Neidio i'r prif gynnwy

Enillydd

Dim ond mis ar ôl iddi gychwyn ar Brentisiaeth Uwch, roedd rhaid i Lee Price ymdopi â marwolaeth Rob, ei gŵr ers 36 o flynyddoedd. Cafodd gefnogaeth i barhau â’r hyfforddiant gan ei chydweithwyr, ei chyflogwr, ei darparwr hyfforddiant a’i theulu a llwyddo i gwblhau’r cymhwyster naw mis yn gynnar.

Lee, 59 oed, yw Uwch Swyddog Ansawdd a Safonau Amgylcheddol Cyngor Sir Powys, ac fe wnaeth ei Phrentisiaeth Uwch (Lefel 4) mewn Rheoli Systemau a Gweithrediadau trwy Hyfforddiant Cambrian.

Meddai Lee:

“Roedd colli fy ngŵr yn dorcalonnus, ond ro’n i’n cadw i fynd trwy’r adegau anoddaf achos ei fod ef mor gefnogol i’r hyn roeddwn i’n ei wneud ac mor falch mod i’n fy ngwthio fy hunan i ennill cymwysterau newydd. Rhoddodd hynny nod newydd a phwrpas newydd mewn bywyd i mi.”