Neidio i'r prif gynnwy

Crynodeb

Mae Llywodraeth Cymru yn croesawu barn ar gynigion i ddiddymu rhyddhad anheddau lluosog y dreth trafodiadau tir (TTT), ac i ehangu un o ryddhadau presennol TTT i awdurdodau lleol yng Nghymru pan fyddant yn prynu eiddo at ddibenion tai cymdeithasol. Mae gan Lywodraeth Cymru ddiddordeb hefyd mewn safbwyntiau ar yr opsiwn i ddiwygio'r rheolau sy'n gysylltiedig â phrynu chwe annedd neu fwy mewn un trafodiad, ac opsiynau i adolygu neu ddiwygio rhyddhadau eraill TTT. Bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud datganiad mewn perthynas â'r camau nesaf unwaith y bydd yr ymgynghoriad wedi dod i ben a bod yr ymatebion wedi cael eu hystyried.

Cyflwyniad

Mae'r ymgynghoriad cyhoeddus hwn yn ceisio barn ar y cynigion canlynol y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu eu cyflwyno gerbron y Senedd:

  • diddymu rhyddhad anheddau lluosog (MDR) y dreth trafodiadau tir (TTT), (mater un yr ymgynghoriad)
  • ehangu rhyddhad presennol TTT i awdurdodau lleol yng Nghymru wrth brynu eiddo at ddibenion tai cymdeithasol, (mater tri yr ymgynghoriad).

Mae'r ymgynghoriad hefyd yn ceisio barn ar yr opsiynau canlynol:

  • diddymu'r rhyddhad a ddarperir ar brynu chwe annedd neu fwy mewn un trafodiad, ynghyd â diddymu MDR TTT, (mater dau yr ymgynghoriad)
  • y posibilrwydd o adolygu neu ddiwygio rhyddhadau eraill TTT, (mater pedwar yr ymgynghoriad)
  • yr effaith bosibl ar y Gymraeg, (mater pump yr ymgynghoriad).

Caiff yr ymgynghoriad ei gynnal dros gyfnod o chwe wythnos yn hytrach na'r cyfnod arferol o 12 wythnos. Mae'r cyfnod ymgynghori byrrach na'r arfer yn adlewyrchu brys cymharol rhai o'r materion sy'n cael eu hystyried, a byrder a ffocws cul yr ymgynghoriad.

Mae'r ddogfen ymgynghori hon yn esbonio'r materion sy'n cael eu hystyried ynghyd â chwestiynau i'r cyhoedd. Mae diddordeb gan Lywodraeth Cymru yn atebion y cyhoedd i'r cwestiynau hyn yn benodol, ond mae'n croesawu pob sylw ynghylch y materion a gaiff eu trafod yn yr ymgynghoriad hwn.

Bydd ymatebion i'r ymgynghoriad hwn yn helpu Llywodraeth Cymru wrth iddi ystyried costau, manteision ac effaith ehangach y cynigion, gan gynnwys o ran llesiant cymdeithasol, diwylliannol, economaidd ac amgylcheddol, anfantais economaidd-gymdeithasol a'r Gymraeg.

Ymgynghori ar Drethi Datganoledig

Caiff Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (DTTT) a TTT eu hadolygu'n barhaus gan Lywodraeth Cymru. Mae egwyddorion treth Llywodraeth Cymru yn amlinellu'r dull o ddatblygu trethi datganoledig a'u rhoi ar waith, gan nodi y dylai trethi Cymreig godi refeniw i ariannu gwasanaethau cyhoeddus mor deg â phosibl; cyflawni amcanion polisi Llywodraeth Cymru; bod yn glir, yn sefydlog ac yn syml; cael eu datblygu drwy gydweithio a chynnwys pobl; a chyfrannu'n uniongyrchol at nod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol o greu Cymru sy'n fwy cyfartal.

Nid oes dyletswydd statudol penodol i ymgynghori ar y materion sy'n cael eu hystyried yn yr ymgynghoriad hwn. Mae Llywodraeth Cymru wedi dewis ymgynghori â'r cyhoedd er mwyn asesu safbwyntiau ynghylch manteision ac effaith bosibl y cynigion.

Rhyddhad anheddau lluosog TTT

Mae Llywodraeth Cymru yn croesawu barn ar ei bwriad i gynnig i'r Senedd y dylid diddymu rhyddhad anheddau lluosog (MDR) y TTT yng Nghymru.

Bydd penderfyniad Llywodraeth y DU i ddiddymu MDR Treth Dir y Dreth Stamp (TDDS) yn Lloegr o 1 Mehefin yn arwain at ostyngiad amcangyfrifedig o hyd at £8m y flwyddyn dros y blynyddoedd nesaf yng Ngrant Bloc Cymru o'r dyddiad y daw'r mesur newydd i rym. Cyhoeddwyd y penderfyniad yng Nghyllideb y Gwanwyn ar 6 Mawrth 2024. Rhagwelir y bydd y cynnig i ddiddymu MDR TTT yn gwrthbwyso effaith diddymu MDR TDDS ar Grant Bloc Cymru. Bydd ymatebion i'r ymgynghoriad hwn yn cefnogi'r gwaith o asesu'r effaith yng Nghymru os caiff MDR TTT ei ddiddymu.

Trafodiadau sy'n ymwneud â chwe annedd neu fwy

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn croesawu barn ar y rheolau sy'n llywodraethu achosion o brynu chwe annedd neu fwy mewn un trafodiad, gydag ystyriaeth i gynnig eu diddymu os yw'n briodol, os caiff MDR TTT ei ddiddymu.

Rhyddhad TTT ar gyfer awdurdodau lleol

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn ceisio barn ar ei bwriad i gynnig i'r Senedd y dylid rhoi rhyddhad treth i awdurdodau lleol yng Nghymru pan fyddant yn prynu eiddo i'w defnyddio fel tai cymdeithasol.

Rhyddhadau eraill TTT

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn croesawu barn, yng nghyd-destun ehangach nodau ac amcanion Llywodraeth Cymru, o ran a ddylid ystyried adolygu rheolau eraill TTT, gan gynnwys rhyddhadau, er enghraifft er mwyn cefnogi ymrwymiadau tai Llywodraeth Cymru. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i werthuso effaith TTT ers iddi ddod i rym yn 2018, fel rhan o'r ymdrechion parhaus i ddatblygu trethi a sicrhau eu bod yn parhau i weithio'n dda i Gymru. Bydd ymatebion i'r ymgynghoriad hwn yn cefnogi'r gwerthusiad parhaus hwnnw.

Y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn croesawu barn ar unrhyw effeithiau tebygol y gall y cynigion a ddisgrifir yma eu cael ar gyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.

Beth sy'n digwydd nesaf

Cynhelir yr ymgynghoriad hwn o 8 Ebrill tan 19 Mai 2024.

Swyddogion yn Nhrysorlys Cymru, sef yr adran yn Llywodraeth Cymru sy'n cynghori Gweinidogion ar bolisi trethi, fydd yn darllen ymatebion i'r ymgynghoriad hwn ac yn ymdrin â nhw yn y lle cyntaf. Mae'n bosibl y bydd swyddogion o adrannau eraill Llywodraeth Cymru yn gweld ymatebion ac yn ymdrin â nhw hefyd, gan gynnwys Awdurdod Cyllid Cymru (ACC), sef yr adran Anweinidogol sy'n gyfrifol am reoli trethi datganoledig a sicrhau bod trethdalwyr yn talu'r swm cywir o TTT. Ceir gwybodaeth am ddull ACC o reoli trethi yma. Ceir canllawiau sy'n disgrifio pwerau a dyletswyddau ACC a dyletswyddau a hawliau trethdalwyr yma.

Ar ôl yr ymgynghoriad, bydd Gweinidogion Cymru yn ystyried yr ymatebion, yn cyhoeddi adroddiad yn eu crynhoi, ac yn nodi eu bwriadau a'r camau nesaf.

Cyfeiriadau

Gall y cyfeiriadau a'r dolenni canlynol fod yn ddefnyddiol i ddarllenwyr:

Termau allweddol

Cyfraddau, bandiau, trothwyon a thablau

  • tablau: y pedwar tabl o gyfraddau a bandiau sy'n gymwys i wahanol fathau o drafodiadau
  • bandiau neu drothwyon: ystodau a therfynau uchaf/isaf ystyriaeth sy'n gymwys i gategorïau gwahanol o drafodiadau
  • cyfraddau: canrannau'r dreth a godir.

Cyfraddau a bandiau trethi y dreth trafodiadau tir ar LLYW.CYMRU

Cyfraddau preswyl

Y rhain yw'r cyfraddau a godir pan fydd trafodiadau (neu drafodiadau cysylltiedig) yn cynnwys eiddo preswyl yn unig (yn fras, adeilad a ddefnyddir neu sy'n addas i'w ddefnyddio fel annedd a'i ardd a'i dir). Mae dwy set o gyfraddau preswyl TTT, y prif gyfraddau preswyl a'r cyfraddau preswyl uwch.

Cyfraddau amhreswyl

Y cyfraddau treth a godir ar drafodiadau pan brynir tir neu adeiladau nad yw cyfraddau preswyl yn gymwys iddynt. Caiff cyfraddau amhreswyl y TTT eu codi ar drafodiadau defnydd cymysg.

Annedd

Yn fras, adeilad neu ran o adeilad a ddefnyddir fel annedd neu sy'n addas i'w (d)defnyddio fel annedd, neu sydd yn y broses o gael ei (h)adeiladu neu ei (h)addasu at ddefnydd o'r fath. Annedd yw rhywle sy'n addas, a oedd yn addas yn flaenorol, neu a fydd yn addas ar ôl ei gwblhau neu ei addasu, i'w feddiannu fel cartref, gan ddarparu'r holl bethau sydd eu hangen i fyw yno (fel cegin ac ystafell ymolchi). Gall annedd gynnwys gardd neu dir.

Trafodiad ag anheddau lluosog

Trafodiad lle mae'r prynwr yn caffael mwy nag un annedd, naill ai drwy un trafodiad neu drwy drafodiadau cysylltiedig rhwng yr un gwerthwr a'r un prynwr.

Trafodiad defnydd cymysg

Trafodiad sydd ag elfennau preswyl ac amhreswyl, er enghraifft, adeilad sy'n cynnwys siop a fflat, tŷ sydd â meddygfa, neu fferm weithredol sydd â thir amaethyddol, tŷ fferm ac anheddau eraill.

Trafodiad cysylltiedig

Bydd trafodiadau yn gysylltiedig pan fyddant yn rhan o gynllun neu drefniant unigol neu gyfres o drafodiadau rhwng yr un prynwr a gwerthwr, neu bobl sy'n gysylltiedig â nhw.

Materion yr ymgynghoriad

1. Rhyddhad anheddau lluosog TTT

Cyflwyniad

1.1 Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cynnig diwygiad i DTTT i'r Senedd a fydd yn diddymu Rhyddhad TTT ar gyfer Caffaeliadau sy’n ymwneud ag Anheddau Lluosog. Cyfeirir at y rhyddhad hwn fel y rhyddhad anheddau lluosog (MDR) hefyd. Esbonnir y rheolau presennol a'r cynnig ar gyfer newid isod.

Y rheolau presennol

1.2 Rhyddhad rhannol rhag TTT yw MDR sy'n arwain at leihau'r atebolrwydd cyffredinol i dalu trethi i drethdalwr. Caiff MDR ei hawlio gan drethdalwyr, yn hytrach na'i ddarparu'n awtomatig. Nid oes unrhyw rwymedigaeth ar drethdalwyr i hawlio MDR. Gwneir hawliadau mewn hunanasesiadau treth a chânt eu gwirio gan Awdurdod Cyllid Cymru (ACC), sy'n gyfrifol am sicrhau bod trethdalwyr yn talu'r swm cywir o dreth.

1.3 Gellir hawlio MDR pan fydd prynwr yn caffael mwy nag un annedd gan yr un gwerthwr, naill ai mewn un trafodiad ar yr un dyddiad dod i rym neu mewn trafodiadau cysylltiedig. Mae MDR wedi bod yn rhan o gyfundrefn TTT ers i DTTT ddod i rym yn 2018, a fabwysiadwyd fel rhan o'r trosglwyddiad deddfwriaethol o gyfundrefn flaenorol TDDS a oedd yn gymwys i'r DU gyfan. Cyflwynwyd MDR i TDDS yn 2011, gyda'r nod o leihau rhwystr posibl i fuddsoddi mewn eiddo preswyl, a hyrwyddo cyflenwad tai y sector rhentu preifat.

1.4 Mae tudalennau gwe ACC ar MDR, sy'n cynnwys esboniadau mwy cynhwysfawr a chanllawiau manwl, ar gael yma. Mae canllawiau technegol ACC ar TTT (DTTT/7038 a DTTT/7039) yn cynnwys enghreifftiau sy'n esbonio sut caiff y rheolau eu cymhwyso.

Y cynnig i ddiddymu MDR

1.5 Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cynnig i'r Senedd y dylid diddymu MDR TTT, ac y dylai'r penderfyniad ddod i rym ar 1 Mehefin 2024, neu cyn gynted â phosibl ar ôl hynny. Caiff y penderfyniad hwn ei ysgogi gan benderfyniad Llywodraeth y DU i ddiddymu MDR TDDS yn Lloegr ar 1 Mehefin 2024 ac effaith ddisgwyliedig hyn ar Grant Bloc Cymru. Rhagwelir y bydd y cynnig i ddiddymu MDR TTT yn gwrthbwyso effaith y penderfyniad i ddiddymu MDR TDDS ar Grant Bloc Cymru.

1.6 Wrth gyflwyno'r mesur i ddiddymu MDR TTT, bydd Llywodraeth Cymru yn cynnwys rheolau ar drafodiadau yn debyg i'r rhai a gyflwynir ar gyfer diddymu MDR TDDS, er mwyn helpu trethdalwyr sy'n ymwneud â phryniannau sy'n rhychwantu'r cyfnod pan gaiff MDR TTT ei ddiddymu.

1.7 Bydd yr eithriad is-anheddau, sef math arbennig o ryddhad sydd ar gael mewn rhai trafodiadau anheddau lluosog, yn parhau. Gellir gweld esboniad ACC o'r eithriad o'r eithriad is-anheddau yma.

Effaith

1.8 Mae Llywodraeth Cymru yn croesawu barn ar effaith diddymu MDR TTT. Gall effeithiau gynnwys y canlynol:

  • Yn y byrdymor, unwaith y bydd y bwriad i ddiddymu MDR TTT yn hysbys ond cyn iddo gael ei ddiddymu, a thra bydd trethdalwyr yn cael budd o'r rhyddhad o hyd, gall cyfradd trafodiadau gynyddu.
  • Yn y tymor hwy, ar ôl diddymu MDR TTT, os bydd absenoldeb MDR yn annog pobl i beidio ag ymgymryd â thrafodiadau anheddau lluosog, neu'n eu hatal, efallai y bydd llai o drafodiadau o'r fath.

Cwestiwn 1.1

Bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud y penderfyniadau terfynol ynghylch y cynnig i ddiddymu MDR TTT gan ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad hwn, unrhyw sylwadau perthnasol eraill a fynegir yn rhywle arall, dadansoddiad parhaus o'r effeithiau, ac egwyddorion treth Llywodraeth Cymru.

Mae'r egwyddorion treth hyn yn nodi y dylai trethi Cymreig godi refeniw i ariannu gwasanaethau cyhoeddus mor deg â phosibl; cyflawni amcanion polisi Llywodraeth Cymru; bod yn glir, yn sefydlog ac yn syml; cael eu datblygu drwy gydweithio a chynnwys pobl; a chyfrannu'n uniongyrchol at nod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol o greu Cymru sy'n fwy cyfartal.

A ydych yn cytuno bod y cynnig i ddiddymu MDR TTT a nodir yn yr ymgynghoriad hwn yn cyd-fynd ag egwyddorion treth Llywodraeth Cymru?

Cwestiwn 1.2

A fydd diddymu MDR TTT yn cael effaith negyddol ar y sector rhentu preifat yng Nghymru yn eich barn chi?

Cwestiwn 1.3

A fydd diddymu MDR TTT yn cael effaith negyddol ar eraill yng Nghymru yn eich barn chi?

2. Trafodiadau sy'n ymwneud â chwe annedd neu fwy

2.1 Byddai Llywodraeth Cymru yn croesawu barn ar y rheolau sy'n llywodraethu achosion o brynu chwe annedd neu fwy mewn un trafodiad (y ‘rheol chwe annedd’), gydag ystyriaeth i gynnig eu diddymu os yw'n briodol, os caiff MDR TTT ei ddiddymu. Caiff y rheol bresennol a'r opsiwn sy'n cael ei ystyried eu hesbonio isod.

Cefndir – y rheolau presennol

2.2 Ar hyn o bryd, wrth brynu chwe annedd neu fwy mewn un trafodiad, gall y trethdalwr ddewis rhwng dau opsiwn i gyfrifo'r dreth sy'n daladwy. Nodir yr opsiynau isod.

2.3 Opsiwn 1. Gall y trethdalwr drin y trafodiad fel un amhreswyl, a thalu TTT ar y cyfraddau amhreswyl.

2.4 Opsiwn 2. Gall y trethdalwr drin y trafodiad fel un preswyl a thalu cyfraddau preswyl uwch y TTT ac, os felly, gall ddewis hawlio MDR.

2.5 Nodir y rheolau perthnasol yn y DTTT (gweler adran 72(9) yn arbennig).

Yr opsiwn i ddiddymu'r rheol chwe annedd

2.6 Pe bai MDR TTT yn cael ei ddiddymu (heb wneud unrhyw ddiwygiadau eraill i reolau TTT), byddai disgresiwn trethdalwyr mewn trafodiadau sy'n ymwneud â chwe annedd neu fwy yn cael ei ddiddymu, fel y byddai'r cyfraddau amhreswyl yn cael eu codi ar bob trafodiad o'r fath.

2.7 Byddai posibilrwydd y gallai diddymu MDR TTT (heb unrhyw ddiwygiadau eraill i reolau TTT) greu annhegwch i drethdalwyr sy'n prynu rhwng dwy a phum annedd mewn un trafodiad, o gymharu â'r rhai sy'n prynu chwe annedd neu fwy. Byddai'r rhai sy'n prynu rhwng dwy a phum annedd yn cael eu trethu ar gyfraddau uwch (y cyfraddau preswyl uwch) na'r rhai sy'n prynu chwe annedd neu fwy (a fyddai'n cael eu trethu ar y cyfraddau amhreswyl). Mewn rhai achosion, gallai'r rhai sy'n prynu llai o anheddau dalu symiau mwy o dreth hyd yn oed, yn ogystal ag ar gyfradd uwch, na'r rhai sy'n prynu mwy o anheddau.

2.8 Enghraifft. Pe na bai MDR ar gael (a heb wneud unrhyw ddiwygiadau eraill i reolau TTT):

  • byddai prynwr sy'n caffael pum annedd sy'n costio £300,000 yr un (cyfanswm cydnabyddiaeth o £1,500,000) yn talu £171,200 mewn TTT ar y cyfraddau preswyl uwch
  • byddai prynwr sy'n caffael chwe annedd o'r fath (cyfanswm cydnabyddiaeth o £1,800,000) yn talu £85,750 mewn TTT ar y cyfraddau amhreswyl.

2.9 Felly byddai Llywodraeth Cymru yn croesawu barn ar b'un a fyddai'n briodol diddymu'r rheol chwe annedd pe bai MDR yn cael ei ddiddymu.

2.10 Nid oes bwriad i ddiwygio na diddymu'r rheolau sy'n llywodraethu trafodiadau defnydd cymysg (trafodiadau sy'n ymwneud ag eiddo preswyl ac amhreswyl), a fyddai'n parhau i gael eu trethu ar y cyfraddau amhreswyl.

Effaith

2.11 Pe bai MDR TTT a'r rheol chwe annedd yn cael eu diddymu (a heb wneud unrhyw ddiwygiadau eraill i reolau TTT), byddai trethdalwyr sy'n prynu chwe annedd neu fwy yn cael eu trethu ar y cyfraddau preswyl uwch, sef yr un cyfraddau â'r rhai sy'n prynu rhwng dwy a phum annedd mewn trafodiad anheddau lluosog.

Cwestiwn 2.1

Bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud y penderfyniadau terfynol ynghylch a ddylid adolygu a/neu ddiddymu'r rheol chwe annedd gan ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad hwn, unrhyw sylwadau perthnasol eraill a fynegir yn rhywle arall, dadansoddiad parhaus o'r effeithiau, ac egwyddorion treth Llywodraeth Cymru.

Mae'r egwyddorion treth hyn yn nodi y dylai trethi Cymreig godi refeniw i ariannu gwasanaethau cyhoeddus mor deg â phosibl; cyflawni amcanion polisi Llywodraeth Cymru; bod yn glir, yn sefydlog ac yn syml; cael eu datblygu drwy gydweithio a chynnwys pobl; a chyfrannu'n uniongyrchol at nod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol o greu Cymru sy'n fwy cyfartal.

A ydych yn cytuno y byddai'r cynnig i ddiddymu'r rheol chwe annedd, ynghyd â diddymu MDR TTT, yn cyd-fynd ag egwyddorion treth Llywodraeth Cymru?

Cwestiwn 2.2

A fyddai diddymu'r rheol chwe annedd, ynghyd â diddymu MDR TTT, yn annog prynwyr i beidio ag ymgymryd â thrafodiadau anheddau lluosog neu'n eu hatal rhag gwneud hynny yn eich barn chi?

Cwestiwn 2.3

A fyddai diddymu'r rheol chwe annedd, ynghyd â diddymu MDR TTT, yn cael effaith negyddol ar y sector rhentu preifat yng Nghymru yn eich barn chi?

Cwestiwn 2.4

A fyddai diddymu'r rheol chwe annedd, ynghyd â diddymu MDR TTT, yn cael effaith negyddol ar eraill yng Nghymru yn eich barn chi?

3. TTT a thai cymdeithasol

Cyflwyniad

3.1 Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cynnig i'r Senedd y dylid diwygio DTTT er mwyn rhoi rhyddhad treth i awdurdodau lleol (ALlau) yng Nghymru pan fyddant yn prynu eiddo i'w defnyddio fel tai cymdeithasol. Esbonnir y rheolau presennol a'r cynnig i'w newid isod.

Cefndir – y sefyllfa bresennol

3.2 Mae rhai ALlau yng Nghymru yn darparu tai cymdeithasol drwy eu tai cyngor eu hunain yn unig, mae rhai eraill yn gwneud hynny drwy landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn gyfan gwbl ac mae rhai eraill yn defnyddio cyfuniad o'r ddau. Efallai y bydd rhai ALlau yn dymuno prynu anheddau ar y farchnad agored fel rhan o'u hymdrechion i fynd i'r afael â'r angen lleol am dai. Ar hyn o bryd, mae ALlau sy'n prynu anheddau ar y farchnad agored yn ddarostyngedig i gyfraddau preswyl uwch TTT yn bron pob sefyllfa. Mae ALlau hefyd yn talu cyfraddau amhreswyl TTT pan fyddant yn prynu adeiladau, er enghraifft ar gyfer tai (o dan rai amgylchiadau), swyddfeydd, gwasanaethau cymorth fel clybiau ieuenctid neu gyfleusterau hamdden, neu i brynu tir i adeiladu ysgol newydd neu i'w ddatblygu mewn ymateb i'r angen am dai cymdeithasol.

3.3 Mae rhyddhad rhag TTT, yn dibynnu ar rai amodau, ar gael i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig. Nodir y rheolau yn DTTT.

Y cynnig ar gyfer rheolau newydd

3.4 Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cynnig i'r Senedd y dylid diwygio'r rheolau presennol er mwyn darparu'r un rhyddhad yn fras i ALlau yng Nghymru â'r hyn a ddarperir i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ar hyn o bryd. Ni fyddai'r rhyddhad yn eithrio nac yn rhoi rhyddhad rhag TTT i ALlau yng Nghymru yn gyfan gwbl pan fyddant yn prynu anheddau neu dir.

Effaith

3.5 Byddai'r cynnig yn rhoi opsiwn ychwanegol i ALlau yng Nhgymru ar gyfer mynd i'r afael â'r angen am dai a byddai'n arwain at ostyngiad mewn TTT a delir gan ALlau.

Cwestiwn 3.1

Bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud y penderfyniadau terfynol ynghylch a ddylid cynnig y newid hwn i ryddhadau TTT, gan ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad hwn, unrhyw sylwadau perthnasol eraill a fynegir yn rhywle arall, dadansoddiad parhaus o'r effeithiau, ac egwyddorion treth Llywodraeth Cymru.

Mae'r egwyddorion treth hyn yn nodi y dylai trethi Cymreig godi refeniw i ariannu gwasanaethau cyhoeddus mor deg â phosibl; cyflawni amcanion polisi Llywodraeth Cymru; bod yn glir, yn sefydlog ac yn syml; cael eu datblygu drwy gydweithio a chynnwys pobl; a chyfrannu'n uniongyrchol at nod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol o greu Cymru sy'n fwy cyfartal.

A ydych yn cytuno bod y cynnig i ehangu rhyddhad TTT i ALlau yng Nhgymru pan fyddant yn prynu eiddo i'w defnyddio ar gyfer tai cymdeithasol yn cyd-fynd ag egwyddorion treth Llywodraeth Cymru?

Cwestiwn 3.2

A ydych yn cytuno y dylid diwygio'r rheolau presennol er mwyn darparu'r un rhyddhad yn fras i ALlau yng Nghymru â'r hyn a ddarperir i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ar hyn o bryd?

Cwestiwn 3.3

A ydych yn cytuno y byddai'r effaith a amlinellir uchod yn digwydd?

Cwestiwn 3.4

A fyddai'r cynnig i ehangu rhyddhad TTT i ALlau pan fyddant yn prynu eiddo i'w defnyddio ar gyfer tai cymdeithasol yn cael effaith negyddol ar unrhyw un yng Nghymru yn eich barn chi?

Yr effaith ar awdurdodau lleol

Rydym yn croesawu pob ymateb i gwestiwn 3.5, ac ymateb awdurdodau lleol yn arbennig.

Cwestiwn 3.5

A fyddai'r newid a ddisgrifir ym mater tri yr ymgynghoriad yn fuddiol o ran cefnogi cynlluniau tai eich awdurdod lleol, neu unrhyw awdurdodau lleol eraill yng Nghymru?

4. Rhyddhadau eraill TTT

4.1 Caiff Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (DTTT) a TTT eu hadolygu'n barhaus gan Lywodraeth Cymru, er mwyn sicrhau eu bod yn cyflawni ac yn cefnogi nodau ac amcanion Llywodraeth Cymru. Mae'r ymgynghoriad hwn yn cefnogi'r gwaith adolygu parhaus hwnnw. Mae Llywodraeth Cymru yn croesawu pob safbwynt ar ryddhadau TTT a chyfundrefn ehangach TTT.

4.2 Mae Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru ar gyfer tymor y Senedd hon yn nodi'r ymrwymiadau y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu eu cyflawni.

4.3 Mae egwyddorion treth Llywodraeth Cymru, a nodwyd yn flaenorol yn y ddogfen ymgynghori hon, yn amlinellu'r dull o ddatblygu trethi datganoledig a'u rhoi ar waith, gan nodi y dylai trethi Cymreig godi refeniw i ariannu gwasanaethau cyhoeddus mor deg â phosibl; cyflawni amcanion polisi Llywodraeth Cymru; bod yn glir, yn sefydlog ac yn syml; cael eu datblygu drwy gydweithio a chynnwys pobl; a chyfrannu'n uniongyrchol at nod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol o greu Cymru sy'n fwy cyfartal.

Cwestiwn 4.1

Gan gadw nodau ac amcanion Llywodraeth Cymru mewn cof, a oes rheolau TTT eraill, gan gynnwys rhyddhadau, y dylid ystyried eu hadolygu yn eich barn chi, er enghraifft er mwyn cefnogi ymrwymiadau tai Llywodraeth Cymru?

5. Y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn gwahodd barn ar unrhyw effeithiau tebygol ar gyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg. Beth fyddai effeithiau tebygol y cynigion hyn ar y Gymraeg yn eich barn chi?

Cwestiwn 5.1

A oes unrhyw gyfleoedd i hyrwyddo unrhyw effeithiau cadarnhaol, yn eich barn chi?

Cwestiwn 5.2

A oes unrhyw gyfleoedd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol, yn eich barn chi?

Cwestiwn 5.3

Yn eich barn chi, a ellid llunio neu newid y cynigion er mwyn cael effeithiau cadarnhaol neu fwy o effeithiau cadarnhaol ar ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg?

Cwestiwn 5.4

Yn eich barn chi, a ellid llunio neu newid y cynigion er mwyn lliniaru unrhyw effeithiau negyddol ar ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg?

6. Sylwadau eraill

Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os oes gennych unrhyw faterion cysylltiedig nad ydym wedi ymdrin â hwy'n benodol, defnyddiwch y lle isod i roi gwybod amdanynt:
 

Sut i ymateb

Dylech gyflwyno eich ymateb erbyn hanner nos 19 Mai 2024, yn unrhyw un o'r ffyrdd canlynol:

Ymgynghoriad Cyhoeddus ar y Dreth Trafodiadau Tir
Yr Is-adran Strategaeth Trethi a Chysylltiadau Rhynglywodraethol
Trysorlys Cymru
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data
  • (o dan rai amgylchiadau) i’ch data gael eu ‘dileu’
  • (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data gweler y manylion cyswllt isod:

Y Swyddog Diogelu Data

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Rhif ffôn: 01625 545 745 or 0303 123 1113

Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU)

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer ymgyngoriadau Llywodraeth Cymru ac ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych wrth ichi ymateb i'r ymgynghoriad.

Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i gyflawni swyddogaethau a rôl graidd Llywodraeth Cymru. (Erthygl 6(1)(e))

Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Yn achos ymgyngoriadau ar y cyd, mae’n bosibl y bydd hyn hefyd yn cynnwys awdurdodau cyhoeddus eraill. Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o'r ymatebion i ymgynghoriad, gall trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Dim ond o dan gontract yr ymgymerir â gwaith o'r fath. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu data personol a'u cadw'n ddiogel.

Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu'r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i’ch enw a’ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio’ch manylion cyn cyhoeddi’ch ymateb.

Dylech hefyd fod yn ymwybodol o'n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth a’i bod yn bosibl y bydd Llywodraeth Cymru o dan rwymedigaeth gyfreithiol i ddatgelu gwybodaeth.

Os caiff eich manylion eu cyhoeddi fel rhan o'r ymateb i'r ymgynghoriad, caiff yr adroddiadau cyhoeddedig hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.

Gwybodaeth bellach a dogfennau cysylltiedig

Rhif: WG49299

Gallwch weld y ddogfen hon mewn ieithoedd amgen. Os ydych am gael y ddogfen mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni.