Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth am ddulliau a diffiniadau ar gyfer y mesur swyddogol o dlodi incwm cymharol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Mehefin 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Beth yw incwm cyfwerth wythnosol (incwm gwario) yr aelwyd?

Y mesur o incwm a ddefnyddir yn Cartrefi islaw'r incwm cyfartalog yw incwm cyfwerth wythnosol (incwm gwario) yr aelwyd.

Golyga incwm aelwyd ei bod yn cynnwys cyfanswm yr incwm o bob ffynhonnell sydd gan holl aelodau'r aelwyd gan gynnwys dibynyddion.

Golyga incwm i'w wario ei bod yn incwm ar ôl i’r didyniadau canlynol cael eu talu:

  • treth incwm 
  • cyfraniadau yswiriant gwladol
  • ardrethi domestig/y dreth cyngor
  • cyfraniadau i gynlluniau pensiwn galwedigaethol 
  • holl daliadau cynnal
  • ad-daliadau benthyciadau myfyrwyr 
  • cyfraniadau gan rieni i fyfyrwyr sy'n byw oddi cartref.

Golyga incwm cyfwerth y caiff incwm ei addasu ar gyfer maint a chyfansoddiad aelwydydd, gan gymryd pâr o oedolion heb blant fel y man cychwyn.

Er enghraifft, dychmygwch fod person sengl, cwpl a theulu o bedwar i gyd yn byw ar yr un incwm. Byddai'r person sengl yn gallu fforddio safon byw well na’r cwpl, tra byddai’r teulu o bedwar yn cael trafferth i gynnal yr un safon byw a’r cwpl.

Felly er mwyn adlewyrchu safonau byw, mae'r broses o gyfrif cyfwerthedd yn addasu incwm y person sengl i fyny, yn gadael incwm y cwpl fel y mae, ac yn addasu incwm y teulu o bedwar i lawr.

Beth sydd wedi'i gynnwys yn y costau tai?

Yn yr adroddiad Cartrefi Islaw'r Incwm Cyfartalog (HBAI), diffinnir costau tai fel: rhent neu daliadau llog ar forgeisi, ardrethi dŵr, taliadau yswiriant adeiladau a thaliadau rhent tir a thaliadau gwasanaeth.

Fodd bynnag, yn yr adroddiad Dynameg Incwm, diffinnir costau tai fel costau tai gros wythnosol.

Yn achos rhentwyr, bydd y costau tai hyn yn cynnwys taliadau gwasanaeth ac ardrethi dŵr oherwydd dyma sut gofynnir am y wybodaeth ar yr holiadur. Ar gyfer talwyr morgeisi, ni fydd yr elfennau hyn yn cael eu cynnwys. Hefyd ni chesglir gwybodaeth ar gost taliadau yswiriant adeiladau.

Gwahaniaeth arall yw, ar gyfer y fethodoleg HBAI, dim ond yr elfen llog o forgais ad-dalu sy’n cael ei didynnu fel costau tai, tra yn yr adroddiad Dynameg Incwm, bydd elfennau ad-dalu a llog yn cael eu cynnwys fel rhan o 'costau tai gros'. O'i gymharu â methodoleg HBAI safonol, bydd incwm wedi costau tai'r fath yma o aelwydydd wedi’i tan ddatgan.

Sut caiff anabledd ei ddiffinio?

Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn y diffiniad cymdeithasol o anabledd, sy’n cydnabod bod rhwystrau mewn cymdeithas yn analluogi pobl sydd â namau neu gyflyrau iechyd neu sy’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain. Mae’r Arolwg Adnoddau Teulu yn cipio data yn ystod y cyfweliad yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 sy’n defnyddio’r diffiniad meddygol o anabledd ('nam corfforol neu feddyliol sy’n cael effaith sylweddol a hirdymor ar allu person i wneud gweithgareddau o ddydd i ddydd').

O 2012/13 cafodd cwestiynau anabledd yr Arolwg Adnoddau Teuluoedd eu hadolygu i adlewyrchu safonau newydd wedi’u cysoni. Yn y data, caiff pobl anabl eu dehongli fel pobl sy’n adrodd unrhyw gyflwr/gyflyrau neu salwch corfforol neu feddyliol sy’n para neu y disgwylir iddo/iddynt bara am 12 mis neu fwy, ac sy’n cyfyngu ar eu gallu i gyflawni gweithgareddau bob dydd, boed ychydig neu lawer iawn.

Sut caiff ethnigrwydd ei ddiffinio?

Mae’r cwestiynau ethnigrwydd a ddefnyddir yn yr Arolwg Adnoddau Teuluoedd yn unol â chanllawiau cysoni y Swyddfa Ystadegau Gwladol, sydd ar gael drwy wefan cysoni’r Swyddfa Ystadegol Gwladol. Hynny yw, maent yn mabwysiadu’r ffordd safonol o gasglu gwybodaeth ar y ffyrdd y mae pobl yn disgrifio’u hunaniaeth ethnig. Mae unigolion wedi eu dosbarthu yn ôl grŵp ethnig unigolyn cyfeirio’r aelwyd (y deiliad tŷ gyda’r incwm uchaf) sy’n golygu fod gwybodaeth am aelwydydd yn cynnwys ethnigrwydd niferus yn cael ei cholli. Mae niferoedd samplo o fewn grwpiau lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru yn fychan, ac am y rheswm hwn mae angen grwpio rhai grwpiau ethnig lleiafrifol yn y categori cyffredinol “grŵp ethnig heb fod yn wyn”, a chyflwyno dadansoddiad fel canrannau pum mlynedd.

Trawsnewid ystadegau’r Arolwg Adnoddau Teulu

Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau yn gwneud gwelliannau i’r ystadegau dros y blynyddoedd nesaf, sy’n golygu y bydd rhai data yn cael eu hadolygu ac na fydd modd ei cymharu â blynyddoedd blaenorol.

Mae'r gwelliannau yn cynnwys cysylltu data budd-daliadau a data enillion gweinyddol â chofnodion arolwg i leihau tanadrodd incwm a diweddaru'r ffordd y mae'r ystadegau yn cael eu graddio i gyfansymiau poblogaeth (a elwir yn bwysoli).

Bydd newidiadau’n cael eu cyflwyno’n raddol, gyda rhai ffigurau’n newid wrth i bob gwelliant newydd gael ei gyflwyno. Ar gyfer rhyddhau data 2026, bydd data gweinyddol yn disodli data arolwg wrth fesur incwm ar gyfer y mwyafrif o fudd-daliadau’r Adran Gwaith a Phensiynau a Chyllid a Thollau Ei Fawrhydi (CThEF). . Bydd hyn yn lleihau'r tanadrodd o fudd-daliadau a welir ar hyn o bryd yn yr arolwg (ac felly HBAI) ac yn gwella ansawdd data yn y ddwy set ddata. 

Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn gwneud y newid hwn mewn dau gam dros y misoedd nesaf, a dylai defnyddwyr fod yn ofalus wrth ddehongli tueddiadau dros amser tra bo’r diwygiadau fesul cam hyn yn cael eu cyflwyno:

  • ar 26 Mawrth 2026, ar yr un pryd â chyhoeddi’r data newydd ar gyfer y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben yn 2025, byddant yn cyhoeddi ystadegau wedi’u diweddaru ar gyfer y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben yn 2022 hyd 2024
  • yn ystod haf 2026 byddant yn cyhoeddi ystadegau wedi’u diweddaru ar gyfer y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben yn 2019 hyd 2021

Bydd hyn yn golygu, erbyn haf 2026, y bydd cyfres amser HBAI sydd wedi'i gysylltu â data gweinyddol ar gael o'r blynyddoedd ariannol a ddaeth i ben yn 2019 i 2025.

Mae'r gwelliant hwn yn golygu y bydd mesurau incwm isel allweddol, gan gynnwys nifer/cyfran y bobl a nodwyd eu bod mewn tlodi incwm cymharol ar gyfer pob grŵp ac ym mhob blwyddyn o'r flwyddyn ariannol a ddaeth i ben yn 2022 (ym mis Mawrth 2026) ac o'r o'r flwyddyn ariannol a ddaeth i ben yn 2019 (yn haf 2026), yn newid. Mae'r gwelliant hwn hefyd yn golygu y bydd toriad strwythurol yn y gyfres HBAI ar y pwyntiau hyn, ac rydym yn cynghori defnyddwyr i beidio â gwneud cymhariaeth uniongyrchol o newidiadau mewn incwm ar draws y toriad. Os oes angen cymariaethau ar draws y toriad, dylai defnyddwyr ddilyn y cyngor a nodir yn adroddiad Cefndir, Gwybodaeth a Methodoleg HBAI (yr Adran Gwaith a Phensiynau).

Ceir rhagor o fanylion am y newidiadau a ddisgrifir yn y blog hwn yn strategaeth rhyddhau'r Arolwg Adnoddau Teulu (yr Adran Gwaith a Phensiynau) a strategaeth rhyddhau HBAI (yr Adran Gwaith a Phensiynau). Rydym hefyd wedi cyhoeddi blog y Prif Ystadegydd sy'n crynhoi'r newidiadau sydd ar ddod i’r ystadegau tlodi.

Diweddaru’r flwyddyn gyfeirio tlodi absoliwt

Mae tlodi absoliwt yn mesur a yw aelwydydd yn byw ar incwm isel o’i gymharu â safon sefydlog. Mae’n gwneud hyn drwy gymryd incwm canolrifol y DU mewn blwyddyn gyfeirio o ddewis, ei addasu ar gyfer chwyddiant, ac yna gweld faint o bobl sy’n disgyn o dan 60% o’r lefel honno mewn blynyddoedd eraill.

Hyd yn hyn, y flwyddyn gyfeirio oedd y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben yn 2011. Cyn diweddariad data 2026, mae’r Adran Gwaith a Phensiynau wedi adolygu’r mesur tlodi absoliwt ac wedi penderfynu diweddaru’r flwyddyn gyfeirio o’r flwyddyn ariannol a ddaeth i ben yn 2011 i’r flwyddyn ariannol ddiweddaraf sydd ar gael a ddaeth i ben yn 2025.

Bydd y diweddariad yn gymwys i ystadegau yn ôl i’r flwyddyn ariannol a ddaeth i ben yn 2022 ar 26 Mawrth 2026 ac i’r flwyddyn ariannol a ddaeth i ben yn 2019 yn haf 2026. Mae’r newid hwn yn helpu i gadw’r mesur yn berthnasol, ond mae hefyd yn golygu bod angen i ddefnyddwyr fod yn ofalus iawn wrth ddehongli tueddiadau hanesyddol mewn tlodi absoliwt.

Newidiadau mewn methodolegol

Gwaith maes yr Arolwg Adnoddau Teulu (FRS) yn ystod y flwyddyn ariannol sy'n dod i ben (FYE) 2024 ac FYE 2025

Yn ystod blynyddoedd yr arolwg sy'n rhychwantu pandemig y coronafeirws (COVID-19), cynhaliwyd cyfweliadau yr FRS dros y ffôn yn hytrach na defnyddio'r dull wyneb yn wyneb sefydledig. Yn ystod FYE 2024 dychwelodd y gwaith maes i'r trefniadau a oedd ar waith cyn y pandemig.

Ym Mhrydain Fawr, cynhaliwyd gwaith maes drwy ddefnyddio cyfweliadau wyneb yn wyneb fel y dull a ffafrwyd o gasglu data drwy gydol y flwyddyn. Cadwyd cyfweliad dros y ffôn fel dewis arall yn seiliedig ar ddewisiadau cartref ac argaeledd cyfwelydd. Ledled y DU, cafodd 86% o aelwydydd yr FRS eu cyfweld wyneb yn wyneb yn ystod FYE 2024.

Yn ystod y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben yn 2025, gwnaeth gwaith maes yr arolwg barhau gyda chyfweliadau wyneb yn wyneb yn cael eu defnyddio fel y brif ffordd o gwblhau'r arolwg. Cadwyd cyfweliad dros y ffôn fel dewis arall yn seiliedig ar ddewis yr aelwyd ac argaeledd cyfwelydd. Ledled y DU yn gyffredinol, cafodd 89% o aelwydydd yr Arolwg Adnoddau Teulu eu cyfweld wyneb yn wyneb yn ystod y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben yn 2025.

Newidiadau sy'n effeithio ar gyhoeddi data tlodi incwm cymharol ar gyfer y flwyddyn yn diweddu yn 2022 ac 2023

Fel gyda’r flwyddyn yn diweddu yn 2021, effeithiodd pandemig y coronafeirws (COVID-19) ar gasglu data’r Arolwg Adnoddau Teulu ar gyfer y flwyddyn yn diweddu yn 2022. Er i gyfyngiadau'r llywodraeth a gyflwynwyd mewn ymateb i'r pandemig gael eu llacio yn ystod blwyddyn yr arolwg, cadwyd y newid yn null gweithredu’r arolwg, o gyfweliadau wyneb yn wyneb i gyfweliadau ffôn, trwy gydol 2021 i 2022.

Mae dadansoddiad Adran Gwaith a Phensiynau’r DU yn dangos bod lefel is o ogwydd yn y data ar gyfer y flwyddyn yn diweddu yn 2022 (sy'n deillio o'r newid yn y dull arolygu) o'i gymharu â data’r flwyddyn yn diweddu yn 2021. Mae'r gwelliant hwn yn ansawdd y data yn golygu bod yr amrywiaeth arferol o ddadansoddiadau ychwanegol wedi'i chyhoeddi ar gyfer y flwyddyn yn diweddu yn 2022.

Er nad oedd trefniadau gwaith maes FRS yn union yr un fath â chyn y pandemig yn FYE 2023, dychwelwyd yn raddol trwy gydol y flwyddyn at drefniadau llawer tebycach i hynny na chyfnod pandemig y coronafeirws (COVID-19), pan ddefnyddiwyd cyfweliadau dros y ffôn yn unig. Ailddechreuwyd cynnal cyfweliadau'r FRS wyneb yn wyneb yn ddiofyn yn ystod FYE 2023, gyda'r ffôn yn cael ei ddefnyddio fel dewis amgen gan 28% o aelwydydd y sampl (ledled y DU).

Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau wedi gwella hyder yn ansawdd data y sampl eleni, a oedd yn fwy cynrychioliadol nag yn ystod y pandemig, gyda phroffil yr ymatebwyr yn agosach at y rhai a ymatebodd i'r arolwg cyn FYE 2021. Ceir rhagor o wybodaeth am waith maes yr FRS yn adroddiad Cefndir a Methodoleg FRS, ac mae Atodiad 5 o ddogfen Gwybodaeth Ansawdd a Methodoleg HBAI yn rhoi rhagor o fanylion am gyfansoddiad sampl FRS ar gyfer FYE 2023.

Fel arfer, adroddir ar y canlyniadau tlodi incwm cymharol trwy ganfod cyfartaledd data o sawl blwyddyn. Nid yw pwyntiau data sy'n rhychwantu cyfnod y flwyddyn yn diweddu yn 2021 yn cynnwys data arolwg 2021 mewn cyfrifiadau, gan y bernir eu bod o ansawdd isel. Mae amcangyfrifon a gyfrifwyd gynt fel cyfartaleddau treigl 3 i 5 mlynedd nawr yn seiliedig ar gyfartaleddau treigl 2 i 4 blynedd sy'n hepgor data arolwg y flwyddyn yn diweddu yn 2021. Mae hyn yn golygu bod rhai newidiadau go iawn a ddigwyddodd i incwm, fel y cynllun ffyrlo neu gynnydd dros dro mewn Credyd Cynhwysol ddim ond yn cael eu cofnodi yn rhannol yn y gyfres amser.

Oherwydd y materion a ddisgrifir uchod, mae meysydd o hyd lle cynghorir defnyddio pwyll wrth gymharu â blynyddoedd blaenorol a dehongli newidiadau mwy.

Newidiadau sy'n effeithio ar gyhoeddi data tlodi incwm cymharol ar gyfer y flwyddyn yn diweddu yn 2021

Ar 31 Mawrth 2022, rhyddhaodd Adran Gwaith a Phensiynau’r DU ystadegau newydd yr Arolwg Adnoddau Teulu a Chartrefi Islaw'r Incwm Cyfartalog, gan gynnwys yr ystadegau swyddogol cyntaf ar dlodi ar gyfer y cyfnod wedi dechrau pandemig y coronafeirws, sef y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben yn 2021. Cafodd gwaith maes ar gyfer yr Arolwg Adnoddau Teulu ar gyfer y flwyddyn ariannol yn diweddu yn 2021 ei newid yn gyflym mewn ymateb i COVID-19 a'r mesurau a gyflwynwyd o ran iechyd y cyhoedd. Gostyngodd y newidiadau hyn y gyfradd ymateb gyffredinol a chafodd effaith anwastad ar gyfradd ymateb pobl â nodweddion penodol. Oherwydd y newidiadau hyn, mae gwaith dadansoddi ar sail data a gasglwyd yn ystod y cyfnod hwn yn gyfyngedig.

Argymhellir na ddylid dadansoddi data Cartrefi Islaw’r Incwm Cyfartalog ar lefel islaw’r DU ar gyfer y flwyddyn yn diweddu yn 2021 gan fod y cyfuniad o samplau llai o faint a gogwydd ychwanegol yn golygu nad yw'n bosibl gwneud asesiadau ystadegol ystyrlon o dueddiadau a newidiadau yn y flwyddyn honno o gymharu â'r lefel cyn y coronafeirws. O ganlyniad, ni wnaeth yr Adran Gwaith a Phensiynau gynnwys unrhyw ystadegau ar dlodi yng Nghymru yn eu cyhoeddiad ar Gartrefi Islaw'r Incwm Cyfartalog ar gyfer y flwyddyn yn diweddu yn 2021.

O ganlyniad i'r materion a ddisgrifir uchod, ni chyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei hamrywiaeth arferol o ddadansoddiadau ychwanegol ar ddata tlodi ar gyfer y flwyddyn yn diweddu yn 2021. Yn hytrach, cyhoeddwyd erthygl gennym yn disgrifio problemau ansawdd data. Cyflwynodd yr erthygl hon ffigurau sy’n ymwneud â thlodi yng Nghymru gan ddefnyddio data Cartrefi Islaw’r Incwm Cyfartalog y flwyddyn yn diweddu yn 2021 er mwyn sicrhau tryloywder llawn, ond cynghorwyd yn erbyn defnyddio set ddata y flwyddyn yn diweddu yn 2021 ar gyfer Cymru.

Newidiadau sy'n effeithio ar gyhoeddi data tlodi incwm cymharol ar gyfer y flwyddyn yn diweddu yn 2020

Ar gyfer y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben yn 2020, gwnaed mân ddiwygiad methodolegol i gyfres ddata Cartrefi Islaw’r Incwm Cyfartalog gan Adran Gwaith a Phensiynau’r DU er mwyn cofnodi yr holl incwm am gynhaliaeth plant. Arweiniodd hyn at gynnwys mwy o incwm o gynhaliaeth plant, gan gynyddu, yn ei dro, incwm rhai aelwydydd ac felly’n tueddu i leihau cyfraddau incwm isel ychydig ar gyfer teuluoedd â phlant. Diwygiwyd yr holl gyfresi blaenorol (yn ôl i 1994/95) fel bod cymariaethau dros amser yn cael eu gwneud ar sail gyson ar draws holl gyfnod y gyfres. O ran effaith y diwygiadau hyn, yn y rhan fwyaf o achosion ni newidiodd y canrannau o bobl a oedd yn cael incwm isel, ac fe’u talgrynnwyd i'r pwynt canrannol agosaf.