALlC 2019.

Ar gyfer beth y gellir defnyddio MALlC

What WIMD can be used for

  • Nodi’r ardaloedd bach mwyaf difreintiedig.
  • Cymharu amddifadedd cymharol ardaloedd bach.
  • Archwilio’r 8 math o amddifadedd ar gyfer ardaloedd bach.
  • Cymharu cyfran yr ardaloedd bach o fewn ardal fwy sy’n ddifreintiedig iawn.
  • Defnyddio rhai data ynglŷn â dangosyddion (ond nid y safleoedd) i gymharu newid absoliwt dros amser.

Gellir hefyd ddefnyddio MALlC i edrych ar y newid mewn safleoedd amddifadedd cymharol rhwng iteriadau, er enghraifft pa ardaloedd sydd wedi gadael y grŵp mwyaf difreintiedig, wedi ymuno ag ef, neu wedi aros ynddo. Fodd bynnag, dylid bod yn ofalus wrth ddehongli newidiadau o ran safle oherwydd newidiadau i’r ffordd y mae’r mynegai yn cael ei gyfrifo rhwng cyhoeddiadau gwahanol.

Ar gyfer MALlC 2025, er mwyn cael y ciplun gorau posibl ar amddifadedd cymharol gan ddefnyddio’r data diweddaraf sydd ar gael, rydym wedi newid rhai o’r dangosyddion a phwysoliadau rhai o’r meysydd. Mae’n bosibl bod y gwelliannau hyn i’r ffordd y mesurir amddifadedd wedi cyfrannu at ardal yn dod yn fwy (neu’n llai) difreintiedig o’i chymharu ag eraill, yn ogystal â newidiadau sylfaenol mewn amddifadedd ers MALlC 2019.

Beth ni ellir defnyddio MALlC ar gyfer

  • Mesur pa mor ddifreintiedig yw ardal fach, nac i ba raddau y mae’n fwy difreintiedig nag ardal arall (mae’r gwahaniaeth rhwng dau safle yn gallu bod yn fach iawn neu’n fawr).
  • Defnyddio safleoedd i wneud casgliadau ynglŷn â newid absoliwt dros amser (am mai mesurau cymharol ydynt).
  • Nodi pobl ddifreintiedig (nid yw pawb sy’n ddifreintiedig yn byw mewn ardal ddifreintiedig).
  • Cymharu â gwledydd eraill y DU (mae pob gwlad yn mesur amddifadedd mewn ffordd ychydig yn wahanol).
  • Mesur golud (nid yw diffyg amddifadedd yr un fath â bod yn oludog).

Manylion pellach

Mae’r canllawiau yn cynnwys rhagor o wybodaeth am yr hyn y mae MALlC yn ei fesur, dehongli’r canlyniadau, a defnyddiau a chyfyngiadau MALlC. Mae’r adroddiad technegol yn cynnwys rhagor o wybodaeth am y fethodoleg a’r ffordd y lluniwyd y mynegai, gan gynnwys pob un o’r dangosyddion ym mhob maes. Mae rhagor o wybodaeth ar gael am yr hyn rydym yn ei gyhoeddi a phryd.

Caiff MALlC ei ddiweddaru bob 5 mlynedd fel arfer, ond nid yw’r dyddiadau cyhoeddi ar gyfer mynegeion yn y dyfodol wedi’u pennu eto.

Mynegai cyffredinol

Cyflwyniad

Mae'r cyflwyniad yn darparu gwybodaeth bwysig am MALlC ac esboniad o'r termau allweddol a ddefnyddir yn y penodau canlyniadau. Ceir manylion llawn am y dangosyddion, y meysydd a’r ffordd y lluniwyd y mynegai yn adroddiad technegol MALlC 2025.

Prif bwyntiau

Ffigur 1.1: map o ACEHIau wedi’u lliwio yn ôl grŵp amddifadedd, MALlC 2025

Image

© Hawlfraint y Goron 2025. Cartograffeg. Llywodraeth Cymru.

Disgrifiad o ffigur 1.1: mae’r map yn dangos ym MALlC 2025, bod pocedi o amddifadedd cymharol uchel yn ninasoedd a chymoedd de Cymru, amrywiol drefi arfordirol, a rhai trefi yn y gogledd-ddwyrain.

  • Mae’r darlun cyffredinol yn debyg i’r un a roddwyd gan MALlC 2019.
  • Roedd 5 o’r 10 ardal fwyaf difreintiedig o MALlC 2019 yn dal i fod ymhlith y 10 ardal fwyaf difreintiedig ym MALlC 2025.
  • Yr ardal fach fwyaf difreintiedig yng Nghymru ym MALlC 2025 oedd Gorllewin y Rhyl 2 (yr ardal o amgylch Stryd Fawr y Rhyl) yn Sir Ddinbych, sef yr ardal fwyaf difreintiedig ym MALlC 2019.
  • Mae amddifadedd yn wasgaredig ledled Cymru: mae pob un ond un o'r 22 o awdurdodau lleol yn cynnwys o leiaf un o’r 10% o ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru.
  • Yr awdurdod lleol â’r gyfran uchaf o ardaloedd bach yn y 10% mwyaf difreintiedig yng Nghymru oedd Blaenau Gwent (20% neu 9 ardal), yna Gasnewydd (18% neu 18 o ardaloedd).
  • Sir Fynwy oedd yr unig awdurdod lleol heb ardaloedd yn y 10% mwyaf difreintiedig ac roedd gan Bowys a Cheredigion un ardal yn y 10% mwyaf difreintiedig..
  • Mae dadansoddiad o amddifadedd hirsefydlog yn edrych ar ardaloedd sydd wedi aros yn y 50 mwyaf difreintiedig ar gyfer pob iteriad o MALlC yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf: mae 22 o ardaloedd bach o amddifadedd hirsefydlog, sydd wedi’u rhannu rhwng 10 awdurdod lleol.

Gellir lawrlwytho’r set lawn o safleoedd meysydd MALlC 2025 a’r dangosyddion sylfaenol o dudalennau gwe StatsCymru.

Cymhariaeth rhwng MALlC 2019 a MALlC 2025

Mae’r cyflwyniad yn crynhoi’r newidiadau ar gyfer 2025. I gael gwybodaeth fanwl am sut mae’r mynegai a phob maes wedi newid ers 2019, gweler yr adroddiad technegol.

Tabl 1.1: symudiad rhwng grŵp amddifadedd rhwng MALlC 2019 a 2025
Grŵp 
amddifadedd 
MALlC
10% 
mwyaf 
difreintiedig
2025
10% i 20% 
mwyaf 
difreintiedig 
2025
20% i 30% 
mwyaf 
difreintiedig
2025
30% i 50% 
mwyaf 
difreintiedig 
2025
50%
 lleiaf 
difreintiedig
2025
10% 
mwyaf 
difreintiedig
2019
85%14%2%0%0%
10% i 20% 
mwyaf 
difreintiedig 2019
15%65%18%2%0%
20% i 30% 
mwyaf 
difreintiedig
2019
0%19%59%21%1%
30% i 50% 
mwyaf 
difreintiedig
2019
0%1%11%69%19%
50% 
lleiaf 
difreintiedig
2019
0%0%0%8%92%

Dengys y tabl ganran yr ardaloedd bach (ACEHIau) ym mhob un grŵp amddifadedd ar gyfer MALlC 2019 sydd wedi aros yn yr un grŵp neu sydd wedi symud grŵp ym MALlC 2025. Mae’r grwpiau amddifadedd a ddefnyddir yn yr adroddiad hwn wedi’u llunio i roi grwpiau llai o faint ar y pen mwyaf difreintiedig o’r dosbarthiad, lle mae’r gwahaniaeth rhwng ardaloedd yn fwy nag ar y pen lleiaf difreintiedig.

Oherwydd newidiadau i gyfanswm nifer yr ACEHIau ac i ffiniau rhai ACEHIau, cymhariaeth fras yw hon fel yr eglurwyd ymhellach yn adroddiad canllawiau MALlC 2025.

Dengys y groeslinell (o’r ochr chwith uchaf i’r dde gwaelod), ganran yr ardaloedd sydd wedi aros yn yr un grŵp amddifadedd. Uwchlaw’r groeslinell ceir canrannau’r ardaloedd sydd wedi symud o grŵp mwy difreintiedig i grŵp llai difreintiedig. Islaw’r groeslinell ceir canrannau’r ardaloedd sydd wedi symud o grŵp llai difreintiedig i grŵp mwy difreintiedig.

Mae’r tabl yn dangos:

  • bod y rhan fwyaf o ACEHIau wedi aros yn yr un grŵp amddifadedd rhwng 2019 a 2025
  • o’r 10% o ardaloedd mwyaf difreintiedig yn 2019, fod 85% wedi aros yn y grŵp hwnnw yn 2025
  • o’r 50% o ardaloedd lleiaf difreintiedig yn 2019, fod 92% wedi aros yn y grŵp hwnnw yn 2025
  • bod 29 o ardaloedd wedi symud i grŵp y 10% mwyaf difreintiedig yn 2025; roedd pob un o’r rhain yng ngrŵp y 10% i’r 20% mwyaf difreintiedig yn 2019

Ardaloedd a newidiodd ei safle fwyaf

Nid oedd unrhyw ardaloedd wedi symud fwy na 2 grŵp amddifadedd rhwng 2019 a 2025, a dim ond 14 o ACEHIau a symudodd 2 grŵp amddifadedd.

Cymharol lai difreintiedig

Gan ganolbwyntio ar y grwpiau mwyaf difreintiedig, symudodd tair ardal o grŵp y 10% mwyaf difreintiedig yn 2019 i grŵp yr 20% i’r 30% mwyaf difreintiedig yn 2025, gan ddod yn llai difreintiedig. Roedd dwy ardal yn Rhondda Cynon Taf, sef Pentref 5 (ardal o amgylch gorsaf drenau Ystrad Rhondda y mae ei ffin wedi newid) a Gorllewin Tonyrefail 3 (sy’n cynnwys ardal Bryngolau).

Yr ardal arall oedd Plasnewydd 7, ardal o Gaerdydd o amgylch cyffordd Heol Casnewydd a Heol y Ddinas. Daeth yr ardal hon yn gymharol lai difreintiedig mewn 5 maes, gan symud o grŵp y 10% mwyaf difreintiedig i grŵp yr 30% i’r 50% mwyaf difreintiedig o ran cyflogaeth ac incwm (mae llety newydd i fyfyrwyr wedi arwain at gynnydd yn y boblogaeth o oedran myfyriwr yn yr ardal hon).

Y tu hwnt i’r grwpiau mwyaf difreintiedig, roedd y ddau newid mwyaf yn cynnwys un ardal a symudodd o grŵp yr 30% i’r 50% mwyaf difreintiedig i’r 50% lleiaf difreintiedig gan ddod yn gymharol lai difreintiedig. Dyma Barc Tredegar 3 yng Nghasnewydd, AGEHI y mae ei ffin wedi newid ers MALlC 2019 pan gafodd ei grwpio â’r hyn sy’n Barc Tredegar 4 (sydd bellach yng ngrŵp y 10% i’r 20% mwyaf difreintiedig).

Yn gymharol fwy difreintiedig

Roedd y newid mwyaf arall y tu allan i'r grwpiau mwyaf difreintiedig yn Grangetown 12. Mae llety dros dro i bobl ddigartref wedi cael ei gyflwyno yn yr ardal hon (sydd o amgylch Parc Grangemoor yng Nghaerdydd) yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Gostyngodd ei safle cyffredinol o 1,648 yn 2019 i 715 yn 2025, gan symud o’r grŵp 50% lleiaf difreintiedig i grŵp y 30% i’r 50% mwyaf difreintiedig, i fod yn gymharol fwy difreintiedig.

Dadansoddiad yn ôl awdurdod lleol

Ffigur 1.2: plot blychau o safleoedd mynegai MALlC 2025, yn ôl awdurdod lleol

Image

Disgrifiad o ffigur 1.3: dengys y siart ddosbarthiad safleoedd ar gyfer pob awdurdod lleol yng Nghymru. Mae’r blychau glas yn cynnwys hanner cyfanswm yr ardaloedd bach (ACEHIau) ym mhob awdurdod lleol, wedi’i ganoli ar y safle canolrifol (canol) ar gyfer pob awdurdod lleol a dengys y ‘wisgers’ yr ystod lawn o safleoedd yn yr awdurdod lleol. Mae amddifadedd yn cynyddu wrth i’r safle ostwng (hynny yw, tuag ochr chwith gwaelod y plot).

Yng Nghaerdydd y ceir y dosbarthiad mwyaf o safleoedd cyffredinol y mynegai, yna Abertawe a Chasnewydd ac ym Mhowys a Cheredigion y ceir y dosbarthiad culaf. Bro Morgannwg sydd â’r safle canolrifol uchaf (lleiaf difreintiedig) a Blaenau Gwent sydd â’r un isaf (mwyaf difreintiedig).

Crynodiadau o ardaloedd difreintiedig, yn ôl awdurdod lleol

Un ffordd o ystyried data MALlC ar lefel awdurdod lleol yw edrych ar gyfran yr ardaloedd yn yr awdurdod lleol sydd yn y 10% mwyaf difreintiedig (neu’r 20% ac ati) o’r holl ardaloedd. Mae modd ystyried y dull hwn fel nodi crynodiad o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig mewn awdurdod lleol, yn hytrach na’r lefel amddifadedd cyfartalog.

Mae canlyniadau cyffredinol mynegai MALlC 2025 yn dangos y canlynol:

  • yr awdurdod lleol â’r gyfran uchaf o ardaloedd yn y 10% mwyaf difreintiedig yng Nghymru oedd Blaenau Gwent (20% neu 9 ardal) yna Gasnewydd (18% neu 18 o ardaloedd)
  • nid oes unrhyw ardaloedd bach yn y 10% mwyaf difreintiedig yn Sir Fynwy a dim ond un sydd ym Mhowys a Cheredigion
  • Sir Fynwy oedd yr awdurdod lleol â’r crynodiad isaf o ardaloedd yn hanner mwyaf difreintiedig Cymru, sef 19% yna Bowys (29%) a Sir y Fflint (29%)
  • Blaenau Gwent (76%), Merthyr Tudful (72%) a Chastell-nedd Port Talbot (72%) sydd â’r ganran uchaf o ardaloedd yn y 50% mwyaf difreintiedig

Crynodiadau o ardaloedd sy’n wynebu amddifadedd ym MALlC 2025, yn ôl awdurdod lleol ar StatsCymru

Yr ardaloedd mwyaf difreintiedig ym MALlC 2025

Mae’r tabl isod yn rhestru’r 10 ardal fwyaf difreintiedig yng Nghymru, yn ôl MALlC 2025, ynghyd â 5 ardal a oedd yn y safle rhwng 1 a 10 ym MALlC 2019, ond sydd wedi symud allan o’r grŵp hwnnw ym MALlC 2025.

Noder nad yw MALlC yn mesur lefel amddifadedd mewn ardal fach, yn hytrach mae’n mesur a yw ardal yn fwy neu’n llai difreintiedig o’i chymharu ag ardaloedd bach eraill yng Nghymru. Nid oes modd pennu a yw amddifadedd mewn ardal wedi gwella ai peidio drwy ystyried newid safle yn unig.

Tabl 1.2: y 10 ardal fwyaf difreintiedig ym MALlC 2025 ynghyd â 5 ardal a oedd yn y 10 uchaf yn 2019
AGEHIEnw awdurdod lleolEnw AGEHI [Note 1]Safle MALlC 2019Safle MALlC 2025 
W01000240Sir DdinbychGorllewin y Rhyl 211
W01001421CaerffiliSant Iago 332
W01001741CaerdyddTrelái 5143
W01000991Pen-y-bont ar OgwrCaerau (Pen-y-bont ar Ogwr) 154
W01000237Sir DdinbychDe-orllewin y Rhyl 2195
W01001884CaerdyddTrowbridge 8136
W01000413WrecsamQueensway 197
W01001738CaerdyddTrelái 2288
W01000239Sir DdinbychGorllewin y Rhyl 129
W01000241Sir DdinbychGorllewin y Rhyl 31110
W01001274Rhondda Cynon TafTylorstown 1423
W01001209Rhondda Cynon TafPenrhiw-ceiber 1660
W01001308Merthyr TudfulPenydarren 1716
W01001428CaerffiliTwyncarno 1812
W01001662CasnewyddPillgwenlly 41049

[Nodyn 1]: Mae dolenni i broffil ardal Cyfrifiad 2021 ar gyfer yr AGEHI (SYG), sy’n cynnwys map o’r ardal.

Mae’r tabl yn dangos y canlynol:

  • Gorllewin y Rhyl 2, Sir Ddinbych yw’r ardal fach fwyaf difreintiedig o hyd yng Nghymru
  • roedd hanner y 10 ardal fwyaf difreintiedig ym MALlC 2019 yn dal i fod ymhlith y 10 ardal fwyaf difreintiedig ym MALlC 2025

Mae’r tabl yn cynnwys dolenni i broffiliau Cyfrifiad 2021 ar gyfer yr ardaloedd hyn. Er mwyn archwilio nodweddion aelwydydd a nodweddion demograffig unrhyw ardal yn fanylach mewngofnodwch god yr AGEHI yn adnodd Proffil Cyfrifiad 2021 ar gyfer ardaloedd yng Nghymru a Lloegr ar wefan NOMIS (SYG).

Amddifadedd hirsefydlog

Mae ardaloedd bach o amddifadedd ‘hirsefydlog’ yn ardaloedd sydd wedi aros ymhlith y 50 o ardaloedd mwyaf difreintiedig, sy’n cyfateb yn fras i’r 2.6% uchaf o ardaloedd bach yng Nghymru ar gyfer y 6 fersiwn ddiwethaf o MALlC lle y cyhoeddwyd safleoedd ardaloedd (sef MALlC 2005, 2008, 2011, 2014 a 2019 a 2025). Felly, dros gyfnod o 20 mlynedd, ystyrir mai’r ardaloedd bach sy’n perthyn i’r categori hwn yw’r rhai mwyaf difreintiedig, am eu bod wedi ymddangos yn gyson ymhlith y 50 uchaf o’r holl ardaloedd bach yng Nghymru. Mae’r dadansoddiad ond yn edrych ar safleoedd mor bell yn ôl â MALlC 2005 am mai hwn oedd y mynegai cyntaf pan ddaeth ACEHIau yn ddaearyddiaeth safonol. Mae’r data sy’n sail i’r dadansoddiad hwn wedi cael eu cyhoeddi ar dudalennau gwe StatsCymru ac fel taenlen OpenDocument.

Am fod MALlC yn mesur amddifadedd cymharol, nid yw’n rhoi unrhyw syniad o lefel amddifadedd yn yr ardaloedd bach hyn. Mae’n bosibl bod lefelau amddifadedd yn yr ardaloedd bach sy’n perthyn i’r categori amddifadedd hirsefydlog wedi gostwng ers MALlC 2005, ond mae’r ardaloedd hyn yn dal i fod ymhlith y rhai mwyaf difreintiedig o’u cymharu ag ardaloedd bach eraill yng Nghymru.

Mae cyfanswm o 22 o ardaloedd bach mewn amddifadedd hirsefydlog, sy’n cyfateb yn fras i 1.1% o’r holl ardaloedd bach yng Nghymru. Rhestrir y rhain yn y tabl isod, yn ôl trefn eu safle cyffredinol ym MALlC 2025.

Tabl 1.3: ardaloedd bach o amddifadedd hirsefydlog, 2025
Côd AGEHIEnw awdurdod lleolEnw AGEHISafle MALlC 2025 
W01000240Sir DdinbychGorllewin y Rhyl 21
W01001421CaerffiliSant Iago 32
W01000991Pen-y-bont ar OgwrCaerau (Pen-y-bont ar Ogwr) 14
W01000237Sir DdinbychDe-orllewin y Rhyl 25
W01000413WrecsamQueensway 17
W01000239Sir DdinbychGorllewin y Rhyl 19
W01000830AbertawePenderi 111
W01001428CaerffiliTwyncarno 112
W01000833AbertawePenderi 413
W01001222Rhondda Cynon TafPen-y-waun 214
W01000921Castell-nedd Port TalbotCymer (Castell-nedd Port Talbot) 215
W01001308Merthyr TudfulPenydarren 116
W01000863AbertaweTownhill 219
W01000864AbertaweTownhill 320
W01001274Rhondda Cynon TafTylorstown 123
W01001739CaerdyddTrelái 324
W01000862AbertaweTownhill 126
W01001339CaerffiliBargod 427
W01000742AbertaweY Castell 130
W01001345CaerffiliBedwas Tretomos a Machen 631
W01000832AbertawePenderi 336
W01001479Blaenau GwentTredegar Canol a Gorllewin 244

O’r ardaloedd bach sydd wedi’u rhestru, mae 2 wedi bod ymhlith y 10 ardal fwyaf difreintiedig ers MALlC 2005 (Gorllewin y Rhyl 2 a Queensway 1). Yn ogystal â’r 2 ardal fach hyn, mae 5 arall (sef Gorllewin y Rhyl 1, St. James 3, Twyn Carno 1, Penydarren 1, Pen-y-waun 2) yn ffurfio’r 7 ardal fach sydd wedi bod ymhlith yr 20 ardal fwyaf difreintiedig yn gyson.

Ffigur 1.3: map o ACEHIau o amddifadedd hirsefydlog ledled Cymru, MALlC 2025

Image

Ffigur 1.4: map o ACEHIau o amddifadedd hirsefydlog, lluniau agos ar gyfer De a Gogledd Ddwyrain Cymru, MALlC 2025

Image

© Hawlfraint y Goron 2025. Cartograffeg. Llywodraeth Cymru.

Disgrifiad o ffigurau 1.3 a 1.4: mae’r mapiau yn dangos ym MALlC 2025 fod y 22 o ardaloedd bach o amddifadedd hirsefydlog wedi’u rhannu rhwng 10 o awdurdodau lleol; ceir y nifer fwyaf ohonynt yn Abertawe. 

Mae’r 7 ardal fach hyn a leolir yn Abertawe yn cyfrif am bron traean (32%) o’r rhai sy’n ymddangos yn gyson ymhlith y 50 o ardaloedd mwyaf difreintiedig, sef ddwywaith gymaint â’r awdurdod lleol â’r nifer mwyaf ond un (Caerffili, sydd â phedair ardal fach). 

Mae pob un ond 2 o’r 22 wedi’u lleoli mewn Ardal Adeiledig a enwyd, gyda’r rhan fwyaf ohonynt yn Abertawe (6), yna’r Rhyl (3). Yr Ardaloedd Adeiledig eraill sydd ag un ardal fach o amddifadedd hirsefydlog yr un yw Aberdâr, Bargod, Caerffili, Caerdydd, Croeserw, Maesteg, Merthyr Tudful, Rhymni, Tredegar, Trethomas a Wrecsam. Yr ardaloedd lle ceir amddifadedd hirsefydlog ond nad ydynt yn Ardaloedd Adeiledig yw Penderi 3 yn Abertawe a Tylorstown 1 yn Rhondda Cynon Taf. 

Mae 12 o awdurdodau lleol heb unrhyw ardaloedd bach o amddifadedd hirsefydlog (sef Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Sir y Fflint, Powys, Ceredigion, Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Bro Morgannwg, Torfaen, Casnewydd a Sir Fynwy). Nid yw hyn yn golygu nad oes unrhyw ardaloedd difreintiedig iawn yn yr awdurdodau lleol hyn ar hyn o bryd.

Ardaloedd sydd wedi gadael grŵp y 50 ardal fwyaf difreintiedig yn ddiweddar

Mae 6 ardal a oedd ymhlith y 50 ardal fwyaf difreintiedig mewn 3 neu 4 o’r iteriadau cynharach o’r mynegai ond nad oeddent yn y 50 ardal fwyaf difreintiedig ar gyfer 2019 na 2025. Fodd bynnag, mae pob yn ohonynt yn dal i fod yng ngrŵp y 10% mwyaf difreintiedig ar gyfer MALlC 2025:

  • roedd Cyfarthfa 2 (Merthyr Tudful) yn safle 69 ym MALlC 2025
  • roedd Gurnos 1 (Merthyr Tudful) yn safle 87 ym MALlC 2025
  • roedd Gurnos 2 (Merthyr Tudful) yn safle 89 ym MALlC 2025
  • roedd Butetown 1 (Caerdydd) yn safle 136 ym MALlC 2025
  • roedd Hengoed 2 (Ystrad Mynach, Caerffili) yn safle 158 ym MALlC 2025
  • roedd Pilgwenlli 3 (Casnewydd) yn safle 174 ym MALlC 2025

Ffynonellau cysylltiedig

Mynegeion amddifadedd lluosog ledled y DU

Mae Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon i gyd yn paratoi eu mynegeion amddifadedd lluosog eu hunain:

Mae’r setiau data hyn yn seiliedig ar yr un cysyniad a methodoleg gyffredinol, ond mae gwahaniaethau (a ddisgrifir yn y canllawiau) sy’n golygu nad oes modd cymharu’r mynegeion yn uniongyrchol. Mae’r SYG wedi cyhoeddi’n flaenorol wybodaeth sy’n esbonio’n fanylach y nodweddion tebyg a gwahanol rhwng y pedwar mynegai (SYG).

Byddwn yn parhau i weithio gyda’r Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol a’r llywodraethau datganoledig eraill i archwilio cyfleoedd i gynhyrchu allbynnau wedi’u cysoni. Mae hyn yn cynnwys cyrchu data a fydd yn ei gwneud yn bosibl i gynhyrchion i’r DU gyfan gael eu cyhoeddi. Mae cynlluniau rhyddhau eto i’w cadarnhau ond cânt eu cyhoeddi ar GOV.UK maes o law.

Data lleol eraill i Gymru

Mae’r SYG wedi cyhoeddi data a gwybodaeth sy’n ymwneud â Chyfrifiad 2021 (SYG) yn ogystal ag ystadegau lleol (SYG). Gellir canfod ystadegau sy'n benodol i Gymru ym mwletinau Arolwg Cenedlaethol Cymru, ac yn nangosydd canlyniadau Arolwg Cenedlaethol Cymru.

Llwybrau amddifadedd

Mae academyddion yn parhau i ddefnyddio data cyfrifiad a mynegeion amddifadedd i ymchwilio a thystio llwybrau amddifadedd, neu 'hanesion amddifadedd' ar gyfer ardaloedd bach yn y DU, gan ymchwilio i astudiaethau achos ardaloedd awdurdodau lleol. Er enghraifft, gweler yr erthygl gyhoeddedig 50-year Deprivation Trajectories: Local Area Change in England and Wales, 1971–2021 (Norman, P., Lloyd, C.D., McLennan D., Ferguson, S. a Catney, G., 2024). Bydd yr erthygl sydd ar ddod 'Trajectories of deprivation in the UK' (Lloyd, C. D., Ferguson, S., Catney, G., McLennan, D. a Norman, P., Nuffield Foundation 2025) yn cynnwys dadansoddiad o ddata Cymru hyd at Gyfrifiad 2021 a MALlC 2019.

Canlyniadau maes incwm

Cyflwyniad

Diben y maes hwn yw mesur cyfran y bobl sy'n cael profiad o amddifadedd yn ymwneud ag incwm isel. Mae gan y maes bwysoliad cymharol o 22% yn y mynegai cyffredinol.

Dangosyddion

Ffigur 2.1: dangosydd maes incwm, MALlC 2025

Image

Disgrifiad o ffigur 2.1: diagram sy'n dangos pa fudd-daliadau sy'n cael eu defnyddio fel sail i'r maes incwm. Mae gan y maes un dangosydd, yn cynnwys sawl cydran, sy’n rhoi ciplun o bobl sy'n derbyn budd-daliadau cysylltiedig ag incwm a chredydau treth a cheiswyr lloches a gefnogir.

Mae'n cynnwys cyfrifon nad ydynt yn gorgyffwrdd o hawlwyr prawf modd, ac yn cymhwyso trothwy incwm i aelwydydd sy'n gweithio. Yna mae'r symiau a gyfrifwyd yn cael eu mynegi fel canran o gyfanswm y boblogaeth amcangyfrifol ar gyfer yr Ardal gynnyrch ehangach haen is (AGEHI).

Mae rhifiadur y maes yn nodi'r categorïau canlynol o hawlwyr, eu partneriaid a phlant dibynnol, fel ar ddiwedd mis Mawrth 2024:

  • Budd-daliadau prawf modd allan o waith ‘etifeddol’:
    • cymhorthdal incwm
    • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm
    • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn cysylltiedig ag incwm
  • Credyd Pensiwn (Gwarant)
  • Grwpiau amodoldeb ‘di-waith’ Credyd Cynhwysol, gan gynnwys:
    • dim gofynion sy’n gysylltiedig â gwaith
    • cynllunio ar gyfer gwaith
    • paratoi ar gyfer gwaith
    • chwilio am waith
  • Grwpiau amodoldeb Credyd Cynhwysol ‘yn y gwaith’ (gydag incwm ar ôl costau tai islaw trothwy canolrifol o 70%) gan gynnwys:
    • gweithio gyda gofynion
    • gweithio, dim gofynion
  • Budd-dal Tai, gydag incwm ar ôl costau tai islaw trothwy canolrifol o 70%
  • Credyd Treth, gydag incwm ar ôl costau tai islaw trothwy canolrifol o 70%
  • ceiswyr lloches mewn llety gwasgaru sy'n derbyn cymorth

Mae manylion llawn y dangosydd ac adeiladwaith y maes ar gael yn adroddiad technegol MALlC 2025.

Canlyniadau allweddol

Ffigur 2.2: map o ACEHIau wedi'u lliwio yn ôl grŵp amddifadedd incwm, MALlC 2025

Image

© Hawlfraint y Goron 2025. Cartograffeg. Llywodraeth Cymru.

Disgrifiad o ffigur 2.2: mae'r map yn dangos ym maes incwm MALlC 2025, roedd pocedi o amddifadedd incwm uchel yng nghymoedd y de a'r dinasoedd mawr, ac mewn rhai trefi ar yr arfordir yn y gogledd.

  • Roedd gan bob awdurdod lleol, ac eithrio Sir Fynwy, o leiaf rai ardaloedd gyda thros 46% o bobl mewn amddifadedd incwm, sy'n gyfwerth â bod yn y 10% o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig.
  • Yr awdurdodau lleol gyda'r gyfran uchaf o ardaloedd yn y 10% o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig oedd Blaenau Gwent (ar 22%) gyda Chaerdydd a Chasnewydd i ddilyn (y ddau ar 18%).
  • Mae patrymau cyffredinol amddifadedd incwm ym MALlC 2025 yn weddol debyg i'r rhai ar gyfer MALlC 2019.
  • O ran y maes incwm, yr ardal fwyaf difreintiedig yng Nghymru oedd Gorllewin y Rhyl 2, Sir Ddinbych (o gwmpas Stryd Fawr y Rhyl), a oedd yr un peth ar gyfer MALlC 2019 a MALlC 2014.
  • Roedd chwech o'r 10 ardal fwyaf difreintiedig ym MALlC 2025 hefyd ymhlith y 10 ardal fwyaf difreintiedig ym MALlC 2019.
  • Mae 22% o'r bobl fwyaf difreintiedig o ran incwm yn byw yn y 10% mwyaf difreintiedig o ardaloedd bach ar gyfer y maes incwm (yr ardaloedd sydd wedi'u graddio o 1 i 191).
  • Mae hanner y bobl sy'n ddifreintiedig o ran incwm yn byw yn y 29% o ardaloedd mwyaf difreintiedig ar gyfer y maes incwm.
  • Ledled Cymru, mae 25% o bobl mewn amddifadedd incwm.
  • Mae canran y bobl sy'n ddifreintiedig o ran incwm o fewn y 10% o ardaloedd mwyaf difreintiedig yn amrywio llawer, o 88% yng Ngorllewin y Rhyl 2, i 46% ar gyfer De Castell-nedd 1, sef yr ardal yn safle 191. 

Gellir lawrlwytho'r set lawn o safleoedd y meysydd o MALlC 2025 a'r dangosyddion sylfaenol o dudalennau gwe StatsCymru.

Gellir canfod mwy o wybodaeth am ddosbarthiad y boblogaeth sy'n deillio o incwm ym MALlC 2025 yn adroddiad canllawiau MALlC

Cymhariaeth rhwng MALlC 2019 a MALlC 2025

Mae cyflwyno UC wedi cael dylanwad sylweddol ar y ffordd y caiff amddifadedd incwm ei fesur ym MALlC, gan arwain at fabwysiadu dangosyddion newydd a ddatblygwyd gan y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol (MHCLG) a DWP sy'n adlewyrchu newidiadau i bolisïau a data. Mae'r dull wedi'i ddiweddaru hwn yn cynnwys trothwy o 70% incwm canolrifol ar ôl costau tai. Nid oes modd cymharu'r dangosydd amddifadedd incwm yn uniongyrchol â'r un ar gyfer MALlC 2019. I gael gwybodaeth am sut mae'r maes wedi newid ers 2019, gweler Adroddiad Technegol MALlC 2025 ac adroddiad technegol mynegeion amddifadedd Lloegr (MHCLG).

Tabl 2.1: Symudiadau rhwng grwpiau amddifadedd incwm rhwng MALlC 2019 a 2025
Grŵp 
amddifadedd 
MALlC
10% 
mwyaf 
difreintiedig
2025
10% i 20% 
mwyaf 
difreintiedig
2025
20% i 30% 
mwyaf 
difreintiedig
2025
30% i 50% 
mwyaf 
difreintiedig
2025
50% 
lleiaf 
difreintiedig
2025
10% 
mwyaf 
difreintiedig
2019
82%16%2%1%0%
10% i 20% 
mwyaf 
difreintiedig 
2019
17%60%20%3%0%
20% i 30% 
mwyaf 
difreintiedig
2019
1%21%51%26%2%
30% i 50% 
mwyaf 
difreintiedig 
2019
0%1%13%65%20%
50% lleiaf 
difreintiedig 
2019
0%0%0%8%92%

Dengys y tabl ganran yr ardaloedd bach (ACEHIau) ym mhob grŵp amddifadedd ar gyfer MALlC 2019 sydd wedi aros neu wedi symud grŵp ym MALlC 2025. 

I gael esboniad ar sut rydym wedi trin y lleiafrif o ardaloedd sydd wedi newid ffin, a'r safleoedd a gyfrifwyd ym mhob categori ar gyfer MALlC 2019 a MALlC 2025, gweler yr adroddiad canllawiau. 

Dengys y groeslinell (o'r ochr chwith uchaf i'r dde gwaelod) ganran yr ardaloedd sydd wedi aros yn yr un grŵp amddifadedd. Uwchlaw'r groeslinell ceir canrannau'r ardaloedd sydd wedi symud o grŵp mwy difreintiedig i grŵp llai difreintiedig. Islaw'r groeslinell ceir canrannau'r ardaloedd sydd wedi symud o grŵp llai difreintiedig i grŵp mwy difreintiedig.

Mae'r tabl yn dangos bod: 

  • y rhan fwyaf o ACEHIau wedi aros yn yr un grŵp amddifadedd rhwng 2019 a 2025
  • roedd 82% o'r 10% o ardaloedd mwyaf difreintiedig yn 2019 yn dal i fod ymhlith y grŵp hwnnw yn 2025
  • roedd 92% o'r 50% o ardaloedd lleiaf difreintiedig yn 2019 yn dal i fod ymhlith y grŵp hwnnw yn 2025 

Dim ond 3 ACEHIau a symudodd fwy na 2 grŵp amddifadedd. Isod rydym yn canolbwyntio ar y 2 sydd wedi symud i mewn neu allan o'r 10% mwyaf difreintiedig.

Yn gymharol fwy difreintiedig

Symudodd un ardal o'r 30% i'r 50% o grwpiau mwyaf difreintiedig ym MALlC 2019 i'r 10% o grŵp mwyaf difreintiedig ym MALlC 2025 (Parc Tredegar 4 yng Nghasnewydd). Mae’r AGEHI hwn wedi newid ffin ers MALlC 2019, pan gafodd ei grwpio gyda'r hyn sydd bellach yn cael ei alw'n Barc Tredegar 3 (yn yr hanner lleiaf difreintiedig ar gyfer amddifadedd incwm).

Cymharol lai difreintiedig

Mae un ardal wedi symud o'r 10% o'r grŵp mwyaf difreintiedig ym MALlC 2019 i'r 30% i 50% o'r grwpiau mwyaf difreintiedig ym MALlC 2025. Plasnewydd 7 yng Nghaerdydd oedd hon, ardal sy'n agos at ganol y ddinas gan gynnwys cyffordd Heol y Ddinas a Heol Casnewydd.

Dadansoddiad awdurdodau lleol

Ffigur 2.3: plot blychau o safleoedd maes incwm MALlC 2025, yn ôl awdurdod lleol

Image

Disgrifiad o ffigur 2.3: dengys y siart isod ddosbarthiad safleoedd y maes incwm ar gyfer pob awdurdod lleol yng Nghymru. Mae'r blychau glas yn cynnwys hanner cyfanswm yr ardaloedd bach (ACEHIau) ym mhob awdurdod lleol, wedi'i ganoli ar y safle canolrifol (canol) ar gyfer pob awdurdod lleol a dengys y ‘wisgers’ yr ystod lawn o safleoedd yn yr awdurdod lleol. Mae amddifadedd yn cynyddu wrth i'r safle ostwng (hynny yw, tua ochr chwith gwaelod y plot). 

Mae'r lledaeniad o safleoedd maes incwm ar ei fwyaf yng Nghaerdydd ac Abertawe ac ar ei fwyaf cul yn Ynys Môn a Phowys. Sir Fynwy sydd â'r safle canolrifol uchaf (llai difreintiedig) a Blaenau Gwent sydd â'r un isaf (mwy difreintiedig).

Crynodiadau o ardaloedd sy'n wynebu amddifadedd incwm, yn ôl awdurdod lleol

Un ffordd o ystyried data MALlC ar lefel awdurdod lleol yw edrych ar gyfran yr ardaloedd yn yr awdurdod lleol sydd yn y 10% mwyaf difreintiedig (neu'r 20% ac ati) o'r holl ardaloedd. Mae modd ystyried y dull hwn fel nodi crynodiad o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig mewn awdurdod lleol, yn hytrach na'r lefel amddifadedd gyfartalog.

Mae canlyniadau maes incwm MALlC 2025 yn dangos y canlynol: 

  • yr awdurdod lleol â'r gyfran uchaf o ardaloedd yn y 10% mwyaf difreintiedig yng Nghymru oedd Blaenau Gwent (22% neu 10 ardal) wedi'u dilyn gan Gaerdydd a Chasnewydd (y ddau yn 18%).
  • Nid oedd gan Sir Fynwy unrhyw ardaloedd bach yn y 10% mwyaf difreintiedig, wedi'u dilyn gan Bowys a Cheredigion gyda dim ond un yr un o'u hardaloedd
  • Sir Fynwy a Phowys hefyd oedd yr awdurdodau lleol gyda'r crynodiadau isaf o ardaloedd yn hanner mwyaf difreintiedig Cymru, ar 25% a 28% yn y drefn honno
  • Blaenau Gwent a Merthyr Tudful oedd â'r ganran uchaf o ardaloedd yn y 50% mwyaf difreintiedig, ar 74% a 72% yn y drefn honno

Crynodiadau o ardaloedd sy'n wynebu amddifadedd incwm ym MALlC 2025, yn ôl awdurdod lleol ar StatsCymru.

Ffynonellau perthnasol eraill

Amddifadedd incwm i blant a phobl hŷn

Crëwyd dau ddangosydd ychwanegol ar gyfer MALlC 2025, sy'n is-setiau o'r dangosydd amddifadedd incwm. Mae'r rhain yn amddifadedd incwm i blant (0 i 15 oed) ac amddifadedd incwm i bobl hŷn (60 oed neu'n hŷn). Mae'r ddau yn cael eu cyhoeddi ar StatsCymru.

Data ar gyfer Cymru a Lloegr

Byddwn yn parhau i weithio gyda'r Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol a llywodraethau datganoledig eraill i archwilio cyfleoedd i gynhyrchu allbynnau wedi'u cysoni. Bydd cynlluniau rhyddhau'n cael eu cyhoeddi ar GOV.UK maes o law.

Ystadegau budd-daliadau

Mae arf lledaenu Stat-Xplore yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn caniatáu i chi i lawrlwytho ac addasu ystadegau ar fudd-daliadau, gan gynnwys data ardal leol a chyfres amser.

Amcangyfrifon incwm wedi'u modelu

Dim ond i lawr at lefel Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Ganol (ACEHGau) y mae amcangyfrifon incwm seiliedig ar fodelau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG)  ar gyfer ardaloedd bach, a fodelwyd ar sail data arolygon ar gael.

Aelwydydd islaw'r data incwm cyfartalog

Mae DWP yn cyhoeddi set ddata ar aelwydydd islaw'r incwm cyfartalog (DWP). Yn seiliedig ar y data hynny, rydym ni’n cyhoeddi dadansoddiad o dlodi yng Nghymru gyda chrynodebau amrywiol. Ni ellir rhannu'r data islaw lefel Cymru oherwydd y cyfyngiadau ym maint y sampl.

Ystadegau incwm seiliedig ar weinyddiaeth

Byddwn yn parhau i adolygu cynnydd i ddatblygu ystadegau incwm seiliedig ar ddata gweinyddol arbrofol y SYG i Gymru a Lloegr i'w defnyddio o bosibl mewn mynegeion yn y dyfodol. Mae papur ymchwil diweddar yn rhoi gwybodaeth am gryfderau a chyfyngiadau'r ABIS presennol, a'r ffordd y maent yn debygol o gael eu datblygu yn y dyfodol (SYG).

Amcangyfrifon o enillion cyflogeion

Mae'r SYG yn cyhoeddi amcangyfrifon o enillion cyflogeion yn seiliedig ar ddata o'r Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion (SYG). Hon yw'r ffynhonnell fwyaf cadarn a chynhwysfawr o ddata enillion ar gyfer y DU; fodd bynnag, nid oes amcangyfrifon ar gael islaw lefel awdurdod lleol, is-set o'r holl ffynonellau incwm yn unig yw'r data, ac nid ydynt yn cynnwys yr hunangyflogedig.

Canlyniadau maes cyflogaeth

Cyflwyniad

Diben y maes hwn yw mesur cyfran y bobl o oed gweithio sydd wedi'u cau allan o'r farchnad lafur yn anfwriadol. Mae hyn yn cynnwys pobl a allai fod eisiau gweithio ond sy'n methu â gwneud hynny oherwydd diweithdra, salwch neu anabledd, neu gyfrifoldebau gofalu. Mae gan y maes bwysoliad cymharol o 20% yn y mynegai cyffredinol.

Dangosyddion

Ffigur 3.1: dangosydd maes cyflogaeth, MALlC 2025

Image

Disgrifiad o ffigur 3.1: mae’r diagram yn dangos pa fudd-daliadau sy'n cael eu defnyddio fel sail i'r maes cyflogaeth, sy’n cael ei ddisgrifio hefyd isod.

Mae gan y maes un dangosydd, sy’n cynnwys sawl cydran, sef ciplun o bobl oed gweithio sy'n derbyn budd-daliadau cysylltiedig â diweithdra. Fe'i mynegir fel canran o'r boblogaeth amcangyfrifedig rhwng 18 a 66 oed mewn Ardal gynnyrch ehangach haen is (AGEHI). Mae'r rhifiadur yn cynnwys nifer yr unigolion 18 i 66 oed, wedi'u cyfartaleddu dros 12 o bwyntiau amser misol ar wahân o fis Ebrill 2022 i fis Mawrth 2023, yr oedd ganddynt hawl i:

  • Lwfans Ceisio Gwaith (seiliedig ar gyfraniadau a seiliedig ar incwm)
  • Lwfans Ceisio Gwaith Arddull Newydd
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (seiliedig ar gyfraniadau a seiliedig ar incwm)
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth Arddull Newydd
  • Budd-dal Analluogrwydd
  • Lwfans Anabledd Difrifol
  • Lwfans Gofalwyr
  • Cymhorthdal Incwm
  • hawlwyr Credyd Cynhwysol yn y grwpiau amodoldeb canlynol:
    • dim gofynion sy’n gysylltiedig â gwaith
    • cynllunio ar gyfer gwaith
    • paratoi ar gyfer gwaith
    • chwilio am waith

Mae manylion llawn y dangosydd ac adeiladwaith y maes ar gael yn adroddiad technegol MALlC 2025.

Prif bwyntiau

Ffigur 3.2: map o ACEHIau wedi'u lliwio yn ôl grŵp amddifadedd cyflogaeth, MALlC 2025

Image

© Hawlfraint y Goron 2025. Cartograffeg. Llywodraeth Cymru.

Disgrifiad o ffigur 3.2: mae'r map yn dangos ym maes cyflogaeth MALlC 2025, roedd pocedi o amddifadedd cyflogaeth uchel yng nghymoedd y de a'r dinasoedd mawr, ac mewn rhai trefi ar arfordir y gogledd.

  • Roedd gan bob awdurdod lleol, ac eithrio Sir Fynwy, o leiaf un ardal gyda mwy na  32% o bobl mewn amddifadedd cyflogaeth, sy'n gyfwerth â bod yn y 10% o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig.
  • Yr awdurdodau lleol â'r gyfran uchaf o ardaloedd yn y 10% o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig oedd Blaenau Gwent (ar 24%) gyda Chastell-nedd Port Talbot i ddilyn (ar 20%).
  • Mae patrymau cyffredinol amddifadedd cyflogaeth ym MALlC 2025 yn debyg i'r rhai ar gyfer MALlC 2019.
  • O ran y maes cyflogaeth, yr ardal fwyaf difreintiedig yng Nghymru oedd Gorllewin y Rhyl 2, Sir Ddinbych (o gwmpas Stryd Fawr y Rhyl), a oedd yr un peth ar gyfer MALlC 2019 a MALlC 2014.
  • Roedd 6 o'r 10 ardal fwyaf difreintiedig ym MALlC 2025 hefyd ymhlith y 10 ardal fwyaf difreintiedig ym MALlC 2019.
  • Roedd 20% o'r bobl sy'n ddifreintiedig o ran cyflogaeth yn y 10% mwyaf difreintiedig o ardaloedd bach ar gyfer y maes cyflogaeth (yr ardaloedd sydd wedi'u graddio o 1 i 191).
  • Mae hanner y bobl sy'n ddifreintiedig o ran cyflogaeth yn byw yn y 30% o ardaloedd mwyaf difreintiedig ar gyfer y maes cyflogaeth.
  • Ledled Cymru, mae 17% o bobl mewn amddifadedd cyflogaeth.
  • Mae ystod eang yn y ganran o'r bobl sy'n ddifreintiedig o ran cyflogaeth o fewn y 10% o ardaloedd mwyaf difreintiedig, o 64% yng Ngorllewin y Rhyl 2, i 32% ar gyfer ‘Bedwas Trethomas a Machen 2’, yr ardal yn safle 191. 

Gellir lawrlwytho'r set lawn o safleoedd y meysydd o MALlC 2025 a'r dangosyddion sylfaenol o dudalennau gwe StatsCymru.

Gellir canfod mwy o wybodaeth am ddosbarthiad y boblogaeth sy'n deillio o gyflogaeth ym MALlC 2025 yn adroddiad canllawiau MALlC.

Cymhariaeth rhwng MALlC 2019 a MALlC 2025

Mae cyflwyno UC wedi cael dylanwad sylweddol ar y ffordd y caiff amddifadedd cyflogaeth ei fesur ym MALlC, gan arwain at fabwysiadu dangosyddion newydd a ddatblygwyd gan y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol (MHCLG) a DWP sy'n adlewyrchu newidiadau i bolisïau a data. Mae'r dull wedi'i ddiweddaru hyn hefyd yn cynnwys pobl a allai fod eisiau gweithio ond sy'n methu â gwneud hynny oherwydd cyfrifoldebau gofalgar, newid ers MALlC 2019. Nid oes modd cymharu'r dangosydd amddifadedd cyflogaeth yn uniongyrchol â'r un ar gyfer MALlC 2019. I gael gwybodaeth am sut mae'r maes wedi newid ers 2019, gweler Adroddiad Technegol MALlC 2025 ac adroddiad technegol mynegeion amddifadedd Lloegr (MHCLG).

Tabl 3.1: symudiadau rhwng grwpiau amddifadedd cyflogaeth rhwng MALlC 2019 a 2025
Grŵp 
amddifadedd 
MALlC
10% 
mwyaf 
difreintiedig
2025
10% i 20% 
mwyaf 
difreintiedig
2025
20% i 30% 
mwyaf 
difreintiedig
2025
30% i 50% 
mwyaf 
difreintiedig
2025
50% 
lleiaf 
difreintiedig
2025
10% 
mwyaf 
difreintiedig
2019
78%19%2%1%0%
10% i 20% 
mwyaf 
difreintiedig 
2019
19%56%22%3%0%
20% i 30% 
mwyaf 
difreintiedig
2019
3%22%44%30%1%
30% i 50% 
mwyaf 
difreintiedig 
2019
0%2%16%63%19%
50% lleiaf 
difreintiedig 
2019
0%0%0%8%92%

Dengys y tabl ganran yr ardaloedd bach (ACEHIau) ym mhob grŵp amddifadedd ar gyfer MALlC 2019 sydd wedi aros neu symud grwpiau ym MALlC 2025.

I gael esboniad ar sut rydym wedi trin y lleiafrif o ardaloedd sydd wedi newid ffin, a'r safleoedd a gyfrifwyd ym mhob categori ar gyfer MALlC 2019 a MALlC 2025, gweler yr adroddiad canllawiau.

Dengys y groeslinell (o'r ochr chwith uchaf i'r dde gwaelod) ganran yr ardaloedd sydd wedi aros yn yr un grŵp amddifadedd. Uwchlaw'r groeslinell ceir canrannau'r ardaloedd sydd wedi symud o grŵp mwy difreintiedig i grŵp llai difreintiedig. Islaw'r groeslinell ceir canrannau'r ardaloedd sydd wedi symud o grŵp llai difreintiedig i grŵp mwy difreintiedig.

Mae'r tabl yn dangos:

  • bod y rhan fwyaf o ACEHIau wedi aros yn yr un grŵp amddifadedd rhwng 2019 a 2025, ac eithrio'r grŵp mwyaf difreintiedig o 20% i 30%
  • yr oedd 78% o'r 10% o ardaloedd mwyaf difreintiedig yn 2019 yn dal i fod ymhlith y grŵp hwnnw yn 2025
  • yr oedd 92% o'r 50% o ardaloedd lleiaf difreintiedig yn 2019 yn dal i fod ymhlith y grŵp hwnnw yn 2025

Dim ond un AGEHI symudodd fwy na 2 grŵp amddifadedd (gweler yr ail bwynt bwled isod). Isod rydym yn canolbwyntio ar y rhai a symudodd fwyaf yn y grwpiau mwyaf difreintiedig.

Yn gymharol fwy difreintiedig

Dwy ardal a symudodd o grŵp y 30% i'r 50% mwyaf difreintiedig ym MALlC 2019 i grŵp y 10 i 20% mwyaf difreintiedig ym MALlC 2025 oedd: 

  • Ringland 1 yng Nghasnewydd (ardal Coldra)
  • ‘Aberdaugleddau: Gogledd 2’ yn Sir Benfro, AGEHI sydd wedi newid ffin ers MALlC 2019, pan gafodd ei grwpio gyda'r hyn sydd bellach yn cael ei alw'n ‘Aberdaugleddau: Gogledd 1’ (yn y 30% i'r 50% o ardaloedd mwyaf difreintiedig ar gyfer amddifadedd cyflogaeth)

Cymharol lai difreintiedig

Symudodd un ardal o grŵp y 10% mwyaf difreintiedig ym MALlC 2019 i grŵp y 30% i'r 50% mwyaf difreintiedig ym MALlC 2025. Plasnewydd 7 yng Nghaerdydd oedd hwn, ardal sy'n agos at ganol y ddinas, gan gynnwys cyffordd Heol y Ddinas a Heol Casnewydd.

Dadansoddiad awdurdodau lleol

Ffigur 3.3: plot blychau o safleoedd maes cyflogaeth MALlC 2025, yn ôl awdurdod lleol

Image

Disgrifiad o ffigur 3.3: dengys y siart isod ddosbarthiad safleoedd y maes cyflogaeth ar gyfer pob awdurdod lleol yng Nghymru. Mae'r blychau glas yn cynnwys hanner cyfanswm yr ardaloedd bach (ACEHIau) ym mhob awdurdod lleol, wedi'i ganoli ar y safle canolrifol (canol) ar gyfer pob awdurdod lleol a dengys y ‘wisgers’ yr ystod lawn o safleoedd yn yr awdurdod lleol. Mae amddifadedd yn cynyddu wrth i'r safle ostwng (hynny yw, tuag ochr chwith gwaelod y plot).

Yng Nghaerdydd roedd dosbarthiad y safleoedd maes cyflogaeth ar ei fwyaf, gydag Abertawe i ddilyn, tra roedd y rhai mwyaf cul yn Ynys Môn a Cheredigion. Sir Fynwy sydd â'r safle canolrifol uchaf (llai difreintiedig) a Blaenau Gwent sydd â'r un isaf (mwyaf difreintiedig).

Crynodiadau o ardaloedd sy'n wynebu amddifadedd o ran cyflogaeth, yn ôl awdurdod lleol

Un ffordd o ystyried data MALlC ar lefel awdurdod lleol yw edrych ar gyfran yr ardaloedd yn yr awdurdod lleol sydd yn y 10% mwyaf difreintiedig (neu'r 20% ac ati) o'r holl ardaloedd. Mae modd ystyried y dull hwn fel nodi crynodiad o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig mewn awdurdod lleol, yn hytrach na'r lefel amddifadedd cyfartalog.

Mae canlyniadau maes cyflogaeth MALlC 2025 yn dangos y canlynol: 

  • yr awdurdod lleol â'r gyfran uchaf o ardaloedd yn y 10% mwyaf difreintiedig yng Nghymru oedd Blaenau Gwent (24% neu 11 o ardaloedd) gyda Chastell-nedd Port Talbot i ddilyn (20% neu 18 o ardaloedd)
  • nid oedd gan Sir Fynwy unrhyw ardaloedd bach yn y 10% mwyaf difreintiedig, wedi'u dilyn gan Geredigion, Gwynedd a Phowys gyda dim ond un yr un
  • Powys a Sir Fynwy hefyd oedd yr awdurdodau lleol gyda'r crynodiadau isaf o ardaloedd yn hanner mwyaf difreintiedig Cymru, ar 22% a 24% yn y drefn honno
  • Blaenau Gwent a Merthyr Tudful oedd â'r ganran uchaf o ardaloedd yn y 50% mwyaf difreintiedig, ar 87% a 81% yn y drefn honno

Crynodiadau o ardaloedd sy'n wynebu amddifadedd o ran cyflogaeth ym MALlC 2025, yn ôl awdurdod lleol ar StatsCymru.

Ffynonellau perthnasol eraill

Data ar gyfer Cymru a Lloegr

Byddwn yn parhau i weithio gyda'r Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol a llywodraethau datganoledig eraill i archwilio cyfleoedd i gynhyrchu allbynnau wedi'u cysoni. Bydd cynlluniau rhyddhau'n cael eu cyhoeddi ar GOV.UK maes o law.

Ystadegau budd-daliadau

Mae offeryn lledaenu Stat-Xplore yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn caniatáu i chi i lawrlwytho ac addasu ystadegau ar fudd-daliadau, gan gynnwys data ardal leol a chyfres amser.

Ystadegau'r farchnad lafur

Mae Llywodraeth Cymru'n cyhoeddi data'r farchnad lafur ar gyfer gwledydd a rhanbarthau'r DU a hefyd ar gyfer rhanbarthau economaidd ac awdurdodau lleol Cymru, yn seiliedig ar yr Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth. Mae hyn yn cynnwys amcangyfrifon o gyflogaeth, diweithdra ac anweithgarwch economaidd.

Aelwydydd sy'n gweithio a heb waith

Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cyhoeddi data ar lefel leol am aelwydydd a'r oedolion a'r plant sy'n byw ynddynt, yn ôl eu statws gweithgarwch economaidd. Mae'r rhain yn seiliedig ar setiau data'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth.

Canlyniadau'r maes iechyd

Cyflwyniad

Diben y maes hwn yw mesur diffyg iechyd da ymhlith yr holl bobl, a chasglu gwybodaeth am ragfynegyddion iechyd yn y dyfodol yn seiliedig ar amddifadedd a brofwyd yn ystod plentyndod. Mae gan y maes bwysoliad cymharol o 15% yn y mynegai cyffredinol.

Dangosyddion

Ffigur 4.1: dangosyddion maes iechyd, MALlC 2025

Image

Disgrifiad o ffigur 4.1: diagram yn dangos bod gan y maes iechyd saith dangosydd, pob un yn safle yn y boblogaeth berthnasol, a'r ganran a ddengys nesaf at bob dangosydd yw'r swm y mae'n cyfrannu at y maes cyffredinol. 

O'r dangosyddion, mae 2 yn ymwneud â phlant: 

  • pwysau geni isel (genedigaethau byw unigol sy'n llai na 2.5kg), 2015 i 2024 (4.3%)
  • plant 4 i 5 oed sy'n ordew, 5 mlynedd wedi'u cyfuno: 2016/17, 2017/18, 2018/19, 2022/23 a 2023/24 (3.6%)

O'r dangosyddion, mae 3 yn casglu gwybodaeth am gyflyrau penodol sydd wedi'u diagnosio:

  • cyflyrau cronig wedi'u diagnosio gan feddygon teulu, Gorffennaf 2025 (19.6%)
  • cyflyrau iechyd meddwl wedi'u diagnosio gan feddygon teulu, Gorffennaf 2025 (8.1%)
  • achosion o ganser, pob malaenedd ac eithrio canser y croen nad yw'n felanoma, 2012 i 2021 (4.7%)

O'r dangosyddion, mae 2 yn casglu gwybodaeth am statws iechyd y boblogaeth ehangach:

  • marwolaethau cynamserol: marwolaeth o dan 75 oed, 2015 i 2024 (27.9%)
  • salwch hirdymor cyfyngus a hunanadroddwyd, 2021 (31.7%)

Mae rhai dangosyddion wedi'u safoni yn ôl oedran a rhyw er mwyn cyfrif am wahaniaethau yn y boblogaeth rhwng ardaloedd bach. Yn y maes iechyd, defnyddir dadansoddi ffactorau i gadarnhau'r pwysau 

Mae manylion llawn am y dangosyddion ac adeiladwaith y maes ar gael yn adroddiad technegol MALlC 2025.

Prif bwyntiau

Ffigur 4.2: map o ACEHIau wedi'u lliwio yn ôl grŵp amddifadedd Iechyd, MALlC 2025

Image

© Hawlfraint y Goron 2025. Cartograffeg. Llywodraeth Cymru.

Disgrifiad o ffigur 4.2: Mae'r map yn dangos ym maes iechyd MALlC 2025, roedd pocedi o amddifadedd iechyd uchel yng nghymoedd y de a'r dinasoedd mawr, ac mewn rhai trefi ar yr arfordir yn y gogledd.

  • O ran y maes iechyd, yr ardal fach fwyaf difreintiedig oedd Gorllewin y Rhyl 2 wedi'i ddilyn gan Orllewin y Rhyl 1 (yn Sir Ddinbych) yna Bracla 3 (ym Mhen-y-bont ar Ogwr).
  • Cafodd y rhain gosod yn ail, pedwerydd a phumed mwyaf difreintiedig yn y drefn honno ym MALlC 2019.
  • Mae patrymau cyffredinol amddifadedd iechyd ym MALlC 2025 yn eithaf tebyg i'r rhai ar gyfer MALlC 2019.
  • Yr awdurdodau lleol â'r crynodiadau uchaf o ardaloedd yn y 10% o ardaloedd bach mwyaf difreintiedig oedd Merthyr Tudful (28%), yna Castell-nedd Port Talbot (19%) a Chaerdydd (16%).
  • Nid oedd gan Geredigion unrhyw ardaloedd bach yn y 10% mwyaf difreintiedig, ac roedd gan Wynedd, Ynys Môn, Sir Fynwy a Phowys un yr un.

Gellir lawrlwytho'r set lawn o safleoedd y meysydd o MALlC 2025 a'r dangosyddion sylfaenol o dudalennau gwe StatsCymru.

Cymhariaeth rhwng MALlC 2019 a MALlC 2025

Bu rhai newidiadau methodolegol bach i'r maes iechyd rhwng MALlC 2019 a MALlC 2025, ond maent yn parhau i fod yn gymharol yn fras. I gael gwybodaeth am sut mae'r maes wedi newid ers 2019, gweler adroddiad technegol MALlC 2025.

Tabl 4.1: symudiadau rhwng grwpiau amddifadedd iechyd rhwng MALlC 2019 a 2025
Grŵp 
amddifadedd 
MALlC
10% 
mwyaf 
difreintiedig
2025
10% i 20% 
mwyaf 
difreintiedig
2025
20% i 30% 
mwyaf 
difreintiedig
2025
30% i 50% 
mwyaf 
difreintiedig
2025
50% 
lleiaf 
difreintiedig
2025
10% 
mwyaf 
difreintiedig
2019
76%20%4%0%0%
10% i 20% 
mwyaf 
difreintiedig 
2019
20%52%21%7%0%
20% i 30% 
mwyaf 
difreintiedig
2019
4%22%38%35%2%
30% i 50% 
mwyaf 
difreintiedig 
2019
0%3%16%62%19%
50% lleiaf 
difreintiedig 
2019
0%0%1%7%92%

Dengys y tabl ganran yr ardaloedd bach (ACEHIau) ym mhob grŵp amddifadedd ar gyfer MALlC 2019 sydd wedi aros neu wedi symud grŵp ym MALlC 2025. I gael esboniad ar sut rydym wedi trin y lleiafrif o ardaloedd sydd wedi newid ffin, a'r safleoedd a gyfrifwyd ym mhob categori ar gyfer MALlC 2019 a MALlC 2025, gweler yr adroddiad canllawiau.

Dengys y groeslinell (o'r ochr chwith uchaf i'r dde gwaelod) ganran yr ardaloedd sydd wedi aros yn yr un grŵp amddifadedd. Uwchlaw'r groeslinell ceir canrannau'r ardaloedd sydd wedi symud o grŵp mwy difreintiedig i grŵp llai difreintiedig. Islaw'r groeslinell ceir canrannau'r ardaloedd sydd wedi symud o grŵp llai difreintiedig i grŵp mwy difreintiedig.

Mae'r tabl yn dangos:

  • ac eithrio'r grŵp 20% i 30% mwyaf difreintiedig, bod y rhan fwyaf o ACEHIau wedi aros yn yr un grŵp amddifadedd rhwng 2019 a 2025
  • yr oedd 76% o'r 10% o ardaloedd mwyaf difreintiedig yn 2019 yn dal i fod ymhlith y grŵp hwnnw yn 2025
  • yr oedd 92% o'r 50% o ardaloedd lleiaf difreintiedig yn 2019 yn dal i fod ymhlith y grŵp hwnnw yn 2025

Dim ond un ardal symudodd fwy na 2 grŵp amddifadedd iechyd, Llanisien 11 yng Nghaerdydd, a symudodd o'r 50% o ardaloedd lleiaf difreintiedig yn 2019 i'r 10% i'r 20% mwyaf difreintiedig yn 2025 (noder nad yw hyn yn ymddangos yn y tabl uchod yn sgil talgrynnu).

Isod rydym yn canolbwyntio ar ardaloedd eraill sydd wedi symud fwyaf i mewn neu allan o'r grwpiau mwy difreintiedig.

Yn gymharol fwy difreintiedig

Symudodd 7 ardal o grŵp yr 20% i 30% mwyaf difreintiedig ym MALlC 2019 i grŵp y 10% mwyaf difreintiedig ym MALlC 2025, wedi'i ddosbarthu ar draws 7 awdurdod lleol gwahanol.

Cymharol lai difreintiedig

Symudodd 7 ardal o'r grŵp 10% mwyaf difreintiedig i'r grŵp 20% i 30% mwyaf difreintiedig ym MALlC 2025, ond roedd 2 o'r rheini wedi newid ffin AGEHI rhwng MALlC 2019 a MALlC 2025.

Dadansoddiad awdurdodau lleol

Ffigur 4.3: plot blychau o safleoedd maes iechyd MALlC 2025, yn ôl awdurdod lleol

Image

Disgrifiad o ffigur 4.3: dengys y siart isod ddosbarthiad safleoedd y maes iechyd ar gyfer pob awdurdod lleol. Mae'r blychau glas yn cynnwys hanner cyfanswm yr ardaloedd bach (ACEHIau) ym mhob awdurdod lleol, wedi'i ganoli ar y safle canolrifol (canol) ar gyfer pob awdurdod lleol a dengys y ‘wisgers’ yr ystod lawn o safleoedd yn yr awdurdod lleol. Mae amddifadedd yn cynyddu wrth i'r safle ostwng (hynny yw, tua ochr chwith gwaelod y plot).

Mae'r siart yn dangos bod dosbarthiad y safleoedd maes iechyd ar ei fwyaf yng Nghaerdydd, Abertawe a Bro Morgannwg ac ar ei fwyaf cul yn Ynys Môn, Ceredigion a Gwynedd. Powys sydd â'r safle canolrifol uchaf (llai difreintiedig) a Blaenau Gwent sydd â'r isaf (mwyaf difreintiedig).

Crynodiadau o ardaloedd sy'n wynebu amddifadedd o ran iechyd ym MALlC 2025, yn ôl awdurdod lleol

Un ffordd o ystyried data MALlC ar lefel awdurdod lleol yw edrych ar gyfran yr ardaloedd yn yr awdurdod lleol sydd yn y 10% mwyaf difreintiedig (neu'r 20% ac ati) o'r holl ardaloedd. Mae modd ystyried y dull hwn fel nodi crynodiad o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig mewn awdurdod lleol, yn hytrach na'r lefel amddifadedd gyfartalog.

Mae canlyniadau maes iechyd MALlC 2025 yn dangos y canlynol:

  • yr awdurdod lleol â'r gyfran uchaf o ardaloedd yn y 10% mwyaf difreintiedig oedd Merthyr Tudful (28%, neu 10 ardal), yna Castell-nedd Port Talbot (19% neu 17 o ardaloedd), yna Caerdydd (16% neu 34 o ardaloedd)
  • nid oedd gan Geredigion unrhyw ardaloedd bach yn y 10% o ardaloedd mwyaf difreintiedig, ac roedd gan Wynedd, Ynys Môn, Sir Fynwy a Phowys, un ardal fach yn y 10% mwyaf difreintiedig
  • gan Bowys roedd y crynodiadau isaf o ardaloedd yn hanner mwyaf difreintiedig Cymru, ar 20%
  • Blaenau Gwent a oedd â'r ganran uchaf o ardaloedd yn y 50% mwyaf difreintiedig, ar 83%

Crynodiadau o ardaloedd sy'n wynebu amddifadedd o ran iechyd ym MALlC 2025, yn ôl awdurdod lleol ar StatsCymru.

Ffynonellau perthnasol eraill

Ystadegau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth Cymru

Rydym yn cyhoeddi set gynhwysfawr o wybodaeth am iechyd, gwasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru. Mae'r ystadegau hyn yn cwmpasu amrywiaeth eang o bynciau gan gynnwys gweithgareddau sylfaenol a chymunedol y GIG, amseroedd aros a staff y GIG.

Iechyd deintyddol

Rydym wedi cyhoeddi data newydd ar asesiadau iechyd y geg a gynhelir yn ystod cysylltiadau deintyddol y GIG. Gwnaethom sôn am gynlluniau i edrych ar hyn fel dangosydd MALlC posibl yn ein hadroddiad cynigionchrynodeb dilynol o adborth gan ddefnyddwyr. Fodd bynnag, gwelsom fod yr ymdriniaeth o'r data (cyfrannau o bobl sydd â chysylltiadau deintyddol diweddar y GIG) yn amrywiol gan AGEHI, sy'n golygu na allwn asesu iechyd deintyddol yn gyson ac yn hyderus ledled Cymru ar hyn o bryd, sy'n angenrheidiol ar gyfer dangosydd MALlC.

Arolwg Cenedlaethol Cymru

Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru yn gofyn cwestiynau am iechyd a'r defnydd o wasanaethau iechyd. Mae hyn yn cwmpasu amrywiaeth eang o bynciau sy'n amrywio yn ôl blwyddyn yr arolwg, a gellir gweld y canlyniadau ar dudalennau pynciau'r Arolwg ar gyfer Iechyd y Boblogaeth a'r GIG a Gofal Cymdeithasol.

Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae Arsyllfa Iechyd Cyhoeddus Cymru yn darparu gwybodaeth am iechyd y cyhoedd i'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau a'r cyhoedd. Fel rhan o hyn, mae Fframwaith Canlyniadau Iechyd y Cyhoedd yn casglu gwybodaeth am ganlyniadau iechyd i bobl Cymru.

Brechiadau ymhlith plant

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cyhoeddi adroddiadau ar y nifer sy'n derbyn brechiadau yn ystod plentyndod yn seiliedig ar y bas data iechyd plant cymunedol cenedlaethol (a reolir gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru). Gwnaethom sôn am gynlluniau i edrych ar hyn fel dangosydd MALlC posibl yn ein hadroddiad cynigionchrynodeb dilynol o adborth gan ddefnyddwyr. Gwnaethom edrych ar werth 6 blynedd o ddata a gwelsom fod y data yn cynnwys gradd uchel iawn o amrywioldeb ar gyfer ACEHIau o gymharu â dangosyddion eraill yn y maes. Byddwn yn adolygu yn y dyfodol gyda set o ddata hwy, ar ôl y pandemig.

Uned Gwybodaeth ac Arolygaeth Canser Cymru

Uned Gwybodaeth ac Arolygaeth Canser Cymru yw Cofrestrfa Canser Genedlaethol Cymru a'i phrif rôl yw cofnodi, storio ac adrodd ar bob achos o ganser ar gyfer poblogaeth breswyl Cymru ble bynnag y cânt eu trin.

Mapiau Iechyd Cymru

Mae Mapiau Iechyd Cymru yn cynnwys ystod eang o ddata iechyd am breswylwyr Cymru, gan gynnwys derbyniadau i'r ysbyty, marwolaethau ac iechyd anifeiliaid.

Swyddfa Ystadegau Gwladol

Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol hefyd yn cyhoeddi ystadegau ar iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys data disgwyliad oes a marwolaethau, a gesglir o gofrestriadau ac arolygon.

Y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Mewn Ysgolion

Mae'r arolwg iechyd a llesiant myfyrwyr ysgolion uwchradd a gynhaliwyd gan y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion, yn darparu ystod o ddata gan gynnwys mesurau llesiant meddyliol a gweithgarwch corfforol ymhlith pobl ifanc rhwng 11 ac 16 oed.

Canlyniadau'r maes addysg

Cyflwyniad

Diben y maes hwn yw cofnodi graddau'r amddifadedd sy'n ymwneud ag addysg, hyfforddiant a sgiliau. Bwriedir iddo adlewyrchu anfanteision addysgol mewn ardal o ran diffyg cymwysterau a sgiliau. Mae gan y maes bwysoliad cymharol o 14% yn y mynegai cyffredinol.

Dangosyddion

Ffigur 5.1: dangosydd y maes addysg, MALlC 2025

Image

Disgrifiad o ffigur 5.1:  diagram sy'n dangos bod gan y maes addysg 5 dangosydd, a'r ganran a nodir wrth bob dangosydd yw'r swm y mae'n cyfrannu at y maes cyffredinol. 

Mae 3 dangosydd yn canolbwyntio ar nodi cyrhaeddiad isel ac ymddygiadau a allai effeithio ar hynny (fel cyfraddau absenoldeb) ymhlith plant ysgol: 

  • sgôr pwyntiau cyfartalog disgyblion blwyddyn 11 (Cyfnod Allweddol 4, CA4) a gyfrifwyd ar sail y graddau a enillwyd ym mhynciau craidd TGAU Cymraeg neu Saesneg, mathemateg a gwyddoniaeth (neu gymwysterau cyfatebol); cyfartaledd 2 flynedd yn seiliedig ar flynyddoedd academaidd 2022 i 2023 (2022/23) a 2023/24
  • dau gyfradd absenoldeb cyson yn mesur canran y disgyblion ysgol gynradd ac uwchradd (yn y drefn honno) sy’n colli 10% neu'n fwy o sesiynau ysgol; cyfartaleddau 2 flynedd yn seiliedig ar flynyddoedd academaidd 2022/23 a 2023/24

Mae 2 ddangosydd yn canolbwyntio ar gasglu gwybodaeth am ddiffyg cymwysterau a sgiliau ymhlith oedolion a phobl ifanc o oedran addysg ôl-orfodol:

  • cyfran y disgyblion CA4 sydd, rywbryd yn ystod y pedair blynedd ddilynol ar ôl gadael blwyddyn 11, yn mynd i Addysg Uwch; cyfartaledd 4 blynedd yn seiliedig ar ddisgyblion a adawodd yr ysgol rhwng blynyddoedd academaidd 2016/17 a 2019/20
  • cyfran yr oedolion 25 i 64 oed heb gymwysterau neu gymwysterau isel (lefel un), yn seiliedig ar ddata Cyfrifiad 2021

Mae manylion llawn am y dangosyddion ac adeiladwaith y maes ar gael yn adroddiad technegol MALlC 2025. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am y ddau ddangosydd blaenorol (Cyfnod Sylfaen a chyrhaeddiad CA2) na ellir eu cynnwys mwyach.

Prif bwyntiau

Ffigur 5.2: map o ACEHIau wedi'u lliwio yn ôl grŵp amddifadedd addysg, MALlC 2025

Image

© Hawlfraint y Goron 2025. Cartograffeg. Llywodraeth Cymru.

Disgrifiad o ffigur 5.2: mae'r map yn dangos ym maes addysg MALlC 2025, roedd pocedi o amddifadedd addysg uchel yng nghymoedd y de, mewn trefi mawr a dinasoedd, ac mewn rhai trefi ar yr arfordir yn y gogledd a'r gorllewin.

  • Ar gyfer y maes addysg, yr ardal fwyaf difreintiedig yng Nghymru oedd Cymer 2 (Castell-nedd Port Talbot), roedd yr ardal yn y 53ydd safle mwyaf difreintiedig yn 2019.
  • Roedd 3 o'r 10 ardal fwyaf difreintiedig ym MALlC 2025 hefyd ymhlith y 10 ardal fwyaf difreintiedig ym MALlC 2019.
  • Yr awdurdod lleol â'r gyfran uchaf o ardaloedd yn y 10% mwyaf difreintiedig oedd Blaenau Gwent (22%), yna Castell-nedd Port Talbot (21%).
  • Ceredigion oedd yr unig awdurdod lleol heb ACEHIau yn y 10% o ardaloedd mwyaf difreintiedig.
  • Mae patrymau cyffredinol amddifadedd addysgol ym MALlC 2025 yn debyg i'r rhai ar gyfer MALlC 2019.

Gellir lawrlwytho'r set lawn o safleoedd y meysydd o MALlC 2025 a'r dangosyddion sylfaenol o dudalennau gwe StatsCymru.

Cymhariaeth rhwng MALlC 2019 a MALlC 2025

Mae dau ddangosydd wedi'u tynnu allan o'r maes hwn, rhannodd un arall yn ddau ddangosydd (yn ôl cam ysgol) ac mae cwmpas un arall wedi newid ychydig. Felly, nid yw'r maes addysg yn uniongyrchol gymharol â'r maes ar gyfer MALlC 2019. I gael gwybodaeth am sut mae'r maes wedi newid ers 2019, gweler adroddiad technegol MALlC 2025.

Tabl 5.1: symudiadau rhwng grwpiau amddifadedd addysg rhwng MALlC 2019 a 2025
Grŵp 
amddifadedd 
MALlC
10% 
mwyaf 
difreintiedig
2025
10% i 20% 
mwyaf 
difreintiedig
2025
20% i 30% 
mwyaf 
difreintiedig
2025
30% i 50% 
mwyaf 
difreintiedig
2025
50% 
lleiaf 
difreintiedig
2025
10% 
mwyaf 
difreintiedig
2019
73%21%5%1%0%
10% i 20% 
mwyaf 
difreintiedig 
2019
25%41%23%9%2%
20% i 30% 
mwyaf 
difreintiedig
2019
2%26%32%34%6%
30% i 50% 
mwyaf 
difreintiedig 
2019
0%6%19%50%25%
50% lleiaf 
difreintiedig 
2019
0%0%1%11%88%

Dengys y tabl ganran yr ardaloedd bach (ACEHIau) ym mhob grŵp amddifadedd ar gyfer MALlC 2019 sydd wedi aros neu symud grŵp ym MALlC 2025. I gael esboniad ar sut rydym wedi trin y lleiafrif o ardaloedd sydd wedi newid ffin, a'r safleoedd a gyfrifwyd ym mhob categori ar gyfer MALlC 2019 a MALlC 2025, gweler yr adroddiad canllawiau.

Dengys y groeslinell (o'r ochr chwith uchaf i'r dde gwaelod) ganran yr ardaloedd sydd wedi aros yn yr un grŵp amddifadedd. Uwchlaw'r groeslinell ceir canrannau'r ardaloedd sydd wedi symud o grŵp mwy difreintiedig i grŵp llai difreintiedig. Islaw'r groeslinell ceir canrannau'r ardaloedd sydd wedi symud o grŵp llai difreintiedig i grŵp mwy difreintiedig.

Mae'r tabl yn dangos bod:

  • y rhan fwyaf o ACEHIau yn y grwpiau amddifadedd mwyaf difreintiedig a lleiaf difreintiedig wedi aros yn yr un grŵp rhwng 2019 a 2025
  • yr oedd 73% o'r 10% o ardaloedd mwyaf difreintiedig yn 2019 yn dal i fod ymhlith y grŵp hwnnw yn 2025
  • yr oedd 88% o'r 50% o ardaloedd lleiaf difreintiedig yn 2019 yn dal i fod ymhlith y grŵp hwnnw yn 2025

Yn gymharol fwy difreintiedig

Dim ond un ardal a symudodd gan fwy na 2 grŵp amddifadedd i ddod yn gymharol fwy difreintiedig, sef y Maerdy 3 yn Sir Fynwy, a symudodd o'r 30% i'r 50% lleiaf difreintiedig yn 2019 i'r 10% mwyaf difreintiedig yn 2025 (nodwch nad yw hyn yn ymddangos yn y tabl uchod oherwydd talgrynnu).

Cymharol lai difreintiedig

Symudodd chwech ACEHI fwy na 2 grŵp amddifadedd gan ddod yn gymharol lai difreintiedig:

  • symudodd 2 ardal o grŵp y 10% mwyaf difreintiedig ym MALlC 2019 i grŵp y 30% i 50% mwyaf difreintiedig ym MALlC 2025
  • mae 4 ardal wedi symud o grŵp y 10% i 20% mwyaf difreintiedig i grŵp y 50% lleiaf difreintiedig

Roedd Caerdydd yn cynnwys 4 o'r ardaloedd hyn, yn Adamsdown, Cathays a Butetown, gyda niferoedd bach iawn o ddisgyblion yn effeithio ar y 2 ardal olaf. Roedd Rhondda Cynon Taf yn cynnwys un (yn ardal Trefforest) ac roedd Wrecsam yn cynnwys un (yn ardal Brynyffynnon).

Dadansoddiad awdurdodau lleol

Ffigur  5.3: plot blychau o safleoedd maes Addysg MALlC 2025, yn ôl awdurdod lleol

Image

Disgrifiad o ffigur 5.3: dengys y siart ddosbarthiad safleoedd y maes addysg ar gyfer pob awdurdod lleol. Mae'r blychau glas yn cynnwys hanner cyfanswm yr ardaloedd bach (ACEHIau) ym mhob awdurdod lleol, wedi'i ganoli ar y safle canolrifol (canol) ar gyfer pob awdurdod lleol a dengys y ‘wisgers’ yr ystod lawn o safleoedd yn yr awdurdod lleol. Mae amddifadedd yn cynyddu wrth i'r safle ostwng (hynny yw, tua ochr chwith gwaelod y plot). 

Yng Nghaerdydd, Bro Morgannwg a Chasnewydd mae dosbarthiad y safleoedd maes addysg ar ei fwyaf ac yng Ngheredigion mae ar ei gulaf . Sir Fynwy sydd â'r safle canolrifol uchaf (llai difreintiedig) a Blaenau Gwent sydd â'r un isaf (mwy difreintiedig).

Crynodiadau o ardaloedd difreintiedig maes addysg, yn ôl awdurdod lleol

Un ffordd o ystyried data MALlC ar lefel awdurdod lleol yw edrych ar gyfran yr ardaloedd yn yr awdurdod lleol sydd yn y 10% mwyaf difreintiedig (neu'r 20% ac ati) o'r holl ardaloedd. Mae modd ystyried y dull hwn fel nodi crynodiad o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig mewn awdurdod lleol, yn hytrach na'r lefel amddifadedd cyfartalog.

Mae canlyniadau maes addysg MALlC 2025 yn dangos y canlynol: 

  • yr awdurdod lleol â'r gyfran uchaf o ardaloedd yn y 10% mwyaf difreintiedig oedd Blaenau Gwent (22%), yna Castell-nedd Port Talbot (21%), yna Rhondda Cynon Taf (20%)
  • Blaenau Gwent a Merthyr Tudful oedd â'r ganran uchaf o ardaloedd yn y 50% mwyaf difreintiedig (85% a 83% yn y drefn honno)
  • Ceredigion oedd yr unig awdurdod lleol heb unrhyw ardaloedd bach yn y 10% mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Dim ond un ardal sydd yn Sir Fynwy ac mae gan Bowys ac Ynys Môn ddwy ardal yr un yn y 10% mwyaf difreintiedig
  • Ceredigion sydd â'r gyfran isaf o ardaloedd yn y 50% mwyaf difreintiedig ar 18%, yna Sir Fynwy (21%) a Phowys (28%)

Crynodiadau o ardaloedd sy'n wynebu amddifadedd o ran addysg ym MALlC 2025, yn ôl awdurdod lleol ar StatsCymru.

Ffynonellau perthnasol eraill

Ystadegau addysg Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi gwybodaeth am addysg a sgiliau yng Nghymru. Mae'r ystadegau hyn yn cwmpasu ystod eang o bynciau yn ymwneud ag addysg, gan gynnwys canlyniadau arholiadau ac absenoldeb.

Medr

Mae Medr, y Comisiwn Addysg ac Ymchwil Drydyddol, yn cyhoeddi ystadegau swyddogol am addysg drydyddol a data eraill yn ymwneud ag addysg ac ymchwil drydyddol. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am ben taith dysgwyr ôl-16 wrth gwblhau eu rhaglenni dysgu.

Swyddfa Ystadegau Gwladol

Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol hefyd yn cyhoeddi ystadegau yn ymwneud ag addysg o Gyfrifiad 2021.

Arolwg cyrchfannau disgyblion

Caiff data ar bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant (NEET) eu cyhoeddi gan Gyrfa Cymru yn seiliedig ar yr arolwg cyrchfannau disgyblion. Er na fu'n bosibl defnyddio'r data hwn ym MALlC 2025 oherwydd y pryderon yn ymwneud ag ymdriniaeth a chysondeb ar lefel AGEHI, byddwn yn ystyried unrhyw ddatblygiadau ar gyfer datganiadau MALlC i'r dyfodol.

Canlyniadau’r maes mynediad at wasanaethau

Cyflwyniad

Diben y maes hwn yw cofnodi amddifadedd o ganlyniad i anallu aelwyd i gael mynediad at ystod o wasanaethau a ystyrir yn angenrheidiol ar gyfer byw o ddydd i ddydd, a hynny’n ffisegol ac ar-lein. Mae hyn yn cwmpasu amddifadedd materol (er enghraifft, methu â chael bwyd) ac agweddau cymdeithasol ar amddifadedd (er enghraifft, methu â mynd i weithgareddau ar ôl yr ysgol). Mae gan y maes bwysoliad cymharol o 10% yn y mynegai cyffredinol.

Dangosyddion

Ffigur 6.1: dangosyddion y maes mynediad at wasanaethau, MALlC 2025

Image

Disgrifiad o ffigur 6.1: diagram sy’n dangos bod gan y maes mynediad at wasanaethau 20 o ddangosyddion wedi’u grwpio’n 2 is-faes. Mae pob gwasanaeth yn yr is-faes mynediad ffisegol yn cynnwys dangosydd trafnidiaeth gyhoeddus (heb gynnwys gorsafoedd petrol) a dangosydd trafnidiaeth breifat. 

Mae’r is-faes mynediad ffisegol yn cynnwys 19 o ddangosyddion sy’n mesur yr amser teithio cyfartalog i 1 o 10 o wasanaethau gan ddefnyddio dull trafnidiaeth (cyhoeddus neu breifat). Y gwasanaethau a gynhwyswyd oedd (yn nhrefn ddisgynnol pwysoliad y dangosydd): 

  • fferyllfa
  • meddygfa
  • siop fwyd
  • darparwr gofal plant
  • llyfrgell gyhoeddus
  • swyddfa bost
  • ysgol gynradd
  • cyfleuster chwaraeon
  • gorsaf betrol (trafnidiaeth breifat yn unig)
  • ysgol uwchradd

Mae’r dangosyddion yn mesur amser teithio dwyffordd cyfartalog (mewn munudau) o anheddau preswyl i’r gwasanaeth agosaf yn ôl y dull trafnidiaeth dan sylw. Mae trafnidiaeth gyhoeddus yn cynnwys teithio ar fws cyhoeddus, trên cyhoeddus, ar droed a choets genedlaethol. Ystyr trafnidiaeth breifat yw teithio mewn car preifat. 

Mae’r is-faes mynediad digidol yn mesur canran y cartrefi a busnesau bach na allant gael band eang llinell osodedig ar gyflymder lawrlwytho o 30MB/yr eiliad o leiaf (band eang cyflym iawn). 

Mae dangosyddion amser teithio cyhoeddus a phreifat ar gyfer pob gwasanaeth wedi’u cyfuno’n symiau a bwysolwyd gan ddefnyddio data Cyfrifiad 2021 ar berchnogaeth ceir a nifer yr oedolion 17 oed neu’n hŷn. Yna, caiff dadansoddiad o ffactorau ei gymhwyso at y sgoriau cyfun hyn i gyfrifo’r pwysoliadau a ddangosir yn ffigur 6.1, sy’n cyfrannu 90% o sgôr gyffredinol y maes. Mae’r is-faes mynediad digidol yn cyfrannu’r 10% arall o sgôr y maes. 

Mae darparwr gofal plant wedi cael ei gyflwyno i’r rhestr o wasanaethau a gynhwyswyd yn yr is-faes mynediad ffisegol ar gyfer MALlC 2025, gyda dau ddangosydd newydd cyfatebol. Darparwyr gofal plant yw’r rhai sydd wedi’u cofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC), gan gynnwys gofal dydd a gofal sesiynol, crèches a gwarchodwyr plant.

Mae'r rhan fwyaf o setiau data ar gyfer y dangosyddion hyn yn gysylltiedig â chyfnod amser 2025. Ceir manylion llawn am y dangosyddion a’r ffordd y lluniwyd y maes yn adroddiad technegol MALlC 2025. Mae’r adroddiad yn cynnwys manylion am fethodoleg y dangosydd amser teithio, sydd wedi newid ers MALlC 2019.

Prif ganlyniadau

Ffigur 6.2: map o ACEHIau wedi’u lliwio yn ôl grŵp amddifadedd mynediad at wasanaethau, MALlC 2025

Image

© Hawlfraint y Goron 2025. Cartograffeg. Llywodraeth Cymru.

Disgrifiad o ffigur 6.2: mae’r map yn dangos, ym maes mynediad at wasanaethau MALlC 2025, bod amddifadedd mawr yn gyffredin mewn ardaloedd gwledig.

  • Yr awdurdod lleol â’r gyfran uchaf o ardaloedd yn y 10% mwyaf difreintiedig oedd Powys (49%), yna Ceredigion (44%) a Sir Benfro (35%).
  • Nid oes unrhyw ardaloedd yng ngrŵp y 10% mwyaf difreintiedig ym Mlaenau Gwent, Caerffili, Caerdydd, Pen-y-bont ar Ogwr na Thorfaen.
  • Mae patrymau cyffredinol amddifadedd mynediad at wasanaethau ym MALlC 2025 yn debyg i’r rhai ar gyfer MALlC 2019.
  • Ar gyfer y maes mynediad at wasanaethau, yr ardal fwyaf difreintiedig yng Nghymru oedd Llanegwad 2, sy’n ardal wledig yn Sir Gaerfyrddin a oedd y bumed ardal fwyaf difreintiedig ym MALlC 2019.
  • O’r 10 ardal fwyaf difreintiedig yng Nghymru yn 2025, roedd 4 hefyd yn y 10 ardal fwyaf difreintiedig yn 2019. 

Gellir lawrlwytho’r set lawn o safleoedd meysydd MALlC 2025 a’r dangosyddion sylfaenol o dudalennau gwe StatsCymru.

Cymhariaeth rhwng MALlC 2019 a MALlC 2025

Ceir un dangosydd newydd yn y maes hwn, ac mae rhywfaint o'r fethodoleg amser teithio a ffynonellau data wedi newid. Felly, nid yw'r maes mynediad at wasanaethau yn uniongyrchol gymharol i'r maes ar gyfer MALlC 2019. I gael gwybodaeth am sut mae’r maes wedi newid ers 2019, gweler yr adroddiad technegol.

Tabl 6.1: symudiad rhwng grŵp amddifadedd mynediad at wasanaethau rhwng MALlC 2019 a MALlC 2025
Grŵp 
amddifadedd 
MALlC
10% 
mwyaf 
difreintiedig
2025
10% i 20% 
mwyaf 
difreintiedig
2025
20% i 30% 
mwyaf 
difreintiedig
2025
30% i 50% 
mwyaf 
difreintiedig
2025
50% 
lleiaf 
difreintiedig
2025
10% 
mwyaf 
difreintiedig
2019
87%12%1%1%0%
10% i 20% 
mwyaf 
difreintiedig 
2019
12%45%20%15%8%
20% i 30% 
mwyaf 
difreintiedig
2019
1%20%24%37%19%
30% i 50% 
mwyaf 
difreintiedig 
2019
1%8%16%30%45%
50% lleiaf 
difreintiedig 
2019
0%1%4%17%77%

Dengys y tabl ganran yr ardaloedd bach (ACEHIau) ym mhob grŵp amddifadedd ar gyfer MALlC 2019 sydd wedi aros neu wedi symud grŵp ym MALlC 2025. I gael esboniad ar sut rydym wedi trin y lleiafrif o ardaloedd sydd wedi newid ffin, a'r safleoedd a gyfrifwyd ym mhob categori ar gyfer MALlC 2019 a MALlC 2025, gweler yr adroddiad canllawiau.

Dengys y groeslinell (o’r ochr chwith uchaf i’r dde gwaelod) ganran yr ardaloedd sydd wedi aros yn yr un grŵp amddifadedd. Uwchlaw’r groeslinell ceir canrannau’r ardaloedd sydd wedi symud o grŵp mwy difreintiedig i grŵp llai difreintiedig. Islaw’r groeslinell ceir canrannau’r ardaloedd sydd wedi symud o grŵp llai difreintiedig i grŵp mwy difreintiedig.

Mae’r tabl yn dangos y canlynol:

  • arhosodd y rhan fwyaf o ACEHIau yn y grwpiau amddifadedd mwyaf difreintiedig a lleiaf difreintiedig yn yr un grŵp rhwng 2019 a 2025
  • roedd 87% o’r 10% o ardaloedd mwyaf difreintiedig yn 2019 yn dal i fod yn y grŵp hwnnw yn 2025
  • roedd 77% o’r 50% o ardaloedd lleiaf difreintiedig yn 2019 yn dal i fod yn y grŵp hwnnw yn 2025

Ar gyfer mynediad at wasanaethau, symudwyd 30 ardal gan fwy na 2 grŵp amddifadedd. Isod rydym yn canolbwyntio ar y rhai sydd wedi symud i mewn neu allan o'r grŵp mwyaf difreintiedig.

Cymharol fwy difreintiedig

Symudodd dwy ardal o grŵp y 30% i’r 50% mwyaf difreintiedig yn 2019 i grŵp y 10% mwyaf difreintiedig yn 2025, sef Resolfen 1 yng Nghastell-nedd Port Talbot a’r Borth yng Ngheredigion.

Cymharol lai difreintiedig

Symudodd un ardal o grŵp y 10% mwyaf difreintiedig yn 2019 i grŵp y 30% i’r 50% mwyaf difreintiedig yn 2025, sef De Llandrindod ym Mhowys.

Symudodd 16 ardal arall o grŵp y 10% i’r 20% mwyaf difreintiedig i grŵp y 50% lleiaf difreintiedig; yr ardaloedd a symudodd fwyaf yn y grŵp hwn oedd Gorllewin y Rhyl 2 yn Sir Ddinbych a Choety Uchaf 3 ym Mhen-y-bont ar Ogwr (AGEHI y mae ei ffin wedi newid).

Dadansoddiad yn ôl awdurdod lleol

Ffigur 6.3: plot blychau o safleoedd maes mynediad at wasanaethau MALlC 2025, yn ôl awdurdod lleol

Image

Disgrifiad o ffigur 6.3: dengys y siart ddosbarthiad safleoedd y maes mynediad at wasanaethau ar gyfer pob awdurdod lleol. Mae’r blychau glas yn cynnwys hanner cyfanswm yr ardaloedd bach (ACEHIau) ym mhob awdurdod lleol, wedi’i ganoli ar y safle canolrifol (canol) ar gyfer pob awdurdod lleol a dengys y ‘wisgers’ yr ystod lawn o safleoedd yn yr awdurdod lleol. Mae amddifadedd yn cynyddu wrth i’r safle ostwng (hynny yw, tuag ochr chwith gwaelod y plot).

Yn Sir Ddinbych, Bro Morgannwg a Sir Fynwy y gwelir y dosbarthiad mwyaf o ran safleoedd y maes mynediad at wasanaethau ac yng Ngheredigion y gwelir y dosbarthiad culaf, yna Castell-nedd Port Talbot a Thorfaen. Caerdydd sydd â’r safle canolrifol uchaf (lleiaf difreintiedig) a Phowys a Cheredigion sydd â’r safle canolrifol isaf (mwyaf difreintiedig). 

Crynodiadau o ardaloedd sy’n wynebu amddifadedd mynediad at wasanaethau, yn ôl awdurdod lleol

Un ffordd o ystyried data MALlC ar lefel awdurdod lleol yw edrych ar gyfran yr ardaloedd yn yr awdurdod lleol sydd yn y 10% mwyaf difreintiedig (neu’r 20% ac ati) o’r holl ardaloedd. Mae modd ystyried y dull hwn fel nodi crynodiad o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig mewn awdurdod lleol, yn hytrach na’r lefel amddifadedd cyfartalog.

Mae canlyniadau maes mynediad at wasanaethau MALlC 2025 yn dangos y canlynol:

  • yr awdurdod lleol â’r gyfran uchaf o ardaloedd yn y 10% mwyaf difreintiedig oedd Powys (49% neu 39 o ardaloedd) yna Ceredigion (44% neu 20 o ardaloedd)
  • Nid oes unrhyw ardaloedd yn y 10% mwyaf difreintiedig ym Mlaenau Gwent, Caerffili, Caerdydd, Pen-y-bont ar Ogwr na Thorfaen
  • Ceredigion a Phowys a oedd â’r ganran uchaf o ardaloedd yn y 50% mwyaf difreintiedig, ar 84% ac 82% yn y drefn honno
  • Caerdydd a oedd â’r ganran isaf o ardaloedd yn y 50% mwyaf difreintiedig (22%)

Crynodiadau o ardaloedd syn wynebu amddifadedd mynediad at wasanaethau MALlC 2025, yn ôl awdurdod lleol ar StatsCymru.

Ffynonellau perthnasol eraill

Arolwg Cenedlaethol Cymru

Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru yn cynnwys cwestiynau ynghylch a yw pobl yn fodlon ar eu gallu i gael mynediad at y gwasanaethau a’r cyfleusterau sydd eu hangen arnynt.

Ofcom

Ochr yn ochr â data ar gwmpas darparwyr gosodedig, mae Ofcom yn cyhoeddi data ar berfformiad darparwyr gosodedig a chwmpas symudol ar amrywiaeth o ddaearyddiaethau yn ei hadroddiad Cysylltu’r Gwledydd.

Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG)

Mae’r SYG yn cyhoeddi dadansoddiadau rhyngweithiol o fynediad at amwynderau lleol yng Nghymru a Lloegr, gan gynnwys swyddfeydd post, mannau codi arian a pharciau, yn ogystal ag amcangyfrifon o’r amser teithio i orsafoedd trenau a llyfrgelloedd.

Canlyniadau maes tai

Cyflwyniad

Yn gysyniadol, diben y maes tai yw nodi tai annigonol, o ran cyflwr ffisegol, amodau byw ac argaeledd. Yma, mae amodau byw yn golygu addasrwydd y tai ar gyfer y sawl sy'n byw ynddynt, er enghraifft o ran iechyd a diogelwch, ac addasiadau angenrheidiol.

Mae gan y maes bwysoliad cymharol o 9% yn y mynegai cyffredinol. Mae hyn wedi cynyddu o 7% ym mynegai 2019, yn sgil ychwanegu dangosyddion newydd ar effeithlonrwydd ynni a'r anallu i fforddio bod yn berchen-feddiannydd neu yn y farchnad rhentu breifat.

Dangosyddion

Ffigur 7.1: dangosyddion maes tai, MALlC 2025

Image

Disgrifiad o ffigur 7.1: diagram sy'n dangos bod gan y maes tai ddau is-faes wedi'u pwysoli'n gyfartal, argaeledd tai a chyflwr tai, gyda dau ddangosydd pwysoliad cyfartal yr un. 

Mae is-faes argaeledd tai yn cynnwys dangosyddion megis: 

  • canran yr aelwydydd sydd wedi'u gorlenwi ar y mesur ystafelloedd gwely seiliedig ar Gyfrifiad 2021
  • anallu i fforddio dod yn berchen-feddiannydd neu fod yn y farchnad rhentu preifat, 2023 (newydd ar gyfer MALlC 2025, mae rhagor o fanylion isod)

Mae'r is-faes cyflwr tai yn cynnwys dangosyddion megis: 

  • ansawdd gwael, sef y tebygolrwydd bod tai mewn cyflwr gwael neu'n cynnwys peryglon difrifol (er enghraifft, y risg o gwympo neu dai oer), 2023
  • effeithlonrwydd ynni, 2012 i 2024 (newydd ar gyfer MALlC 2025, mae rhagor o fanylion isod)

Rydym yn cyflwyno dangosydd newydd ar yr anallu i fforddio dod yn berchen-feddiannydd neu fod yn y farchnad rhentu preifat, a luniwyd gan Brifysgol Heriot-Watt. Mae’r dangosydd hwn wedi cael ei ddefnyddio mewn sawl iteriad o fynegeion amddifadedd Lloegr, ar gyfer aelwydydd iau â phenteulu o dan 40 oed. Bydd ein mesur yn ymgorffori ail elfen i rentwyr preifat hŷn lle mae’r penteulu rhwng 40 a 65 oed. Amcangyfrifon wedi’u modelu yw’r rhain, sy’n seiliedig ar brisiau tai a rhenti preifat chwartel isaf yn ôl maint annedd o fewn ardal benodol, ac incymau aelwydydd wedi’u modelu ar lefel ardal gynnyrch ehangach haen is (AGEHI). Mae'r dangosydd yn amcangyfrif a all aelwydydd mewn AGEHI fforddio prynu neu rentu’n breifat cartref addas o fewn ardal farchnad dai leol ehangach, yn seiliedig ar incwm ac anghenion maint annedd yr aelwydydd.

Rydym yn cyflwyno dangosydd newydd ar effeithlonrwydd ynni, yn seiliedig ar raddau’r Weithdrefn Asesu Safonol ar gyfer anheddau preswyl yn yr ardal, sy’n deillio o ddata Tystysgrifau Perfformiad Ynni (EPC). Mae’r Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol wedi datblygu'r dangosydd ar gyfer anheddau preswyl yng Nghymru a Lloegr, gan briodoli sgoriau EPC amcangyfrifedig ar gyfer pob annedd nad oes ganddynt EPC dilys ar hyn o bryd.

Mae manylion llawn am y dangosyddion ac adeiladwaith y maes ar gael yn adroddiad technegol MALlC 2025.

Prif bwyntiau

Ffigur 7.2: map o ACEHIau wedi'u lliwio yn ôl grŵp amddifadedd tai, MALlC 2025

Image

© Hawlfraint y Goron 2025. Cartograffeg. Llywodraeth Cymru.

Disgrifiad o ffigur 7.2: mae'r map yn dangos ym maes tai MALlC 2025, mae pocedi o amddifadedd tai uchel yn tueddu i glystyru yn y trefi mawr a'r dinasoedd (wedi'i gymell gan yr agwedd argaeledd tai), ac yn ardaloedd mwy gwledig y gorllewin a'r gogledd (a ysgogir gan agwedd cyflwr tai).  

  • Yr awdurdodau lleol â'r gyfran uchaf o ardaloedd yn y 10% o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru oedd Gwynedd (38%), yna Caerdydd (33%).
  • Nid oedd gan 6 awdurdod lleol unrhyw ardaloedd bach yn y 10% mwyaf difreintiedig yng Nghymru: Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Sir y Fflint, Merthyr Tudful, Torfaen a Bro Morgannwg.
  • Roedd 5 o'r 10 ardal fwyaf difreintiedig o ran tai yng Nghymru yng Ngwynedd, ac roedd 2 ar y ffin ag ‘Uwch Conwy’, sef ardal o Gonwy sydd hefyd yn y 10 mwyaf difreintiedig.
  • Roedd y 4 o'r 10 ardal fwyaf difreintiedig arall yng Nghaerdydd, yn Grangetown a Glan yr Afon. 

Roedd yr ardal fwyaf difreintiedig o ran tai'r un peth ar gyfer MALlC 2019: Grangetown 9 o gwmpas pen gogleddol Corporation Road. Ar y cyd â'i gymydog Grangetown 6, nhw yw'r unig ardaloedd i ymddangos yn y degradd mwyaf difreintiedig o'r is-feysydd cyflwr tai ac argaeledd tai.

Bu rhai newidiadau yn y patrymau amddifadedd tai a welwyd ym MALlC 2025 o gymharu â'r rhai a welwyd ym MALlC 2019. Mae hyn i'w ddisgwyl o gofio cynnwys y dangosyddion newydd ar effeithlonrwydd ynni ac anallu i fforddio dod yn berchen-feddiannydd neu fod yn y farchnad rhentu preifat. 

Gellir lawrlwytho'r set lawn o safleoedd y meysydd o MALlC 2025 a'r dangosyddion sylfaenol o dudalennau gwe StatsCymru.

Cymhariaeth rhwng MALlC 2019 a MALlC 2025

Mae dau ddangosydd newydd yn y maes hwn, felly nid yw'n uniongyrchol gymharol â'r maes tai ar gyfer MALlC 2019. I gael gwybodaeth am sut mae'r maes wedi newid ers 2019, gweler yr adroddiad technegol.

Tabl 7.1: symudiadau rhwng grwpiau amddifadedd tai rhwng MALlC 2019 a 2025
Grŵp 
amddifadedd 
MALlC
10% 
mwyaf 
difreintiedig
2025
10% i 20% 
mwyaf 
difreintiedig
2025
20% i 30% 
mwyaf 
difreintiedig
2025
30% i 50% 
mwyaf 
difreintiedig
2025
50% 
lleiaf 
difreintiedig
2025
10% 
mwyaf 
difreintiedig
2019
54%19%13%12%3%
10% i 20% 
mwyaf 
difreintiedig 
2019
20%24%17%27%12%
20% i 30% 
mwyaf 
difreintiedig
2019
11%16%18%36%19%
30% i 50% 
mwyaf 
difreintiedig 
2019
5%13%13%27%41%
50% lleiaf 
difreintiedig 
2019
1%3%5%14%77%

Dengys y tabl ganran yr ardaloedd bach (ACEHIau) ym mhob grŵp amddifadedd ar gyfer MALlC 2019 sydd wedi aros neu wedi symud grŵp ym MALlC 2025. I gael esboniad ar sut rydym wedi trin y lleiafrif o ardaloedd sydd wedi newid ffin, a'r safleoedd a gyfrifwyd ym mhob categori ar gyfer MALlC 2019 a MALlC 2025, gweler yr adroddiad canllawiau.

Dengys y groeslinell (o'r ochr chwith uchaf i'r dde gwaelod) ganran yr ardaloedd sydd wedi aros yn yr un grŵp amddifadedd. Uwchlaw'r groeslinell ceir canrannau'r ardaloedd sydd wedi symud o grŵp mwy difreintiedig i grŵp llai difreintiedig. Islaw'r groeslinell ceir canrannau'r ardaloedd sydd wedi symud o grŵp llai difreintiedig i grŵp mwy difreintiedig.

Mae'r tabl yn dangos:

  • yr arhosodd y rhan fwyaf o ACEHIau yn y grwpiau amddifadedd mwyaf difreintiedig a lleiaf difreintiedig yn yr un grŵp rhwng 2019 a 2025
  • yr oedd 54% o'r 10% o ardaloedd mwyaf difreintiedig yn 2019 yn dal i fod ymhlith y grŵp hwnnw yn 2025
  • yr oedd 77% o'r 50% o ardaloedd lleiaf difreintiedig yn 2019 yn dal i fod ymhlith y grŵp hwnnw yn 2025

Symudodd ychydig dros 100 o ACEHIau fwy na 2 grŵp amddifadedd. Isod rydym yn canolbwyntio ar y rhai a symudodd i mewn neu allan o'r grŵp mwyaf difreintiedig.

Yn gymharol fwy difreintiedig

Mae 9 ardal wedi symud o grŵp y 50% lleiaf difreintiedig ym MALlC 2019 i grŵp y 10% mwyaf difreintiedig ym MALlC 2025, roedd 6 yng Nghaerdydd ac yn cael eu graddio'n uchel o ran amddifadedd argaeledd tai, ac roedd y 3 arall yng Ngwynedd neu Ynys Môn ac yn graddio'n uchel o ran amddifadedd cyflwr tai.

Cymharol lai difreintiedig

Symudodd 5 ardal o grŵp y 10% mwyaf difreintiedig ym MALlC 2019 i grŵp y 50% lleiaf difreintiedig ym MALlC 2025. Roedd yr ardaloedd hyn mewn trefi neu'n agos atynt mewn 5 awdurdod lleol gwahanol yn Ne a Chanolbarth Cymru.

Dadansoddiad awdurdodau lleol

Ffigur 7.3: plot blychau o safleoedd maes tai MALlC 2025, yn ôl awdurdod lleol

Image

Disgrifiad o ffigur 7.3: dengys y siart isod ddosbarthiad safleoedd y maes tai ar gyfer pob awdurdod lleol. Mae'r blychau glas yn cynnwys hanner cyfanswm yr ardaloedd bach (ACEHIau) ym mhob awdurdod lleol, wedi'i ganoli ar y safle canolrifol (canol) ar gyfer pob awdurdod lleol a dengys y ‘wisgers’ yr ystod lawn o safleoedd yn yr awdurdod lleol. Mae amddifadedd yn cynyddu wrth i'r safle ostwng (hynny yw, tuag ochr chwith gwaelod y plot). 

Yng Nghasnewydd, Caerdydd, Conwy ac Abertawe mae dosbarthiad y safleoedd maes tai ar ei fwyaf, ar ei fwyaf cul yng Ngwynedd a Merthyr Tudful. Sir y Fflint a Phen-y-bont ar Ogwr oedd â'r safle canolrifol uchaf (llai difreintiedig) a Gwynedd sydd â'r isaf (mwyaf difreintiedig).

Crynodiadau o ardaloedd sy'n wynebu amddifadedd o ran tai, yn ôl awdurdod lleol

Un ffordd o ystyried data MALlC ar lefel awdurdod lleol yw edrych ar gyfran yr ardaloedd yn yr awdurdod lleol sydd yn y 10% mwyaf difreintiedig (neu'r 20% ac ati) o'r holl ardaloedd yng Nghymru. Mae modd ystyried y dull hwn fel nodi crynodiad o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig mewn awdurdod lleol, yn hytrach na'r lefel amddifadedd cyfartalog.

Mae canlyniadau maes tai MALlC 2025 yn dangos y canlynol: 

  • Gwynedd oedd yr awdurdod lleol gyda'r gyfran uchaf o ardaloedd yn y 10% mwyaf difreintiedig yng Nghymru, gyda 38% neu 27 o'i ardaloedd yn y grŵp hwnnw, wedi'i ysgogi gan amddifadedd mewn cyflwr tai (ond gyda 5 o'r 27 hefyd yn y 30% mwyaf difreintiedig o ran argaeledd tai),
  • yna Caerdydd oedd â 33% neu 73 o'i hardaloedd yn y 10% mwyaf difreintiedig yng Nghymru, wedi'i ysgogi gan amddifadedd o ran argaeledd tai
  • Gwynedd hefyd a oedd â'r ganran uchaf o ardaloedd yn y 50% mwyaf difreintiedig yng Nghymru, ar 83%
  • Nid oedd gan 6 awdurdod lleol unrhyw ardaloedd bach yn y 10% mwyaf difreintiedig yng Nghymru: Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Sir y Fflint, Merthyr Tudful, Torfaen a Bro Morgannwg
  • Pen-y-bont a Sir y Fflint oedd yr awdurdodau lleol â'r crynodiadau isaf o ardaloedd yn hanner mwyaf difreintiedig Cymru, ar 26% a 25% yn y drefn honno

Crynodiadau o ardaloedd sy'n wynebu amddifadedd o ran tai ym MALlC 2025, yn ôl awdurdod lleol ar StatsCymru.

Gwybodaeth gysylltiedig

Digartrefedd

Mae'n bosibl mai digartrefedd yw'r math mwyaf eithafol o amddifadedd mewn perthynas â mynediad at dai. Mae data sy'n ymwneud â digartrefedd statudol a'r rhai sy'n cyflwyno i awdurdodau lleol am gymhorthdal tai ar gael ar lefel awdurdod lleol. Rydym yn datblygu casgliad newydd o ddata digartrefedd ar lefel unigolion yng Nghymru, a byddwn yn archwilio cynnydd hyn cyn y mynegai nesaf.

Cyflwr Tai

Y tro diwethaf y cafodd Arolwg Cyflwr Tai Cymru, sy'n casglu gwybodaeth am gyflwr ac effeithlonrwydd ynni pob math a deiliadaeth o dai yng Nghymru, oedd yn y flwyddyn ariannol Ebrill 2017 i Fawrth 2018 (2017-18). Mae cynlluniau ar waith ar gyfer Arolwg Tai Cymru yn 2027-28. Bydd hyn yn cynnwys arolwg cyflwr tai safonol, fel y cynhaliwyd yn 2017-18, ac elfen arolwg cymdeithasol ehangach sy'n cwmpasu pynciau cysylltiedig â thai amrywiol. Bydd gwaith maes yn cael ei gynnal dros flwyddyn ariannol 2027-28, gyda'r prif ganlyniadau i'w disgwyl ym mis Rhagfyr 2028.

Tlodi tanwydd

Ystyrir bod aelwyd mewn tlodi tanwydd os na all gadw ei chartref yn gynnes am gost resymol. Yng Nghymru, mae'r diffiniad o dlodi tanwydd incwm llawn yn nodi bod aelwyd mewn tlodi tanwydd os oes angen iddi wario mwy na 10% o'i hincwm (gan gynnwys budd-daliadau cysylltiedig â thai a net o'i threth gyngor) ar yr holl ddefnydd o danwydd yr aelwyd er mwyn cynnal cyfundrefn wresogi foddhaol. Mae amcangyfrifon wedi'u modelu o dlodi tanwydd ar gyfer Cymru fel ym mis Hydref 2024 ar gael.

Mannau awyr agored preifat

Mae tîm cyfalaf naturiol SYG wedi llunio a chyhoeddi ystadegau ar erddi preifat (mannau awyr agored preifat) i lawr at lefel AGEHIau ar gyfer Prydain Fawr i gyd. Daeth yr ystadegau hyn o gronfa ddata AddressBase Plus Arolwg Ordnans (ac maent yn cynnwys mannau awyr agored preifat ‘nad ydynt yn wyrdd’ ym mlaen, yng nghefn ac wrth ochr eiddo, yn ogystal â gerddi ‘gwyrdd’). 

Mae'r Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol wedi defnyddio'r gwaith hwn fel sail ar gyfer dangosydd ar gyfer mynegeion amddifadedd Lloegr 2025. Gwnaethom benderfynu peidio â chynnwys dangosydd o'r fath ym MALlC 2025, am resymau a osodwyd yn ein hadroddiad cynigionchrynodeb adborth gan ddefnyddwyr dilynol.

Canlyniadau'r maes diogelwch cymunedol

Cyflwyniad

Diben y maes hwn yw mesur cyfran y bobl sy'n profi amddifadedd sy'n ymwneud â byw mewn cymuned ddiogel. Mae'n cwmpasu profiadau gwirioneddol o droseddu a thân, yn ogystal â chanfyddiadau pobl o ddiogelwch pan fyddant allan yn yr ardal leol. Mae gan y maes bwysoliad cymharol o 5% yn y mynegai cyffredinol.

Dangosyddion

Ffigur 8.1: dangosyddion y maes diogelwch cymunedol, MALlC 2025

Image

Disgrifiad o ffigur 8.1: diagram sy'n dangos bod gan y maes diogelwch cymunedol 9 dangosydd, y mae 7 o'r rhain yn seiliedig ar gategorïau data troseddau a gofnodwyd gan yr heddlu, un yn ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol ac un yn ymwneud ag achos o dân.  Y ganran a ddangosir nesaf at bob dangosydd yw'r swm y mae'n cyfrannu at y maes cyffredinol.  

Rhifiaduron y maes yw nifer gyfartalog yr achosion dros 6 blwyddyn ariannol Ebrill 2018 i fis Mawrth 2019 (2018-19) i 2023-24 ar gyfer y categorïau canlynol o droseddau a gofnodwyd gan yr heddlu: 

  • trais gydag anaf
  • trais heb anaf
  • troseddau yn erbyn y drefn gyhoeddus
  • stelcio ac aflonyddu
  • difrod troseddol
  • bwrgleriaeth
  • dwyn

Y rhifiadur ar gyfer y dangosydd ymddygiad gwrthgymdeithasol yw'r nifer cyfartalog o achosion a gofnodwyd dros y ddwy flwyddyn ariannol (2022-23 a 2023-24). 

Y rhifiadur ar gyfer y dangosydd achosion o dân yw'r nifer cyfartalog o danau yr aethpwyd atynt dros y tair blwyddyn ariannol (2021-22 i 2023-24). 

Rydym wedi cyflwyno rhai newidiadau i'r dangosyddion a ddefnyddir yn y maes ers MALlC 2019. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • rhannu'r dangosydd troseddau treisgar a gofnodwyd gan yr heddlu blaenorol mewn i’r pedwar categori cyntaf o droseddau a restrir uchod
  • ymestyn nifer y blynyddoedd o ddata troseddau a gofnodwyd gan yr heddlu i 6 blynedd ar gyfartaledd (o 2 flynedd), er mwyn osgoi effaith patrymau anarferol o droseddau yn ystod y blynyddoedd yr effeithir arnynt gan bandemig COVID-19
  • newidiadau i'r boblogaeth sydd mewn perygl mewn ardal i adlewyrchu nad dim ond y rhai sy'n byw mewn ardal a allai gael eu heffeithio, ac i gynnwys poblogaethau carchardai

Mae manylion llawn am y dangosyddion ac adeiladwaith y maes ar gael yn adroddiad technegol MALlC 2025.

Prif bwyntiau

Ffigur 8.2: map o ACEHIau wedi'u lliwio yn ôl grŵp amddifadedd diogelwch cymunedol, MALlC 2025

Image

Hawlfraint y Goron 2025: Cartograffeg, Llywodraeth Cymru, ML/35/25.26, Medi 2025, OGL.

Disgrifiad o ffigur 8.2: mae'r map yn dangos ym maes diogelwch cymunedol MALlC 2025, roedd pocedi o amddifadedd uchel yng nghymoedd y de, a dinasoedd mawr, ac yn y trefi ar yr arfordir ac ar y ffin yn y gogledd. 

  • Sir Fynwy oedd yr unig awdurdod lleol heb ACEHIau yn 10% o ardaloedd mwyaf difreintiedig.
  • Yr awdurdodau lleol â'r gyfran uchaf o ardaloedd yn y 10% o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig oedd Blaenau Gwent (28%), yna Casnewydd (23% o ACEHIau yn yr awdurdod lleol).
  • Mae patrymau cyffredinol amddifadedd diogelwch cymunedol ym MALlC 2025 yn debyg yn fras i'r rhai ar gyfer MALlC 2019.
  • Yr ardal fwyaf difreintiedig yng Nghymru oedd Gorllewin y Rhyl 2 yn Sir Ddinbych (cafodd yr AGEHI hwn ei raddio'n seithfed ym MALlC 2019).
  • Roedd 3 o'r 10 ardal fwyaf difreintiedig o MALlC 2025 hefyd ymhlith y 10 ardal fwyaf difreintiedig ym MALlC 2019.
  • Roedd 3 o'r 10 ardal fwyaf difreintiedig yng Nghymru yn Sir Ddinbych ac roedd 2 ohonynt yng Nghonwy. 

Gellir lawrlwytho'r set lawn o safleoedd y meysydd o MALlC 2025 a'r dangosyddion sylfaenol o dudalennau gwe StatsCymru.

Cymhariaeth rhwng MALlC 2019 a MALlC 2025

Rhannwyd un o'r dangosyddion trosedd a gofnodwyd gan yr heddlu o MALlC 2019 yn bedwar dangosydd ar wahân, a chafwyd sawl newid methodolegol arall ar gyfer y maes. Felly, nid yw'r maes yn uniongyrchol gymharol i'r maes ar gyfer MALlC 2019. I gael gwybodaeth am sut mae'r maes wedi newid ers 2019, gweler adroddiad technegol  MALlC 2025.

Tabl 8.1: symudiadau rhwng grwpiau amddifadedd diogelwch cymunedol rhwng MALlC 2019 a MALlC 2025
Grŵp 
amddifadedd 
MALlC
10% 
mwyaf 
difreintiedig
2025
10% i 20% 
mwyaf 
difreintiedig
2025
20% i 30% 
mwyaf 
difreintiedig
2025
30% i 50% 
mwyaf 
difreintiedig
2025
50% 
lleiaf 
difreintiedig
2025
10% 
mwyaf 
difreintiedig
2019
61%19%5%10%5%
10% i 20% 
mwyaf 
difreintiedig 
2019
21%33%18%18%9%
20% i 30% 
mwyaf 
difreintiedig
2019
12%23%29%29%7%
30% i 50% 
mwyaf 
difreintiedig 
2019
3%11%19%36%30%
50% lleiaf 
difreintiedig 
2019
0%1%2%14%84%

Dengys y tabl ganran yr ardaloedd bach (ACEHIau) ym mhob grŵp amddifadedd ar gyfer MALlC 2019 sydd wedi aros neu wedi symud grŵp ym MALlC 2025. I gael esboniad ar sut rydym wedi trin y lleiafrif o ardaloedd sydd wedi newid ffin, a'r safleoedd a gyfrifwyd ym mhob categori ar gyfer MALlC 2019 a MALlC 2025, gweler yr adroddiad canllawiau.

Dengys y groeslinell, o'r ochr chwith uchaf i'r dde gwaelod, ganran yr ardaloedd sydd wedi aros yn yr un grŵp amddifadedd. Uwchlaw'r groeslinell ceir canrannau'r ardaloedd sydd wedi symud o grŵp mwy difreintiedig i grŵp llai difreintiedig. Islaw'r groeslinell ceir canrannau'r ardaloedd sydd wedi symud o grŵp llai difreintiedig i grŵp mwy difreintiedig.

Mae'r tabl yn dangos:

  • arhosodd y rhan fwyaf o ACEHIau o’r grŵp amddifadedd mwyaf neu leiaf difreintiedig yn yr un grŵp rhwng 2019 a 2025
  • yr oedd 61% o'r 10% o ardaloedd mwyaf difreintiedig yn 2019 yn dal i fod ymhlith y grŵp hwnnw yn 2025
  • yr oedd 84% o'r 50% o ardaloedd lleiaf difreintiedig yn 2019 yn dal i fod ymhlith y grŵp hwnnw yn 2025

Symudodd 62 o ACEHIau fwy na 2 grŵp amddifadedd. Isod rydym yn canolbwyntio ar y rhai a symudodd fwyaf i mewn neu allan o’r grwpiau mwyaf difreintiedig.

Yn gymharol fwy difreintiedig

Symudodd 5 AGEHI o grŵp y 50% lleiaf difreintiedig ym MALlC 2019 i'r 10% i 20% mwyaf difreintiedig ym MALlC 2025, roedd 2 yn Sir Fynwy, 2 yn Rhondda Cynon Taf ac un yng Ngheredigion.

Cymharol lai difreintiedig

Symudodd 10 ardal o grŵp y 10% mwyaf difreintiedig ym MALlC 2019 i grŵp y 50% lleiaf difreintiedig ym MALlC 2025, wedi’u leoli yng Nghasnewydd, Caerdydd, Wrecsam, Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe. Roedd gan yr ardaloedd hyn rai o'r poblogaethau gweithle dibreswyl mwyaf, sydd bellach wedi'u cynnwys yn enwadwyr cyfraddau troseddu a gofnodwyd gan yr heddlu.

Dadansoddiad awdurdodau lleol

Ffigur 8.3: plot blychau o safleoedd maes diogelwch cymunedol MALlC 2025, yn ôl awdurdod lleol

Image

Disgrifiad o ffigur 8.3: dengys y siart ddosbarthiad safleoedd y maes diogelwch cymunedol ar gyfer pob awdurdod lleol. Mae'r blychau glas yn cynnwys hanner cyfanswm yr ardaloedd bach (ACEHIau) ym mhob awdurdod lleol, wedi'i ganoli ar y safle canolrifol (canol) ar gyfer pob awdurdod lleol a dengys y ‘wisgers’ yr ystod lawn o safleoedd ym mhob awdurdod lleol. Mae amddifadedd yn cynyddu wrth i'r safle ostwng (hynny yw, tuag ochr chwith gwaelod y plot). 

Yn Abertawe a Chaerdydd mae ystod y safleoedd maes diogelwch cymunedol ar ei mwyaf ac ar ei chulaf ym Merthyr Tudful a Blaenau Gwent. Powys sydd â'r safle canolrifol uchaf (llai difreintiedig) a Blaenau Gwent sydd â'r isaf (mwyaf difreintiedig).

Crynodiadau o ardaloedd sy'n wynebu amddifadedd o ran diogelwch cymunedol, yn ôl awdurdod lleol

Un ffordd o ystyried data MALlC ar lefel awdurdod lleol yw edrych ar gyfran yr ardaloedd yn yr awdurdod lleol sydd yn y 10% mwyaf difreintiedig (neu'r 20% ac ati) o'r holl ardaloedd yng Nghymru. Mae modd ystyried y dull hwn fel nodi crynodiad o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig mewn awdurdod lleol, yn hytrach na'r lefel amddifadedd cyfartalog.

Mae canlyniadau maes diogelwch cymunedol MALlC 2025 yn dangos y canlynol: 

  • yr awdurdod lleol â'r gyfran uchaf o ardaloedd yn y 10% mwyaf difreintiedig yng Nghymru oedd Blaenau Gwent (28% neu 13 o ardaloedd), yna Casnewydd (23%) a Thorfaen (20%)
  • nid oedd gan Sir Fynwy unrhyw ardaloedd bach yn y 10% mwyaf difreintiedig, ac roedd gan Fro Morgannwg a Rhondda Cynon Taf dim ond 4% o’u hardaloedd yn y 10% mwyaf difreintiedig
  • Powys a Cheredigion oedd yr awdurdodau lleol â'r crynodiadau isaf o ardaloedd yn y 50% mwyaf difreintiedig yng Nghymru, ar 27% a 31% yn y drefn honno
  • Blaenau Gwent a Chaerffili oedd â'r ganran uchaf o ardaloedd yn y 50% mwyaf difreintiedig yng Nghymru, ar 91% a 74% yn y drefn honno

Crynodiadau o ardaloedd sy'n wynebu amddifadedd diogelwch cymunedol ym MALlC 2025, yn ôl awdurdod lleol ar StatsCymru.

Gwybodaeth gysylltiedig

Troseddau a gofnodwyd gan yr heddlu

Ers cyhoeddi MALlC 2019, bu ffocws parhaus ar ansawdd prosesau cofnodi troseddau gan yr heddlu. Mae hyn yn dilyn yr arolygiadau o heddluoedd a gynhaliwyd gan Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Fawrhydi (HMIC), yr ymchwiliad i ystadegau troseddau a gynhaliwyd gan y Pwyllgor Dethol ar Weinyddiaeth Gyhoeddus (PASC) a phenderfyniad Awdurdod Ystadegau'r DU i ddileu'r dynodiad Ystadegau Gwladol o ystadegau troseddau a gofnodwyd gan yr heddlu. Yn fwy diweddar, cynhaliodd Awdurdod Ystadegau'r DU adolygiad ansawdd arall fel cam cyntaf tuag at ail-achredu.

Credir bod y ffocws ar ansawdd wedi gwella cydymffurfiaeth â'r Safon Genedlaethol Cofnodi Troseddau (NCRS), sy'n golygu bod mwy o droseddau sy'n dod i sylw'r heddlu yn cael eu cofnodi. Ystyriodd grŵp y maes diogelwch cymunedol ai data troseddau a gofnodwyd gan yr heddlu oedd y ffynhonnell orau o ddata troseddau a oedd ar gael ar gyfer MALlC 2025 ar lefel ardal fach a chytunwyd mai'r data hwn oedd y ffynhonnell orau.

Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr

Mae Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr yn mesur lefelau troseddu drwy ofyn i bobl a ydynt wedi profi unrhyw drosedd yn y flwyddyn flaenorol. Mae'r Arolwg Troseddu yn cofnodi troseddau y mae'n bosibl na roddwyd gwybod i'r heddlu amdanynt ac, felly, fe'i defnyddir ochr yn ochr â'r ffigurau ar gyfer troseddau a gofnodwyd gan yr heddlu i ddangos darlun mwy cywir o lefel troseddu yn y wlad. 

Mae gwybodaeth am ganfyddiadau o droseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn elfen ychwanegol a ddarperir gan yr Arolwg Troseddu. Mae hon yn elfen allweddol o amddifadedd diogelwch cymunedol, o ran teimlo'n ddiogel pan fyddwch allan yn eich ardal leol. Ceir data a rhagor o wybodaeth am Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr ar wefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Ni chynhwyswyd y data hwn ym MALlC 2025, gan nad yw'r data yn ystadegol gadarn islaw lefel Cymru.

Arolwg Cenedlaethol Cymru

Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru yn holi am deimlo'n anniogel ar ôl iddi nosi yn eich ardal leol. Mae canfyddiadau o ddiogelwch wedi'u cynnwys yn y diffiniad o amddifadedd diogelwch cymunedol. Ceir rhagor o wybodaeth a data ar ein gwefan.

Canlyniadau maes yr amgylchedd ffisegol

Cyflwyniad

Diben y maes hwn yw mesur ffactorau yn yr ardal leol a all effeithio ar lesiant neu ansawdd bywyd y rhai sy’n byw mewn ardal. Mae gan y maes bwysoliad cymharol o 5% yn y mynegai cyffredinol.

Dangosyddion

Ffigur 9.1: dangosyddion maes yr amgylchedd ffisegol, MALlC 2025

Image

Disgrifiad o Ffigur 9.1: diagram sy’n dangos bod maes yr amgylchedd ffisegol yn cynnwys 7 dangosydd. Mae’r dangosyddion wedi’u grwpio’n 4 is-faes ac maent wedi’u pwysoli’n gyfartal ynddynt. Y ganran a ddangosir nesaf at bob is-faes yw’r swm y mae’n ei gyfrannu at y maes cyffredinol. 

Dangosyddion sy’n cofnodi ansawdd aer (35%)

Mae’r is-faes ansawdd aer yn cynnwys 3 dangosydd sydd â’r un pwysoliad sy’n mesur y gwerthoedd crynodiad cyfartalog wedi’u pwysoli yn ôl y boblogaeth ar gyfer y llygryddion allweddol Nitrogen deuocsid (NO2), gronynnau llai na 10 micrometr μm (PM10) a gronynnau llai na 2.5 micrometr μm (PM2.5) yn y drefn honno. 

Dangosydd o berygl llifogydd (35%)

Mae sgôr yr is-faes perygl llifogydd yn seiliedig ar gyfran yr aelwydydd sy’n wynebu perygl llifogydd o afonydd, y môr neu lifogydd dŵr wyneb, ond nid yw'n cyfrif am amddiffynfeydd rhag llifogydd. 

Dangosyddion sy’n cofnodi mynediad a maint y man gwyrdd (15%)

Mae’r is-faes mannau gwyrdd yn cynnwys 2 ddangosydd sydd â’r un pwysoliad: 

  • y dangosydd agosrwydd at fan gwyrdd naturiol hygyrch sy’n mesur cyfran yr aelwydydd ym mhob ardal sydd o fewn 300 metr (taith gerdded o tua 5 munud) i fan gwyrdd naturiol hygyrch
  • y sgôr ar gyfer mannau gwyrdd amgylchol sy’n mesur pa mor wyrdd yw ardal gan ddefnyddio sgôr Mynegai Llystyfiant â Gwahaniaeth wedi’i Normaleiddio cymedrig cartrefi (NDVI) o fewn clustogfa o 300 metr o amgylch pob annedd breswyl

Dangosydd sy’n cofnodi amlygiad i lygredd sŵn (15%)

Mae sgôr yr is-faes llygredd sŵn yn seiliedig ar gyfran y boblogaeth sy’n cael ei hamlygu i lygredd sŵn o ffyrdd a rheilffyrdd sy’n fwy na 55 desibel neu’n hafal i hynny.

Mae manylion llawn am y dangosydd a’r ffordd y lluniwyd y maes ar gael yn adroddiad technegol MALlC 2025.

Prif bwyntiau

Ffigur 9.2: map o ACEHIau wedi’u lliwio yn ôl grŵp amddifadedd amgylchedd ffisegol, MALlC 2025

Image

© Hawlfraint y Goron 2025. Cartograffeg. Llywodraeth Cymru.

Disgrifiad o ffigur 9.2: mae’r map yn dangos ym maes yr amgylchedd ffisegol MALlC 2025, fod clystyrau o amddifadedd mawr o ran yr amgylchedd ffisegol yn ninasoedd mawr de-ddwyrain Cymru ac o’u hamgylch ac, i raddau llai, yn y gogledd-ddwyrain ac yng nghymoedd y de. Gwelwyd hefyd rai ardaloedd unigol o amddifadedd mawr o ran yr amgylchedd ffisegol ledled y gorllewin. 

  • Ar gyfer maes yr amgylchedd ffisegol, yr ardal fwyaf difreintiedig yng Nghymru oedd Cathays 12, Caerdydd (yn ardal Ganol Caerdydd a Pharc Caerdydd), roedd yn safle 13 ymhlith yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yn 2019.
  • Roedd 3 o’r 10 ardal fwyaf difreintiedig o MALlC 2025 yn dal i fod ymhlith y 10 ardal fwyaf difreintiedig ym MALlC 2019.
  • Mae 8 o’r 10 ardal fwyaf difreintiedig yng Nghaerdydd, mae’r 2 arall yng Nghasnewydd a Chastell-nedd Port Talbot; mae pob un o’r 10 ardal yn ardaloedd trefol.
  • Caerdydd (39%) oedd yr awdurdod lleol â’r gyfran uchaf o ardaloedd yn y 10% o ardaloedd mwyaf difreintiedig, yna Gasnewydd (28%) a Chastell-nedd Port Talbot (21%).
  • Nid oedd unrhyw ACEHIau yn y 10% o ardaloedd mwyaf difreintiedig yn Ynys Môn, Wrecsam na Sir Benfro.

Bu rhai newidiadau ym mhatrymau amddifadedd o ran yr amgylchedd ffisegol a welwyd ym MALlC 2025 o gymharu â’r rhai a welwyd ym MALlC 2019. Mae hyn i’w ddisgwyl o ystyried bod dangosydd newydd ynglŷn â llygredd sŵn wedi cael ei gynnwys a bod methodoleg y dangosydd ar gyfer mannau gwyrdd amgylchol wedi newid. 

Gellir lawrlwytho’r set lawn o safleoedd meysydd MALlC 2025 a’r dangosyddion sylfaenol o dudalennau gwe StatsCymru.

Cymhariaeth rhwng MALlC 2019 a MALlC 2025

Bu sawl newid methodolegol i'r maes amgylchedd ffisegol rhwng MALlC 2019 a MALlC 2025, gan gynnwys dangosydd newydd ar gyfer llygredd sŵn. Felly, nid yw'r maes yn uniongyrchol gymharol i'r maes ar gyfer MALlC 2019. I gael gwybodaeth am sut mae’r maes wedi newid ers 2019, gweler yr adroddiad technegol.

Tabl 9.1: symudiad rhwng grŵp amddifadedd amgylchedd ffisegol rhwng MALlC 2019 a MALlC 2025

Grŵp 
amddifadedd 
MALlC
10% 
mwyaf 
difreintiedig
2025
10% i 20% 
mwyaf 
difreintiedig
2025
20% i 30% 
mwyaf 
difreintiedig
2025
30% i 50% 
mwyaf 
difreintiedig
2025
50% 
lleiaf 
difreintiedig
2025
10% 
mwyaf 
difreintiedig
2019
68%23%6%3%2%
10% i 20% 
mwyaf 
difreintiedig 
2019
22%36%20%17%5%
20% i 30% 
mwyaf 
difreintiedig
2019
4%23%26%31%15%
30% i 50% 
mwyaf 
difreintiedig 
2019
1%4%14%35%46%
50% lleiaf 
difreintiedig 
2019
0%2%4%16%78%

Dengys y tabl ganran yr ardaloedd bach (ACEHIau) ym mhob grŵp amddifadedd ar gyfer MALlC 2019 sydd wedi aros yn yr un grŵp neu sydd wedi symud grŵp ym MALlC 2025. I gael esboniad ar sut rydym wedi trin y lleiafrif o ardaloedd sydd wedi newid ffin, a'r safleoedd a gyfrifwyd ym mhob categori ar gyfer MALlC 2019 a MALlC 2025, gweler yr adroddiad canllawiau.

Dengys y groeslinell (o’r ochr chwith uchaf i’r dde gwaelod) ganran yr ardaloedd sydd wedi aros yn yr un grŵp amddifadedd. Uwchlaw’r groeslinell ceir canrannau’r ardaloedd sydd wedi symud o grŵp mwy difreintiedig i grŵp llai difreintiedig. Islaw’r groeslinell ceir canrannau’r ardaloedd sydd wedi symud o grŵp llai difreintiedig i grŵp mwy difreintiedig.

Mae’r tabl yn dangos y canlynol:

  • arhosodd y rhan fwyaf o ACEHIau yn y grwpiau amddifadedd mwyaf a lleiaf difreintiedig yn yr un grŵp rhwng 2019 a 2025
  • roedd 68% o’r 10% o ardaloedd mwyaf difreintiedig yn 2019 wedi aros yn y grŵp hwnnw yn 2025
  • roedd 78% y 50% o ardaloedd lleiaf difreintiedig yn 2019 wedi aros yn y grŵp hwnnw yn 2025

Dim ond 39 o ardaloedd (2%) a symudodd fwy na 2 grŵp amddifadedd i’r naill gyfeiriad neu’r llall. Isod rydym yn canolbwyntio ar y rhai a symudodd fwyaf i mewn neu allan o’r grŵp mwyaf difreintiedig.

Yn gymharol fwy difreintiedig

Mae 4 ardal wedi symud o grŵp y 50% lleiaf difreintiedig ym MALlC 2019 i grŵp y 10% mwyaf difreintiedig ym MALlC 2025 (sylwch nad yw hyn yn ymddangos yn y tabl uchod oherwydd talgrynnu), roedd yr ardaloedd hyn yng Ngwynedd, Sir Ddinbych a 2 yng Ngheredigion.

Cymharol lai difreintiedig 

Symudodd 3 ardal o grŵp y 10% mwyaf difreintiedig ym MALlC 2019 i grŵp y 50% lleiaf difreintiedig ym MALlC 2025, roedd yr ardaloedd hyn yn Abertawe, Sir Gaerfyrddin a Rhondda Cynon Taf.

Roedd perygl llifogydd yn sbardun allweddol ar gyfer newidiadau mawr mewn amddifadedd cymharol o ran yr amgylchedd ffisegol ar gyfer pob un o’r 7 ardal hynny, p’un a oeddent yn mynd yn fwy neu’n llai difreintiedig. 

Dadans

Ffigur 9.3: plot blychau o safleoedd maes amgylchedd ffisegol MALlC 2025, yn ôl awdurdod lleol

Image

Disgrifiad o ffigur 9.3: dengys y siart ddosbarthiad safleoedd maes yr amgylchedd ffisegol ar gyfer pob awdurdod lleol yng Nghymru. Mae’r blychau glas yn cynnwys hanner cyfanswm yr ardaloedd bach (ACEHIau) ym mhob awdurdod lleol, wedi’i ganoli ar y safle canolrifol (canol) ar gyfer pob awdurdod lleol a dengys y ‘wisgers’ yr ystod lawn o safleoedd yn yr awdurdod lleol. Mae amddifadedd yn cynyddu wrth i’r safle ostwng (hynny yw, tuag ochr chwith gwaelod y plot). 

Ym Merthyr Tudful a Chastell-nedd Port Talbot y ceir y dosbarthiad mwyaf o safleoedd maes yr amgylchedd ffisegol ac yng Nghaerdydd, Sir Benfro a Chasnewydd y ceir y dosbarthiad culaf. Sir Benfro ac Ynys Môn sydd â’r safle canolrifol uchaf (llai difreintiedig) a Chaerdydd a Chasnewydd sydd â’r safle isaf (mwy difreintiedig). 

Crynodiadau o ardaloedd sy’n wynebu amddifadedd o ran amgylchedd ffisegol, yn ôl awdurdod lleol

Un ffordd o ystyried data MALlC ar lefel awdurdod lleol yw edrych ar gyfran yr ardaloedd yn yr awdurdod lleol sydd yn y 10% mwyaf difreintiedig (neu’r 20% ac ati) o’r holl ardaloedd yng Nghymru. Mae modd ystyried y dull hwn fel nodi crynodiad o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig mewn awdurdod lleol, yn hytrach na’r lefel amddifadedd cyfartalog.

Mae canlyniadau maes yr amgylchedd ffisegol MALlC 2025 yn dangos y canlynol:

  • yr awdurdod lleol â’r gyfran uchaf o ardaloedd yn y 10% o ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru oedd Caerdydd (39%), yna Gasnewydd (28%)
  • nid oedd unrhyw ACEHIau yn y 10% o ardaloedd mwyaf difreintiedig yn Ynys Môn, Wrecsam na Sir Benfro
  • dim ond un AGEHI yn y 10% o ardaloedd mwyaf difreintiedig sydd ym Mhowys, Sir Fynwy a Sir Ddinbych
  • Sir Benfro ac Ynys Môn a oedd hefyd yr awdurdodau lleol â’r crynodiadau isaf o ardaloedd yn hanner mwyaf difreintiedig Cymru, sef 8% a 17% yn y drefn honno
  • Caerdydd a Chasnewydd a oedd â’r ganran uchaf o ardaloedd yn y 50% mwyaf difreintiedig yng Nghymru, sef 94% ac 89% yn y drefn honno

Crynodiadau o ardaloedd sy’n wynebu amddifadedd yr amgylchedd ffisegol ym MALlC 2025, yn ôl awdurdod lleol ar StatsCymru.

Ffynonellau perthnasol eraill

Ansawdd aer

Ceir rhagor o wybodaeth am fodel Mapio Hinsawdd Llygredd Llywodraeth y DU, sy’n cyfrifo crynodiadau llygryddion cyfartalog ar gyfer pob cilomedr sgwâr o’r DU ar wefan DEFRA. Ceir gwybodaeth am ddangosydd llesiant cenedlaethol 5 (lefelau llygredd Nitrogen Deuocsid yn yr aer) ar ein gwefan Llesiant Cymru.

Perygl llifogydd

Ceir nifer o adroddiadau, tystiolaeth a data ar lifogydd ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).

Mannau gwyrdd

Caiff data ar ganfyddiadau pobl o fannau gwyrdd lleol a’u boddhad gyda nhw eu casglu fel rhan o Arolwg Cenedlaethol Cymru. Gellir gweld y prif ganlyniadau yn Nangosydd Canlyniadau Arolwg Cenedlaethol Cymru.

Mae Mynegai Mannau Gwyrdd sy’n cynnwys data am Gymru wedi cael ei gyhoeddi gan Fields in Trust.

Llygredd sŵn

Casglwyd data ar foddhad pobl gyda lefelau sŵn traffig yn eu hardal leol (2018-19) ac a yw sŵn o’r tu allan i’w cartref wedi achosi problemau rheolaidd iddynt (2021-22) fel rhan o Arolwg Cenedlaethol Cymru

Cydweithiodd CNC â Land Use Consultants (LUC) i ddatblygu’r adnodd Llonyddwch a Lle sy’n nodi mannau llonydd yng Nghymru. Mae thema 4 o’r adnodd hwn yn dadansoddi amgylcheddau sŵn, gan gynnwys ffyrdd, rheilffyrdd a ffynonellau eraill o sŵn. Mae canlyniadau thema 4 ar gael ar Tranquillity and Place storymap.

Gwybodaeth gefndir

Datblygiad

Ymgysylltu â defnyddwyr

Byddwn yn parhau i rannu gwybodaeth â defnyddwyr am MALlC 2025 drwy ein gwefan a negeseuon e-bost at danysgrifwyr. Cysylltwch â ni yn ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru os hoffech danysgrifio.

Gwybodaeth am ansawdd

Dibynadwyedd 

Mae'r ystadegau hyn yn cael eu llunio gan ddadansoddwyr ac ystadegwyr proffesiynol sy'n gweithio dan oruchwyliaeth Prif Ystadegydd Llywodraeth Cymru i sicrhau bod yr ystadegau, y data a'r deunydd esboniadol yn cael eu cyflwyno'n ddiduedd ac yn wrthrychol ac yn unol â gofynion Deddf Diogelu Data 2018.

Mae ein hadroddiad cryno ar gynigion yn amlinellu’r rhesymeg dros y dewis o ddangosyddion er mwyn adlewyrchu agweddau gwahanol ar amddifadedd. 

Ansawdd

Cafodd y ffigurau cyhoeddedig a gyflwynir eu llunio gan ddadansoddwyr proffesiynol yn seiliedig ar y data diweddaraf a oedd ar gael a chan ddefnyddio eu sgiliau dadansoddi a'u barn broffesiynol. Roedd hyn yn cynnwys dilysu gofalus ac annibynnol o bob elfen o'r broses lunio a drafftio gan ein hystadegwyr. 

Mae ystadegau a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru yn glynu wrth y Strategaeth Rheoli Ansawdd Ystadegol sy'n ategu elfen ansawdd y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau ac egwyddorion ansawdd allbynnau ystadegol y System Ystadegol Ewropeaidd.

Cywirdeb 

Mae MALlC 2025 yn dilyn yr iteriadau blaenorol o’r mynegai ac wedi cael ei lunio i sicrhau dibynadwyedd canlyniadau. Mae ein hadroddiad ar gynigion yn cynnwys rhestr o feini prawf dangosyddion. Mae MALlC 2025 yn dwyn ynghyd 54 o ddangosyddion o amrywiaeth eang o ffynonellau data (mae rhai yn ystadegau swyddogol neu achrededig, ac mae eraill yn seiliedig ar setiau data gweinyddol) sy’n sicrhau cadernid y canlyniadau cyffredinol. 

Mae ardaloedd sy’n ddifreintiedig iawn yn ôl MALlC yn debygol o fod yn ddifreintiedig iawn mewn sawl un o’r meysydd. Oherwydd yr amrywiaeth o fewnbynnau data, mae’n annhebygol iawn y caiff ardal ei nodi’n un ddifreintiedig iawn oherwydd tuedd mewn unrhyw un o’r dangosyddion sylfaenol.

O ran cywirdeb y gwaith o brosesu’r data, roedd cynllun sicrhau ansawdd ar gyfer MALlC 2025 a oedd yn nodi sawl cam o wiriadau data, megis:

  • atgynhyrchu canlyniadau ar gyfer unrhyw ddangosyddion newydd neu wedi’u newid gan ddefnyddio adnoddau dadansoddi gwahanol
  • sicrwydd arbenigol o ddata gyda'r grwpiau maes o arbenigwyr pwnc a chynrychiolwyr awdurdodau lleol 

Amseroldeb

Gwnaethom ddefnyddio’r wybodaeth ddiweddaraf a oedd ar gael ar gyfer pob dangosydd ar adeg prosesu data (hyd at ddiwedd mis Hydref 2025). 

Mae rhai o'n dangosyddion yn defnyddio Amcangyfrifon Poblogaeth Ardal Fach (SAPE) y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) yn yr enwaduron. Gwnaethom ddefnyddio'r data SAPE a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2024 (amcangyfrifon hyd at ganol 2022) a oedd ar gael ar gyfer cyfnod prosesu data MALlC 2025 ym mis Hydref 2025. Ers hynny, mae'r SYG wedi cyhoeddi diweddariadau a diwygiadau i rywfaint o'r data hyn ar 7 Tachwedd 2025. Gwnaethom edrych ar hyn ac asesu effaith newidiadau ar lefel ardal fach i fod yn fach. 

Mae’r rhestr o ddangosyddion isod a’n hadroddiad technegol yn disgrifio’r cyfnod cyfeirio ar gyfer pob dangosydd. 

Cymharedd

Mae ein canllawiau yn rhoi rhagor o wybodaeth am fynegeion amddifadedd ar gyfer tair gwlad arall y DU, a pham na ddylid cymharu canlyniadau rhwng gwledydd.

Gwerth 

Drwy gyhoeddi'r data hwn, ein nod yw rhoi tystiolaeth i weinidogion, llunwyr polisïau a rhanddeiliaid allanol ynghylch tlodi, a hysbysu'r cyhoedd yn ehangach.

Mae’r adroddiad hwn wedi cael ei baratoi fel adroddiad ar-lein er mwyn gwella hygyrchedd, ymatebolrwydd, a phrofiad defnyddwyr. 

Mae’r rhan fwyaf o’r data sy’n sail i’r adroddiad, gan gynnwys dadansoddiadau manylach, ar gael ar StatsCymru a thrwy wasanaethau data agored StatsCymru.

Rydym wedi cyhoeddi’r canlyniadau mewn nifer o fformatau er mwyn helpu gwahanol bobl i gael gafael ar ganlyniadau MALlC a’u dehongli. Cyfeirir at y rhain yn ein hamserlen o allbynnau.

Mae croeso ichi gysylltu â ni yn uniongyrchol os oes gennych unrhyw sylwadau ynghylch sut rydym yn bodloni'r safonau hyn. Fel arall, gallwch gysylltu â'r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau drwy e-bostio regulation@statistics.gov.uk neu drwy fynd i'w gwefan. 

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn  ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru 

(a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol” sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant 

(b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. 

O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol 

(a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd 

(b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. 

Fe gafodd y dangosyddion cenedlaethol  hyn osodwyd gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.

Mae MALlC yn cynnwys un dangosydd (pwysau geni isel) sydd yn un o’r dangosyddion cenedlaethol:

(1) Canran y genedigaethau sengl byw gyda phwysau geni o dan 2,500g

Mae sawl dangosydd MALlC arall yn cyd-fynd yn weddol agos â dangosydd cenedlaethol, gan gynnwys:

(4) Lefelau llygredd nitrogen deuocsid (NO2) yn yr aer

(8) Canran yr oedolion sydd â chymwysterau ar wahanol lefelau'r Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol

(18) Canran y bobl sy'n byw mewn aelwydydd mewn tlodi incwm o'i gymharu â chanolrif y DU: wedi'i fesur ar gyfer plant, oedran gweithio a'r rhai o oedran pensiwn

(32) Nifer yr unedau eiddo (cartrefi a busnesau) sydd mewn perygl uchel a chanolig o lifogydd sy’n deillio o afonydd a’r môr

(33) Canran yr anheddau sydd â pherfformiad ynni digonol

Ceir gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratifau ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig yn adroddiad Llesiant Cymru.

Fel dangosydd cenedlaethol o dan y Ddeddf rhaid cyfeirio atynt yn y dadansoddiadau o lesiant lleol a gynhyrchir gan fyrddau gwasanaethau lleol pan fyddant yn dadansoddi cyflwr llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol yn eu hardaloedd.

Mae’r Ddeddf yn nodi bod yn rhaid gosod cerrig milltir cenedlaethol a fyddai “...ym marn Gweinidogion Cymru, yn helpu i fesur a oes cynnydd yn cael ei wneud tuag at gyflawni’r nodau llesiant.” Wrth wneud hynny, rhaid i Weinidogion Cymru bennu sut y gwyddom fod carreg filltir genedlaethol wedi'i chyflawni ac erbyn pryd y mae i'w chyflawni.

Nid yw cerrig milltir cenedlaethol yn dargedau perfformiad ar gyfer unrhyw sefydliad unigol, ond maent yn fesurau llwyddiant ar y cyd i Gymru.

Ceir gwybodaeth bellach i helpu i weithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.

Rhestr o ddangosyddion wedi’i chynnwys ym MALlC 2025

Ceir disgrifiadau dangosyddion a chrynodeb o'r cyfnodau cyfeirio isod. Darperir manylion ychwanegol am ddangosyddion, gan gynnwys yr holl ffynonellau, yn yr adroddiad technegol.

Incwm

  • Canran y bobl mewn amddifadedd incwm, Mawrth 2025.

Cyflogaeth

  • Canran y bobl o oedran gweithio mewn amddifadedd cyflogaeth, Ebrill 2022 i Fawrth 2023.

Iechyd

  • Pwysau geni isel, canran, 2015 i 2024.
  • Plant rhwng 4 a 5 oed sy'n byw gyda gordewdra, canran, 5 mlynedd wedi'u cyfuno: 2016/17, 2017/18, 2018/19, 2022/23 a 2023/24.
  • Nifer yr achosion o ganser, cyfradd fesul 100,000, 2012 i 2021.
  • Cyflyrau iechyd meddwl wedi’u cofnodi gan feddyg teulu, cyfradd fesul 100, Gorffennaf 2025.
  • Cyflyrau cronig wedi’u cofnodi gan feddyg teulu, cyfradd fesul 100, Gorffennaf 2025.
  • Salwch cyfyngus hirdymor, cyfradd fesul 100, 2021.
  • Marwolaethau cynamserol, cyfradd fesul 100,000, 2015 i 2024.

Addysg 

  • Sgôr pwyntiau cyfartalog Cyfnod Allweddol 4 ar gyfer pynciau craidd, cyfartaledd 2 flynedd yn seiliedig ar flynyddoedd academaidd 2022 i 2023 (2022/23) a 2023/24.
  • Cyfradd absenoldeb parhaus (fesul 100) cynradd, cyfartaledd 2 flynedd yn seiliedig ar 2022/23 a 2023/24.
  • Cyfradd absenoldeb parhaus (fesul 100) uwchradd, cyfartaledd 2 flynedd yn seiliedig ar 2022/23 a 2023/24.
  • Canran y rhai sy'n gadael Cyfnod Allweddol 4 sy'n mynd i mewn i addysg uwch, cyfartaledd 4 blynedd yn seiliedig ar ddisgyblion a adawodd yr ysgol rhwng 2016/17 a 2019/20.
  • Canran yr oedolion rhwng 25 a 64 oed heb gymwysterau neu gymwysterau isel, yn seiliedig ar ddata Cyfrifiad, 2021.

Mynediad at wasanaethau

  • Amser teithio cyfartalog ar drafnidiaeth gyhoeddus a phreifat i siop fwyd, Awst 2025.
  • Amser teithio cyfartalog ar drafnidiaeth gyhoeddus a phreifat i feddygfa feddyg teulu, Mehefin 2025.
  • Amser teithio cyfartalog ar drafnidiaeth gyhoeddus a phreifat i gyfleuster chwaraeon, Medi 2025.
  • Amser teithio cyfartalog ar drafnidiaeth gyhoeddus a phreifat i ysgol uwchradd, Mawrth 2025.
  • Amser teithio cyfartalog ar drafnidiaeth gyhoeddus a phreifat i fferyllfa, Mawrth 2025.
  • Amser teithio cyfartalog ar drafnidiaeth gyhoeddus a phreifat i swyddfa bost, Rhagfyr 2024.
  • Amser teithio cyfartalog ar drafnidiaeth gyhoeddus a phreifat i ysgol gynradd, Mawrth 2025.
  • Amser teithio cyfartalog ar drafnidiaeth gyhoeddus a phreifat i lyfrgell gyhoeddus, Mawrth 2025.
  • Amser teithio cyfartalog ar drafnidiaeth gyhoeddus a phreifat i wasanaethau gofal plant, Mehefin 2025.
  • Amser teithio cyfartalog mewn trafnidiaeth breifat i orsaf betrol, Awst 2025.
  • Mynediad at wasanaethau digidol (canran nad oes argaeledd band eang ar 30Mb/s), gwanwyn 2025.

Tai

  • Canran yr aelwydydd gorlawn (mesur ystafell wely), 2021.
  • Tebygolrwydd o dai o ansawdd gwael (mewn cyflwr gwael neu’n cynnwys peryglon difrifol), 2023.
  • Anallu i fforddio dod yn berchen-feddiannydd neu fod yn y farchnad rhentu preifat (sgôr), 2023.
  • Effeithlonrwydd ynni anheddau (sgôr gyfartalog), 2012 i 2024.

Diogelwch cymunedol

  • Bwrgleriaeth a gofnodwyd gan yr heddlu (cyfradd fesul 100 eiddo), 6 blwyddyn ariannol Ebrill 2018 i fis Mawrth 2019 (2018-19) i 2023-24.
  • Difrod troseddol a gofnodwyd gan yr heddlu (cyfradd fesul 100), 6 blwyddyn ariannol 2018-19 i 2023-24.
  • Achosion o ddwyn a gofnodwyd gan yr heddlu  (cyfradd fesul 100), 6 blwyddyn ariannol 2018-19 i 2023-24.
  • Trais heb anaf a gofnodwyd gan yr heddlu (cyfradd fesul 100), 6 blwyddyn ariannol 2018-19 i 2023-24.
  • Trais gydag anaf a gofnodwyd gan yr heddlu (cyfradd fesul 100), 6 blwyddyn ariannol 2018-19 i 2023-24.
  • Stelcio ac aflonyddu a gofnodwyd gan yr heddlu (cyfradd fesul 100), 6 blwyddyn ariannol 2018-19 i 2023-24.
  • Troseddau yn erbyn y drefn gyhoeddus a gofnodwyd gan yr heddlu (cyfradd fesul 100), 6 blwyddyn ariannol 2018-19 i 2023-24.
  • Ymddygiad gwrthgymdeithasol a gofnodwyd gan yr heddlu (cyfradd fesul 100), y ddwy flwyddyn ariannol 2022-23 a 2023-24.
  • Achosion o dân (cyfradd fesul 100), y tair blwyddyn ariannol 2021-22 i 2023-24.

Amgylchedd ffisegol

  • Gwerth crynodiad cyfartalog wedi’u pwysoli yn ôl y boblogaeth ar gyfer Nitrogen deuocsid (NO2), 2023.
  • Gwerth crynodiad cyfartalog wedi’u pwysoli yn ôl y boblogaeth ar gyfer gronynnau llai na 10 micrometr (PM10), 2023.
  • Gwerth crynodiad cyfartalog wedi’u pwysoli yn ôl y boblogaeth ar gyfer gronynnau llai na 2.5 micrometr (PM2.5), 2023.
  • Agosrwydd at fan gwyrdd naturiol hygyrch (canran yr aelwydydd o fewn 300m), 2025.
  • Sgôr mannau gwyrdd amgylchol (Mynegai Llystyfiant â Gwahaniaeth wedi’i Normaleiddio cymedrig cartrefi neu NDVI), 2024.
  • Sgôr aelwydydd sydd mewn perygl o lifogydd, 2025.
  • Canran y boblogaeth sy’n cael ei hamlygu i lygredd sŵn, 2021.