Neidio i'r prif gynnwy

Yn y canllaw hwn

3. Faint o’r swm sy’n ddyledus fydd yn cael ei ddileu

Bydd y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr yn cyfrif y swm a fydd yn cael ei ddileu cyn gynted ag y bydd y myfyriwr yn gwneud ei ad-daliad cyntaf o'r benthyciad cynhaliaeth cymwys. 

Nodyn pwysig: Dim ond o’r benthyciad cynhaliaeth cymwys cyntaf y bydd yn cael ei dynnu, ac mae'n berthnasol i falans y benthyciad, nid y llog sydd wedi cronni yn erbyn y benthyciad. 

Mae'r hyn sy'n digwydd yn dibynnu ar falans y benthyciad ar adeg yr ad-daliad cyntaf:

  • Os bydd y benthyciad cymwys llawn yn cael ei ad-dalu mewn un taliad, y swm a gaiff ei ddileu fydd sero (£0). Ni fydd y myfyriwr yn gymwys ar gyfer dileu swm pellach yn y dyfodol.
  • Os bydd balans y benthyciad yn llai na £1,500, bydd hyd at y balans sy'n weddill yn cael ei ddileu. Mae'r swm sy'n cael ei ddileu yn dibynnu ar faint sy'n cael ei ad-dalu yn yr ad-daliad cyntaf. Ni fydd y myfyriwr yn gymwys ar gyfer dileu swm pellach yn y dyfodol.
  • Os bydd balans y benthyciad cymwys yn fwy na £1,500, gallai hyd at £1,500 gael ei ddileu. Mae'r swm sy'n cael ei ddileu yn dibynnu ar faint sy'n cael ei ad-dalu yn yr ad-daliad cyntaf. Ni fydd y myfyriwr yn gymwys ar gyfer dileu swm pellach yn y dyfodol.