Neidio i'r prif gynnwy

Rownd derfynol

Andrew Bennett

Er bod dyslecsia ar Andrew Bennet a’i fod wedi colli ei olwg mewn un llygad, mae’n benderfynol o gael gyrfa lwyddiannus. Mae’r cynghorydd ailgylchu 51 oed o Abergele wedi cwblhau Prentisiaeth Sylfaen mewn Gweithgareddau Ailgylchu Cynaliadwy, mae’n gweithio ar brentisiaeth ac mae wedi dechrau mentora ei gydweithwyr.

Diolch i’w gynnydd, dyrchafwyd Andrew’n oruchwylydd dros dro gyda Bryson Recycling o Fae Colwyn sydd wedi buddsoddi mewn hyfforddiant ar gyfer y gwaith iddo.

Meddai Andrew, a gefnogwyd gan ei gyflogwr a’r darparwr hyfforddiant Cambrian Training:

Dwi wedi datblygu awydd i ddysgu, sy’n dipyn o syndod i mi, a dwi wedi symud ymlaen i wneud prentisiaeth a fydd yn rhoi cyfle i mi lwyddo yn fy ngyrfa.”