Neidio i'r prif gynnwy

5. Agorfa strwythurol

Pan fydd estyniad wedi'i wneud yn ddiddos, bydd agorfa'n cael ei chreu fel rheol drwy'r waliau allanol sy'n bodoli eisoes.

Gellir gwneud hynny drwy dynnu unrhyw ddrysau gwydr, drysau patio neu ffenestri presennol i ffwrdd. Os na chaiff rhychwant y lintel presennol dros y drysau neu'r ffenestri presennol ei gynyddu, ac os na chynyddir y llwyth y mae'r lintel presennol yn ei gynnal, ni fydd angen unrhyw gynhaliaeth bellach fel rheol.

Os bwriedir creu agorfa newydd neu letach, bydd angen cynnal y wal sy'n weddill uwchlaw'r agorfa newydd, fel rheol drwy osod un neu fwy o drawstiau newydd – dau fel arfer - sydd wedi'u dylunio'n briodol.  Fel rheol, dylai o leiaf 150mm o unrhyw drawst newydd fod yn gorffwys ar y wal bresennol ar y naill ochr a'r llall i'r agorfa, ac mae'n debygol y bydd angen i'r wal bresennol sy'n cynnal y trawstiau gael ei chryfhau er mwyn ei hatal rhag cael ei gwasgu.  Efallai y bydd hynny'n golygu gosod ardal o goncrit dwys (a gastiwyd ymlaen llaw neu yn y fan a'r lle), a elwir yn garreg gynnal, i wasgaru'r llwyth. Bydd maint cerrig cynnal yn amrywio'n dibynnu ar amgylchiadau'r achos dan sylw.

Diogelwch tân

Os yw'r trawst o ddur, dylid ei ddiogelu rhag tân fel rheol fel ei fod yn gallu gwrthsefyll tân am 30 munud (os caiff ei fesur mewn prawf safonol). Gellir diogelu'r trawst rhag tân mewn nifer o wahanol ffyrdd, ond y ffordd fwyaf cyffredin yw defnyddio dwy neu ragor o haenau o blastrfwrdd sydd wedi'u gosod yn briodol – y bydd eu trwch yn dibynnu ar fanyleb y gwneuthurwr. 

Pe baech yn ffafrio trawst pren agored, byddai angen cyfrifiad fel rheol i ddangos beth yw gallu cynhenid y trawst i wrthsefyll tân – bydd hynny'n dibynnu ar faint y trawst a'r math o bren. Yn gyffredinol mae gan drawst concrit, sydd wedi'i atgyfnerthu fel rheol gan ddur y tu mewn iddo, ddigon o nodweddion sy'n ei alluogi i wrthsefyll tân, cyhyd â bod y dur wedi'i orchuddio'n ddigonol gan y concrit.