Mae Llywodraeth Cymru eisiau gwybod eich barn am gynigion ac opsiynau i ddiwygio rheolau rhyddhadau y dreth trafodiadau tir (TTT).
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Rydym yn ymgynghori ar gynigion i:
- ddiddymu rhyddhad anheddau lluosog y TTT
- ehangu un o ryddhadau presennol TTT i awdurdodau lleol yng Nghymru pan fyddant yn prynu eiddo at ddibenion tai cymdeithasol
Mae'r ymgynghoriad hefyd yn ceisio barn ar y rheolau sy'n gysylltiedig â phrynu chwe annedd neu fwy mewn un trafodiad, a rhyddhadau eraill TTT.
Dogfennau ymgynghori
Sut i ymateb
Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 19 Mai 2024, ar un o`r ffurfiau a ganlyn:
Ffurflen ar-lein
E-bost
Lawrlwythwch y ffurflen ymateb.
Cwblhewch a dychwelyd i Ymgynghoriad.Rhyddhadau.TTT@llyw.cymru
Post
Lawrlwythwch y ffurflen ymateb.
Cwblhewch a dychwelyd i:
Ymgynghoriad Cyhoeddus ar Ryddhadau y Dreth Trafodiadau Tir
Yr Is-Adran Strategaeth Trethi a Chysylltiadau Rhynglywodraethol
Trysorlys Cymru
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ