Neidio i'r prif gynnwy

Sut i greu a golygu'r cynnwys ar ffurf 'sefydliad' ar LLYW.CYMRU.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Ionawr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Pryd i'w ddefnyddio

Cysylltwch â'r Tîm Digidol Corfforaethol i drafod defnyddio'r math yma.

Defnyddiwch ar gyfer:

  • cyrff a restrir ar gofrestr cyrff cyhoeddus Cymru
  • grwpiau ffurfiol Llywodraeth Cymru sy'n cynghori aelod o'r Cabinet, ni chynhelir y rhan fwyaf o aelodau fel arfer gan staff Llywodraeth Cymru

Defnyddiwch i:

  • roi trosolwg o waith, cyfrifoldebau a blaenoriaethau'r sefydliad

Mae'r cynnwys gan ac am y sefydliad, er enghraifft

  • cofnodion ac adroddiadau a gyhoeddir gan y sefydliad
  • llythyr cylch gwaith y sefydliad a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru

Mae hyn yn golygu bod y crynodeb sydd ar dudalen hafan y sefydliad yn cael ei ysgrifennu amdanyn nhw ac nid ganddynt, er enghraifft:

  • cywir: Mae Grŵp Llywio Iechyd Coed Cymru yn cynghori ar blâu a chlefydau sy’n effeithio ar goed
  • anghywir: rydym yn rhoi cyngor ar blâu a chlefydau sy'n effeithio ar goed

Pan fydd y cyhoeddiadau wedi eu tagio'n gywir i sefydliad allanol, byddant yn ymddangos ar hafan y sefydliad.

Sut i'w greu

Cysylltwch â'r Tîm Digidol Corfforaethol i greu sefydliad. Unwaith iddo gael ei greu, gallwch ei addasu ac ychwanegu cynnwys iddo. 

Golygu sefydliad mewnol presennol

  1. Mewngofnodi i GOV.WALES a LLYW.CYMRU.
  2. Dewch o hyd i'r sefydliad naill ai drwy edrych ar y wefan i'r cyhoedd neu drwy ddewis Workbench yna All recent content. Rhaid i chi wneud hyn ar GOV.WALES gan fod yn rhaid i'r cynnwys Saesneg gael ei olygu'n gyntaf.
  3. Agorwch y sefydliad.
  4. Dewiswch EDIT DRAFT neu NEW DRAFT.
  5. Peidiwch â newid y maes Title.
  6. Gallwch ddewis ychwanegu mwy o wybodaeth yn What we do read more. Rhowch deitl eitem Gwybodaeth gorfforaethol i greu dolen iddo.
  7. Os ydych am olygu neu ddechrau defnyddio FEATURE VIEW ALL BUTTON cysylltwch â'r Tîm Digidol Corfforaethol.
  8. Golygwch unrhyw ddolenni GUIDANCE INFORMATION AND SERVICES presennol. Os nad ydych yn defnyddio'r maes yma, ond yr hoffech wneud, cysylltwch â'r Tîm Digidol Corfforaethol.
  9. Defnyddiwch CORPORATE INFORMATION AND SERVICES i greu dolen i wybodaeth fel aelodaeth e chylch gorchwyl.
  10. Teipiwch enw'r dudalen yr ydych am greu dolen iddi yn y blwch top.
  11. Dewiswch y dudalen gywir o'r gwymplen.
  12. Os ydych am ddefnyddio teitl gwahanol ar gyfer y dudalen yn y sefydliad, rhowch hyn yn y blwch Link text.
  13. Dewiswch Add another item i greu dolen i fwy o eitemau a dilynwch gamau 9 i 11 eto.
  14. Gwnewch yn siŵr bod CONTACT INFORMATION yn gywir.
  15. Os ydych am olygu neu ddechrau defnyddio SOCIAL MEDIA LINKS cysylltwch â'r Tîm Digidol Corfforaethol.
  16. Os ydych am olygu neu ddechrau defnyddio Newsletter link cysylltwch â'r Tîm Digidol Corfforaethol.
  17. Peidiwch â newid CATEGORY LINKS.
  18. Rhowch Review Date.
  19. Llenwch Revision log message (all languages) gan roi crynodeb byr o'r newidiadau.
  20. Dewiswch Save and Create New Draft.
  21. I ychwanegu'r Gymraeg, dewiswch TRANSLATE.
  22. Dewiswch Add o'r rhes gyda'r label Welsh.
  23. Diweddarwch pob maes gyda'r testun Cymraeg.
  24. I arbed newidiadau heb eu gwneud yn gyhoeddus, dewiswch Save and Create New Draft (this translation). I arbed newidiadau a'u gwneud yn gyhoeddus, dewiswch Save and publish (this translation).
  25. Unwaith i chi gyhoeddi'r Gymraeg a'r Saesneg, gwnewch yn siŵr bod y ddwy iaith yn gywir o ran gosodiad y dudalen, a bod y dolenni i gyd yn gweithio.

Golygu sefydliad allanol presennol

  1. Dewch o hyd i'r sefydliad naill ai drwy edrych ar y wefan i'r cyhoedd neu drwy ddewis Workbench yna All recent content. Rhaid i chi wneud hyn ar GOV.WALES gan fod yn rhaid i'r cynnwys Saesneg gael ei olygu'n gyntaf.
  2. Agorwch y sefydliad.
  3. Dewiswch EDIT DRAFT neu NEW DRAFT.
  4. Os oes angen, golygwch y maes Title.
  5. Os oes gan y sefydliad wefan allanol, rhaid i chi ddewis y maes External ar y chwith.
  6. Peidiwch â newid CATEGORY LINKS.
  7. Rhowch wefan y sefydliad yn Organisation URL.
  8. Os ydych am olygu neu ddechrau defnyddio gwybodaeth Remit cysylltwch â'r Tîm Digidol Corfforaethol.
  9. Rhowch Review Date.
  10. Llenwch Revision log message (all languages) gan roi crynodeb byr o'r newidiadau.
  11. Dewiswch Save and Create New Draft.
  12. I ychwanegu'r Gymraeg, dewiswch TRANSLATE.
  13. Dewiswch Add o'r rhes gyda'r label Welsh.
  14. Diweddarwch pob maes gyda'r testun Cymraeg.
  15. I arbed newidiadau heb eu gwneud yn gyhoeddus, dewiswch Save and Create New Draft (this translation). I arbed newidiadau a'u gwneud yn gyhoeddus, dewiswch Save and publish (this translation).
  16. Unwaith i chi gyhoeddi'r Gymraeg a'r Saesneg, gwnewch yn siŵr bod y ddwy iaith yn gywir o ran gosodiad y dudalen, a bod y dolenni i gyd yn gweithio.

Sut i gau

Cau sefydliad pan nad yw'n weithgar yn barhaol.

Os gallai ddod yn weithgar eto yn y dyfodol:

  • gadewch ef ar agor
  • ystyriwch ychwanegu rhywfaint o destun yn egluro pam nad oes gweithgarwch diweddar
  1. Dewch o hyd i'r sefydliad presennol boed trwy borwrio'r safle cyhoeddus neu ddewis Workbench ac yna All recent content. Rhaid i chi wneud hyn ar GOV.WALES gan fod yn rhaid golygu'r cynnwys Saesneg yn gyntaf.
  2. Agorwch yr sefydliad
  3. Dewiswch EDIT DRAFT neu NEW DRAFT.
  4. Gwiriwch os yw'r Teaser yn wahanol i'r adran Beth rydyn ni'n ei wneud. Os felly, newidwch y testun i'r amser gorffennol. Dim angen newid os yw'n dangos [node:field_summary].
  5. Golygu'r adran Beth rydym yn ei wneud i newid y testun i'r ansoddaf gorffennol. Nodwch os yw swyddogaethau'r sefydliad wedi'u trosglwyddo i sefydliad gwahanol.
  6. Os oes gan y sefydliad wefan wedi'i lletya'n allanol sydd hefyd wedi cau, dewiswch External. Dileu URL y sefydliad.
  7. Adolygu'r Contact information. Os yw'r swyddogaethau wedi'u trosglwyddo i sefydliad arall ychwanegwch ddolen i'r sefydliad newydd. Os nad oes ffordd mwy i gysylltu â'r sefydliad neu adran Llywodraeth Cymru gysylltiedig, newidwch hyn i cymorth@llyw.cymru.
  8. Sgrolio i lawr i'r diwedd a dewis Closed (all languages)
  9. Os ydych chi'n gwybod y dyddiad y cauodd yr ymchwil, ychwanegwch hyn at Closed date (all languages).
  10. Llenwch Revision log message (all languages) gan roi crynodeb byr o'r newidiadau.
  11. Dewiswch Save and Create New Draft.
  12. I ychwanegu'r Gymraeg, dewiswch TRANSLATE.
  13. Dewiswch Add o'r rhes gyda'r label Welsh.
  14. Diweddarwch pob maes gyda'r testun Cymraeg.
  15. I arbed newidiadau heb eu gwneud yn gyhoeddus, dewiswch Save and Create New Draft (this translation). I arbed newidiadau a'u gwneud yn gyhoeddus, dewiswch Save and publish (this translation).
  16. Unwaith i chi gyhoeddi'r Gymraeg a'r Saesneg, gwnewch yn siŵr bod y ddwy iaith yn gywir o ran gosodiad y dudalen, a bod y dolenni i gyd yn gweithio.

Unwaith y cyhoeddir, bydd blwch galw allan yn cael ei arddangos ar ben y dudalen yn nodi 'Nid yw'r sefydliad hwn bellach mewn gwasanaeth'. Os ydych wedi ychwanegu dyddiad cau bydd hyn hefyd yn ymddangos. Bydd y rhan Beth rydym yn ei wneud yn dod yn Beth oedden ni'n wneud.