Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) 2025 adroddiad canlyniadau - Mynegai cyffredinol
Diben MALlC yw nodi’r ardaloedd bach yng Nghymru sydd fwyaf difreintiedig.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Mae'r cyflwyniad yn darparu gwybodaeth bwysig am MALlC ac esboniad o'r termau allweddol a ddefnyddir yn y penodau canlyniadau. Ceir manylion llawn am y dangosyddion, y meysydd a’r ffordd y lluniwyd y mynegai yn adroddiad technegol MALlC 2025.
Prif bwyntiau
Ffigur 1.1: map o ACEHIau wedi’u lliwio yn ôl grŵp amddifadedd, MALlC 2025
© Hawlfraint y Goron 2025. Cartograffeg. Llywodraeth Cymru.
Disgrifiad o ffigur 1.1: mae’r map yn dangos ym MALlC 2025, bod pocedi o amddifadedd cymharol uchel yn ninasoedd a chymoedd de Cymru, amrywiol drefi arfordirol, a rhai trefi yn y gogledd-ddwyrain.
- Mae’r darlun cyffredinol yn debyg i’r un a roddwyd gan MALlC 2019.
- Roedd 5 o’r 10 ardal fwyaf difreintiedig o MALlC 2019 yn dal i fod ymhlith y 10 ardal fwyaf difreintiedig ym MALlC 2025.
- Yr ardal fach fwyaf difreintiedig yng Nghymru ym MALlC 2025 oedd Gorllewin y Rhyl 2 (yr ardal o amgylch Stryd Fawr y Rhyl) yn Sir Ddinbych, sef yr ardal fwyaf difreintiedig ym MALlC 2019.
- Mae amddifadedd yn wasgaredig ledled Cymru: mae pob un ond un o'r 22 o awdurdodau lleol yn cynnwys o leiaf un o’r 10% o ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru.
- Yr awdurdod lleol â’r gyfran uchaf o ardaloedd bach yn y 10% mwyaf difreintiedig yng Nghymru oedd Blaenau Gwent (20% neu 9 ardal), yna Gasnewydd (18% neu 18 o ardaloedd).
- Sir Fynwy oedd yr unig awdurdod lleol heb ardaloedd yn y 10% mwyaf difreintiedig ac roedd gan Bowys a Cheredigion un ardal yn y 10% mwyaf difreintiedig..
- Mae dadansoddiad o amddifadedd hirsefydlog yn edrych ar ardaloedd sydd wedi aros yn y 50 mwyaf difreintiedig ar gyfer pob iteriad o MALlC yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf: mae 22 o ardaloedd bach o amddifadedd hirsefydlog, sydd wedi’u rhannu rhwng 10 awdurdod lleol.
Cymhariaeth rhwng MALlC 2019 a MALlC 2025
Mae’r cyflwyniad yn crynhoi’r newidiadau ar gyfer 2025. I gael gwybodaeth fanwl am sut mae’r mynegai a phob maes wedi newid ers 2019, gweler yr adroddiad technegol.
| Grŵp amddifadedd MALlC | 10% mwyaf difreintiedig 2025 | 10% i 20% mwyaf difreintiedig 2025 | 20% i 30% mwyaf difreintiedig 2025 | 30% i 50% mwyaf difreintiedig 2025 | 50% lleiaf difreintiedig 2025 |
|---|---|---|---|---|---|
| 10% mwyaf difreintiedig 2019 | 85% | 14% | 2% | 0% | 0% |
| 10% i 20% mwyaf difreintiedig 2019 | 15% | 65% | 18% | 2% | 0% |
| 20% i 30% mwyaf difreintiedig 2019 | 0% | 19% | 59% | 21% | 1% |
| 30% i 50% mwyaf difreintiedig 2019 | 0% | 1% | 11% | 69% | 19% |
| 50% lleiaf difreintiedig 2019 | 0% | 0% | 0% | 8% | 92% |
Dengys y tabl ganran yr ardaloedd bach (ACEHIau) ym mhob un grŵp amddifadedd ar gyfer MALlC 2019 sydd wedi aros yn yr un grŵp neu sydd wedi symud grŵp ym MALlC 2025. Mae’r grwpiau amddifadedd a ddefnyddir yn yr adroddiad hwn wedi’u llunio i roi grwpiau llai o faint ar y pen mwyaf difreintiedig o’r dosbarthiad, lle mae’r gwahaniaeth rhwng ardaloedd yn fwy nag ar y pen lleiaf difreintiedig.
Oherwydd newidiadau i gyfanswm nifer yr ACEHIau ac i ffiniau rhai ACEHIau, cymhariaeth fras yw hon fel yr eglurwyd ymhellach yn adroddiad canllawiau MALlC 2025.
Dengys y groeslinell (o’r ochr chwith uchaf i’r dde gwaelod), ganran yr ardaloedd sydd wedi aros yn yr un grŵp amddifadedd. Uwchlaw’r groeslinell ceir canrannau’r ardaloedd sydd wedi symud o grŵp mwy difreintiedig i grŵp llai difreintiedig. Islaw’r groeslinell ceir canrannau’r ardaloedd sydd wedi symud o grŵp llai difreintiedig i grŵp mwy difreintiedig.
Mae’r tabl yn dangos:
- bod y rhan fwyaf o ACEHIau wedi aros yn yr un grŵp amddifadedd rhwng 2019 a 2025
- o’r 10% o ardaloedd mwyaf difreintiedig yn 2019, fod 85% wedi aros yn y grŵp hwnnw yn 2025
- o’r 50% o ardaloedd lleiaf difreintiedig yn 2019, fod 92% wedi aros yn y grŵp hwnnw yn 2025
- bod 29 o ardaloedd wedi symud i grŵp y 10% mwyaf difreintiedig yn 2025; roedd pob un o’r rhain yng ngrŵp y 10% i’r 20% mwyaf difreintiedig yn 2019
Ardaloedd a newidiodd ei safle fwyaf
Nid oedd unrhyw ardaloedd wedi symud fwy na 2 grŵp amddifadedd rhwng 2019 a 2025, a dim ond 14 o ACEHIau a symudodd 2 grŵp amddifadedd.
Cymharol lai difreintiedig
Gan ganolbwyntio ar y grwpiau mwyaf difreintiedig, symudodd tair ardal o grŵp y 10% mwyaf difreintiedig yn 2019 i grŵp yr 20% i’r 30% mwyaf difreintiedig yn 2025, gan ddod yn llai difreintiedig. Roedd dwy ardal yn Rhondda Cynon Taf, sef Pentref 5 (ardal o amgylch gorsaf drenau Ystrad Rhondda y mae ei ffin wedi newid) a Gorllewin Tonyrefail 3 (sy’n cynnwys ardal Bryngolau).
Yr ardal arall oedd Plasnewydd 7, ardal o Gaerdydd o amgylch cyffordd Heol Casnewydd a Heol y Ddinas. Daeth yr ardal hon yn gymharol lai difreintiedig mewn 5 maes, gan symud o grŵp y 10% mwyaf difreintiedig i grŵp yr 30% i’r 50% mwyaf difreintiedig o ran cyflogaeth ac incwm (mae llety newydd i fyfyrwyr wedi arwain at gynnydd yn y boblogaeth o oedran myfyriwr yn yr ardal hon).
Y tu hwnt i’r grwpiau mwyaf difreintiedig, roedd y ddau newid mwyaf yn cynnwys un ardal a symudodd o grŵp yr 30% i’r 50% mwyaf difreintiedig i’r 50% lleiaf difreintiedig gan ddod yn gymharol lai difreintiedig. Dyma Barc Tredegar 3 yng Nghasnewydd, AGEHI y mae ei ffin wedi newid ers MALlC 2019 pan gafodd ei grwpio â’r hyn sy’n Barc Tredegar 4 (sydd bellach yng ngrŵp y 10% i’r 20% mwyaf difreintiedig).
Yn gymharol fwy difreintiedig
Roedd y newid mwyaf arall y tu allan i'r grwpiau mwyaf difreintiedig yn Grangetown 12. Mae llety dros dro i bobl ddigartref wedi cael ei gyflwyno yn yr ardal hon (sydd o amgylch Parc Grangemoor yng Nghaerdydd) yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Gostyngodd ei safle cyffredinol o 1,648 yn 2019 i 715 yn 2025, gan symud o’r grŵp 50% lleiaf difreintiedig i grŵp y 30% i’r 50% mwyaf difreintiedig, i fod yn gymharol fwy difreintiedig.
Dadansoddiad yn ôl awdurdod lleol
Ffigur 1.2: plot blychau o safleoedd mynegai MALlC 2025, yn ôl awdurdod lleol
Disgrifiad o ffigur 1.3: dengys y siart ddosbarthiad safleoedd ar gyfer pob awdurdod lleol yng Nghymru. Mae’r blychau glas yn cynnwys hanner cyfanswm yr ardaloedd bach (ACEHIau) ym mhob awdurdod lleol, wedi’i ganoli ar y safle canolrifol (canol) ar gyfer pob awdurdod lleol a dengys y ‘wisgers’ yr ystod lawn o safleoedd yn yr awdurdod lleol. Mae amddifadedd yn cynyddu wrth i’r safle ostwng (hynny yw, tuag ochr chwith gwaelod y plot).
Yng Nghaerdydd y ceir y dosbarthiad mwyaf o safleoedd cyffredinol y mynegai, yna Abertawe a Chasnewydd ac ym Mhowys a Cheredigion y ceir y dosbarthiad culaf. Bro Morgannwg sydd â’r safle canolrifol uchaf (lleiaf difreintiedig) a Blaenau Gwent sydd â’r un isaf (mwyaf difreintiedig).
Crynodiadau o ardaloedd difreintiedig, yn ôl awdurdod lleol
Un ffordd o ystyried data MALlC ar lefel awdurdod lleol yw edrych ar gyfran yr ardaloedd yn yr awdurdod lleol sydd yn y 10% mwyaf difreintiedig (neu’r 20% ac ati) o’r holl ardaloedd. Mae modd ystyried y dull hwn fel nodi crynodiad o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig mewn awdurdod lleol, yn hytrach na’r lefel amddifadedd cyfartalog.
Mae canlyniadau cyffredinol mynegai MALlC 2025 yn dangos y canlynol:
- yr awdurdod lleol â’r gyfran uchaf o ardaloedd yn y 10% mwyaf difreintiedig yng Nghymru oedd Blaenau Gwent (20% neu 9 ardal) yna Gasnewydd (18% neu 18 o ardaloedd)
- nid oes unrhyw ardaloedd bach yn y 10% mwyaf difreintiedig yn Sir Fynwy a dim ond un sydd ym Mhowys a Cheredigion
- Sir Fynwy oedd yr awdurdod lleol â’r crynodiad isaf o ardaloedd yn hanner mwyaf difreintiedig Cymru, sef 19% yna Bowys (29%) a Sir y Fflint (29%)
- Blaenau Gwent (76%), Merthyr Tudful (72%) a Chastell-nedd Port Talbot (72%) sydd â’r ganran uchaf o ardaloedd yn y 50% mwyaf difreintiedig
Crynodiadau o ardaloedd sy’n wynebu amddifadedd ym MALlC 2025, yn ôl awdurdod lleol ar StatsCymru
Yr ardaloedd mwyaf difreintiedig ym MALlC 2025
Mae’r tabl isod yn rhestru’r 10 ardal fwyaf difreintiedig yng Nghymru, yn ôl MALlC 2025, ynghyd â 5 ardal a oedd yn y safle rhwng 1 a 10 ym MALlC 2019, ond sydd wedi symud allan o’r grŵp hwnnw ym MALlC 2025.
Noder nad yw MALlC yn mesur lefel amddifadedd mewn ardal fach, yn hytrach mae’n mesur a yw ardal yn fwy neu’n llai difreintiedig o’i chymharu ag ardaloedd bach eraill yng Nghymru. Nid oes modd pennu a yw amddifadedd mewn ardal wedi gwella ai peidio drwy ystyried newid safle yn unig.
| AGEHI | Enw awdurdod lleol | Enw AGEHI [Note 1] | Safle MALlC 2019 | Safle MALlC 2025 |
|---|---|---|---|---|
| W01000240 | Sir Ddinbych | Gorllewin y Rhyl 2 | 1 | 1 |
| W01001421 | Caerffili | Sant Iago 3 | 3 | 2 |
| W01001741 | Caerdydd | Trelái 5 | 14 | 3 |
| W01000991 | Pen-y-bont ar Ogwr | Caerau (Pen-y-bont ar Ogwr) 1 | 5 | 4 |
| W01000237 | Sir Ddinbych | De-orllewin y Rhyl 2 | 19 | 5 |
| W01001884 | Caerdydd | Trowbridge 8 | 13 | 6 |
| W01000413 | Wrecsam | Queensway 1 | 9 | 7 |
| W01001738 | Caerdydd | Trelái 2 | 28 | 8 |
| W01000239 | Sir Ddinbych | Gorllewin y Rhyl 1 | 2 | 9 |
| W01000241 | Sir Ddinbych | Gorllewin y Rhyl 3 | 11 | 10 |
| W01001274 | Rhondda Cynon Taf | Tylorstown 1 | 4 | 23 |
| W01001209 | Rhondda Cynon Taf | Penrhiw-ceiber 1 | 6 | 60 |
| W01001308 | Merthyr Tudful | Penydarren 1 | 7 | 16 |
| W01001428 | Caerffili | Twyncarno 1 | 8 | 12 |
| W01001662 | Casnewydd | Pillgwenlly 4 | 10 | 49 |
[Nodyn 1]: Mae dolenni i broffil ardal Cyfrifiad 2021 ar gyfer yr AGEHI (SYG), sy’n cynnwys map o’r ardal.
Mae’r tabl yn dangos y canlynol:
- Gorllewin y Rhyl 2, Sir Ddinbych yw’r ardal fach fwyaf difreintiedig o hyd yng Nghymru
- roedd hanner y 10 ardal fwyaf difreintiedig ym MALlC 2019 yn dal i fod ymhlith y 10 ardal fwyaf difreintiedig ym MALlC 2025
Mae’r tabl yn cynnwys dolenni i broffiliau Cyfrifiad 2021 ar gyfer yr ardaloedd hyn. Er mwyn archwilio nodweddion aelwydydd a nodweddion demograffig unrhyw ardal yn fanylach mewngofnodwch god yr AGEHI yn adnodd Proffil Cyfrifiad 2021 ar gyfer ardaloedd yng Nghymru a Lloegr ar wefan NOMIS (SYG).
Amddifadedd hirsefydlog
Mae ardaloedd bach o amddifadedd ‘hirsefydlog’ yn ardaloedd sydd wedi aros ymhlith y 50 o ardaloedd mwyaf difreintiedig, sy’n cyfateb yn fras i’r 2.6% uchaf o ardaloedd bach yng Nghymru ar gyfer y 6 fersiwn ddiwethaf o MALlC lle y cyhoeddwyd safleoedd ardaloedd (sef MALlC 2005, 2008, 2011, 2014 a 2019 a 2025). Felly, dros gyfnod o 20 mlynedd, ystyrir mai’r ardaloedd bach sy’n perthyn i’r categori hwn yw’r rhai mwyaf difreintiedig, am eu bod wedi ymddangos yn gyson ymhlith y 50 uchaf o’r holl ardaloedd bach yng Nghymru. Mae’r dadansoddiad ond yn edrych ar safleoedd mor bell yn ôl â MALlC 2005 am mai hwn oedd y mynegai cyntaf pan ddaeth ACEHIau yn ddaearyddiaeth safonol. Mae’r data sy’n sail i’r dadansoddiad hwn wedi cael eu cyhoeddi ar dudalennau gwe StatsCymru ac fel taenlen OpenDocument.
Am fod MALlC yn mesur amddifadedd cymharol, nid yw’n rhoi unrhyw syniad o lefel amddifadedd yn yr ardaloedd bach hyn. Mae’n bosibl bod lefelau amddifadedd yn yr ardaloedd bach sy’n perthyn i’r categori amddifadedd hirsefydlog wedi gostwng ers MALlC 2005, ond mae’r ardaloedd hyn yn dal i fod ymhlith y rhai mwyaf difreintiedig o’u cymharu ag ardaloedd bach eraill yng Nghymru.
Mae cyfanswm o 22 o ardaloedd bach mewn amddifadedd hirsefydlog, sy’n cyfateb yn fras i 1.1% o’r holl ardaloedd bach yng Nghymru. Rhestrir y rhain yn y tabl isod, yn ôl trefn eu safle cyffredinol ym MALlC 2025.
| Côd AGEHI | Enw awdurdod lleol | Enw AGEHI | Safle MALlC 2025 |
|---|---|---|---|
| W01000240 | Sir Ddinbych | Gorllewin y Rhyl 2 | 1 |
| W01001421 | Caerffili | Sant Iago 3 | 2 |
| W01000991 | Pen-y-bont ar Ogwr | Caerau (Pen-y-bont ar Ogwr) 1 | 4 |
| W01000237 | Sir Ddinbych | De-orllewin y Rhyl 2 | 5 |
| W01000413 | Wrecsam | Queensway 1 | 7 |
| W01000239 | Sir Ddinbych | Gorllewin y Rhyl 1 | 9 |
| W01000830 | Abertawe | Penderi 1 | 11 |
| W01001428 | Caerffili | Twyncarno 1 | 12 |
| W01000833 | Abertawe | Penderi 4 | 13 |
| W01001222 | Rhondda Cynon Taf | Pen-y-waun 2 | 14 |
| W01000921 | Castell-nedd Port Talbot | Cymer (Castell-nedd Port Talbot) 2 | 15 |
| W01001308 | Merthyr Tudful | Penydarren 1 | 16 |
| W01000863 | Abertawe | Townhill 2 | 19 |
| W01000864 | Abertawe | Townhill 3 | 20 |
| W01001274 | Rhondda Cynon Taf | Tylorstown 1 | 23 |
| W01001739 | Caerdydd | Trelái 3 | 24 |
| W01000862 | Abertawe | Townhill 1 | 26 |
| W01001339 | Caerffili | Bargod 4 | 27 |
| W01000742 | Abertawe | Y Castell 1 | 30 |
| W01001345 | Caerffili | Bedwas Tretomos a Machen 6 | 31 |
| W01000832 | Abertawe | Penderi 3 | 36 |
| W01001479 | Blaenau Gwent | Tredegar Canol a Gorllewin 2 | 44 |
O’r ardaloedd bach sydd wedi’u rhestru, mae 2 wedi bod ymhlith y 10 ardal fwyaf difreintiedig ers MALlC 2005 (Gorllewin y Rhyl 2 a Queensway 1). Yn ogystal â’r 2 ardal fach hyn, mae 5 arall (sef Gorllewin y Rhyl 1, St. James 3, Twyn Carno 1, Penydarren 1, Pen-y-waun 2) yn ffurfio’r 7 ardal fach sydd wedi bod ymhlith yr 20 ardal fwyaf difreintiedig yn gyson.
Ffigur 1.3: map o ACEHIau o amddifadedd hirsefydlog ledled Cymru, MALlC 2025
Ffigur 1.4: map o ACEHIau o amddifadedd hirsefydlog, lluniau agos ar gyfer De a Gogledd Ddwyrain Cymru, MALlC 2025
© Hawlfraint y Goron 2025. Cartograffeg. Llywodraeth Cymru.
Disgrifiad o ffigurau 1.3 a 1.4: mae’r mapiau yn dangos ym MALlC 2025 fod y 22 o ardaloedd bach o amddifadedd hirsefydlog wedi’u rhannu rhwng 10 o awdurdodau lleol; ceir y nifer fwyaf ohonynt yn Abertawe.
Mae’r 7 ardal fach hyn a leolir yn Abertawe yn cyfrif am bron traean (32%) o’r rhai sy’n ymddangos yn gyson ymhlith y 50 o ardaloedd mwyaf difreintiedig, sef ddwywaith gymaint â’r awdurdod lleol â’r nifer mwyaf ond un (Caerffili, sydd â phedair ardal fach).
Mae pob un ond 2 o’r 22 wedi’u lleoli mewn Ardal Adeiledig a enwyd, gyda’r rhan fwyaf ohonynt yn Abertawe (6), yna’r Rhyl (3). Yr Ardaloedd Adeiledig eraill sydd ag un ardal fach o amddifadedd hirsefydlog yr un yw Aberdâr, Bargod, Caerffili, Caerdydd, Croeserw, Maesteg, Merthyr Tudful, Rhymni, Tredegar, Trethomas a Wrecsam. Yr ardaloedd lle ceir amddifadedd hirsefydlog ond nad ydynt yn Ardaloedd Adeiledig yw Penderi 3 yn Abertawe a Tylorstown 1 yn Rhondda Cynon Taf.
Mae 12 o awdurdodau lleol heb unrhyw ardaloedd bach o amddifadedd hirsefydlog (sef Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Sir y Fflint, Powys, Ceredigion, Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Bro Morgannwg, Torfaen, Casnewydd a Sir Fynwy). Nid yw hyn yn golygu nad oes unrhyw ardaloedd difreintiedig iawn yn yr awdurdodau lleol hyn ar hyn o bryd.
Ardaloedd sydd wedi gadael grŵp y 50 ardal fwyaf difreintiedig yn ddiweddar
Mae 6 ardal a oedd ymhlith y 50 ardal fwyaf difreintiedig mewn 3 neu 4 o’r iteriadau cynharach o’r mynegai ond nad oeddent yn y 50 ardal fwyaf difreintiedig ar gyfer 2019 na 2025. Fodd bynnag, mae pob yn ohonynt yn dal i fod yng ngrŵp y 10% mwyaf difreintiedig ar gyfer MALlC 2025:
- roedd Cyfarthfa 2 (Merthyr Tudful) yn safle 69 ym MALlC 2025
- roedd Gurnos 1 (Merthyr Tudful) yn safle 87 ym MALlC 2025
- roedd Gurnos 2 (Merthyr Tudful) yn safle 89 ym MALlC 2025
- roedd Butetown 1 (Caerdydd) yn safle 136 ym MALlC 2025
- roedd Hengoed 2 (Ystrad Mynach, Caerffili) yn safle 158 ym MALlC 2025
- roedd Pilgwenlli 3 (Casnewydd) yn safle 174 ym MALlC 2025
Ffynonellau cysylltiedig
Mynegeion amddifadedd lluosog ledled y DU
Mae Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon i gyd yn paratoi eu mynegeion amddifadedd lluosog eu hunain:
- Mynegeion Amddifadedd Lloegr (y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol)
- Mynegai Amddifadedd Lluosog yr Alban (Llywodraeth yr Alban)
- Mesur Amddifadedd Lluosog Gogledd Iwerddon (NISRA)
Mae’r setiau data hyn yn seiliedig ar yr un cysyniad a methodoleg gyffredinol, ond mae gwahaniaethau (a ddisgrifir yn y canllawiau) sy’n golygu nad oes modd cymharu’r mynegeion yn uniongyrchol. Mae’r SYG wedi cyhoeddi’n flaenorol wybodaeth sy’n esbonio’n fanylach y nodweddion tebyg a gwahanol rhwng y pedwar mynegai (SYG).
Byddwn yn parhau i weithio gyda’r Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol a’r llywodraethau datganoledig eraill i archwilio cyfleoedd i gynhyrchu allbynnau wedi’u cysoni. Mae hyn yn cynnwys cyrchu data a fydd yn ei gwneud yn bosibl i gynhyrchion i’r DU gyfan gael eu cyhoeddi. Mae cynlluniau rhyddhau eto i’w cadarnhau ond cânt eu cyhoeddi ar GOV.UK maes o law.
Data lleol eraill i Gymru
Mae’r SYG wedi cyhoeddi data a gwybodaeth sy’n ymwneud â Chyfrifiad 2021 (SYG) yn ogystal ag ystadegau lleol (SYG). Gellir canfod ystadegau sy'n benodol i Gymru ym mwletinau Arolwg Cenedlaethol Cymru, ac yn nangosydd canlyniadau Arolwg Cenedlaethol Cymru.
Llwybrau amddifadedd
Mae academyddion yn parhau i ddefnyddio data cyfrifiad a mynegeion amddifadedd i ymchwilio a thystio llwybrau amddifadedd, neu 'hanesion amddifadedd' ar gyfer ardaloedd bach yn y DU, gan ymchwilio i astudiaethau achos ardaloedd awdurdodau lleol. Er enghraifft, gweler yr erthygl gyhoeddedig 50-year Deprivation Trajectories: Local Area Change in England and Wales, 1971–2021 (Norman, P., Lloyd, C.D., McLennan D., Ferguson, S. a Catney, G., 2024). Bydd yr erthygl sydd ar ddod 'Trajectories of deprivation in the UK' (Lloyd, C. D., Ferguson, S., Catney, G., McLennan, D. a Norman, P., Nuffield Foundation 2025) yn cynnwys dadansoddiad o ddata Cymru hyd at Gyfrifiad 2021 a MALlC 2019.
