Bydd y gorchymyn hwn yn diwygio gorchymyn grymuso Harbwr Saundersfoot 2011.
Dogfennau
Gorchymyn diwygio Harbwr Saundersfoot , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 41 KB
Gorchymyn diwygio Harbwr Saundersfoot: llythyr cais , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 628 KB
Gorchymyn diwygio Harbwr Saundersfoot: datganiad yn cefnogi 2020 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 703 KB
Gorchymyn diwygio Harbwr Saundersfoot: cymharu gorchymyn grymuso , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB
Gorchymyn diwygio Harbwr Saundersfoot: hysbysiad wasg , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 19 KB
Harbwr Saundersfoot: hysbysiad o benodiad cadeirydd yr ymchwiliad a swyddog y rhaglen , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 132 KB
Fersiwn ddiwygiedig o’r Gorchymyn Diwygio Harbwr Saundersfoot (10 Chwefror 2024) , math o ffeil: DOCX, maint ffeil: 40 KB
Gorchymyn diwygio Harbwr Saundersfoot: datganiad yn cefnogi 2024 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 750 KB
Manylion
Yn 2020, gwnaeth Awdurdod Harbwr Saundersfoot gais am Orchymyn Diwygio Harbwr i wneud newidiadau i sut mae'r harbwr yn cael ei reoli.
Yn ystod yr ymgynghoriad, codwyd sawl gwrthwynebiad. Mewn ymateb, diweddarodd yr Awdurdod ddogfennau allweddol yn 2024. Ond mae rhai gwrthwynebiadau yn parhau heb eu datrys.
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi penderfynu y dylid cynnal ymchwiliad.
Bydd Gethin Thomas, bargyfreithiwr o 39 Siambr Essex, yn arwain yr ymchwiliad.
Mae Helen Wilson, o Helen Wilson Consultancy Limited, wedi'i phenodi'n Swyddog Rhaglen a bydd yn rheoli'r broses ymchwiliad.
Bydd cyfarfod cyn ymchwiliad yn cael ei gynnal nos Lun 10 Tachwedd 2025 yn Saundersfoot. Mae’r hysbysiad ynghylch cyfarfod cyn ymchwiliad yn cynnwys mwy o wybodaeth.
Cyhoeddir diweddariadau, gan gynnwys manylion cyfarfod cyn-ymchwiliad a sut i gymryd rhan, ar wefan Helen Wilson.
Os hoffech gymryd rhan, cysylltwch â Helen Wilson yn uniongyrchol:
