Neidio i'r prif gynnwy

Data ar brofion, achosion newydd, buchesi o dan gyfyngiadau a gwartheg a laddwyd â TB buchol ar y gyfer Hydref 2019.

Mae datganiad Ystadegau Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) yn cynnwys ystadegau ar sail yr ardaloedd TB yng Nghymru, ac mae'r pennawd ystadegol hwn yn seiliedig arno.

Nifer y buchesi ag achosion newydd o TB

Siart yn dangos y tueddiad o ran achosion mewn buchesi newydd ers 2008. Roedd 666 o achosion newydd yn ystod y 12 mis hyd Hydref 2019, sy’n ostyngiad o 12% o’i gymharu â’r 12 mis blaenorol.

  • Yn y 12 mis hyd at fis Hydref 2019, cofnodwyd 666 o fuchesi ag achosion newydd o TB yng Nghymru.
  • Dyma ostyngiad o 12% o’i gymharu â’r 12 mis blaenorol pan gofnodwyd 754 o achosion newydd.

Anifeiliaid gafodd eu difa i reoli TB

Siart yn dangos y tueddiad o ran anifeiliaid a gafodd eu difa er mwyn rheoli TB yng Nghymru ers 2008. Cafodd 12,742 o anifeiliaid eu difa yn ystod y 12 mis hyd Hydref 2019, sy’n gynnydd o 24% o’i gymharu â’r 12 mis blaenorol.

  • Yn y 12 mis hyd at fis Hydref 2019, cafodd 12,742 o wartheg eu lladd i reoli TB Gwartheg.
  • Dyma gynnydd o 24% o’i gymharu â’r 12 mis blaenorol pan gafodd 10,303 o wartheg eu lladd.

Rhagor o wybodaeth

Mae'r duedd gyffredinol ar gyfer anifeiliaid sy'n cael eu lladd oherwydd rheolaeth TB buchol yn amrywiol. Gellir priodoli llawer o’r cynnydd diweddar ers 2014 i’r defnydd cynyddol o brofion sensitif iawn. Er enghraifft, mae profion gama, gwaredu Adweithyddion Amhendant a dehongli manwl o’r prawf croen oll wedi’u defnyddio er mwyn ceisio gwaredu heintiau a lleihau’r perygl y gallai’r clefyd ledu ac y gallai achosion o’r clefyd ddigwydd eto.

Fel y dengys yn y siart, mae’r gyfres fisol yn hynod o amrywiol, a gellir disgwyl adegau a brigau o bryd i’w gilydd. Bu cynnydd yn y tuedd ers cyrraedd yr uchafbwynt ym mis Hydref 2018. Cyhoeddwyd dadansoddiad pellach o’r duedd hon ar ffurf erthygl ystadegol: Dadansoddiad o'r nifer o anifeiliaid gafodd eu difa i reoli TB, Hydref 2018 i Mehefin 2019.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.