Neidio i'r prif gynnwy

6. Inswleiddio wal solet

Os bydd wal solet yn cael ei huwchraddio drwy osod deunydd inswleiddio ynddi, bydd yn rhaid i'r gwaith fodloni'r gwerthoedd gofynnol o ran effeithlonrwydd ynni, a nodir yn y Dogfennau Cymeradwy.

Fodd bynnag, os nad yw gwaith uwchraddio o'r fath yn ymarferol o safbwynt technegol neu swyddogaethol, dylid uwchraddio'r elfen i'r safon orau y gellir ei chyrraedd o fewn cyfnod ad-dalu syml nad yw'n hwy na 15 mlynedd.

Os caiff dros 25 y cant neu fwy o wal allanol ei hadnewyddu, bydd rheoliadau adeiladu'n berthnasol fel rheol a bydd yn rhaid i lefel inswleiddio thermol y wal gyrraedd y safonau sy'n ofynnol gan Ddogfennau Cymeradwy rheoliadau adeiladu. Yn y cyd-destun hwn mae gwaith adnewyddu'n golygu gosod haen newydd sbon neu osod haen newydd yn lle hen un, ond nid yw'n cynnwys gorffeniadau addurno.

Darllen mwy am waliau allanol (gan gynnwys gwybodaeth am newidiadau i elfennau thermol).

Dolenni cysylltiedig:

Y Gymdeithas Cladin a Gwaith Rendro wedi'i Inswleiddio (Saesneg yn unig).