Neidio i'r prif gynnwy

Data ar brofion, achosion newydd, buchesi o dan gyfyngiadau a gwartheg a laddwyd â TB buchol ar y gyfer Rhagfyr 2022.

Mae datganiad Ystadegau Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) yn cynnwys ystadegau ar sail yr ardaloedd TB yng Nghymru, ac mae'r pennawd ystadegol hwn yn seiliedig arno.

Nifer y buchesi ag achosion newydd o TB

Ffigur 1: Buchesi ag achosion nwydd o TB yng Nghymru, Ionawr 2008 i Rhagfyr 2022

Image
Manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Disgrifiad o Ffigwr 1: Siart yn dangos y tueddiad o ran achosion mewn buchesi newydd ers 2008. Roedd 599 o achosion newydd yn ystod y 12 mis hyd Rhagfyr 2022 sy’n ostyngiad o 9.9% o’i gymharu â’r 12 mis blaenorol pan oedd 665 o achosion newydd.

Ffynhonnell: Ystadegau TB Defra a gyhoeddwyd ar 8 Mawrth 2023

Anifeiliaid gafodd eu difa i reoli TB

Ffigur 2: Anifeiliaid a laddwyd i reoli TB yng Nghymru, Ionawr 2008 i Rhagfyr 2022

Image
Manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Disgrifiad o Ffigwr 2: Siart yn dangos y tueddiad o ran anifeiliaid a gafodd eu difa er mwyn rheoli TB yng Nghymru ers 2008. Cafodd 9,516 o anifeiliaid eu difa yn ystod y 12 mis hyd Rhagfyr 2022, sy’n ostyngiad o 10.6% o’i gymharu â’r 12 mis blaenorol pan oedd 10,641 anifeiliaid eu lladd.

Ffynhonnell: Ystadegau TB Defra a gyhoeddwyd ar 8 Mawrth 2023

Rhagor o wybodaeth

Mae'r duedd gyffredinol ar gyfer anifeiliaid sy'n cael eu lladd oherwydd rheolaeth TB buchol yn amrywiol. Gellir priodoli llawer o’r cynnydd diweddar ers 2014 i’r defnydd cynyddol o brofion sensitif iawn. Er enghraifft, mae profion gama, gwaredu Adweithyddion Amhendant a dehongli manwl o’r prawf croen oll wedi’u defnyddio er mwyn ceisio gwaredu heintiau a lleihau’r perygl y gallai’r clefyd ledu ac y gallai achosion o’r clefyd ddigwydd eto.

Fel y dengys y siart, mae’r gyfres fisol yn hynod o amrywiol, a gellir disgwyl adegau brig o bryd i’w gilydd. Bu cynnydd yn y tuedd ers cyrraedd yr uchafbwynt ym mis Hydref 2018 hyd ddiwedd 2019. Cyhoeddwyd dadansoddiad pellach o’r duedd hon ar ffurf erthygl ystadegol: Dadansoddiad o'r nifer o anifeiliaid gafodd eu difa i reoli TB, Hydref 2018 i Mehefin 2019.