Neidio i'r prif gynnwy

Data ar brofion, achosion newydd, buchesi o dan gyfyngiadau a gwartheg a laddwyd â TB buchol ar y gyfer Medi 2023.

Mae datganiad Ystadegau Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) yn cynnwys ystadegau ar sail yr ardaloedd TB yng Nghymru, ac mae'r pennawd ystadegol hwn yn seiliedig arno.

Nifer y buchesi ag achosion newydd o TB

Ffigur 1: Buchesi ag achosion nwydd o TB yng Nghymru, Ionawr 2008 i Medi 2023

Image

Disgrifiad o Ffigwr 1: Siart llinell a bar yn dangos y tueddiad o ran achosion newydd mewn buchesi yng Nghymru ers 2008. Mae’r bariau glas golau yn nodi nifer yr achosion newydd bob mis tra bo’r llinell dywyll yn nodi cyfartaledd treigl o achosion newydd dros 12 mis. Roedd 644 o achosion newydd yn ystod y 12 mis hyd at fis Medi 2023, sy’n gynnydd o 6.4% o’i gymharu â’r 12 mis blaenorol pan oedd 605 o achosion newydd.

Ffynhonnell: Cyhoeddi ystadegau TB buchol Defra ar 13 Rhagfyr 2023.

Anifeiliaid gafodd eu lladd i reoli TB

Ffigur 2: Anifeiliaid a laddwyd yng Nghymru, Ionawr 2008 i Fedi 2023

Image

Disgrifiad o Ffigwr 2: Siart llinell a bar yn dangos y tueddiad o ran anifeiliaid sydd wedi cael eu lladd yng Nghymru ers 2008. Mae’r bariau glas golau yn nodi nifer yr anifeiliaid a gafodd eu lladd bob mis tra bo’r llinell dywyll yn nodi cyfartaledd treigl yr anifeiliaid a gafodd eu lladd dros 12 mis. Cafodd 9,669 o anifeiliaid eu lladd yn ystod y 12 mis hyd at fis Medi 2023, sy’n gynnydd o 1.7% o’i gymharu â’r 12 mis blaenorol pan gafodd 9,505 anifeiliaid eu lladd.

Ffynhonnell: Cyhoeddi ystadegau TB buchol Defra ar 13 Rhagfyr 2023.

Rhagor o wybodaeth

Mae'r duedd gyffredinol ar gyfer anifeiliaid sy'n cael eu lladd oherwydd rheolaeth TB buchol yn amrywiol. Gellir priodoli llawer o’r cynnydd diweddar ers 2014 i’r defnydd cynyddol o brofion sensitif iawn. Er enghraifft, mae profion gama, gwaredu Adweithyddion Amhendant a dehongli manwl o’r prawf croen oll wedi’u defnyddio er mwyn ceisio gwaredu heintiau a lleihau’r perygl y gallai’r clefyd ledu ac y gallai achosion o’r clefyd ddigwydd eto.

Mae’r gyfres fisol yn amrywiol, a gellir disgwyl adegau brig o bryd i’w gilydd. Bu cynnydd yn y duedd ers cyrraedd y pwynt uchaf ym mis Hydref 2018 hyd ddiwedd 2019. Cyhoeddwyd dadansoddiad pellach o’r duedd hon ar ffurf erthygl ystadegol:Dadansoddiad o'r nifer o anifeiliaid gafodd eu difa i reoli TB, Hydref 2018 i Mehefin 2019.

Cyswllt

James Webster

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.