Rydym am barhau i leihau arferion yfed peryglus a niweidiol ac rydym wedi cynyddu’r isafbris uned ar gyfer gwerthu alcohol.
Cynnwys
Beth yw’r isafbris ar gyfer alcohol?
Mae’r isafbris am uned (MUP) yn pennu’r pris cyfreithiol lleiaf ar gyfer alcohol a werthir yng Nghymru. Cafodd yr isafbris ei gyflwyno ym mis Mawrth 2020 o dan Deddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) 2018 er mwyn lleihau niwed cysylltiedig ag alcohol ac i dargedu gwerthu alcohol cryf, rhad iawn.
Mae'r polisi yn targedu yfed niweidiol ac yn canolbwyntio ar gynhyrchion cost isel, cryf.
O 1 Hydref 2026, bydd yr isafbris am alcohol yng Nghymru yn cynyddu o 50c i 65c yr uned.
Bwriad y cynydd yw cynnal effeithiolrwydd y polisi. Bwriad cynyddu’r isafbris i 65c yr uned yw sicrhau bod gosod isafbris am uned yn parhau i leihau hygyrchedd alcohol rhad, cryf ac yn helpu atal niwed, afiechyd a marwolaethau sy'n gysylltiedig ag alcohol yng Nghymru.
Cytuno ar yr isafbris am bob uned
Gwnaethom ymgynghori ar barhau â’r isafbris a chynyddu’r pris i 65c.
Cytunodd y Senedd i barhau â’r polisi isafbris ac i’r cynnydd mewn isafbris yn Chwefror 2026.
