Neidio i'r prif gynnwy

Data ar brofion, achosion newydd, buchesi o dan gyfyngiadau a gwartheg a laddwyd â TB buchol ar y gyfer Medi 2020.

Mae datganiad Ystadegau Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) yn cynnwys ystadegau ar sail yr ardaloedd TB yng Nghymru, ac mae'r pennawd ystadegol hwn yn seiliedig arno.

Cwblhawyd 6% yn llai o brofion TB yn ystod y cyfnod Ebrill i Medi 2020 o'i gymharu â'r un cyfnod y flwyddyn flaenorol. Mae cyfran o'r rhain oherwydd profion hwyr. Dim ond pan ystyriwyd ei bod yn ddiogel gwneud hynny wrth gynnal pellter cymdeithasol y cynhaliwyd profion.

Nifer y buchesi ag achosion newydd o TB

Image
Siart yn dangos y tueddiad o ran achosion mewn buchesi newydd ers 2008. Roedd 615 o achosion newydd yn ystod y 12 mis hyd Medi 2020, sy’n ostyngiad o 10% o’i gymharu â’r 12 mis blaenorol.

 

Yn y 12 mis hyd at fis Medi 2020, cofnodwyd 615 o fuchesi ag achosion newydd o TB yng Nghymru. Dyma ostyngiad o 10% o’i gymharu â’r 12 mis blaenorol pan gofnodwyd 683 o achosion newydd.

Anifeiliaid gafodd eu difa i reoli TB

Image
Siart yn dangos y tueddiad o ran anifeiliaid a gafodd eu difa er mwyn rheoli TB yng Nghymru ers 2008. Cafodd 10,123 o anifeiliaid eu difa yn ystod y 12 mis hyd Medi 2020, sy’n ostyngiad o 23% o’i gymharu â’r 12 mis blaenorol.

 

Yn y 12 mis hyd at fis Medi 2020, cafodd 10,123 o wartheg eu lladd i reoli TB Gwartheg.  Dyma ostyngiad o 23% o’i gymharu â’r 12 mis blaenorol pan gafodd 13,078 o wartheg eu lladd.

Rhagor o wybodaeth

Mae'r duedd gyffredinol ar gyfer anifeiliaid sy'n cael eu lladd oherwydd rheolaeth TB buchol yn amrywiol. Gellir priodoli llawer o’r cynnydd diweddar ers 2014 i’r defnydd cynyddol o brofion sensitif iawn. Er enghraifft, mae profion gama, gwaredu Adweithyddion Amhendant a dehongli manwl o’r prawf croen oll wedi’u defnyddio er mwyn ceisio gwaredu heintiau a lleihau’r perygl y gallai’r clefyd ledu ac y gallai achosion o’r clefyd ddigwydd eto.

Fel y dengys yn y siart, mae’r gyfres fisol yn hynod o amrywiol, a gellir disgwyl adegau a brigau o bryd i’w gilydd. Bu cynnydd yn y tuedd ers cyrraedd yr uchafbwynt ym mis Hydref 2018 hyd ddiwedd 2019. Cyhoeddwyd dadansoddiad pellach o’r duedd hon ar ffurf erthygl ystadegol: Dadansoddiad o'r nifer o anifeiliaid gafodd eu difa i reoli TB, Hydref 2018 i Mehefin 2019.

Amledd adrodd

Cynhaliodd Defra Arolwg Defnyddwyr Ystadegau yn ystod yr haf i ymgysylltu â defnyddwyr a cheisio adborth ar gyhoeddiadau Twbercwlosis Buchol (bTB). Arolwg oedd hwn ac nid ymarfer ymgynghori ffurfiol, sy'n gyson â'r canllawiau a gyflwynir yn y Cod Ymarfer Ystadegau. Prif nod yr ymarfer hwn oedd mesur cefnogaeth o symud amlder adrodd o fis i chwarter.

Mae Defra yn bwriadu dod â'r datganiadau ystadegau swyddogol wyth misol a gyhoeddir bob blwyddyn i ben. Ymgynghorwyd â'r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau hefyd ac nid oes ganddynt unrhyw bryderon rheoliadol fel o dan y Cod Ymarfer mae gan gynhyrchwyr ystadegau (Defra) gyfrifoldeb i adolygu a ddylid parhau, terfynu neu addasu eu datganiadau.

Cyhoeddiad ystadegau misol bTB Awst 2020 oedd y cyhoeddiad misol olaf, fodd bynnag, mae datganiadau chwarterol yn parhau. Bydd data misol yn dal i gael ei ddarparu yn y cyhoeddiad chwarterol ond dim ond bob chwarter, yn debyg i ddangosfwrdd gwyliadwriaeth TB Llywodraeth Cymru. Oherwydd anwadalrwydd y data misol, ni ellir ystyried diweddariadau misol yn rhagfynegydd dibynadwy o'r tueddiadau cyffredinol.

Cyhoeddwyd ymateb llawn yr arolwg gan Defra ar eu tudalennau ystadegau TB Buchol.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.