Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) i gynnal Arolwg Defnydd Iaith o Gorffennaf 2019 i mis Mawrth 2021.

Nod yr arolwg hwn yw darganfod sut y mae siaradwyr Cymraeg yn defnyddio’r iaith er mwyn gallu monitro newid dros amser a dylanwadu ar benderfyniadau polisi sy’n cefnogi'r iaith.

Holiadur hunan-lenwi yw’r arolwg hwn a ddarperir i oedolion (16 oed +) a phlant (3 i 15 oed) sydd yn nodi eu bod yn gallu siarad Cymraeg yn Arolwg Cenedlaethol Cymru.

Mae’r Arolwg Defnydd Iaith yn cynnwys cwestiynau ynghylch gallu ymatebwyr yn y Gymraeg, sut a lle y bu iddynt ddysgu siarad Cymraeg, eu defnydd o'r iaith yn ogystal â’u barn am yr iaith.

Bydd yn bosibl cysylltu'r wybodaeth a gesglir gan yr ymatebydd ar gyfer yr Arolwg Cenedlaethol i’r wybodaeth a ddarperir gan aelodau o'r cartref sy'n cwblhau'r Arolwg Defnydd Iaith.

I gael gwybodaeth am sut mae ymatebwyr i’r Arolwg Cenedlaethol Cymru yn cael eu dewis, pa wybodaeth bersonol a gesglir gan yr Arolwg Cenedlaethol a sut caiff yr arolwg ei gynnal ai brosesu gweler hysbysiad preifatrwydd yr Arolwg Cenedlaethol Cymru.

Mae cymryd rhan yr yn arolwg yn gwbl wirfoddol. Fodd bynnag, mae’r wybodaeth a gesglir yn bwysig i fonitro a datblygu polisïau sy’n cefnogi'r iaith Gymraeg Llywodraeth Cymru yw'r rheolydd data ar gyfer yr arolwg. Byddant yn derbyn copi o'r data a gasglwyd gan yr Arolwg Defnydd Iaith. Bydd y wybodaeth yn cael ei chrynhoi mewn adroddiad a’i chyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. Bydd y data dienw hefyd ar gael ar gyfer ymchwilwyr eraill i’w ddadansoddi.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr arolwg hwn, cysylltwch â Llywodraeth Cymru:

Rhif ffôn: 0300 025 6682
E-bost: dataiaithgymraeg@llyw.cymru

Pa ddata personol a gedwir gennym, ac o ble y daeth yr wybodaeth hon?

Mae data personol yn rhywbeth a ddiffinnir o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) fel “unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â pherson y gellir ei adnabod o'r data hynny, yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, drwy gyfeirio at ffactor adnabod”.

Nid yw holiadur yr Arolwg Defnydd Iaith yn gofyn am unrhyw ddata personol. Fodd bynnag, gan fod ymatebwyr yr Arolwg Defnydd Iaith yn cael eu darganfod drwy’r Arolwg Cenedlaethol Cymru, mae'n bosibl cysylltu ymatebion yr Arolwg Defnydd Iaith â data personol a gasglwyd drwy’r Arolwg Cenedlaethol. Bydd Llywodraeth Cymru yn cadw data personol a all adnabod unigolyn yn uniongyrchol (fel: enw, cyfeiriad, dyddiad geni, rhifau ffôn neu gyfeiriad e-bost) ar wahân mewn cronfa ddata ddiogel mewn ffolder wedi'i warchod gan gyfrinair, lle mai ond nifer cyfyngedig o unigolion allai gael mynediad iddo. Ni fydd y data personol hwn yn cael eu cysylltu ag ymatebion yr Arolwg Defnydd Iaith wrth ddadansoddi’r data yn arferol ond gallai gael eu cysylltu er mwyn allu cysylltu ag unigolion ar gyfer gwaith ymchwil dilynol yn y dyfodol. Defnyddir manylion cyswllt hefyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol i helpu i weinyddu'r arolwg (h.y. drwy cysylltu ag ymatebwyr posibl i'w hatgoffa i ymateb i'r arolwg).

Os darperir data personol wrth ymateb i gwestiynau penagored, nid ydym yn ceisio eich adnabod o'ch ymatebion nac yn ceisio eich cysylltu â nhw fel unigolyn. Bydd yr ymatebion i gwestiynau'r arolwg yn ddienw.

Bydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn defnyddio manylion cyswllt a gafwyd drwy'r Arolwg Cenedlaethol Cymru i gysylltu ag ymatebwyr sydd heb ddychwelyd eu holiaduron, er mwyn eu hatgoffa i wneud hynny.

Mae eich cyfranogiad yn wirfoddol, ac os nad ydych am gymryd rhan neu gael eich atgoffa, cysylltwch â ni ar 0300 025 6682 neu dataiaithgymraeg@llyw.cymru a bydd eich manylion yn cael eu dileu. Bydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol ond yn defnyddio eich cyfeiriad post a’ch rhif ffôn at ddibenion gweinyddu'r arolwg hwn.

Bydd eich atebion i'r arolwg yn cael eu cysylltu’n ddienw â ffynonellau data eraill fel rhan o gronfa ddata Cysylltu Gwybodaeth Dienw yn Ddiogel (SAIL) at ddibenion ymchwil anfasnachol yn unig, oni bai y byddwch yn gofyn i beidio â cysylltu eich data (gweler Nodyn esboniadol).

Bydd data dienw o’r arolwg hefyd ar gael drwy'r Gwasanaeth Data y DU ar gyfer prosiectau ymchwil a gynhaliwyd gan ymchwilwyr achrededig, fel academyddion ac ymchwilwyr y GIG. Bydd y data dienw’r arolwg yn cael eu cadw'n ddiogel ac ond yn cael eu ddefnyddio at ddibenion ymchwil anfasnachol. Nid ydym yn rhannu nac yn defnyddio eich gwybodaeth at ddibenion masnachol neu farchnata.

Os ydych gwneud ymholiad neu gŵyn ac yn darparu data personol wrth ofyn am ymateb, bydd yr ymchwilydd yn anfon y cais at y swyddog perthnasol yn unig ac wedyn yn dileu’ch manylion personol o'r data ymchwil.

Beth yw'r sail gyfreithiol ar gyfer defnyddio eich data?

Yr Arolwg Defnydd Iaith yw un o'r prif ffyrdd y mae Llywodraeth Cymru a chyrff eraill yn y sector cyhoeddus yn darganfod sut y mae pobl yn defnyddio’r Gymraeg.

Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu gwybodaeth fel rhan o'r ymarfer casglu data hwn yw ein gorchwyl cyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru. Er enghraifft, defnyddir yr wybodaeth sy'n cael ei chasglu:

  • i helpu Llywodraeth Cymru a sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus i ddeall mwy am fywydau pob dydd a barn pobl Cymru
  • i helpu i wneud penderfyniadau pwysig am wasanaethau lleol a blaenoriaethau'r llywodraeth
  • at ddibenion ystadegol a chynhyrchu ystadegau swyddogol
  • at ddibenion ymchwil ac i ddeall tueddiadau dros gyfnod o amser. Mae hynny'n cynnwys cynhyrchu bwletinau ystadegol ac adroddiadau ymchwil a dadansoddiadau parhaus eraill.

Cynhelir yr arolwg gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar ran Llywodraeth Cymru. Gwirfoddol yw pob cyfraniad i’r ymchwil.

Pa mor ddiogel yw eich data personol?

Mae gan gontractwyr yr arolwg, y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) fynediad i fanylion cyswllt ymatebwyr i ganiatáu iddynt gynnal yr arolwg. Mae’r data personol yma hon yn cael eu storio ar weinydd diogel bob amser, a dim ond nifer cyfyngedig o ymchwilwyr sy’n gweithio ar y prosiect hwn all gael mynediad iddo.

Mae’r SYG wedi rhoi gweithdrefnau ar waith i fynd i'r afael ag achosion lle ceir amheuaeth o dorri rheolau diogelu data. Os ceir amheuaeth bod rheolau diogelu data wedi cael eu torri, bydd y SYG yn adrodd am hyn i Lywodraeth Cymru a fydd yn rhoi gwybod ichi ac unrhyw reoleiddiwr perthnasol, lle y bo'n ofynnol inni wneud hynny yn ôl y gyfraith. 

Mae’r data personol a gesglir drwy’r Arolwg Cenedlaethol a all adnabod unigolyn yn cael eu cadw mewn cronfa ddata ddiogel mewn ffolder ar wahân sydd wedi'i warchod gan gyfrinair. Dim ond nifer cyfyngedig o bobl all gael mynediad iddo. Ni fydd y data personol hwn yn cael eu cysylltu ag ymatebion yr Arolwg Defnydd Iaith wrth ddadansoddi’r data yn arferol. Mae Llywodraeth Cymru yn gwneud yn siŵr fod atebion yn cael eu cadw mewn ffordd na all eich adnabod ac felly nid yw yn ddata personol (er enghraifft, drwy codio, ac yna dileu ymatebion testun agored o’r gronfa ddata).

Mae data dienw yr arolwg yn cael eu cadw'n ddiogel a dim ond nifer cyfyngedig o ymchwilwyr sy’n gweithio ar y prosiect hwn sy’n gallu cael mynediad at y data. Defnyddir y wybodaeth at ddibenion ymchwil yn unig.

Ni fydd eich atebion i’r Arolwg Defnydd Iaith yn cael eu cyhoeddi mewn unrhyw ffordd a allai arwain atoch chi neu eich cartref gael eu hadnabod. Defnyddir y data at ddibenion ystadegol ac ymchwil anfasnachol yn unig. Byddwn yn dadansoddi'r data hwn i gynhyrchu adroddiad a fydd ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru. Ni fydd yr adroddiad hwn yn cynnwys unrhyw wybodaeth y gellid eu defnyddio i adnabod cyfranogwyr unigol.

Bydd data dienw o'r arolwg ar gael drwy Wasanaeth Data'r DU. Gall ymchwilwyr achrededig, fel academyddion ac ymchwilwyr y GIG a chyrff eraill yn y sector cyhoeddus yng Nghymru ofyn am gael gweld data nad ydynt ar gael drwy Wasanaeth Data'r DU. Bydd Prif Ystadegydd Llywodraeth Cymru yn craffu ar y ceisiadau hyn ac - os byddant yn cael eu cymeradwyo - byddant yn dod o dan Gytundebau Gweld Data a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru. Mae'r trefniadau ffurfiol hyn yn gosod gofynion caeth ar gyfer prosesu a diogelu data personol.

Am ba hyd y byddwn yn cadw eich data personol?

Mae gan gontractwr yr arolwg, y Swyddfa Ystadegau Gwladol, gopi o'r data personol er mwyn caniatáu iddynt gynnal yr arolwg a pharatoi'r set ddata terfynol. Mae'n dileu data personol o fewn 1.5 mlynedd i ddarparu'r data terfynol i Lywodraeth Cymru. Mae hyn yn cynnwys eich manylion cyswllt.

Bydd enwau, dyddiadau geni a chyfeiriadau e-bost sy’n cael eu casglu fel rhan o’r Arolwg Cenedlaethol yn cael eu gwaredu o fewn blwyddyn i gymeradwyo'r set ddata, oni bai fod ymatebydd yr Arolwg cenedlaethol wedi cytuno i ni ail-gysylltu â nhw. Bydd gwybodaeth ail-gysylltu yn cael ei waredu o fewn dwy flynedd i gymeradwyo'r set ddata. Bydd cyfeiriadau yn cael eu gwaredu o fewn tair blynedd i gymeradwyo'r set ddata. Mae hyn yn digwydd fel rheol y mis Mai ar ôl i’r gwaith maes orffen.

Bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod unrhyw atebion eraill i'r arolwg ond yn cael eu cadw mewn ffordd nad oes modd eich adnabod ohonynt (er enghraifft drwy gyfuno gwerthoedd anarferol i gategori unigol), ac nid ydynt felly yn ddata personol. Gan nad oes modd cysylltu data nad yw'n bersonol gyda chi, mae Llywodraeth Cymru yn eu cadw am gyfnod amhenodol. Gwneir hyn er mwyn caniatáu dadansoddi parhaus a deall tueddiadau dros gyfnod o amser.

Mae gan Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru ym Mhrifysgol Abertawe hefyd fynediad at ran o'r data personol am gyfnod o dri mis, nes i'r gwaith o gysylltu data gyda SAIL (Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw) gael ei gwblhau.

Hawliau'r unigolyn

O dan y GDPR mae gennych hawliau mewn perthynas â'r wybodaeth bersonol a ddarperir gennych fel rhan o'r ymchwil hon, sef hawliau i wneud y canlynol:

  • cael mynediad at eich data eich hun
  • gofyn inni gywiro unrhyw fanylion anghywir yn y data hynny
  • o dan amgylchiadau penodol, wrthwynebu neu gyfyngu ar unrhyw brosesu
  • mynnu bod eich data'n cael eu dileu (o dan amgylchiadau penodol)
  • chyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

Dyma fanylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Swydd Gaer
SK9 5AF
Rhif ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113
Gwefan: Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

 

Rhagor o wybodaeth

Os oes gennych ragor o gwestiynau am sut y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio eich atebion arolwg, neu os ydych am arfer eich hawliau drwy ddefnyddio'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, cysylltwch â:

Lisa Walters (Llywodraeth Cymru)
Rhif ffôn: 0300 025 6682
E-bost: dataiaithgymraeg@llyw.cymru

Gweler y manylion ar gyfer cysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru isod:

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: swyddogdiogeludata@llyw.cymru

 

Nodyn esboniadol

Mae Cronfa Ddata SAIL yn cynnwys data dienw am boblogaeth Cymru, ac yn cael ei chydnabod yn rhyngwladol am storio a defnyddio data dienw am bobl yn ddiogel i'w defnyddio i wella iechyd, llesiant a gwasanaethau. Gall ymatebwyr ddewis peidio â chysylltu eu hatebion. I gael rhagor o wybodaeth am sut i wneud hynny, neu ar gysylltu data, cysylltwch â ni ar 03000 256682 neu swyddogdiogeludata@llyw.cymru.