Neidio i'r prif gynnwy

Rownd derfynol

Rebekah Chatfield

Trodd Rebekah Chatfield ei dawn a’i diddordeb mewn pobi yn swydd lawn amser gyda Brød (The Danish Bakery Ltd) ym Mhontcanna, Caerdydd. Penderfynodd Rebekah, 24 oed, o Abertyleri, newid cyfeiriad ar ôl graddio mewn bioleg y môr.

Gwnaeth gymhwyster Hyfedredd yn Sgiliau’r Diwydiant Pobi gyda’r darparwr dysgu Hyfforddiant Cambrian y llynedd ac mae’n ystyried symud ymlaen i Brentisiaeth Uwch mewn Rhagoriaeth Gweithgynhyrchu Bwyd.

Diolch i’r profiad a gafodd ar ei phrentisiaeth, mae wedi cyflwyno trefn gynhyrchu i wella llif y gwaith, ac mae’n datblygu ryseitiau a chynhyrchion newydd, yn lleihau gwastraff bwyd ac yn mentora prentisiaid y cwmni.