Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg

Mae'r canllawiau statudol ar bolisïau gwisg ysgol ac edrychiad disgyblion ar gyfer cyrff llywodraethu a phenaethiaid, i’w defnyddio wrth lunio, gweithredu neu newid polisi gwig ysgol ac edrychiad disgyblion. Mae'r ymgynghoriad hwn yn casglu safbwyntiau rhanddeiliaid i lywio newidiadau i'r canllawiau statudol, yn benodol ynghylch cost a fforddiadwyedd gwisg ysgol.

Diben yr ymgynghoriad hwn

Rydym yn gwybod y gall gwisg ysgol ac eitemau tebyg eraill fod yn faich ariannol, yn enwedig ar gyfer teuluoedd incwm isel a theuluoedd mawr.

Mae’r argyfwng costau byw wedi golygu bod teuluoedd yn profi toriadau i’w cyllidebau cartref. Er bod llawer o deuluoedd incwm is yn gymwys ar gyfer y Grant Datblygu Disgyblion - Mynediad, y cynllun mwyaf hael yn y DU, gwyddom fod miloedd o deuluoedd yn parhau i gael amser anodd yn ariannol. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wneud popeth o fewn ei gallu i helpu pobl gyda chostau byw.

Ysgrifennodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg at Gyrff Llywodraethu ysgolion a gynhelir ym mis Awst, gan roi gwybod iddynt am y bwriad i ddiweddaru canllawiau gwisg ysgol. Mae'r Gweinidog â'i fryd ar wneud newidiadau fel y bydd gofyn i bob corff llywodraethu adolygu eu polisi gwisg ysgol presennol.

Mae'r ymgynghoriad hwn yn gofyn am farn pobl am newidiadau arfaethedig i ganllawiau statudol Llywodraeth Cymru ar bolisïau gwisg ysgol ac edrychiad disgyblion.

Bydd pob ymateb yn cael ei ystyried. Bydd adroddiad cryno yn cynnwys yr ymatebion yn cael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru ar ddiwedd yr ymgynghoriad.

Beth yw'r sefyllfa bresennol

Nid oes deddfwriaeth addysg sy'n ymwneud yn benodol â gwisgo gwisg ysgol nac agweddau eraill ar edrychiad unigolion megis lliw a steil gwallt a gwisgo gemwaith a cholur. Fodd bynnag, fel rhan o'i gyfrifoldeb am y ffordd y caiff yr ysgol ei rhedeg, gall corff llywodraethu bennu gwisg ysgol y mae'n ofynnol i ddisgyblion ei gwisgo a rheolau eraill yn ymwneud â'u hedrychiad. Mae pwerau Gweinidogion Cymru i gyhoeddi'r canllawiau statudol hyn yn y maes hwn i'w gweld mewn nifer o ddarpariaethau deddfwriaethol.

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu canllawiau statudol ar gyfer cyrff llywodraethu ysgolion ar bolisïau gwisg ysgol ac edrychiad disgyblion. Mae’r ddogfen hon ar wefan Llywodraeth Cymru.

Disgwylir i gyrff llywodraethu a phenaethiaid ystyried y canllawiau statudol hyn gan Lywodraeth Cymru wrth roi polisïau gwisg ysgol ac edrychiad disgyblion ar waith, neu eu newid.

Pam rydyn ni’n cynnig newid

Mae Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg yn dymuno ymgynghori ar elfennau o'r canllawiau statudol oherwydd yr argyfwng costau byw parhaus a materion yn ymwneud â fforddiadwyedd gwisg ysgol.

Mae’r canllawiau presennol yn nodi ‘Bydd cyrff llywodraethu yn rhoi blaenoriaeth uchel i ystyriaethau o ran costau a fforddiadwyedd. Ni ddylai unrhyw wisg ysgol fod mor ddrud fel bod disgyblion neu eu teuluoedd yn teimlo na allant wneud cais am le mewn ysgol benodol neu na allant fynd i ysgol benodol’. Rydym wedi clywed bod cost gwisg ysgol rhai o ysgolion Cymru yn anfforddiadwy i lawer o deuluoedd. Rydym yn gwybod y gall logos, yn ogystal ag anhyblygrwydd y mae rhai rhieni a gofalwyr yn ei wynebu o ran dewis ble i brynu, fod yn ffactor sylweddol o ran fforddiadwyedd gwisg ysgol. Mewn ymateb i hyn, rydym yn bwriadu newid ein canllawiau statudol ac felly rydym yn ceisio sylwadau gan randdeiliaid allweddol ledled Cymru drwy'r ymgynghoriad hwn.

Beth rydyn ni'n ei gynnig

  • Rydym am glywed barn ynghylch a oes angen gwisg ysgol â brand mewn ysgolion, er mwyn penderfynu ar newidiadau i'r canllawiau statudol mewn perthynas â logos gwisg ysgol.
  • Rydym am glywed barn ynghylch a ddylid defnyddio trefniadau gyda chyflenwr unigol i ddarparu gwisg ysgol er mwyn penderfynu ar newidiadau i'r canllawiau statudol mewn perthynas â threfniadau cyflenwyr unigol.
  • Rydym am glywed barn ynghylch  a ddylai ysgolion roi cynlluniau cyfnewid/ailgylchu gwisg ysgol ar waith, er mwyn penderfynu ar newidiadau i'r canllawiau statudol mewn perthynas â chynlluniau cyfnewid/ailgylchu gwisg ysgol.

Pa ganlyniadau ydyn ni’n eu disgwyl

  • Bydd yn rhaid i gyrff llywodraethu ysgolion ystyried fforddiadwyedd wrth bennu eu polisi gwisg ysgol ac edrychiad disgyblion gan ystyried effeithiau ariannol eu polisi ar deuluoedd.
  • Bydd yn rhaid i gyrff llywodraethu ysgolion ystyried fforddiadwyedd ac argaeledd eitemau o wisg ysgol wrth bennu eu polisi gwisg ysgol ac edrychiad disgyblion.
  • Bydd cyrff llywodraethu ysgolion yn adolygu eu polisi gwisg ysgol presennol er mwyn sicrhau ei fod yn cyd-fynd ag unrhyw ganllawiau statudol wedi'u diweddaru.

Cwestiynau’r ymgynghoriad

Cwestiwn 1

Ydych chi'n cytuno y dylai cyrff llywodraethu ysgolion flaenoriaethu fforddiadwyedd wrth osod eu polisi gwisg ysgol ac edrychiad disgyblion?

  • Cytuno
  • Anghytuno
  • Ddim yn cytuno nac yn anghytuno

Cwestiwn 2

Ydych chi’n cytuno y dylai cyrff llywodraethu ysgolion sicrhau argaeledd a mynediad hawdd at eitemau gwisg ysgol wrth bennu eu polisi gwisg ysgol ac edrychiad disgyblion?

  • Cytuno
  • Anghytuno
  • Ddim yn cytuno nac yn anghytuno

Cwestiwn 3

Ydych chi'n cytuno na ddylai logos fod yn ofynnol ar wisgoedd ysgol?

  • Cytuno
  • Anghytuno
  • Ddim yn cytuno nac yn anghytuno

Cwestiwn 4

Ydych chi'n cytuno y dylai logos gael eu cyfyngu i un dilledyn allanol, er enghraifft siwmper, cardigan neu siaced/blaser?

  • Cytuno
  • Anghytuno
  • Ddim yn cytuno nac yn anghytuno

Cwestiwn 5

Ydych chi'n cytuno y dylid darparu bathodynnau logo y gellir eu smwddio neu eu gwnïo ymlaen, yn rhad ac am ddim?

  • Cytuno
  • Anghytuno
  • Ddim yn cytuno nac yn anghytuno

Cwestiwn 6

Ydych chi'n cytuno na ddylai logos fod yn ofynnol ar ddillad chwaraeon ysgol a gwahanol fathau o offer ysgolion?

  • Cytuno
  • Anghytuno
  • Ddim yn cytuno nac yn anghytuno

Cwestiwn 7

Mae nifer o ysgolion yn sefydlu trefniadau gyda chyflenwr unigol i ddarparu gwisg ysgol. Mae hynny’n golygu nad oes modd dewis ble i brynu eitemau gwisg ysgol â brand. A ydych chi’n cytuno y dylai ysgolion osgoi trefniadau gyda chyflenwr unigol ar gyfer darparu gwisgoedd ysgol â brand?

  • Cytuno
  • Anghytuno
  • Ddim yn cytuno nac yn anghytuno

Cwestiwn 8

Ydych chi'n cytuno y dylai ysgolion fod yn dryloyw wrth ddangos bod unrhyw fudd o gytundeb ariannol sydd ganddyn nhw gyda chyflenwyr gwisg ysgol yn cael ei drosglwyddo i'r cwsmer?

  • Cytuno
  • Anghytuno
  • Ddim yn cytuno nac yn anghytuno

Cwestiwn 9

Ydych chi'n cytuno, os bydd ysgolion yn ymrwymo i gytundeb gyda chyflenwyr gwisg ysgol, y dylent sicrhau bod costau defnyddio'r cyflenwr hwn yn debyg i brisiau gwisgoedd ysgol manwerthwyr y stryd fawr neu archfarchnadoedd?

  • Cytuno
  • Anghytuno
  • Ddim yn cytuno nac yn anghytuno

Cwestiwn 10

Ydych chi'n cytuno y dylai ysgolion weithredu cynllun cyfnewid a/neu ailgylchu gwisg ysgol fyddai ar gael i deuluoedd?

  • Cytuno
  • Anghytuno
  • Ddim yn cytuno nac yn anghytuno

Cwestiwn 11

Hoffem wybod eich barn ar yr effeithiau y byddai'r canllawiau ar bolisïau gwisg ysgol ac edrychiad disgyblion yn eu cael ar yr iaith Gymraeg, yn benodol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg, a pheidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. 

Pa effeithiau y byddai’n eu cael, yn eich barn chi? Sut y gellid cynyddu’r effeithiau cadarnhaol a lliniaru’r effeithiau negyddol? 

Cwestiwn 12

Eglurwch hefyd sut gellid llunio neu newid y canllawiau ar bolisïau gwisg ysgol ac edrychiad disgyblion er mwyn iddynt gael effeithiau cadarnhaol ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg; a pheidio â chael effeithiau andwyol ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. 

Defnyddiwch y ffurflen ymateb i’r ymgynghoriad i ymateb i’r cwestiynau uchod.

Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR Y DU)

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a roddir gennych wrth ichi ymateb i'r ymgynghoriad. Bydd Gweinidogion Cymru yn dibynnu ar y pwerau statudol sydd ganddynt i brosesu'r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau hyddysg ar y ffordd y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy’n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymdrin â hwy neu drefnu ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Os bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o'r ymatebion i'r ymgynghoriad, gellir comisiynu'r gwaith hwn i'w gwblhau gan drydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori). Dim ond o dan gontract y caiff unrhyw waith o'r fath ei wneud. Mae amodau a thelerau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu data personol a'u cadw'n ddiogel.

Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae'n bosibl y byddwn hefyd yn cyhoeddi'r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu'r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda'r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i'ch enw a'ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, nodwch hynny wrth i chi ddychwelyd eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio eich manylion cyn cyhoeddi eich ymateb.

Dylech hefyd fod yn ymwybodol o'n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth.

Os caiff eich manylion eu cyhoeddi fel rhan o'r ymateb i'r ymgynghoriad, yna caiff yr adroddiadau hyn a gyhoeddir eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu'r data
  • (o dan rai amgylchiadau) i'ch data gael eu ‘dileu’
  • (o rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data, gweler y manylion cyswllt isod:

Y Swyddog Diogelu Data:

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: Data.ProtectionOfficer@llyw.cymru

Dyma fanylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
K9 5AF

Ffon: 01625 545 745 neu 0303 123 1113

Gwefan: ico.org.uk

Gwybodaeth bellach a dogfennau cysylltiedig

Gellir gwneud cais am fersiynau o'r ddogfen hon mewn print bras, Braille neu mewn ieithoedd eraill.

Canllawiau statudol ar bolisïau gwisg ysgol ac edrychiad disgyblion

Gellir dod o hyd i ddogfennau'r ymgynghoriad ar wefan Llywodraeth Cymru.