Neidio i'r prif gynnwy

Data ar gyfraddau absenoldeb salwch y staff a gyflogir yn uniongyrchol gan y GIG ar gyfer Ionawr i Fawrth 2020.

Mewn ymateb i’r pandemig COVID-19 presennol, mae Llywodraeth Cymru yn casglu data ychwanegol a mwy amserol ar absenoldeb oherwydd salwch. Nid yw hyn wedi'i gynnwys yma gan fod y datganiad hwn ond yn cwmpasu'r cyfnod hyd at y chwarter yn diweddu 31 Mawrth 2020 (h.y. yn nyddiau cynnar y pandemig). Gwybodaeth reoli GIG Cymru yw’r data ychwanegol hyn; nid yw'n cael ei gasglu ar yr un sail â'r hyn a gyhoeddwyd yn y datganiad chwarterol hwn. Cyhoeddir gwybodaeth ar coronafeirws a gweithgarwch a chapasiti'r GIG mewn diweddariad wythnosol.

Prif bwyntiau

  • Roedd y gyfradd absenoldeb oherwydd salwch yn 6.0%, i fyny 0.4 pwynt canran ar gyfer yr un cyfnod yn 2019.
  • Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru oedd â’r gyfradd absenoldeb oherwydd salwch uchaf, 7.1%.
  • Awdurdod Iechyd Arbennig Addysg a Gwella Iechyd Cymru oedd â’r gyfradd absenoldeb oherwydd salwch isaf, 2.8%.
  • Y grŵp staff Cynorthwywyr a Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd oedd â’r gyfradd absenoldeb oherwydd salwch uchaf, 8.0%.
  • Y grŵp staff Meddygol a Deintyddol oedd â’r gyfradd absenoldeb oherwydd salwch isaf, 2.3%.

Adroddiadau

Absenoldeb oherwydd salwch y GIG, Ionawr i Fawrth 2020 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 837 KB

PDF
Saesneg yn unig
837 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau