Neidio i'r prif gynnwy

10 Rhagfyr 2020

Penaethiaid Cynllunio, 
Awdurdodau Cynllunio Lleol

Annwyl Gydweithwyr

Mae'r llythyr hwn yn ymwneud â newidiadau i Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995 (“Gorchymyn 1995”). 

Mae Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) (Diwygio) (Rhif 3) (Cymru) 2020 (“y Gorchymyn diwygio”) yn cyflwyno Rhan 6A Mannau Tyfu Cymunedol newydd i Atodlen 2 i Orchymyn 1995. Mae'r Gorchymyn diwygio hefyd yn gweithredu'r darpariaethau sy'n weddill o ymgynghoriad 2018 ar newidiadau i Ran 24 Datblygu Telathrebu gan Weithredwyr Cod Cyfathrebu Electronig (Cydgrynhoi ac Adolygu Is-ddeddfwriaeth, 2018), a throsi Cyfarwyddeb 2018/1972 Senedd Ewrop. Daw'r newidiadau i rym ar 21 Rhagfyr 2020.

Rhan 6A Mannau Tyfu Cymunedol Newydd

Mae'r Rhan 6A newydd yn darparu hawliau datblygu a ganiateir (HDGau) ar gyfer gwaith datblygu sy'n cynnwys codi, estyn, addasu neu ddisodli siediau storio a thai gwydr mewn ‘man tyfu cymunedol’, sydd, at ddibenion y ddeddfwriaeth, wedi'i ddiffinio fel a ganlyn:

(a)    rhandir gan gynnwys gardd rhandir o fewn ystyr Deddf Rhandiroedd 1922; neu
(b)    unrhyw dir arall a ddefnyddir neu y bwriedir ei ddefnyddio -

i.    gan un neu fwy o gymunedau,
ii.    yn gyfan gwbl neu'n bennaf i dyfu llysiau, ffrwythau, perlysiau neu flodau,
iii.    mewn ffordd nad yw'n anelu at wneud elw.

Mae'r HDG yn ddarostyngedig i'r cyfyngiadau canlynol: 

Arwynebedd y Safle a nifer y siediau storio a thai gwydr a ganiateir:

  • Ar gyfer safleoedd sy'n mesur 125 metr sgwâr neu fwy, caniateir un sied storio ac un tŷ gwydr. Fodd bynnag, nid yw'r HDGau yn caniatáu codi dwy sied storio neu ddau dŷ gwydr ar lain o dir o'r maint hwn.
  • Ar gyfer safleoedd sy'n mesur rhwng 62 metr sgwâr a llai na 125 metr sgwâr, caniateir un sied storio neu un tŷ gwydr.
  • Ni chaiff safleoedd sy'n mesur llai na 62 metr sgwâr mewn arwynebedd fudd o HDGau. 
  • Maint y siediau storio a thai gwydr a ganiateir: 
  • Ni ddylai pob sied storio neu dŷ gwydr fod yn fwy nag arwynebedd daear o 6 metr sgwâr pan y'i mesurir y tu allan.
  • Ni ddylai pob sied storio neu dŷ gwydr fod yn fwy na 2.2 metr o uchder.

Nid yw'r HDGau yn gymwys lle:

  • byddai'r datblygiad mewn ardal warchodedig, sef tir erthygl 1(5). Tir yw hwn a geir mewn Parciau Cenedlaethol, ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol ac ardaloedd cadwraeth.
  • byddai'r datblygiad ar dir mewn Safle Treftadaeth y Byd;
  • byddai'r datblygiad yng nghwrtil adeilad rhestredig; neu
  • byddai'r datblygiad o fewn:
    • 8 metr i brif afon nad yw'n afon lanw (neu o fewn 8 metr i unrhyw amddiffynfeydd llifogydd neu gwlfert ar yr afon honno); neu 
    • o fewn 16 metr i brif afon lanw (neu o fewn 16 metr i unrhyw amddiffynfeydd llifogydd neu gwlfert ar yr afon honno).

Caiff canllawiau i ddefnyddwyr eu cynnwys fel rhan o ddogfen ganllaw ehangach ar dyfu cymunedol, sef “Canllawiau i dyfwyr a grwpiau tyfu”, a gyhoeddir ar wefan Lywodraeth Cymru yn fuan.

Rhan 24 Datblygu Telathrebu gan Weithredwyr Cod Cyfathrebu Electronig (Cymru)

Mae prif fwriad polisi darpariaethau sy'n weddill ymgynghoriad Rhan 24 2018 a Chyfarwyddeb 2018/1972 yr UE yn debyg yn yr ystyr eu bod yn anelu at leihau cyfyngiadau cynllunio sy'n gysylltiedig â'r hyn a fyddai'n nodweddiadol wedi'i ddisgrifio fel “antena bach” neu “antena cell fach” yn flaenorol. Diben hyn yw gallu cyflwyno technoleg 4G a 5G yn fwy effeithiol yn yr amgylchedd stryd ac mewn mannau eraill, ynghyd â busnesau a gwasanaethau digidol mwy newydd y bwriedir i'r cyfarpar hwn eu cefnogi hefyd.

Newidiadau sy'n gysylltiedig ag ymgynghoriad 2018 ar Ran 24 Gorchymyn 1995 - Datblygu gan Weithredwyr Cod Cyfathrebu Electronig (Cymru).

Cafodd Rhan 24 ei diweddaru ddiwethaf ym mis Ebrill 2019 gan Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) (Diwygio) (Cymru) 2019. Gwnaeth gorchymyn diwygio 2019 ddisodli'r Rhan 24 flaenorol yn ei chyfanrwydd. Fodd bynnag, roedd darpariaethau yn ymwneud â diwygio diffiniad a nodweddion rhai antenâu ar adeiladau, yn bennaf antena bach ac antena cell fach, yn weddill o hyd. Mae'r llythyr hwn yn mynd i'r afael â'r darpariaethau hynny sy'n weddill.

Y prif newidiadau yw:

  • yn lle'r termau “small antenna” a “small cell antenna”, a'r diffiniadau ohonynt, rhodder y term “small cell system”,
  • defnyddir diffiniad newydd o “small cell system” yn seiliedig ar y diffiniad blaenorol o “small cell antenna”
  • estynnir hawliau datblygu a ganiateir mewn perthynas â gwaith datblygu sy'n cynnwys gosod, addasu neu ddisodli system cell fach (ni fu unrhyw newid i'r cyfyngiadau ar osod cyfarpar ar anheddau ac adeiladau eraill)
  • Mewn ardaloedd gwarchodedig (heblaw am Ardal Gadwraeth a Safle Treftadaeth y Byd), caniateir 2 antena o'r fath ar annedd, ond ar adeiladau neu strwythurau (heblaw am annedd) ni chyfyngir ar y niferoedd. 
  • Mewn Ardaloedd Cadwraeth a Safleoedd Treftadaeth y Byd, caniateir 1 antena o'r fath ar annedd, a chaniateir 2 antena o'r fath ar adeilad neu strwythur (heblaw am annedd).
  • Y tu allan i ardal warchodedig caniateir 2 antena o'r fath ar annedd, ond ni chyfyngir ar niferoedd antena o'r fath ar adeiladau a strwythurau eraill.

Fel y disgrifir uchod rhodder “small cell system” yn lle'r termau “small antenna” a “small cell antenna”.  Mae dau reswm dros hyn. Yn gyntaf mae'n symleiddio'r ddeddfwriaeth; roedd y Rhan 24 flaenorol yn cynnwys dau derm a diffiniad ar gyfer technoleg a oedd yn cyflawni swyddogaeth debyg. Yn ail, mae'r defnydd o'r term “small cell system” yn golygu y gall cyfarpar atodol yr antena gael ei gynnwys yn yr hawliau datblygu a ganiateir, ac mae “ancillary” wedi cael ei gyflwyno yn y diffiniad newydd o system cell fach.

Dylid nodi bod nifer y systemau cell fach a ganiateir mewn unrhyw amgylchiad penodol yn cynnwys nifer y “Regulation 2020/1070 small cell system” a all gael ei chaniatáu hefyd (gweler yr adrannau ar Gyfarwyddeb yr UE isod). Er enghraifft, ar adeilad neu strwythur mewn Ardal Gadwraeth neu Safle Treftadaeth y Byd efallai y bydd gennych ddwy system cell fach neu ddwy system cell fach Rheoliad 2020/1070, neu un o bob un. 

Yn ogystal â newidiadau i antena bach ac antena cell fach, mae Gorchymyn 1995 wedi cael ei ddiwygio i newid nifer y gweithredwyr antena a chod electronig eraill a ganiateir ar adeiladau a strwythurau, fel a ganlyn: 

  • Cynyddir nifer y systemau antena (heblaw am antena dysgl, systemau cell fach a systemau cell fach Rheoliad 2020/1070) a all gael eu gosod ar rai adeiladau a strwythurau penodol o dri i bedwar.
  • Cynyddu nifer y gweithredwyr cod cyfathrebu electronig a all weithredu systemau antena ar rai adeiladau a strwythurau penodol o dri i bedwar.

Cyfarwyddeb 2018/1972 yr UE Senedd Ewrop

Mae Erthygl 57 o Gyfarwyddeb 2018/1972 yr UE yn ymwneud â defnyddio Pwyntiau Mynediad Di-wifr Ardal Fach (PMDAFau). Caiff PMDAFau eu diffinio yn Erthygl 2(23) o'r Gyfarwyddeb, ac at ddibenion Rhan 24 mae gan PMDAF yr un swyddogaeth â system cell fach.

Dywed Erthygl 57 na chaiff awdurdodau cymwys gyfyngu ar y defnydd o PMDAFau yn ddiangen. Credwn fod gweithredu'r darpariaethau sy'n deillio o ymgynghoriad 2018 yn cydymffurfio â'r ddarpariaeth hon.  Aiff y Gyfarwyddeb ymlaen i ddweud na ddylai'r defnydd o PMDAFau sy'n bodloni rhai nodweddion ffisegol a thechnegol penodol (gweler isod) fod yn ddarostyngedig i drwyddedau cynllunio tref unigol na thrwyddedau blaenorol. Fodd bynnag, drwy ran-ddirymu'r gofynion hyn, caiff awdurdodau cymwys ofyn am drwyddedau i ddefnyddio PMDAFau ar adeiladau neu safleoedd o werth pensaernïol, hanesyddol neu naturiol a warchodir yn unol â chyfraith genedlaethol neu, lle y bo angen, am resymau diogelwch y cyhoedd. 

Rhoddir manylion nodweddion PMDAFau y cyfeirir atynt yn benodol yn Erthygl 57 yn Rheoliad Gweithredu (UE) 2020/1070 y Comisiwn (a gyhoeddwyd ar 20 Gorffennaf 2020). Mae Atodiad 1 isod yn amlinellu'r nodweddion hynny. 

Mae Llywodraeth Cymru wedi pennu bod PMDAF a ddisgrifir o dan Erthygl 57 ac sy'n bodloni nodweddion Rheoliad Gweithredu 2020/1070 yn is-set o system cell fach. Yn hyn o beth, mae antena o'r fath fel sy'n gymwys i Ran 24 o Orchymyn 1995 wedi'i enwi'n “Regulation 2020/1070 small cell systems” fel bod modd gwahaniaethu rhwng y math hwn a systemau cell fach eraill. 

O ganlyniad i'r rhan-ddirymu a ddisgrifir uchod, cyfyngwyd ar niferoedd systemau cell fach Rheoliad 2020/1070 mewn ardaloedd gwarchodedig ac ar Safleoedd Treftadaeth y Byd. Ni chaniateir systemau cell fach Rheoliad 2020/1070 ar Adeiladau Rhestredig na Henebion Cofrestredig, fel yn achos systemau cell fach, oherwydd fe'u rheolir gan gyfundrefnau cydsynio gwahanol. 

Y prif newidiadau i Ran 24 o ganlyniad i Gyfarwyddeb 2018/1972 yr UE yw:

  • Ceir diffiniad o systemau cell fach Rheoliad 2020/1070. 
  • Mewnosodir system cell fach Rheoliad 2020/1070 lle y bo'n briodol yn nhestun Rhan 24.
  • Mewn ardaloedd gwarchodedig (heblaw am Ardal Gadwraeth a Safle Treftadaeth y Byd), caniateir systemau cell fach Rheoliad 2020/1070 ar annedd, ond ar adeiladau neu strwythurau (heblaw am annedd) ni chyfyngir ar y niferoedd. 
  • Mewn Ardaloedd Cadwraeth a Safleoedd Treftadaeth y Byd, caniateir 1 antena o'r fath ar annedd, a chaniateir 2 antena o'r fath ar adeilad neu strwythur (heblaw am annedd).
  • Mewn ardaloedd gwarchodedig ac ar Safleoedd Treftadaeth y Byd, mae cyfyngiadau ar leoliad antena ar anheddau ac adeiladau eraill yr un peth â systemau cell fach.
  • Y tu allan i ardaloedd gwarchodedig, ni chyfyngir ar niferoedd antena o'r fath ar anheddau nac ar adeiladau a strwythurau eraill.

Gofynion Hysbysu

Noda Erthygl 3(3) o'r Rheoliad Gweithredu y bydd yn rhaid i weithredwyr sydd wedi defnyddio PMDAFau (systemau cell fach Rheoliad 2020/1070) dosbarth E2 neu E10 (fel y'u diffinnir yn Safonau Ewropeaidd 62232:2017) hysbysu'r awdurdod cymwys cenedlaethol o fewn pythefnos i ddefnyddio pob pwynt o'r fath ynghylch ei osod a'i leoliad, yn ogystal â'r gofynion maent wedi'u bodloni o ran ei nodweddion a'i wedd. Ystyriwn mai'r awdurdod cynllunio lleol yw'r awdurdod cymwys cenedlaethol yn hyn o beth. Mae Llywodraeth y DU a'r Gweinyddiaethau Datganoledig eraill o'r un farn.

Erthygl 4 Gorchymyn 1995 

Er mwyn cydymffurfio â Chyfarwyddeb 2018/1972 yr UE, mae Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) (Diwygio) (Rhif 3) (Cymru) 2020 yn diwygio Erthygl 4 o Orchymyn 1995 fel na ellir cyflwyno cyfarwyddyd sy'n cyfyngu ar gwmpas hawliau datblygu a ganiateir i'r graddau y mae'r gwaith datblygu yn cynnwys gosod, addasu neu ddisodli system cell fach Rheoliad 2020/1070.

Newidiadau canlyniadol

Gwneir nifer o newidiadau canlyniadol hefyd. Cyfeirir at seilwaith telathrebu yng Ngorchymyn 1996 yn Rhan 1 Datblygu o fewn Cwrtil Tŷ Annedd a Rhan 25 Datblygu Telathrebu Arall. Mae'r ddwy ran yn cyfeirio at osod antena microdon (antena lloeren) ac yn nodi y bydd uchafswm nifer yr antena (antena microdon), at ddiben y paragraff priodol ym mhob rhan, yn cynnwys unrhyw antena bach a ganiateir o dan Ddosbarth A o Ran 24. Felly, o dan y cynigion newydd, caiff y cyfeiriad at antena bach ei ddileu ac yn ei le rhoddir systemau cell fach a systemau cell fach Rheoliad 2020/1070 lle maent yn gymwys.

Yn gywir,

Neil Hemington 
Prif Gynllunydd | Chief Planner 
Cyfarwyddiaeth Cynllunio | Planning Directorate

Atodiad 1

Rheoliad Gweithredu (UE) 2020/1070 y Comisiwn – Atodiad 1 (A) a (B)

Mae Erthygl 3(1) o'r Rheoliadau Gweithredu yn nodi nodweddion ffisegol a thechnegol PMDAFau y cyfeirir atynt yn ail baragraff Erthygl 57(1). Ym mhob achos, rhaid i'r PMDAFau y cyfeirir atynt yn ail baragraff Erthygl 57(1) gydymffurfio â gofynion y safon Ewropeaidd a osodir ym mhwynt B o'r Atodiad, ac yna gael eu hintegreiddio'n llawn ac yn ddiogel yn eu strwythur cynhaliol, ac felly fod yn weladwy i'r cyhoedd, neu fodloni'r amodau canlynol ym mhwynt A o'r Atodiad:

A. Yr amodau y cyfeirir atynt ym mhwynt (b) o Erthygl 3(1)

  1. Ni fydd cyfanswm cyfaint y rhan sy'n weladwy i'r cyhoedd o bwynt mynediad di-wifr ardal fach sy'n gwasanaethu un neu ragor o ddefnyddwyr sbectrwm radio yn fwy na 30 litr.
  2. Ni fydd cyfanswm cyfaint y rhannau sy'n weladwy i'r cyhoedd o sawl pwynt mynediad di-wifr ardal fach gwahanol sy'n rhannu'r un safle seilwaith ar wyneb anghyfyngedig unigol megis polyn golau, golau traffig, hysbysfwrdd mawr neu safle bws, yn fwy na 30 litr.
  3. Lle bydd y system antena ac elfennau eraill, megis uned amledd radio, prosesydd digidol, uned storio, system oeri, cyflenwad trydan, cysylltiadau ceblau, elfennau ôl-drosglwyddo neu elfennau daearu a gosod yn sownd, pwynt mynediad di-wifr ardal fach wedi'u gosod ar wahân, bydd unrhyw ran sy'n fwy na 30 litr o'r golwg i'r cyhoedd.
  4. Bydd y pwynt mynediad di-wifr ardal fach yn edrych yn debyg i'r strwythur cynhaliol a bydd iddo faint cymesur sy'n berthynol i faint cyffredinol y strwythur cynhaliol, a siâp cydlynol a lliwiau niwtral sy'n gweddu i'r strwythur cynhaliol, a bydd y ceblau o'r golwg, ac ni fydd, ynghyd â phwyntiau mynediad di-wifr ardal fach eraill sydd eisoes wedi'u gosod ar yr un safle neu ar safleoedd cyfagos, yn creu annibendod o'u gosod gyda'i gilydd.
  5. Ni fydd pwysau pwynt mynediad di-wifr ardal fach na'i siâp yn golygu bod angen atgyfnerthu'r strwythur cynhaliol yn strwythurol.
  6. Dim ond yn yr awyr agored neu mewn ardal fawr dan do, lle mae uchder y nenfwd yn 4m o leiaf, y defnyddir pwynt mynediad di-wifr ardal fach o ddosbarth gosod E10.  

B. Gofynion y safon Ewropeaidd y cyfeirir ati yn Erthygl 3(1)

  1. Bydd y defnydd o bwyntiau mynediad di-wifr ardal fach yn unol â dosbarthiadau gosod E0, E2 ac E10 Tabl 2 o gymal 6.2.4 o safon Ewropeaidd EN 62232:2017 ‘Determination of RF field strength, power density and specific absorption rate (SAR) in the vicinity of radio communication base stations for the purpose of evaluating human exposure’.
  2. Yn achos sawl system antena a leolir gyda'i gilydd (neu rannau ohonynt) sy'n perthyn i un neu ragor o bwyntiau mynediad di-wifr ardal fach sy'n ddarostyngedig i'r Rheoliad hwn, bydd meini prawf y Pŵer Pelydredig Isotropig Effeithiol (EIRP) a geir yn y safon y cyfeirir ati ym mhwynt 1 yn gymwys i swm EIRP yr holl systemau antena a leolir gyda'i gilydd (neu rannau ohonynt).