Diben yr ymchwil oedd sefydlu llinell sylfaen o'r system anghenion addysgol arbennig (AAA) bresennol yng Nghymru cyn rhoi Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 ar waith (y Ddeddf).
Y cyhoeddiad diweddaraf
Roedd y gwaith ymchwil yn canolbwyntio ar weithwyr proffesiynol. Roedd yn cynnwys e-arolwg o weithwyr proffesiynol ynghylch agweddau penodol o'r system bresennol ac ymchwil ansoddol trylwyr ar draws 4 Awdurdod Lleol. Roedd pob astudiaeth achos wedi'i seilio ar gyfweliadau ag ymarferwyr sy'n gweithio mewn ysgolion, Unedau Cyfeirio Disgyblion, Sefydliadau Addysg Bellach, Awdurdodau Lleol a Byrddau Iechyd Lleol.
Y canfyddiadau allweddol
- Yn gyffredinol, roedd cytundeb barn fod y prosesau ac arferion presennol o fewn y system AAA yn effeithiol.
- Roedd teimlad fod angen mynd i'r afael â rhai agweddau ar y system (ee cyflymder prosesau, pa un a oedd offer asesu ar gael yn y Gymraeg) a bod amrywiaeth o ran ansawdd.
- Roedd y mwyafrif o'r rhai a gymerodd ran o ysgolion a cholegau, yn cytuno bod y prosesau asesu ac adolygu, ac o gyflenwi darpariaeth addysgol arbennig i ddysgwyr yn effeithiol.
- Mae ysgolion a sefydliadau eraill yn paratoi i weithredu'r newidiadau sy'n gysylltiedig â'r Ddeddf. Disgrifiwyd y newidiadau sydd ar y gorwel fel rhai diwylliannol gan lawer o'r rhai a gymerodd ran. Roedd y newid diwylliant yn cynnwys pwysigrwydd cael gwahanol safbwyntiau ynghylch addysg.
- Mae rhai ysgolion yn ystyried y gall rhai o'r newidiadau hyn fod yn feichus, gan bryderu am oblygiadau amser rhai agweddau ar y gwaith diwygio.
