Neidio i'r prif gynnwy

2. Effeithlonrwydd ynni

Isod ceir nifer o wahanol ystyriaethau sy'n ymwneud ag effeithlonrwydd ynni, gan gynnwys p'un a allai cais am gymeradwyaeth rheoliadau adeiladu fod yn ofynnol ar gyfer prosiectau penodol. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am yr ystod o fesurau effeithlonrwydd ynni sy'n bosibl ar wefan yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni (Saesneg yn unig).

Paneli solar

Mae'n debygol y bydd angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu os byddwch am ychwanegu panel solar at do eich cartref. Bydd angen cadarnhau a phrofi a yw'r to presennol yn gallu cario llwyth y panel (ei bwysau). Efallai y bydd angen gwneud rhywfaint o waith i gryfhau'r to. Yn ogystal bydd teils y to, er enghraifft, yn cael eu symud neu'u hepgor er mwyn gosod y panel a'i roi'n sownd. Felly, wrth eu hailosod, dylid sicrhau bod y to'n gallu gwrthsefyll y tywydd yn ddigonol.

Goleuadau mewnol

Wrth osod goleuadau mewnol sefydlog, bydd angen darpariaeth resymol er mwyn gallu mwynhau manteision goleuadau sy'n defnyddio ynni'n effeithlon, a hynny pryd bynnag:

  • Y bydd annedd yn cael ei ymestyn
  • Y bydd annedd newydd yn cael ei greu yn sgil newid defnydd o bwys
  • Y bydd system oleuadau newydd yn cael ei rhoi yn lle un sy'n bodoli eisoes, yn rhan o waith ailweirio.

Un ffordd o sicrhau bod eich goleuadau mewnol yn defnyddio ynni'n fwy effeithlon yw darparu ffitiadau golau (gan gynnwys offer rheoli lampau a gorchudd, adlewyrchydd, cysgodlen neu dryledwr priodol neu ddyfais arall sy'n rheoli'r golau a gynhyrchir) sy'n cymryd dim ond lampau y mae eu heffeithiolrwydd goleuo yn fwy na 40 lwmina fesul wat cylched.

Y math o ffitiadau golau a fyddai'n bodloni'r gofynion uchod yw ffitiadau golau fflworoleuol a ffitiadau golau fflworoleuol cryno. Ni fyddai ffitiadau ar gyfer lampau tyngsten GLS â chap bidog neu gap sgriwio Edison yn gwneud hynny, na lampau halogen tyngsten.

Ffordd gyffredinol o fodloni'r gofynion hyn yw darparu un ffitiad ar gyfer:

  • pob 25m2 o arwynebedd llawr yr annedd (heb gynnwys garejis); neu
  • un o bob pedwar ffitiad golau sefydlog.

Ni fyddai ffitiadau golau mewn ardaloedd a ddefnyddir i raddau llai, megis cypyrddau ac ardaloedd storio eraill, yn cael eu cyfrif yn ffitiad. Os bydd estyniad yn cael ei adeiladu, efallai y byddai'n fwy priodol gosod y ffitiad golau sy'n defnyddio ynni'n effeithlon mewn lleoliad nad yw'n rhan o'r gwaith adeiladu, e.e. gosod ffitiad newydd yn lle'r hen un sydd yn y cyntedd neu ar y landin wrth greu ystafell newydd – yn dibynnu ar y defnydd tebygol a wneir o olau'r ystafell newydd o'i gymharu â golau'r cyntedd neu'r landin.

Deunydd inswleiddio mewn atig

Bydd angen cais am gymeradwyaeth dan y Rheoliadau Adeiladu i osod deunydd inswleiddio yn eich atig. Dylid gofalu na chaiff unrhyw fentiau ar yr ymylon (wrth y bondo) eu blocio.

Tanciau ailgylchu dŵr

Tanciau yw'r rhain sy'n ailgylchu dŵr wyneb (dŵr glaw) a gesglir o'r to a'r ddaear, fel y gellir ei ailddefnyddio yn y tŷ neu at ddibenion eraill, er enghraifft, fflysio'r toiled neu olchi'n gyffredinol. Fel rheol, caiff y tanciau hyn eu gosod dan y ddaear yn yr ardd gefn os oes lle. Bydd angen gwneud cais dan y Rheoliadau Adeiladu er mwyn gwirio'r system ddraenio newydd sy'n mynd i mewn i'r tanc.

Rheiddiaduron

Bydd angen gosod falf thermostatig rheiddiadur ar unrhyw reiddiadur newydd a osodir. Mae falf thermostatig rheiddiadur yn golygu bod modd rheoli tymheredd ystafelloedd unigol yn well. Caiff pobl eu hannog hefyd i osod falfiau thermostatig rheiddiadur ar y rheiddiaduron sydd ganddynt yn barod.

Lagio pibellau

Fel rheol nid oes angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu i lagio pibellau.