Neidio i'r prif gynnwy

Amcan yr ymchwil hwn oedd sefydlu llinell sylfaen ar agweddau cyhoeddus at gosbi plant yn gorfforol gan gynnwys y ddeddfwriaeth arfaethedig sef y Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru).

Holwyd naw cwestiwn i rieni/gwarcheidwaid a phobl nad oeddent yn rhieni/gwarcheidwaid yn Arolwg Omnibws Cymru Beaufort ym mis Tachwedd 2018 sy'n cyfweld sampl cynrychioliadol o 1,002 o oedolion ledled Cymru. Gofynnwyd cyfres o gwestiynau am agweddau tuag at smacio, ymwybyddiaeth ynghylch deddfwriaeth am gosbi plant yn gorfforol ac ymwybyddiaeth ynghylch y newidiadau arfaethedig i ddeddfwriaeth a'u barn am hynny.

Prif ganfyddiadau

  • O'u holi a oeddent yn cytuno â'r datganiad bod smacio plentyn yn angenrheidiol weithiau, roedd 35% o'r ymatebwyr yn cytuno a 49% yn anghytuno.
  • O blith y rhai a holwyd, roedd 58% yn credu nad oedd y gyfraith yn caniatáu i rieni smacio eu plant; roedd 27% yn meddwl bod y gyfraith yn caniatáu i rieni smacio eu plant; ac roedd y 15% a oedd yn weddill yn ansicr.
  • Dywedodd 28% o'r ymatebwyr eu bod yn ymwybodol o'r newidiadau arfaethedig i'r gyfraith ynghylch cosbi plant yn gorfforol ohonynt eu hunain.
  • O gael disgrifiad o'r cynnig a'u holi a oeddent yn ymwybodol, dywedodd 17% eu bod yn ymwybodol o'r cynnig a dywedodd 17% pellach eu bod yn ymwybodol ond nad oeddent yn siŵr am y manylion.
  • O blith y rhai a holwyd, dywedodd 38% eu bod yn cefnogi'r newid, dywedodd 31% eu bod yn ei wrthwynebu a dywedodd 31% fod angen rhagor o wybodaeth arnynt neu nad oeddent yn gwybod.

Adroddiadau

Agweddau cyhoeddus at gosbi plant yn gorfforol: arolwg llinell sylfaen, 2018 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 779 KB

PDF
779 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Agweddau cyhoeddus at gosbi plant yn gorfforol: 2018 , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 45 KB

ODS
45 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Hayley Collicott

Rhif ffôn: 0300 025 3111

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.