Daeth yr ymgynghoriad i ben 13 Hydref 2014.
Adolygu ymatebion
Mae'r ymatebion i'r ymgynghoriad hwn wrthi’n cael eu hadolygu. Pan fydd hyn wedi’i gwblhau, byddwn yn cyhoeddi'r canlyniad.
Ymgynghoriad gwreiddiol
Hoffwn glywed eich barn am y contract a'r canllawiau atodol enghreifftiol ar gyfer Rhentu Cartrefi.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Rydym am gael gwybod eich barn chi ynghylch y strwythur a gosodiad y dogfennau a’r canllawiau cysylltiedig. Bydd yr wybodaeth hon yn ein helpu ni i sicrhau bod y trefniadau Rhentu Cartrefi newydd yn gweithio mor effeithiol ag y bo modd.
Roedd y Papur Gwyn ar Rentu Cartrefi a oedd yn destun ymgynghoriad ar wahân yn 2013 yn cynnig cyflwyno fframwaith cyfreithiol mwy clir a syml yn lle'r gyfraith ddryslyd a chymhleth a geir ar hyn o bryd. Cafodd y Papur Gwyn gefnogaeth gref a bwriedir cyflwyno'r Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) i'r Cynulliad Cenedlaethol yn 2015.
Er mwyn sicrhau’r fframwaith cyfreithiol mwyaf effeithiol mae'n bwysig bod y contractau rhentu newydd yn hawdd eu deall a'u defnyddio. Bydd hyn yn helpu landlordiaid a thenantiaid i gytuno ar drefniadau o'r dechrau'n deg a hefyd yn atal anghydfodau nes ymlaen. Mae'r ymgynghoriad hwn yn egluro sut olwg fydd ar y contractau newydd ar gyfer Rhentu Cartrefi ynghyd ag enghreifftiau o'r math o ganllawiau atodol a fydd o bosibl yn ofynnol.
