Neidio i'r prif gynnwy

3. Inswleiddio llawr

Os byddwch yn gosod deunydd inswleiddio yn eich llawr, bydd yn rhaid i'r gwaith fodloni'r gwerthoedd gofynnol o ran effeithlonrwydd ynni, a nodir yn y Dogfennau Cymeradwy.

Fodd bynnag, os nad yw gwaith uwchraddio o'r fath yn ymarferol o safbwynt technegol neu swyddogaethol, dylid uwchraddio'r elfen i'r safon orau y gellir ei chyrraedd o fewn cyfnod ad-dalu syml nad yw'n hwy na 15 mlynedd.

Os byddwch yn adnewyddu dros 25 y cant o lawr solet neu lawr crog drwy osod morter llyfn newydd neu ddec llawr pren, bydd yn rhaid i'r gwaith gyrraedd y safonau sy'n ofynnol gan Ddogfennau Cymeradwy rheoliadau adeiladu.

Cliciwch yma i ddarllen mwy am newidiadau i elfennau thermol (ar y dudalen 'Waliau Allanol').