Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

MALlC

Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) yw’r mesur swyddogol o amddifadedd cymharol ar gyfer ardaloedd bach yng Nghymru. Mae’n nodi ardaloedd â’r crynodiadau uchaf o sawl math gwahanol o amddifadedd. Mae MALlC yn pennu safle pob ardal fach yng Nghymru o 1 (mwyaf difreintiedig) i 1,917 (lleiaf difreintiedig). Ystadegyn swyddogol achrededig ydyw, sy’n cael ei baratoi gan ystadegwyr yn Llywodraeth Cymru.

Defnyddir MALlC gan Lywodraeth Cymru a chyrff eraill y llywodraeth, llywodraeth leol a Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus, academyddion a myfyrwyr, yn ogystal â’r trydydd sector a’r sector preifat. Diben y mynegai yw darparu tystiolaeth am yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru er mwyn llywio amrywiaeth o benderfyniadau ac ymchwil, gan gynnwys cyllido neu dargedu rhaglenni a gwasanaethau ar gyfer ardaloedd lleol.

Mae’r datganiad hwn yn diweddaru MALlC 2019, ond mae rhai newidiadau (a esbonnir isod) yn golygu nad oes modd cymharu allbynnau MALlC 2025 yn uniongyrchol â mynegeion blaenorol.

Rydym yn ddiolchgar am gyfraniadau llawer o bobl a sefydliadau sydd wedi darparu data a chyngor ar gyfer MALlC 2025.

Yr hyn y mae MALlC yn ei fesur

Mae bod yn ddifreintiedig yn golygu mwy na bod yn dlawd yn unig. Gall hefyd olygu llai o adnoddau a chyfleoedd nag y gallem eu disgwyl yn ein cymdeithas, er enghraifft o ran iechyd, addysg neu mynediad at wasanaethau. Mae MALlC yn cynnwys 8 maes (neu fath) gwahanol o amddifadedd, a chaiff pob un ei lunio o nifer o ddangosyddion gwahanol. Mae’r mynegai yn adio’r sgoriau amddifadedd o’r gwahanol feysydd, ond rhoddir mwy o bwysoliad i rai meysydd na rhai eraill sy'n dangos eu bod yn cyfrannu mwy at y mynegai cyffredinol.

Yr hyn y mae MALlC yn ei fesur

Mae bod yn ddifreintiedig yn golygu mwy na bod yn dlawd yn unig. Gall hefyd olygu llai o adnoddau a chyfleoedd nag y gallem eu disgwyl yn ein cymdeithas, er enghraifft o ran iechyd, addysg neu mynediad at wasanaethau. Mae MALlC yn cynnwys 8 maes (neu fath) gwahanol o amddifadedd, a chaiff pob un ei lunio o nifer o ddangosyddion gwahanol. Mae’r mynegai yn adio’r sgoriau amddifadedd o’r gwahanol feysydd, ond rhoddir mwy o bwysoliad i rai meysydd na rhai eraill sy'n dangos eu bod yn cyfrannu mwy at y mynegai cyffredinol. 

Y meysydd a’u pwysoliadau ar gyfer MALlC 2025

  • Incwm, 22%
  • Cyflogaeth, 20%
  • Iechyd, 15%
  • Addysg, 14%
  • Mynediad at wasanaethau, 10%
  • Tai, 9%
  • Diogelwch cymunedol, 5%
  • Amgylchedd ffisegol, 5%

Sut y caiff MALlC ei lunio

Mae i’r mynegai dair elfen:

  • y 54 o setiau data dangosyddion sylfaenol
  • safleoedd ar gyfer yr wyth maes (neu fath) gwahanol o amddifadedd, a grëwyd drwy gyfuno dangosyddion perthnasol o fewn pob maes
  • safleoedd cyffredinol MALlC, a grëwyd drwy gyfuno safleoedd y meysydd

Cyfrifir yr holl elfennau hyn ar gyfer pob un o’r Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is (ACEHIau) yng Nghymru. Llunnir ffiniau ACEHIau gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) ar ôl pob cyfrifiad. Daearyddiaeth ystadegol safonol ydynt, a ddefnyddir at ddibenion nodi ystadegau am ardaloedd bach. Ceir rhestr lawn o’r dangosyddion yn y bennod gefndir olaf.

Mae’r ffordd y caiff y dangosyddion a’r meysydd eu cyfuno wedi’i llunio i wahaniaethu’n ddibynadwy rhwng ardaloedd ar y pen mwyaf difreintiedig o’r dosbarthiad, ond nid ar y pen lleiaf difreintiedig. Mae hyn yn golygu bod y gwahaniaethau rhwng yr ardaloedd lleiaf difreintiedig yng Nghymru wedi’u diffinio’n llai manwl na’r gwahaniaethau rhwng yr ardaloedd mwyaf difreintiedig.

Nid oes trothwy penodol lle mae ardal yn cael ei disgrifio’n ‘un ddifreintiedig’ os yw’n uwch na’r trothwy hwnnw. Mae safleoedd MALlC yn aml yn cael eu grwpio’n ddegraddau, yn gwintelau neu’n grwpiau eraill at ddibenion dadansoddi. Mae degraddau'n rhannu set o ddata yn 10 rhan gyfartal, a chwintelau yn 5. Y degradd gyntaf yw'r 10% o werthoedd isaf, yr ail ddegradd yw'r 10% nesaf ac yn y blaen. Mae’r grwpiau amddifadedd a ddefnyddir yn yr adroddiad hwn wedi’u llunio i roi grwpiau llai o faint ar y pen mwyaf difreintiedig o’r dosbarthiad, lle mae’r gwahaniaeth rhwng ardaloedd yn fwy nag ar y pen lleiaf difreintiedig.

Newidiadau ar gyfer MALlC 2025

Mae’r fethodoleg yr un fath â methodoleg mynegeion blaenorol ar y cyfan, gyda’r un wyth maes neu fath o amddifadedd wedi’u cofnodi. Fodd bynnag, mae rhai setiau data, methodolegau a daearyddiaethau newydd wedi cael eu defnyddio i baratoi MALlC 2025, sy’n golygu nad oes modd cymharu allbynnau yn uniongyrchol â mynegeion blaenorol.

Dangosyddion newydd

  • Tai: anallu i fforddio dod yn berchen-feddiannydd neu ddod yn rhan o’r farchnad rhentu breifat.
  • Tai: anheddau â pherfformiad ynni gwael.
  • Mynediad at wasanaethau: amseroedd teithio i wasanaethau gofal plant.
  • Amgylchedd ffisegol: llygredd sŵn.

Y prif newidiadau i ddangosyddion sy’n bodoli eisoes

  • Incwm: adolygwyd y dangosydd yn sgil cyflwyno Credyd Cynhwysol.
  • Cyflogaeth: fel uchod, ac mae bellach yn cynnwys y rhai nad ydynt yn gweithio oherwydd cyfrifoldebau gofalu.
  • Addysg: absenoldeb wedi’i rannu yn ôl cyfnod cynradd ac uwchradd, newid bach i’r dangosydd ynglŷn â chymwysterau.
  • Mynediad at wasanaethau: dull newydd o gyfrifo amseroedd teithio cyfartalog a rhai newidiadau i ffynonellau data sy’n ymwneud â lleoliadau.
  • Amgylchedd ffisegol: ffynhonnell data newydd ar gyfer mannau gwyrdd amgylchol, a rhai newidiadau i’r hyn sy’n cael ei gynnwys fel man gwyrdd yn y mesur o agosrwydd.
  • Diogelwch cymunedol: mae troseddau treisgar a gofnodwyd gan yr heddlu wedi’u rhannu’n is-ddangosyddion, gyda rhai newidiadau i godau troseddu, ac mae’r rhan fwyaf o’r enwaduron ynglŷn â chyfraddau troseddau bellach yn cynnwys poblogaeth amhreswyl yn ystod y dydd.

Nid yw’r dangosyddion wedi’u cynnwys mwyach

Mae’r ddau ddangosydd hyn wedi cael eu dileu yn y mynegai ar gyfer MALlC 2025 gan nad yw setiau data wedi’u diweddaru ar gael:

  • maes addysg, sgôr pwyntiau cyfartalog y cyfnod sylfaen
  • maes addysg, sgôr pwyntiau cyfartalog Cyfnod Allweddol 2

Newidiadau i bwysoliad meysydd

Mae 2 ddangosydd newydd wedi cael eu hychwanegu at y maes tai, sydd wedi arwain at gynnydd bach yn ei bwysoliad o 7% i 9%. Er mwyn caniatáu ar gyfer hyn, mae’r pwysoliad ar gyfer y maes cyflogaeth wedi cael ei leihau ychydig o 22% i 20%.

Newidiadau i ddaearyddiaethau

Adolygodd y SYG ffiniau ACEHIau ar ôl rhyddhau data Cyfrifiad 2021, ac erbyn hyn ceir 1,917 o ACEHIau yn lle’r 1,909 o ACEHIau blaenorol ar gyfer MALlC 2019.

Ar gyfer beth y gellir defnyddio MALlC

What WIMD can be used for

  • Nodi’r ardaloedd bach mwyaf difreintiedig.
  • Cymharu amddifadedd cymharol ardaloedd bach.
  • Archwilio’r 8 math o amddifadedd ar gyfer ardaloedd bach.
  • Cymharu cyfran yr ardaloedd bach o fewn ardal fwy sy’n ddifreintiedig iawn.
  • Defnyddio rhai data ynglŷn â dangosyddion (ond nid y safleoedd) i gymharu newid absoliwt dros amser.

Gellir hefyd ddefnyddio MALlC i edrych ar y newid mewn safleoedd amddifadedd cymharol rhwng iteriadau, er enghraifft pa ardaloedd sydd wedi gadael y grŵp mwyaf difreintiedig, wedi ymuno ag ef, neu wedi aros ynddo. Fodd bynnag, dylid bod yn ofalus wrth ddehongli newidiadau o ran safle oherwydd newidiadau i’r ffordd y mae’r mynegai yn cael ei gyfrifo rhwng cyhoeddiadau gwahanol.

Ar gyfer MALlC 2025, er mwyn cael y ciplun gorau posibl ar amddifadedd cymharol gan ddefnyddio’r data diweddaraf sydd ar gael, rydym wedi newid rhai o’r dangosyddion a phwysoliadau rhai o’r meysydd. Mae’n bosibl bod y gwelliannau hyn i’r ffordd y mesurir amddifadedd wedi cyfrannu at ardal yn dod yn fwy (neu’n llai) difreintiedig o’i chymharu ag eraill, yn ogystal â newidiadau sylfaenol mewn amddifadedd ers MALlC 2019.

Beth ni ellir defnyddio MALlC ar gyfer

  • Mesur pa mor ddifreintiedig yw ardal fach, nac i ba raddau y mae’n fwy difreintiedig nag ardal arall (mae’r gwahaniaeth rhwng dau safle yn gallu bod yn fach iawn neu’n fawr).
  • Defnyddio safleoedd i wneud casgliadau ynglŷn â newid absoliwt dros amser (am mai mesurau cymharol ydynt).
  • Nodi pobl ddifreintiedig (nid yw pawb sy’n ddifreintiedig yn byw mewn ardal ddifreintiedig).
  • Cymharu â gwledydd eraill y DU (mae pob gwlad yn mesur amddifadedd mewn ffordd ychydig yn wahanol).
  • Mesur golud (nid yw diffyg amddifadedd yr un fath â bod yn oludog).

Manylion pellach

Mae’r canllawiau yn cynnwys rhagor o wybodaeth am yr hyn y mae MALlC yn ei fesur, dehongli’r canlyniadau, a defnyddiau a chyfyngiadau MALlC. Mae’r adroddiad technegol yn cynnwys rhagor o wybodaeth am y fethodoleg a’r ffordd y lluniwyd y mynegai, gan gynnwys pob un o’r dangosyddion ym mhob maes. Mae rhagor o wybodaeth ar gael am yr hyn rydym yn ei gyhoeddi a phryd.

Caiff MALlC ei ddiweddaru bob 5 mlynedd fel arfer, ond nid yw’r dyddiadau cyhoeddi ar gyfer mynegeion yn y dyfodol wedi’u pennu eto.