Neidio i'r prif gynnwy

Dyma gylch gwaith Cyngor Cynghori ar Wyddoniaeth Cymru (y Cyngor Cynghori):

Cynghori Prif Gynghorydd Gwyddonol Cymru (y Prif Gynghorydd Gwyddonol), a thrwy ef neu hi, Lywodraeth Cymru ar bob math o faterion gwyddonol a pholisïau cysylltiedig â gwyddoniaeth a fydd yn datblygu ac yn cynnal economi Cymru a chodi safon byw pobl Cymru; mynd i’r afael ag anghenion tystiolaeth wyddonol Cymru ar gyfer y problemau sydd o’i blaen a gwella enw da Cymru fel gwlad sy’n ymgysylltu ac yn gefnogol o wyddoniaeth.

Bydd y Cyngor Cynghori yn rhoi cyngor i’r Prif Gynghorydd Gwyddonol ar strategaeth, polisi a blaenoriaethau gwyddonol fel bod Llywodraeth Cymru’n gwneud y defnydd mwyaf effeithiol o’r cyngor, y wybodaeth a’r technegau gwyddonol sydd ar gael er mwyn pennu a gweithredu polisïau i ategu ei holl amcanion gwahanol.

Bydd y Cyngor Cynghori yn cymryd safbwynt tymor canolig i’r hirdymor, gan ddefnyddio proses sganio’r gorwel, wrth baratoi ei gyngor.

Dim ond rôl gynghori sydd gan y Cyngor Cynghori, ac nid yw’n llywio unrhyw wariant ymchwil nac yn meddu ar unrhyw gyfrifoldebau statudol.