Neidio i'r prif gynnwy

Data am weithgarwch a pherfformiad yn y GIG yng Nghymru. Mae’n cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf, fisol sydd ar gael ar gyfer Medi a Hydref 2018 yn ogystal â chrynodeb o dueddiadau tymor hir.

Crynodeb

  • Roedd cyfartaledd derbyniadau dyddiol i adrannau Damweiniau ac Achosion Brys ychydig yn uwch ym mis Hydref a gostyngodd canran y cleifion sy'n treulio llai na phedair awr yno ychydig dros y mis. Roedd nifer y cleifion a dreuliodd fwy na 12 awr yn yr adran Damweiniau ac Achosion Brys wedi cynyddu o’i chymharu â mis Medi.
  • Roedd nifer y galwadau bob dydd ar gyfartaledd i’r gwasanaeth ambiwlans wedi aros yr un fath (1,242) ym mis Hydref Roedd canran y galwadau coch a oedd yn cael ymateb brys cyn pen 8 munud wedi cyflawni’r targed ac wedi gwella o gymharu â mis Medi.
  • Roedd canran y cleifion a oedd wedi aros llai na 26 wythnos rhwng atgyfeirio a dechrau triniaeth wedi disgyn ond roedd y nifer a oedd yn disgwyl mwy na 36 wythnos yn llai na’r mis blaenorol. Disgynnodd nifer y cleifion a oedd yn disgwyl mwy na’r amser targed am brofion diagnostig ym mis Medi, ond cododd nifer y cleifion a oedd yn disgwyl mwy na’r amser targed am wasanaethau therapi ychydig.
  • Roedd perfformiad Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS) wedi gwella’r mis yma ar ôl tri mis o ostyngiad. Roedd canran y cleifion a oedd yn dechrau ar driniaeth am ganser o fewn yr amser targed ar gyfer cleifion nad oedden nhw ar y llwybr brys wedi cynyddu, gyda’r perfformiad yn agos at y targed. Roedd perfformiad wedi disgyn ar gyfer y rheini a oedd ar y llwybr brys.
  • Roedd nifer yr achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal wedi cyrraedd ei lefel uchaf ers mis Tachwedd 2016. Roedd gweddill y targedau ar gyfer gofal wedi’i drefnu a gofal heb ei drefnu wedi’u methu.
  • Cafwyd cynnydd yn amseroedd aros yr Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys ar gyfartaledd ac amseroedd ymateb ambiwlansys ar gyfartaledd ym mis Hydref. Roedd nifer gyfartalog yr wythnosau aros rhwng Atgyfeirio a Thriniaeth wedi cynyddu ym mis Medi ond roedd yr amser aros cyfartalog ar gyfer profion diagnostig neu wasanaethau therapi wedi disgyn.

Adroddiadau

Crynodeb gweithgaredd a pherfformiad y GIG: Medi a Hydref 2018 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 511 KB

PDF
511 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.