Neidio i'r prif gynnwy

Rownd derfynol

Phoebe McLavy

Mae gan Phoebe McLavy ddawn i drin gwallt a dysgodd oresgyn dyslecsia a gwireddu ei breuddwydion ar gyfer gyrfa a chystadlaethau. Enillodd Phoebe, 20 oed, sy’n gweithio yn Salon Morgan Edward, Caerfyrddin, fedal efydd yn WorldSkills Kazan gyda Sgwad y DU ym mis Awst.

Cwblhaodd Hyfforddeiaeth a Phrentisiaeth Sylfaen mewn Gwallt yng Ngholeg Sir Gâr, Llanelli gan symud ymlaen i wneud prentisiaeth.

Meddai Phoebe:

“Fyddwn i erioed wedi breuddwydio am wneud hyn ond rwy wedi magu hyder ac, yn bwysicaf oll, rwy wedi dod yn fwy medrus am drin gwallt.  Rwy’n gallu dathlu’r cryfderau sydd gen i o ganlyniad i’r dyslecsia – rwy’n meddwl am ffyrdd creadigol o fynd o gwmpas rhwystrau ac rwy’n awyddus i ysbrydoli pobl eraill.”