Canllawiau i aelwydydd a wahoddwyd i gymryd rhan yn Arolwg Cenedlaethol Cymru.
Cynnwys
Pam rydym yn cynnal yr arolwg
Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru yn gyfle ichi ddweud eich barn wrthym am y GIG, gwasanaethau cynghorau, eich ardal leol a mwy. Mae'r wybodaeth sy'n cael ei chasglu'n cael ei defnyddio i helpu i ddatblygu polisïau a phenderfynu sut i ddarparu gwasanaethau. Bydd eich atebion yn helpu i wella gwasanaethau yn eich ardal.
Mae'r arolwg yn cael ei gynnal gan gwmni ymchwil annibynnol, sef y Ganolfan Genedlaethol Ymchwil Gymdeithasol (NatCen), ar ran:
- Llywodraeth Cymru
- Chwaraeon Cymru
- Cyfoeth Naturiol Cymru
- Cyngor Celfyddydau Cymru
Mae'r arolwg yn cynnwys amrywiaeth eang o bynciau, fel:
- iechyd a'r GIG
- gwasanaethau cynghorau lleol a'ch ardal leol
- tai
- yr amgylchedd
- chwaraeon a'r celfyddydau
Cymryd rhan yn yr arolwg
Mae'r arolwg ar-lein yn cymryd tua 30 munud i'w gwblhau. Nid oes atebion cywir nac anghywir, ac nid oes angen unrhyw wybodaeth arbennig arnoch. Gallwch anwybyddu unrhyw gwestiynau nad ydych yn gyfforddus yn eu hateb.
Dylai'r arolwg gael ei gwblhau gan unrhyw ddau berson 16 oed neu hŷn sy'n byw yn eich cartref. Os dim ond un person 16 oed neu hŷn sy'n byw yno, dim ond y person hwnnw ddylai gymryd rhan.
Gallwch gwblhau'r arolwg yn Gymraeg neu'n Saesneg. Os hoffech gymryd rhan mewn iaith arall, gallech ofyn i aelod o'r teulu neu ffrind gyfieithu ichi.
Mae'n iawn gofyn i ffrind neu berthynas eich helpu i gwblhau'r arolwg, ond dylai'r atebion ddod gan y person sydd wedi'i ddewis i gymryd rhan yn unig.
Os byddai'n well gennych gymryd rhan yn yr arolwg mewn ffordd arall neu os oes angen inni drefnu cyfieithydd, gallwch gysylltu â ni.
Eich dewis chi yw cymryd rhan. Rydym yn gobeithio y gallwch ein helpu i sicrhau bod pob math o bobl o bob cwr o Gymru yn cael eu cynrychioli yn y canlyniadau. Os byddwch yn dewis peidio â chymryd rhan, nid oes modd i unrhyw un arall gymryd eich lle. Os nad ydych yn dymuno cymryd rhan, gallwch roi gwybod inni drwy gysylltu â ni.
Sut mae cyfranogwyr yn cael eu dewis
Mae cyfeiriadau yn cael eu dewis ar hap o restr gyhoeddus y Post Brenhinol o gyfeiriadau yng Nghymru.
Rydym yn ysgrifennu at y cyfeiriadau sydd wedi'u dewis gyda chyfarwyddiadau ar sut i gymryd rhan. Os nad ydym yn clywed yn ôl gan gyfeiriadau, byddwn yn ysgrifennu atyn nhw eto i roi gwybod iddyn nhw am ffyrdd eraill o gymryd rhan.
Os bydd eich cyfeiriad wedi'i ddewis ar gyfer yr arolwg, byddwn yn anfon y canlynol atoch:
- llythyr gwahodd
- taflen wybodaeth
Llythyrau enghreifftiol
Dogfennau
Llythyr gwahodd (2025) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 137 KB
Taflen wybodaeth (2025) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 132 KB
Talebau
I ddiolch ichi am gwblhau'r arolwg, byddwn yn anfon taleb gwerth £15 atoch.
Bydd talebau yn cael eu hanfon atoch drwy e-bost neu drwy'r post – byddwn yn gofyn ichi ddewis pa un fyddai orau gennych ar ddiwedd yr arolwg.
Gweld y rhestr lawn o fanwerthwyr lle gallwch wario eich talebau drwy e-bost
Gweld y rhestr lawn o fanwerthwyr lle gallwch wario eich talebau drwy'r post
Cyfrinachedd
Rydym yn cadw'r holl atebion a gwybodaeth bersonol yn gyfrinachol ac yn unol â'r Ddeddf Diogelu Data. Nid oes modd adnabod pobl sy'n cymryd rhan drwy ganlyniadau'r arolwg a dim ond at ddibenion ymchwil y mae'r atebion yn cael eu defnyddio.
Ni fydd ymatebion i'r arolwg yn cael eu defnyddio at ddibenion marchnata na masnachol.
I gael gwybod mwy am sut byddwn yn defnyddio'r wybodaeth sy'n cael ei chasglu, darllenwch ein hysbysiad preifatrwydd.
Cymorth a gwybodaeth am bynciau sydd yn yr arolwg
Mae'r sefydliadau canlynol yn darparu cefnogaeth, cyngor a gwybodaeth ar bynciau a gwmpesir yn yr arolwg:
Age Cymru - cymorth a chyngor i bobl hŷn.
Llinell Wrando a Chymorth Cymunedol - Llinell Gymorth Iechyd Meddwl ar gyfer Cymru
Cyngor ar Bopeth - cyngor ar bob math o faterion.
Helpa fi i stopio - cymorth i roi'r gorau i smygu.
Byw Heb Ofn - cymorth i ddioddefwyr trais domestig, 24 awr y dydd.
Helpwr Arian - cyngor annibynnol am ddim ar faterion ariannol.
Shelter Cymru - cyngor ar dai a digartrefedd.
Llinell Gymorth Credyd Cynhwysol
Cymru'n Gweithio - gwybodaeth, cyngor ac arweiniad ynglŷn â chymorth os ydych wedi colli'ch swydd.
GIG 111 Cymru - cyngor a gwybodaeth iechyd, 24 awr y dydd.
Gwirfoddoli Cymru - cofrestru fel gwirfoddolwr.
Llinell Gymorth Cyffuriau ac Alcohol Cymru DAN 24/7 - cymorth gyda phroblemau alcohol a chyffuriau, 24 awr y dydd.
Llinell Gymorth Gamblo Genedlaethol - cymorth a chyngor ar broblemau gamblo.
Mencap Cymru - llinell gymorth anabledd dysgu Cymru.
Cyfoeth Naturiol Cymru - gwybodaeth am beryglon llifogydd a rhybuddion.
Cysylltu data
Y broses o ddod â chofnodion ar lefel person o wahanol ffynonellau at ei gilydd yw cysylltu data.
Manteision cysylltu data
Mae cysylltu gwybodaeth â chofnodion eraill:
• yn lleihau'r galw ar bobl i gymryd rhan mewn arolygon fel Arolwg Cenedlaethol Cymru
• yn lleihau cost casglu gwybodaeth yn sylweddol
• yn ei gwneud yn bosibl i fathau gwahanol o wybodaeth fod ar gael yn haws, ac felly i waith ymchwil gael ei gynnal yn gyflymach
• yn helpu i wneud defnydd gwell o wybodaeth sy'n bodoli eisoes
Cysylltu data yn yr Arolwg Cenedlaethol
Uned ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe yw Uned Ymchwil Gwybodaeth Iechyd (HIRU) Cymru. Mae'r uned yn cysylltu gwybodaeth o sawl arolwg a chronfa ddata ledled Cymru drwy'r banc data Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL).
Mae ymatebion dienw i Arolwg Cenedlaethol Cymru yn cael eu cysylltu â ffynonellau data eraill gan HIRU. Nid yw enwau, cyfeiriadau na chodau post yn cael eu cynnwys yn y data cysylltiol. Dim ond at ddibenion ymchwil anfasnachol y mae'r wybodaeth yn cael ei defnyddio.
Gallwch ddewis a ydych eisiau i'ch atebion dienw gael eu cysylltu â ffynonellau eraill ai peidio. Gallwch wneud hynny pan fyddwch yn cymryd rhan yn yr arolwg, neu drwy gysylltu â thîm Arolwg Cenedlaethol Cymru.
Dogfennau
Cerdyn gwybodaeth ar gysylltu data , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 73 KB
Siart lif o'r broses cysylltu data (2025) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 265 KB
Cysylltu â ni
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am Arolwg Cenedlaethol Cymru, gallwch gysylltu â NatCen drwy:
- ffonio 0800 652 9294
- anfon e-bost at nationalsurvey@natcen.ac.uk
Gall NatCen eich helpu gyda chwestiynau am y canlynol:
- cymryd rhan yn yr arolwg ar-lein
- ffyrdd eraill o gymryd rhan
- eich taleb
Ar gyfer pob ymholiad arall, cysylltwch â thîm Arolwg Cenedlaethol Cymru Llywodraeth Cymru drwy:
- ffonio: 0300 025 2021
- anfon e-bost at: arolygon@llyw.cymru
