Neidio i'r prif gynnwy

Mae newidiadau i’r polisi cynllunio wedi cael eu cyhoeddi gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i ganiatáu i gynghorau Cymru brynu tai a thir gwag o dan bwerau prynu gorfodol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Hydref 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn dilyn ymgynghoriad, bydd y rheolau newydd yn cryfhau pwerau sy’n caniatáu i gynghorau brynu tir gwag ac adeiladau segur yng Nghymru o dan orchymyn prynu gorfodol, i sicrhau eu bod yn cael eu defnyddio, pan fydd gwneud hynny o fudd i’r cyhoedd.

Hefyd cyhoeddodd y Gweinidog ymgynghoriad newydd ar ddiwygiadau eraill i symleiddio a moderneiddio’r gweithdrefnau prynu gorfodol i ategu’r broses o wella o’r pandemig, a rhyddhau tir i gynyddu’r cyflenwad o dai fforddiadwy – un o flaenoriaethau Llywodraeth Cymru.

Wrth i Gymru ddechrau gwella o’r pandemig, mae nifer o feysydd â blaenoriaeth wedi cael eu nodi, gan gynnwys datblygu cynaliadwy, adeiladu tai ac adfywio canol trefi. Mae’r newidiadau i symleiddio’r broses prynu gorfodol yn ategu argymhellion yr Adolygiad annibynnol o’r cyflenwad o dai fforddiadwy ac yn gwella’r Gorchmynion Rheoli Anheddau Gwag. Bydd hyn yn sicrhau y gellir parhau i weithredu’n effeithiol yn y meysydd allweddol hyn. Gyda thua 30,000 o dai gwag yng Nghymru, gellir defnyddio’r tir gwag i gynyddu’r cyflenwad o dai a dechrau defnyddio adeiladau masnachol gwag ac adeiladau gwag eraill, gan helpu i greu cyfleoedd newydd ar gyfer swyddi mewn cymunedau lleol.    

Mae mynd i’r afael â’r broblem o adeiladau gwag a sicrhau eu bod yn cael eu defnyddio wedi bod yn rhan allweddol o’r gwaith o fewn y rhaglen Trawsnewid Trefi gwerth £90 miliwn. Ym mis Mawrth neilltuwyd £15.2 miliwn i fynd i’r afael â 66 o’r adeiladau gwag gwaethaf yng Nghymru a sicrhau eu bod yn cael eu defnyddio. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn darparu rhaglen gymorth helaeth sy’n cynnwys dysgu awdurdodau lleol sut i ddefnyddio eu pwerau i’w llawn potensial.  

Dywedodd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Lleol, Julie James:

“Mewn trefi a phentrefi ledled Cymru rydyn ni’n gweld tai gwag, adeiladau masnachol segur a thir gwag – ac yn aml maen nhw’n hyllbeth ar gyfer cymunedau lleol. Mae gwella’r cyflenwad o dai yn y lleoliadau cywir drwy’r system gynllunio’n hanfodol, ac rydyn ni’n benderfynol o wneud popeth yn ein gallu i helpu i adeiladu’r cartrefi sydd eu heisiau ar bobl, a helpu i greu swyddi yn agosach at gartrefi pobl.

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi creu lleoedd wrth wraidd y system gynllunio yng Nghymru, ac mae’n credu bod pwerau prynu gorfodol yn offeryn gweithredu pwysig sy’n gallu helpu awdurdodau a chymunedau i adfer o argyfwng COVID-19. Os ydyn nhw’n cael eu defnyddio mewn modd priodol, gall pwerau prynu gorfodol gyfrannu at adfywio effeithiol ac effeithlon, rhoi bywyd newydd i gymunedau, creu lleoedd a hybu busnes, gan arwain at ansawdd bywyd gwell.

Nid yn unig y bydd y newidiadau hyn i bolisi cynllunio yn gwneud y broses yn decach, byddan nhw hefyd yn tynnu rhwystrau ac yn helpu cynghorau lleol a chyrff cyhoeddus i wneud newidiadau cadarnhaol yn eu cymunedau.”